Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Tachwedd 2012.

Cyfnod ymgynghori:
19 Medi 2012 i 1 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 71 KB

PDF
71 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ddogfen hon yn ceisio barn ar ddiwygio trefn cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig (AAA).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'n cynnig dileu adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n ymwneud â lleoli plant â datganiadau AAA mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru. Bernir nad oes angen yr adran mwyach yng ngoleuni bodolaeth adran 160 o Ddeddf Addysg 2002.

Rhaid i ysgolion annibynnol sy'n derbyn disgyblion â datganiadau AAA gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996. Rhaid i unrhyw sefydliad sy'n dymuno gweithredu fel ysgol annibynnol wneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 160 o’r Ddeddf Addysg.

Mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar y cynnig i ddiddymu adran 347 yng ngoleuni'r darpariaethau presennol o dan adran 160 ac ar y mesurau arfaethedig sydd i'w creu i gefnogi’r newid deddfwriaethol hwn.

Mae'r cynnig i ddiwygio'r trefniadau presennol yn rhoi sylw dyledus i'r newidiadau amserol sy'n cael eu hystyried o dan yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer AAA.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 126 KB

PDF
126 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb i bobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.