Llywodraeth Cymru yn dod i gytundeb â Llafur Cymru ar fuddsoddiad pellach ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gan olygu bod modd bwrw ati â’r Gyllideb Atodol ar gyfer 2026-2027.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb â Llafur Cymru ar gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan fraenaru’r tir er mwyn i’r Gyllideb Atodol ar gyfer 2026-2027 gael ei gosod gerbron y Senedd heddiw.
Mae’r Gyllideb Atodol yn nodi rhagor o fanylion ynghylch y pecyn o fuddsoddiad a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mehefin, gyda £60 miliwn ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon.
Heddiw, bydd y Gyllideb Atodol yn cael ei gosod a dydd Mawrth 3 Tachwedd, bydd dadl yn cael ei chynnal arni yn y Senedd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru:
“Mae’r cytundeb hwn yn dangos yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni pan fydd pleidiau ar draws y Senedd yn gweithio gyda’i gilydd. Bydd yn datgloi £60m ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd hefyd yn golygu y gallwn ni gyflwyno Cyllideb Atodol sy’n parhau â’n buddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd, ac mewn gofal plant a phrydau ysgol am ddim.”
Dywedodd Ken Skates AS, arweinydd Llafur Cymru:
“Rydym yn falch o fod wedi sicrhau £60 miliwn ychwanegol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol eleni. Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mae’n bwysig ei fod nawr yn cyflawni rhywbeth dros y plant a’r bobl ifanc sydd wirioneddol ei angen.
“Mae hwn yn gam cyntaf i’w groesawu tuag at gyllido ysgolion yn well a sicrhau’r fargen orau bosibl i blant a phobl ifanc ledled Cymru.”
