Neidio i'r prif gynnwys

Gwledydd rhestredig a gwledydd heb eu rhestru

Mae'r gofynion teithio ar gyfer anifeiliaid anwes yn wahanol yn dibynnu ar ble y mae'r anifail anwes yn teithio ohono. 

Os ydych chi'n teithio o wlad yn yr UE

Os ydych chi'n teithio o wlad yn yr UE (ar GOV.UK), rhaid i'ch anifail anwes fod ag un o'r dogfennau canlynol:

  • Pasbort anifail anwes a roddwyd mewn gwlad yn yr UE neu rai gwledydd eraill gan filfeddyg awdurdodedig; 
  • Tystysgrif Iechyd Anifeiliaid (AHC) a roddwyd ym Mhrydain Fawr gan filfeddyg awdurdodedig yn ystod y 6 mis diwethaf; a
  • Thystysgrif iechyd anifeiliaid anwes Prydain Fawr a roddwyd gan filfeddyg awdurdodedig o unrhyw wlad. 

Os ydych chi'n teithio o Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw

Ni fydd angen pasbort anifail anwes na thystysgrif iechyd ar eich ci, cath neu ffured anwes i fynd i mewn i Brydain Fawr.

Cliciwch yma am wybodaeth am deithio i Ogledd Iwerddon ac oddi yno gyda'ch anifail anwes.

Os ydych chi'n teithio o weddill y byd (gwledydd rhestredig a gwledydd heb eu rhestru)

Mae gwledydd yng ngweddill y byd naill ai'n ‘rhestredig’ neu ‘heb eu rhestru’ 

Gwledydd rhestredig

Gwledydd heb eu rhestru

Rhaid i anifeiliaid anwes sy'n teithio o wledydd heb eu rhestru (ar GOV.UK) fodloni gofynion llymach cyn dod i mewn i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • wedi cael microsglodyn
  • wedi cael brechiad rhag y gynddaredd ac wedi cael prawf gwaed 30 diwrnod yn ddiweddarach i gadarnhau bod y brechlyn wedi gweithio, ac wedi aros tri mis ar ôl y prawf gwaed cyn teithio i'r DU
  • wedi cael tystysgrif iechyd anifeiliaid anwes Prydain Fawr (ar GOV.UK) gan filfeddyg awdurdodedig
  • wedi cael triniaeth llyngyr (cŵn yn unig) rhwng 24 awr (un diwrnod) a 120 awr (5 diwrnod) cyn teithio

Os nad yw'r gofynion hyn yn cael eu bodloni, mae'n bosibl y gwrthodir mynediad i'ch anifail anwes i Brydain Fawr, neu bydd angen iddo fynd i gwarantin mewn cyfleuster awdurdodedig ar ôl cyrraedd. 

Gall cwarantin bara hyd at bedwar mis mewn rhai achosion a byddwch yn gyfrifol am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chwarantin neu drin eich anifail anwes, oni bai bod trefniadau penodol yn berthnasol. 

Cŵn tywys a chŵn cymorth

Os oes gennych ‘gi cymorth cydnabyddedig’, gallwch wneud y canlynol:

  • teithio ar fwy o lwybrau (ar GOV.UK) na phobl ag anifeiliaid anwes
  • defnyddio dulliau teithio lle na chaniateir anifeiliaid eraill, er enghraifft gallwch ddod â'ch ci i gaban yr awyren

Rhaid i gŵn tywys a chŵn cymorth hefyd fodloni'r rheolau arferol (ar GOV.UK) ar gyfer teithio gyda chŵn.

Y Cynllun Cartrefi i Wcráin

Os ydych chi'n dod o Wcráin ac yn ceisio lloches ym Mhrydain Fawr, gweler y dudalen we ‘Dod â'ch anifail anwes i Gymru o Wcráin’

I gael rhagor o wybodaeth am ddod â'ch anifail anwes i Gymru o wledydd rhestredig neu wledydd heb eu rhestru, cysylltwch ag APHA yn uniongyrchol ar:

APHA

Rhif ffôn:

+44 3000 200 301 (opsiwn 2)

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.