Neidio i'r prif gynnwys

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar adolygiad arfaethedig i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ("y Cod"). Cyhoeddwyd y Cod gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Ers hynny, mae dros 800 o sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector wedi cofrestru, gan ymrwymo i gamau gweithredu a fwriedir i leihau'r risgiau o gaethwasiaeth fodern yn eu sefydliadau a'u cadwyni cyflenwi ac i hyrwyddo gwaith teg ac arferion cyflogaeth moesegol. Mae angen ei ddiweddaru er mwyn ei gysoni â'r datblygiadau ers cyhoeddi'r Cod yn 2017.

Mae'r Cod diwygiedig drafft yn nodi ymrwymiadau sefydliadol wedi'u diweddaru ar gyfer lleihau'r risg o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesol, cryfhau llais gweithwyr, hyrwyddo cyflog teg (gan gynnwys y Cyflog Byw Gwirioneddol), cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sicrhau gweithleoedd diogel, a rheoli effeithiau technoleg (gan gynnwys AI a thechnoleg rheoli pobl). 

Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi ar brawf eglurder, dichonoldeb a chymesuredd yr ymrwymiadau diwygiedig ac yn helpu i nodi a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol ar sefydliadau i weithredu'r Cod. 

Gan droi at y pum ffordd o weithio (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015) yn eu tro, disgwylir y manteision canlynol:

Tymor hir 

Nod y Cod presennol yw ymgorffori arferion gwaith teg ar draws cadwyni cyflenwi, gan fynd i'r afael â risgiau systemig fel llafur gorfodol, gwaith ansicr ac arferion gwahaniaethol. Mae'n anelu at yrru gwelliannau dros amser. Mae gan y Cod diwygiedig yr un nodau ond mae'n darparu eglurder ychwanegol wrth fynd i'r afael â risgiau caethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol a'u nodi; ac yn cryfhau'r ymrwymiad i dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol; ac yn canolbwyntio ar gyflenwyr sy'n gallu dangos agwedd gadarnhaol at weithio gydag undebau llafur. 

Atal

Trwy annog asesu risg, diwydrwydd dyladwy, adfer ac adrodd tryloyw, mae'r Cod yn ceisio atal niwed (e.e. ecsbloetio, gwaith anniogel) a thorri cylchoedd tlodi ac iechyd gwael sy'n gysylltiedig â chyflog isel a chyflogaeth ansicr. Mae'r Cod drafft yn cynnwys ymrwymiadau ynghylch cydraddoldeb yn y gweithle a lles ac mae'n disgwyl i hawliau gael eu datgan yn glir mewn contractau cyflogaeth. 

Integreiddio 

Mae'r Cod drafft yn cyfrannu at sawl nod llesiant: Cymru Ffyniannus (gwaith teg), Cymru Fwy Cyfartal (Cydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu), Cymru Iachach (gwaith diogel), Cymru o Gymunedau Cydlynus (llais y gweithwyr).

Cydweithio

Mae datblygu'r Cod drafft a'i weithredu yn gofyn am bartneriaeth â phartneriaid cymdeithasol (undebau llafur a sefydliadau sy'n cynrychioli cyflogwyr), cyrff sector cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill.

Ymwneud 

Trwy hyrwyddo llais gweithwyr, mae'r Cod yn ceisio cynnwys cyflogwyr, gweithwyr ac undebau llafur mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar weithwyr. Mae hefyd yn pwysleisio cyflenwyr sy'n gallu darparu tystiolaeth glir o reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol.

Effaith, costau ac arbedion 

Mae'r prif fanteision posibl yn cynnwys llai o risg o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesol; gwell cyflog, sicrwydd a diogelwch; gwell gwytnwch i gyflenwyr a gwella'u henw da; gwell cyflawni contractau; a data gwell ar gyfer rheoli risg. Mae'r manteision hyn yn anodd eu meintioli, a bydd eu graddfa yn dibynnu ar i ba raddau y mae'r Cod yn cael ei fabwysiadu a'i weithredu gan sefydliadau. Efallai y bydd sefydliadau yn ysgwyddo costau trosiannol (drafftio polisi, hyfforddiant, asesu risg, adrodd) a chostau parhaus (diwydrwydd dyladwy, monitro, codiadau i'r cyflog byw). Er ei bod yn anodd eu meintioli, disgwylir i'r costau hyn gael eu gwrthbwyso i ryw raddau gan well ymgysylltiad ar ran gweithwyr, gan gynnwys gwell cynhyrchiant a gwella cadw staff. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol newydd yn cael ei chynnig yn y cam ymgynghori.

Adran 8: casgliad

Sut mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Mae'r Cod diwygiedig wedi'i ddatblygu gydag ymrwymiad clir i bobl yn cael eu cynnwys ac yn cymryd rhan, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn darparu'r prif fecanwaith ar gyfer ymgysylltu â'r rhai mwyaf tebygol o gael eu heffeithio, gan sicrhau y gall ystod eang ac amrywiol o leisiau siapio fersiwn derfynol y Cod. Bydd yr ymgynghoriad yn gwahodd adborth ar eglurder, dichonoldeb a chymesuredd yr ymrwymiadau diwygiedig, a bydd yn helpu i nodi'r mathau o gymorth gweithredu y gallai fod eu hangen ar sefydliadau. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â chyrff cyhoeddus, cyflenwyr, sefydliadau'r trydydd sector a busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru ac, lle bo'n berthnasol, yn rhyngwladol. Er mwyn cefnogi siaradwyr Cymraeg a grwpiau Cymraeg, bydd yr holl ddeunyddiau ar gael yn ddwyieithog, gan sicrhau bod unigolion yn gallu ymgysylltu'n llawn yn yr iaith o'u dewis. Bydd rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys undebau llafur, cyrff sector a sefydliadau sy'n cynrychioli gweithwyr sy'n agored i niwed neu ar gyflog isel, hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu.

Mae'r dull cynhwysol hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod y Cod diwygiedig yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf ac yn cefnogi arferion cyflogaeth teg, moesegol a chyfiawn ar draws pob cadwyn gyflenwi.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae'r asesiad yn nodi bod disgwyl i'r Cod diwygiedig arfaethedig gynhyrchu ystod o effeithiau cadarnhaol, heb unrhyw effeithiau negyddol wedi'u nodi ar draws unrhyw un o'r meysydd llesiant. Mantais gyffredinol y Cod diwygiedig yw ei botensial i leihau'r risg o ecsbloetio, caethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth anfoesegol o fewn cadwyni cyflenwi. Mae ymrwymiadau cryfach ar y Cyflog Byw Gwirioneddol, cydraddoldeb, llais gweithwyr, iechyd a diogelwch ac unioni niwed yn darparu fframwaith mwy cadarn i gefnogi amodau cyflogaeth tecach a mwy diogel. Mae'r gwelliannau hyn yn arbennig o berthnasol i weithwyr ar gyflog isel, gweithwyr asiantaeth a mudol sydd fwyaf agored i driniaeth wael ac anfantais economaidd‑gymdeithasol.

I bobl a chymunedau, mae'r Cod diwygiedig o bosibl yn cyfrannu at well sicrwydd ariannol ac yn cefnogi triniaeth deg a gweithleoedd mwy diogel. Mae hyn yn cefnogi'r nodau llesiant o Gymru Fwy Cyfartal, Cymru Iachach, a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae gan waith teg gysylltiadau clir â gwell iechyd meddwl a chorfforol, lleihau tlodi mewn gwaith a bywyd teuluol a chymunedol mwy sefydlog. Er nad yw'r Cod yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â phenderfynyddion diwylliannol neu amgylcheddol, mae ei bwyslais ar gadwyni cyflenwi moesegol a chaffael cyfrifol yn cefnogi'r amodau ehangach sydd eu hangen ar gyfer cymunedau gwydn ac economïau lleol cynaliadwy.

O ran diwylliant a'r iaith Gymraeg, mae posibilrwydd bod yr effeithiau hefyd yn gadarnhaol. Er nad yw'r Cod yn dylanwadu'n uniongyrchol ar gyfranogiad diwylliannol na threftadaeth, mae'n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg a bydd hyn yn helpu i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu ymgysylltu â'r Cod yn llawn ac yn hyderus. Gall cefnogi cyflogaeth sefydlog mewn economïau lleol hefyd helpu i gynnal hunaniaeth gymunedol ac amgylcheddau lle gall y Gymraeg ffynnu.

