Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Ebrill 2018.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Dyma holi eich barn am sefydliadau a chyrff i'w cynnwys o'r sectorau Gweithwyr Cymorth Ieuenctid, Gweithwyr Ieuenctid a Dysgu seiliedig ar Waith.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i ychwanegu sefydliadau a chyrff a ddylai fedru enwebu aelodau i ymuno â Chyngor y Gweithlu Addysg, gan gynnwys o’r sectorau canlynol:
- gweithwyr cymorth ieuenctid
- gweithwyr ieuenctid
- dysgu seiliedig ar waith
Byddwn yn diwygio’r rheoliadau i ychwanegu mwy o sefydliadau a chyrff i adlewyrchu’r sectorau hynny yn well.
