Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Cafwyd cytundeb i Gymru gyfan ar gyfer gwella cyflogau ac amodau miloedd o staff GIG Cymru sy’n ymgymryd â dyletswyddau clinigol uwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llywodraeth Cymru a chyflogwyr y GIG sy’n gyfrifol am negodi amodau’r cytundeb cenedlaethol hwn. Mae’r cytundeb yn nodi cam pwysig tuag at sicrhau bod tua 6,000 o aelodau o staff GIG Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn derbyn y cyflog cywir am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Cafodd y cytundeb, sy’n effeithio ar staff band 2 a 3 sy’n cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG dros Gymru gyfan, ei gymeradwyo heddiw gan Lywodraeth Cymru, cyflogwyr y GIG a’r undebau llafur.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Mae'r dull cenedlaethol hwn yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi gweithlu’r GIG a sicrhau bod staff yn cael eu gwobrwyo’n briodol ac yn deg am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rolau swyddi yn cael eu cysoni â’r bandiau cyflog priodol, a bydd yn cefnogi amodau gwaith teg i holl staff GIG Cymru

Bydd y fframwaith cenedlaethol, y cytunwyd arno mewn partneriaeth gymdeithasol, yn sicrhau bod disgrifiadau swyddi wedi’u diweddaru ar gael i’r holl staff band 2 a 3. Yn ddiweddar, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i ddatrys anghydfod tebyg dan arweiniad undeb UNSAIN. Bydd y staff sy’n cael eu heffeithio gan y newid hwn yn derbyn taliad cydnabyddiaeth a  chywirol.

Cytunwyd ar y fargen derfynol yn Fforwm Partneriaeth Cymru heddiw (dydd Mercher 19 Tachwedd).