Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae gan Gymru bedwar Comisiynydd sy'n cael eu penodi gan Brif Weinidog Cymru. Cefnogir y Comisiynwyr trwy drefniadau ariannu a llywodraethu tebyg. Penodir Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfnod sefydlog o 7 mlynedd na ellir ei ymestyn. 

Fodd bynnag, penodir Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (CPHC) ar gyfnod o bedair blynedd. Mae posibilrwydd o estyniad o ddwy flynedd neu ailymgeisio o dan broses gystadleuol os bydd y Prif Weinidog a'r rhai sy'n cynrychioli barn pobl hŷn yng Nghymru yn cytuno.

Am fwy o wybodaeth am rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i wefan y Comisiynydd.

Penodir CPHC yn unol â'r rheoliadau canlynol:

Rydym yn cynnig y dylai'r tymor swydd a roddir i holl Gomisiynwyr Cymru fod yn gyson ar 7 mlynedd. Byddai hyn yn caniatáu i'r pedwar Comisiynydd derbyn yr un tymor yn y swydd ac felly'r un cyfle i weithio gyda'r grwpiau o bobl y maent yn eu cynrychioli ac i hyrwyddo newid ar eu rhan. 

Er mwyn gwneud hyn, hoffem ddiwygio'r rheoliadau sy'n caniatáu i'r Prif Weinidog benodi CPHC. Byddem yn cynyddu tymor y swydd o 4 i 7 mlynedd ac yn tynnu'n ôl y cyfle i ofyn i'r Prif Weinidog am estyniad o 2 flynedd, neu i ailymgeisio drwy broses gystadleuol. 

Bydd CPHC nesaf yn cael ei benodi erbyn Awst 2024. Hoffem wneud y newidiadau hyn i'r rheoliadau fel y gellir penodi CPHC nesaf ar gyfnod o 7 mlynedd yn y swydd.

Sut i ymateb

A allech chi anfon eich barn ar yr ymgynghoriad hwn at y Tîm Pobl Hŷn a Gofalwyr yn Llywodraeth Cymru yn e-bost poblhynagofalwyr@llyw.cymru erbyn 12 Medi 2023. Os ydych yn teimlo na allwch roi ymateb erbyn y dyddiad hwn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Mae sawl ffordd o ymateb:

Tîm Pobl Hŷn a Gofalwyr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cysylltu

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llwy.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llwy.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth