Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn edrych ar ffyrdd gwahanol o ddiweddaru system y Dreth Gyngor a'i gwneud yn decach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

 Mae hyn yn cynnwys y potensial i gyflwyno bandiau newydd i'r Dreth Gyngor.

Fel rhan o gam 2 ein hymgynghoriad, gofynnom am eich barn ar y canlynol:

  • dulliau gwahanol o gyflwyno bandiau newydd i'r Dreth Gyngor
  • diweddariadau rheolaidd i'r Dreth Gyngor yn y dyfodol
  • disgowntiau ac eithriadau
  • system fwy tryloyw a phroses apelio fwy effeithiol

Mae Cam 2 ein hymgynghoriad bellach wedi cau. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y camau nesaf yn fuan. Darllenwch y crynodeb o’r ymatebion i Gam 1 ein hymgynghoriad.

Gwyliwch ein fideo ar ddiwygio'r Dreth Gyngor:

Y cefndir

Mae eich Treth Gyngor yn helpu i ariannu:

  • ysgolion
  • gofal cymdeithasol
  • plismona
  • gwasanaethau trafnidiaeth lleol
  • cannoedd o wasanaethau lleol hanfodol eraill

Mae'r Dreth Gyngor yn fath cyffredinol o drethiant y mae pob un ohonom yn cyfrannu ati i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw wedi'i chynllunio i fod yn dâl uniongyrchol am bob gwasanaeth y byddwch yn ei ddefnyddio o bosibl.

Mae'r Dreth Gyngor rydych yn ei thalu nawr yn rhannol seiliedig ar werth eich eiddo 20 mlynedd yn ôl. Mae'n rhannol seiliedig ar y cartref rydych chi'n byw ynddo, gyda phwy arall rydych chi'n byw ac mewn rhai achosion, faint o arian sydd gennych.

Mae pob eiddo domestig yng Nghymru yn cael ei roi mewn un o naw band (bandiau A i I). Mae'r bandiau yn seiliedig ar faint y cartref a gwerth y tir y mae arno.

Dyna pam rydym yn gwneud newidiadau

Mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf i'r Dreth Gyngor gael ei diweddaru yng Nghymru yn 2003 ac mae'r system bellach wedi dyddio ac yn annheg. Mae rhai pobl yn talu gormod o Dreth Gyngor. Efallai na fydd rhai pobl yn talu digon, a chodir cyfran gymharol uwch o dreth ar aelwydydd sy'n byw mewn eiddo gwerth is.

Creu system Dreth Gyngor newydd i Gymru

Rydym eisoes wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, corff annibynnol, baratoi ar gyfer diweddaru bandiau'r Dreth Gyngor. Gelwir y diweddariad hwn yn 'ymarfer ailbrisio'.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn edrych ar Fandiau'r Dreth Gyngor ar gyfer pob un o'r 1.5 miliwn eiddo domestig yng Nghymru, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, a gydnabyddir gan arbenigwyr yn y diwydiant, a gwrando ar dystiolaeth o werthiannau. Byddwn yn defnyddio'r data hyn i greu system o fandiau newydd.

Byddai ymarfer ailbrisio yn diweddaru eich band Treth Gyngor fel ei fod yn seiliedig ar werthoedd eiddo mwy cyfredol. Fodd bynnag, er bod prisiau tai wedi codi, nid yw hyn yn golygu y byddai eich Treth Gyngor yn codi o ganlyniad. Mae ymarfer ailbrisio yn sicrhau bod yr arian a godir yn gyffredinol yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf; nid yw'n ymwneud â chynghorau yn codi arian ychwanegol.

Rydym hefyd yn cynllunio cylchoedd ailbrisio amlach a rheolaidd bob pum mlynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod prisiadau'n cael eu diweddaru, a'ch bod yn talu'r swm cywir o Dreth Gyngor.

Fel rhan o'r ymarfer ymgynghori hwn, rydym yn archwilio tri dewis ar gyfer pa mor fuan y dylem gyflwyno'r newidiadau hyn. Gallai hyn fod yn 2025 ar y cynharaf, yn ddiweddarach, neu fesul cam.

Adolygu disgowntiau a gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hadolygiad o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau, a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Mae bron hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn cael rhyw fath o ddisgownt neu ostyngiad ar eu bil Treth Gyngor. Ni fydd hyn yn newid o ganlyniad i'r ymgynghoriad. Rydym wedi ymrwymo i gadw'r disgownt un oedolyn ac i gadw lefel y disgownt ar 25%.

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad technegol ar wahân ar ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn 2024. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi unwaith y byddant ar gael.

Gwella mynediad at wybodaeth

Gwyddom o waith ymchwil blaenorol nad yw llawer o bobl yn gwybod sut mae system y Dreth Gyngor yn gweithio. Rydym wedi ymrwymo i wella ymwybyddiaeth o'r Dreth Gyngor a gwella mynediad at wybodaeth drwy ein rhaglen ddiwygio ehangach.

Proses fwy effeithiol ar gyfer apeliadau

Byddwn yn diogelu hawliau pobl i apelio fel rhan o unrhyw ddiwygiadau, gan ddefnyddio sefydliadau annibynnol fel Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Ein nod yw gwneud y broses o lywio rhwng y sefydliadau hyn yn haws ac yn fwy tryloyw.