Diwygio'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg ar effaith y cynigion i adolygu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r Cod diwygiedig yn dangos aliniad clir a chydlynol ag uchelgeisiau Cymraeg 2050 a'i Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2021–2026. Er mai prif bwrpas y Cod yw hyrwyddo arferion cyflogaeth moesegol, atal caethwasiaeth fodern a sbarduno gwaith teg o fewn cadwyni cyflenwi, mae ei ddylunio a'i weithredu yn cefnogi sawl egwyddor allweddol sy'n sail i Gymraeg 2050.
Bydd y Cod yn cael ei gyhoeddi'n ddwyieithog, gan sicrhau bod yr holl ganllawiau, offer, deunyddiau hyfforddi a dogfennau cymorth yr un mor hygyrch yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y strategaeth i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a normaleiddio'r Gymraeg ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ogystal, mae'r Cod diwygiedig yn cyd-fynd â'r flaenoriaeth strategol o gryfhau sylfeini economaidd‑gymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith. Drwy gefnogi caffael cyfrifol, cyflogaeth deg ac economïau sylfaenol lleol, mae'r Cod yn cyfrannu'n anuniongyrchol at greu amgylcheddau cymunedol sefydlog a diwylliannol wydn - amodau a all fod yn sail i fwy o ddefnydd a chynnydd yng ngwelededd y Gymraeg ym mywyd bob dydd.
Ar y cyfan, mae'r cynnig yn cefnogi ysbryd a chyfeiriad Cymraeg 2050 drwy alluogi dewis iaith, hyrwyddo arferion dwyieithog a helpu i gynnal iechyd economaidd cymunedau lle siaredir Cymraeg yn eang.
Yr effaith ar y Gymraeg
Asesir bod y Cod diwygiedig yn cael effaith niwtral i gadarnhaol ar y Gymraeg, heb unrhyw effeithiau andwyol neu anghymesur wedi'u nodi ar siaradwyr Cymraeg o unrhyw oedran. Bydd yr holl ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â'r Cod, gan gynnwys canllawiau, adnoddau ategol a dogfennau ymgynghori, yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog, gan sicrhau mynediad cyfartal i sefydliadau, gweithwyr a chymunedau sy'n siarad Cymraeg. Mae'r dull dwyieithog hwn yn cefnogi ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i alluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Er nad yw'r Cod diwygiedig yn ymyriad ar ran y Gymraeg, gall ei ymrwymiadau greu effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol. Drwy gryfhau disgwyliadau gwaith teg, cefnogi caffael cyfrifol ac annog datblygu economïau lleol a sylfaenol gwydn, mae'r Cod yn helpu i greu gweithleoedd mwy sefydlog a diogel a all gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae cyflogaeth leol a gweithgarwch economaidd sylfaenol yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.
Ni fydd y cynnig yn lleihau'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, ac ni fydd yn gosod unrhyw rwystrau ar ffordd rhanddeiliaid sy'n siarad Cymraeg. Bydd adborth o'r ymgynghoriad gan siaradwyr Cymraeg a sefydliadau iaith yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod gweithrediad y Cod yn parhau i gefnogi anghenion ieithyddol ac nad yw'n creu rhwystrau anfwriadol.
Crynodeb
I grynhoi, mae'r cynnig yn cefnogi'r Gymraeg drwy annog amodau cyflogaeth sy'n fwy tebygol o ymgorffori arferion dwyieithog, galluogi dewis iaith, a helpu i gynnal yr amodau economaidd‑gymdeithasol sy'n sail i fywiogrwydd a gwytnwch hirdymor cymunedau Cymraeg eu hiaith.
