Heledd Fychan, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Ers ymgymryd â chyfrifoldeb dros y portffolio hwn, rwyf wedi bod yn glir bod diwylliant, y diwydiannau creadigol, y celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon yn rhan hanfodol o’n bywyd cenedlaethol. Maent yn ganolog i’n hunaniaeth fel cenedl, ac mae’r Llywodraeth hon yn cydnabod eu grym unigryw i ddatgloi potensial economaidd Cymru, cynnal cymunedau bywiog a chydlynus, a hybu llesiant ein pobl. Dyna pam rydym yn cymryd camau ymarferol i ategu ein huchelgais â buddsoddiad.
Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth, rwy’n cyhoeddi £2 filiwn yn ychwanegol ar gyfer chwaraeon, gan gynyddu cyfanswm ein buddsoddiad cyfalaf yn 2026-27 i £13 miliwn. Nid mater o ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau blaenorol yw hyn. Mae’n adlewyrchu penderfyniad bwriadol i ail flaenoriaethu cyllid cyfalaf tuag at y prosiectau a fydd yn sicrhau’r effaith fwyaf. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogi datblygiad cylchffordd feicio ar ffyrdd caeedig yng Nghaerdydd, a fydd yn sicrhau gwaddol parhaol yn sgîl y Tour de France; gwelliannau i hygyrchedd pyllau nofio ledled Cymru; ehangu’r cymorth ar gyfer darparu caeau artiffisial; a gwella effeithlonrwydd ynni mewn cyfleusterau chwaraeon.
Rwyf wedi mynd ati yn yr un modd mewn perthynas â’r celfyddydau. Rwyf wedi cyfeirio £2 filiwn ychwanegol o gyllid cyfalaf i Gyngor Celfyddydau Cymru, gan adeiladu ar y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol gwerth £8 miliwn, sydd eisoes yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer adeiladau celfyddydol, offer a thrawsnewid digidol ar draws y sector.
Ochr yn ochr â’r buddsoddiad penodol hwn, rwyf wedi ymrwymo £2 filiwn eleni i lansio Nofio Ysgol, sef rhaglen nofio ysgol genedlaethol newydd sy’n darparu hyfforddiant nofio a diogelwch dŵr. Bydd y rhaglen yn darparu o leiaf 20 awr o wersi i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 4 a 5, gan ddechrau mewn naw awdurdod lleol y mis hwn, cyn cael ei chyflwyno’n genedlaethol erbyn mis Medi 2028. Mae hon yn flaenoriaeth genedlaethol newydd yn ein Rhaglen Lywodraethu, ac nid yn barhad o’r hyn a fu o’r blaen. Roedd yn bleser bod yn Abertawe yr wythnos diwethaf a gweld disgyblion o Ysgol Gynradd Clwyd ac Ysgol Gymraeg Gellionnen yn mwynhau eu gwersi cyntaf fel rhan o’r rhaglen newydd hon.
Rwyf wedi cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol, agor cylch newydd o’r Grant Cyfalaf Trawsnewid, a rhoi cynllun graddol ar waith i sefydlu Awdurdod Cysgodol Darlledu a Chyfathrebu i Gymru.
Nid penderfyniadau unigol yw’r rhain. Gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli’r camau ymarferol cyntaf mewn newid llawer ehangach yn y ffordd y mae’r Llywodraeth hon yn ymdrin â diwylliant a chwaraeon. Dyma gam cyntaf rhaglen ehangach i nodi bylchau yn y ddarpariaeth, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, a chryfhau chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o Gymru.
Dyna hefyd pam y lansiais alwad am dystiolaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst i lywio Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru. Bydd yr alwad am dystiolaeth ar agor tan 18 Rhagfyr. Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn dod â diwylliant, chwaraeon a’r diwydiannau creadigol ynghyd o dan un strategaeth gydlynol. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ar fuddsoddiad a blaenoriaethau yn cael eu gwneud mewn modd cyd-gysylltiedig, yn hytrach nag ar wahân i’w gilydd, fel sydd wedi digwydd yn rhy aml yn y gorffennol.
