Neidio i'r prif gynnwy

Mae siop a chaffi cymunedol newydd wedi agor yn Rogiet, gan adfer gwasanaethau nad oedden nhw yn y pentref a chreu gofod croesawgar i bobl o bob oedran.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiect wedi bod yn bosibl diolch i £300,000 o Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chymorth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ar dir cymunedol yng nghanol y pentref mae'r datblygiad, ac mae wedi cael ei arwain gan wirfoddolwyr lleol sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd ac atgyfnerthu cysylltiadau cymunedol.

Collodd Rogiet ei siop yn 2014, ac mae'r adeilad newydd yn dod â hi yn ôl, gan gynnig cynnyrch fforddiadwy, o ffynonellau lleol, yn ogystal â chaffi sy'n gweini prydau bwyd a gwasanaeth tecawê chwe diwrnod yr wythnos, cegin addysgu sy'n cynnal dosbarthiadau coginio, a gardd gymunedol lle y gall pobl ddysgu sgiliau garddio a thyfu bwyd ar gyfer y caffi. Mae'r cyfleuster yn cael ei weithredu gan y rheolwr cyffredinol a'r cogydd, gyda chymorth yr ymddiriedolwyr a thua 40  o wirfoddolwyr.

Dywedodd Katherine Close, Ymddiriedolwr Cyffordd Gymunedol Rogiet:

"Rydyn ni mor ddiolchgar am y buddsoddiad a'r gefnogaeth rydyn ni wedi'u derbyn gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Mae'r angen am y prosiect hwn wedi bod yn amlwg yn y pentref ers amser maith, ac ar ôl blynyddoedd lawer o freuddwydio a chynllunio, rydyn ni mor falch ein bod bellach ar agor i'n cymuned.

"Rydyn ni'n brosiect cymunedol, wedi'i greu i fod yn ganolfan groesawgar, gynhwysol a chynaliadwy sy'n cynnig bwyd da ac yn cysylltu pobl yn ein hardal leol. Fyddwn ni ddim wedi llwyddo heb fuddsoddiad o'r fath. Hoffai holl dîm Cyffordd Gymunedol Rogiet ddweud diolch"

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â'r safle yr wythnos hon i gwrdd ag ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr. Dywedodd:

"Mae'r prosiect yn dod â siop a chaffi yn ôl ac yn darparu gofod lle y gall pobl ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â'u cymdogion a theimlo'n rhan o fywyd y pentref eto. Bydd cael y gwasanaethau hyn ar gael yn lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd, yn enwedig i breswylwyr hŷn ac i deuluoedd sy'n dibynnu ar gyfleusterau cymunedol. Dyma'r union fath o fenter a arweinir gan y gymuned yr ydyn ni'n falch o'i chefnogi drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol."

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol bellach ar agor ar gyfer ceisiadau newydd, gan gynnig grantiau llai o hyd at £25,000 a grantiau mwy o hyd at £300,000. Ers 2015, mae wedi cefnogi bron i 500 o brosiectau ledled Cymru gyda buddsoddiadau gwerth mwy na £70 miliwn.