Dod â'ch anifail anwes i wlad yn yr UE
Gwiriwch yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn y gallwch deithio gyda'ch ci, eich cath neu'ch ffured anwes i wlad yn yr UE.
Ar y dudalen hon
Teithio i wlad yn yr UE
Gallwch fynd â hyd at bum ci, cath neu ffured anwes mewn cerbyd preifat i wlad yn yr UE (ar GOV.UK). Ni allwch fynd â mwy na phum anifail anwes oni bai eich bod:
- yn mynychu neu'n hyfforddi ar gyfer digwyddiad, ac os felly bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig o gofrestru arnoch; neu
- yn eu hallforio at ddibenion masnachol.
I deithio gyda'ch anifail anwes i wlad yn yr UE, rhaid i chi:
1. Gosod microsglodyn yn eich anifail anwes
Rhaid i chi drefnu bod microsglodyn yn cael ei roi yn eich anifail anwes cyn, neu ar yr un pryd â'u brechiad rhag y gynddaredd. Os na wnewch chi hynny, bydd angen iddo gael ei frechu eto.
2. Brechu eich anifail anwes rhag y gynddaredd
Rhaid i'ch anifail anwes gael ei frechu rhag y gynddaredd cyn y gall deithio. Mae angen prawf ar eich milfeddyg bod eich anifail anwes o leiaf 12 wythnos oed cyn eu brechu.
Mae pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros cyn teithio yn dibynnu ar y math o frechlyn rhag y gynddaredd a ddefnyddir. Bydd hyn o leiaf 21 diwrnod llawn ar ôl y brechiad cyntaf (neu'r olaf o'r cwrs cyntaf o frechiadau).
Os yw'ch anifail anwes eisoes wedi'i frechu, gwiriwch a oes angen brechiad atgyfnerthu arnynt.
Nid oes angen i chi aros i deithio ar ôl brechiad atgyfnerthu os na fu toriad o ran amddiffyniad y brechlyn.
3. Cael Tystysgrif Iechyd Anifeiliaid (AHC)
Rhaid i chi gael AHC gan eich milfeddyg os ydych chi'n mynd i wlad yn yr UE. Bydd AHC eich anifail anwes yn ddilys ar ôl y dyddiad cyhoeddi ar gyfer:
- 10 diwrnod ar gyfer mynediad i'r UE;
- chwe mis ar gyfer teithio o fewn yr UE ar ôl i chi fynd i mewn i'r UE; a
- chwe mis ar gyfer ailfynediad i Brydain Fawr.
Gallwch ychwanegu hyd at bum anifail anwes at AHC.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, ni allwch ddefnyddio pasbort anifail anwes i fynd i mewn i'r UE - hyd yn oed os cafodd ei roi yn yr UE. Os ydych chi'n defnyddio pasbort anifail anwes yn lle tystysgrif iechyd anifeiliaid, mae'n bosibl y gwrthodir mynediad i'ch anifail anwes.
4. Gwiriwch a oes angen triniaeth llyngyr ar eich ci
Mae rhai gwledydd yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael triniaeth llyngyr. Gwiriwch a oes angen i chi drin eich ci rhag llyngyr (ar GOV.UK).
5. Cyrraedd y wlad
Bydd angen i chi fynd drwy bwynt mynediad i deithwyr (ar ec.europa) pan fyddwch yn cyrraedd gwlad yn yr UE.
Efallai y bydd angen i chi ddangos AHC eich anifail anwes, sy'n cynnwys prawf o'u:
- microsglodyn
- brechiad rhag y gynddaredd
- triniaeth llyngyr (os oes angen)
6. Gwiriwch eich taith yn ôl
Mae'r rheolau ar gyfer dychwelyd gyda'ch anifail anwes i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) yn dibynnu ar o ba wlad rydych chi'n dod.
Darganfyddwch yr hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych chi'n dod â'ch anifail anwes i Brydain Fawr (ar GOV.UK).