Mae’r strategaeth hon yn ymwneud â deall gwir sefyllfa diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, bod yn onest ynghylch lle mae dulliau’r gorffennol wedi methu â chyflawni, a defnyddio tystiolaeth, yn hytrach na dilyn yr hen arferion, i benderfynu beth rydym yn ei ariannu a pham.
Rwyf hefyd wedi comisiynu Chwaraeon Cymru i gynnal archwiliad cynhwysfawr o gyfleusterau chwaraeon rhanbarthol a chymunedol, er mwyn sicrhau bod buddsoddiadau yn y dyfodol, ble bynnag y’u cyfeirir, yn seiliedig ar dystiolaeth glir o angen, yn hytrach nag ar batrymau ariannu hanesyddol. Bydd yr archwiliad hwn yn llywio’n uniongyrchol y ffordd y caiff cyllid cyfalaf ei ddyrannu yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd Fforwm Creadigol a Diwylliant newydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dechrau casglu tystiolaeth a nodi camau gweithredu mewn perthynas â chyflog teg ac amodau gwaith ar draws y sectorau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol. Roedd yn bleser cadeirio cyfarfod cyntaf y Fforwm newydd yr wythnos diwethaf, ac rwy’n hyderus y bydd ffocws y Fforwm yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r maes gwaith hwn.
Mae’r gwaith hwn o gyflawni yn bwysig am ei fod yn ymwneud â mwy na phenderfyniadau neu raglenni ariannu unigol. Mae’n ymwneud â chreu’r amodau i bobl ledled Cymru gymryd rhan mewn diwylliant a chwaraeon, eu mwynhau a chael eu hysbrydoli ganddynt yn eu bywydau bob dydd. Dangosodd profiadau yr haf hwn yn glir pam mae hynny’n bwysig, a rhoi cipolwg imi ar yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn gwneud pethau’n iawn.
Roedd yn fraint bod yn Glasgow ar gyfer Gemau’r Gymanwlad a gweld Tîm Cymru yn cystadlu gydag ymroddiad, balchder a rhagoriaeth. Dangosodd eu perfformiadau y talent aruthrol ym myd chwaraeon yng Nghymru, grym ein hathletwyr i ysbrydoli uchelgais ym mhob rhan o Gymru, a’r balchder o weld Tîm Cymru yn dod yn ail hoff genedl i gynifer o gefnogwyr o wledydd eraill.
Ar yr un pryd, mae degau o filoedd o bobl wedi mwynhau gwyliau cerddoriaeth awyr agored, ymweld â safleoedd hanesyddol Cadw, cymryd rhan yn nigwyddiadau rhad ac am ddim Drysau Agored, ac ymuno â Her Ddarllen yr Haf yn ein llyfrgelloedd.
Cafwyd hefyd nifer o brofiadau diwylliannol grymus : dathlu 850 mlynedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd; Effi o Blaenau yn cyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd mewn sinemâu; a dathlu llwyddiant Matthew Rhys yn ennill dwy wobr Emmy yn Los Angeles.
Ond nid wyf am i bolisi’r Llywodraeth hon gael ei ddiffinio gan ambell i foment yn unig. Rwyf am iddo gael ei ddiffinio gan ail flaenoriaethu bwriadol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r ffordd rydym yn buddsoddi, gyda strategaeth sydd wedi’i llunio gan y bobl a’r sectorau y bydd yn effeithio arnynt.
Bydd gwrando, tystiolaeth a phartneriaeth yn llywio cam nesaf y gwaith hwn. Bydd y sgwrs genedlaethol hon yn helpu i bennu ein cyfeiriad o hyn ymlaen, ac edrychaf ymlaen at barhau i glywed yn uniongyrchol gan y sector a’r cyhoedd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Fy mlaenoriaeth yw adeiladu ar y momentwm hwn, gweithio gyda phartneriaid ledled y wlad, a sicrhau bod diwylliant a chwaraeon yn cyfrannu’n llawn at greu Cymru decach, iachach, fwy hyderus a mwy llewyrchus.