Yn economaidd, bwriedir i'r Cod diwygiedig gael effeithiau  cadarnhaol cymedrol yn yr hirdymor. Gall disgwyliadau cliriach ac arferion cyflogaeth tecach wella cynhyrchiant, lleihau trosiant staff, a chryfhau gwytnwch ac enw da cadwyni cyflenwi. Mae gofynion talu prydlon yn cefnogi hyfywedd busnesau bach a chanolig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu rai dan anfantais economaidd, gan helpu i adeiladu economi decach ac wedi'i gwreiddio'n ddyfnach yng Nghymru. Er y gall rhai cyflenwyr brofi costau addasu bach yn y tymor byr, disgwylir i'r rhain fod yn gymesur ac iddynt gael eu gorbwyso gan fanteision yn y tymor hwy.

Ar gyfer y sector cyhoeddus, mae'r effeithiau yn gadarnhaol yn yr un modd. Mae disgwyliadau cryfach ar iechyd a diogelwch gweithwyr, cydraddoldeb, goruchwylio ac unioni yn helpu i leihau risgiau llywodraethu ac o ran enw da ac yn  cefnogi gwaith rheoli contractau mwy effeithiol. Mae'r Cod diwygiedig hefyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau cyfredol Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi, hyrwyddo gwaith teg, cryfhau caffael moesegol a gwella canlyniadau llesiant.

Ar gyfer y trydydd sector, mae'r effeithiau'n gadarnhaol, gan fod llawer o sefydliadau'r trydydd sector eisoes yn gweithio i hyrwyddo gwaith teg, atal ecsbloetio, neu gefnogi gweithwyr a chymunedau agored i niwed. Mae'r Cod diwygiedig yn atgyfnerthu'r agendâu hyn a gall greu cyfleoedd newydd i'r trydydd sector ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, hyfforddiant neu gefnogaeth arbenigol. Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddoli nac asedau cymunedol.

Yn amgylcheddol ac mewn perthynas ag adnoddau naturiol, mae'r effeithiau'n niwtral. Nid yw'r Cod diwygiedig yn dylanwadu'n uniongyrchol ar reoli'r amgylchedd, bioamrywiaeth nac addasu i'r hinsawdd. Fodd bynnag, trwy gefnogi cymunedau mwy gwydn a gwaith tecach, mae'n cyfrannu'n anuniongyrchol at yr amodau cymdeithasol ehangach sy'n sail i ddatblygu lleol cynaliadwy.

Er nad yw'r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gofrestru, gallai ei ddylanwad trwy gaffael yn y sector cyhoeddus fod yn sylweddol. Mae mabwysiadu'r Cod yn wirfoddol, ynghyd â disgwyliadau adrodd cryfach ar gyfer cyrff cyhoeddus, yn darparu mecanwaith grymus i yrru newid mewn ymddygiad a chodi safonau ar draws cadwyni cyflenwi heb achosi baich anfwriadol.

Ar y cyfan, mae gan y Cod diwygiedig y potensial i gyflawni effeithiau cadarnhaol eang a pharhaus ar draws pobl, yr economi a nodau llesiant ehangach, heb i unrhyw effeithiau negyddol gael eu nodi.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion lles a'r saith nod lles a (neu) yn osgoi, lleihau, neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r Cod diwygiedig arfaethedig yn gwneud cyfraniad ystyrlon at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru a'r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n gwneud hynny'n bennaf drwy hyrwyddo gwaith teg, annog safonau cyflogaeth moesegol, lliniaru risgiau ecsbloetio a gwella perfformiad moesegol cadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt.

