Neidio i'r prif gynnwy

Apiau awgrymedig i'w lawrlwytho i'ch dyfais ddigidol i helpu i wella eich lles a'ch ymwybyddiaeth ofalgar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Nid ydym yn argymell un ap neu wefan dros y llall a gwerthfawrogwn fod nifer o opsiynau eraill ar gael i ddefnyddwyr ar lein.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu cyngor pwysig ynghylch preifatrwydd, bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein a chyfrifoldeb personol wrth ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol.

Wrth edrych ar apiau neu’u lawrlwytho, gwnewch yn siŵr i ddefnyddio siop apiau swyddogol eich dyfais.

Lawrlwytho apiau

Dysgwch sut i lawrlwytho apiau:

Apiau wedi'u cymeradwyo gan y GIG

Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):

  • NHS Food Scanner: dewch o hyd i wybodaeth maethol bwyd trwy sganio codau bar neu chwilio.
  • Drink free days: cefnogaeth ymarferoli leihau yfed alcohol.
  • NHS Couch to 5K: app rhedeg i ddechreuwr.
  • NHS Weight Loss: cynllun 12 wythnos i dracio arferion bwyta a datblygu ffordd iachach o fyw.
  • NHS Active 10: traciwch eich gweithgareddau cerdded trwy’r dydd.
  • NHS Quit Smoking: rhaglen 28 diwrnod i helpu rhoi'r gorau i ysmygu.

Mae gan rai byrddau iechyd adran dynodedig ar eu gwefan sy’n amlinellu apiau a gwefannau defnyddiol. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon trwy wefan eich bwrdd iechyd. Fel arall, gallwch ddefnyddio Google i chwilio am dermau fel "Enw eich bwrdd iechyd lleol: llyfrgell apiau" neu "Orcha App library: enw eich bwrdd iechyd lleol."

Lles a meddwlgarwch

Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):

  • Headspace: ap ar gyfer cwsg a meddwlgarwch (angen tanysgrifiad ar gyfer mynediad llawn).
  • Silvercloud Health: offer a chefnogaeth gydag iechyd meddwl.
  • Sorted: cefnogi iechyd meddwl trwy gerddoriaeth.
  • Sleepio: ap wedi'i gynllunio i helpu gyda chwsg.

Gemau, cwisiau a gweithgareddau

Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):

  • This is Sand: gwneud a rhannu lluniau allan o dywod.
  • Let’s Create! Pottery HD Lite: crochenwaith digidol.
  • My house of memories: gweithgareddau hel atgofion ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.
  • My Bowling 3D: bowlio deg digidol.
  • Magic piano: gêm rhythm piano.
  • Quizziz: ap cwis ar-lein ar gyfer grwpiau neu unigolion.
  • Wordle: posau geiriau dyddiol.
  • Garage Band: ap creu cerddoriaeth ddigidol (Dyfeisiau Apple yn unig)

Cerddoriaeth ac adloniant

Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):

  • YouTube: cerddoriaeth, fideos a ffrydio.
  • BBC iPlayer: gwylio teledu byw ac ar-alw.
  • Spotify: ap ffrydio cerddoriaeth a phodlediadau.
  • S4C Clic: gwylio teledu byw ac ar-alw cyfrwng Cymraeg.
  • BBC Sounds: gwrando ar radio, cerddoriaeth a pholediadau.
  • ITV X: ffrydio boxsets, ffilmiau a theledu byw.