Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Tachwedd 2015.

Cyfnod ymgynghori:
3 Medi 2015 i 27 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 973 KB

PDF
973 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn gofyn am eich safbwyntiau ynghylch yr ychwanegiadau a'r diwygiadau i God Ymarfer Cymru Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Adran 118 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi cyhoeddi ac adolygu'n rheolaidd.

Mae'r Cod drafft newydd yn ystyried y newidiadau i'r ddeddfwriaeth berthnasol ers i'r Cod blaenorol gael ei lunio. Yn benodol:

  • y gofynion ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o ran cynllunio gofal a thriniaeth a'r ddarpariaeth ehangach o eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol
  • y berthynas rhwng y Ddeddf Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu rhag colli Rhyddid.

O fewn y Cod drafft mae mwy o bwyslais ar y canlynol:

  • cynnwys cleifion a lle y bo'n briodol eu teuluoedd a'u gofalwyr ym mhob agwedd ar asesu a thriniaeth
  • deall egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a sut y dylent fod yn gymwys i bob gofal a thriniaeth
  • cynnwys Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
  • y defnydd o gludiant priodol ar gyfer claf o dan y Ddeddf i amddiffyn ei urddas a sicrhau ei fod yn ddiogel lle y bo'n ymarferol.

Mae 2 fater arall o ran canllawiau arfaethedig yn y Cod drafft nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cod presennol.

Yn gyntaf mae'n pwysleisio bod y Ddeddf yn rhoi terfyn o 72 awr ar gyfer cadw rhywun o dan adran 136 ac y dylai asesiadau ddim ond cael eu cynnal mewn gorsaf heddlu dan amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag mewn perthynas ag amseriad asesiadau mewn gorsaf heddlu ac mewn mannau eraill mae'r Cod drafft yn cynnig:

  • y dylid eu cynnal o fewn 3 awr
  • na ddylid cadw rhywun mewn gorsaf heddlu am fwy na 12 awr.

Yn ail mae'n cynnig y bydd cynllun gofal a thriniaeth statudol os oes angen yn dechrau yn ddim hwyrach na 72 awr ar ôl i rywun gael ei dderbyn.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 127 KB

PDF
127 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Drafft Cod Ymarfer Cymru ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 818 KB

PDF
818 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.