Mae'r Cod diwygiedig wedi'i gynllunio i gefnogi Gweinidogion Cymru i ddeall a dylanwadu ar ymddygiad cyflenwyr. Er nad yw cyflenwyr yn cael eu mandadu i ymrwymo i'r Cod, mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd a yw eu cyflenwyr wedi gwneud hynny, gan greu mecanwaith sy'n annog ymgysylltu heb osod rhwymedigaeth statudol. Mae'r tryloywder hwn yn cefnogi Gweinidogion i nodi lle gall camau gweithredu neu ddylanwad pellach fod o fudd ac yn helpu i gefnogi gweithgarwch contractio i gyfrannu'n fwy cyson at les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae'r cyfraniadau cadarnhaol mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â Cymru Ffyniannus, Cymru Fwy Cyfartal, Cymru Iachach, a Chymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang. Mae ymrwymiadau cryfach ar y Cyflog Byw Gwirioneddol, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, llais y gweithwyr ac iechyd a diogelwch i gyd yn cefnogi gwell amodau i weithwyr, yn enwedig y rhai mewn swyddi â chyflog isel, sy'n ansicr neu â risg uchel. Mae gwaith teg yn gysylltiedig yn agos â gwell iechyd meddwl a chorfforol, lefelau uwch o sicrwydd ariannol ac aelwydydd mwy sefydlog, gan atgyfnerthu gwytnwch economaidd hirdymor a chyfrannu at leihau anghydraddoldeb mewn canlyniadau. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i gyflawni uchelgais ehangach llywodraeth bresennol Cymru i fynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo twf economaidd teg a chynaliadwy.

Mae'r Cod diwygiedig hefyd yn cyfrannu at Gymru o Gymunedau Cydlynus drwy hyrwyddo caffael cyfrifol a chryfhau disgwyliadau ynghylch trin gweithwyr yn deg ar draws cadwyni cyflenwi. Mae amgylcheddau gwaith teg, moesegol a diogel yn cefnogi cymunedau cryfach, mwy sefydlog, gyda manteision anuniongyrchol i gydlyniant cymdeithasol a lles cymunedol. Trwy annog cyrff cyhoeddus a chyflenwyr i fabwysiadu arferion moesegol, mae'r Cod yn helpu i feithrin ymddiriedaeth mewn caffael cyhoeddus ac yn cefnogi amgylcheddau lle gall cymunedau ffynnu.

Yn bwysig, nid oes unrhyw effeithiau negyddol wedi'u nodi ar draws unrhyw un o'r nodau llesiant. Mae'r Cod wedi'i gynllunio i osgoi neu liniaru risgiau posibl trwy sicrhau bod yr holl ymrwymiadau yn gymesur, yn gyraeddadwy ac yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer sefydliadau o wahanol feintiau ac sy'n wynebu gwahanol lefelau o risg. Bydd y broses ymgysylltu ac ymgynghori hefyd yn helpu i nodi meysydd lle mae angen canllawiau neu gymorth pellach, gan sicrhau nad yw'r baich o'r roi ar waith yn cael ei osod yn anghymesur ar sectorau penodol, sefydliadau bach neu'r rhai sydd â gallu cyfyngedig. Mae'r Cod yn pwysleisio gwelliant parhaus yn hytrach na chydymffurfiaeth ragnodol, gan liniaru canlyniadau anfwriadol posibl ymhellach.

Yn ogystal, mae'r ffocws cryfach ar unioni yn sicrhau bod gan sefydliadau ddisgwyliadau cliriach ynghylch sut i ymateb yn effeithiol pan fydd niwed yn digwydd o fewn cadwyni cyflenwi. Mae hyn yn cefnogi dull o atal ac unioni, gan sicrhau bod materion yn cael eu datrys yn brydlon ac yn cyfrannu at welliannau hirdymor mewn amodau gwaith ledled Cymru ac yn fyd-eang.

Yn gyffredinol, mae'r Cod diwygiedig yn cyfrannu at amcanion llesiant cenedlaethol trwy ymgorffori egwyddorion gwaith teg mewn arferion caffael, gan hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd, lleihau'r risg o ecsbloetio a chefnogi canlyniadau gwell i weithwyr a chymunedau. Ar yr un pryd, mae natur hyblyg, anorfodol cofrestru cyflenwyr, ynghyd ag ymgynghori, yn sicrhau bod y Cod yn parhau i fod yn gymesur ac yn osgoi neu'n lliniaru effeithiau negyddol.

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?  

Bydd hwn yn benderfyniad i Weinidogion Cymru yn dilyn etholiad y Senedd.