Neidio i'r prif gynnwy

Yn yr adroddiad hwn ceir ddisgrifiad o newidiadau yn y cysylltiad ag ysmygu mewn ceir y daeth plant iddo rhwng 2008 a 2014.

Yn 2007 a 2008, edrychodd nifer o arolygon trawstoriadol (Cysylltiad a mwg tybaco amgylcheddol yn ystod plentyndod (CHETS) Cymru) ar newidiadau o ran plant a ddeuai i gysylltiad â mwg ail-law ar ôl y ddeddfwriaeth. Yr un oedd elfennau arolwg 2014 CHETS Cymru 2 ag elfennau’r arolygon cynharaf hyn, recriwtio sampl o 75 o ysgolion a chasglu data holiadur oddi wrth 1601 o blant o’r ysgolion hynny.

Nod yr arolwg oedd recriwtio cymaint o’r ysgolion a gymerodd ran yn CHETS Cymru ag yr oedd modd. Gofynnwyd yr un cwestiynau am y cysylltiad â mwg ail-law y deuai plant iddo mewn mannau preifat ag a ofynnwyd yn CHETS Cymru, gydag ychydig o eitemau ychwanegol ar ysmygu mewn ceir. Cwblhawyd hefyd eitemau ychwanegol ar ddefnyddio e-sigaréts. Casglwyd y data mewn dosbarthiadau  gan staff ymchwil hyfforddedig.

Adroddiadau

Dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn ceir a’r defnydd a wna plant 10-11 mlwydd oed Cymru o e-sigaréts: adroddiad CHETS Cymru 2 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Chris Roberts

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.