Sut i ddod o hyd i gartref gofal sy'n diwallu eich anghenion.
Os ydych chi'n chwilio am gartref gofal addas i oedolion, mae gwefan CartrefiGofal.Cymru yn gadael ichi chwilio am opsiynau sy'n diwallu eich anghenion. Mae'r wefan yn cynnig gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru.
Mae'n defnyddio gwybodaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru, y rheoleiddiwr cartrefi gofal, yn ogystal â gwybodaeth gan ddarparwyr.
Ar wefan CartrefiGofal.Cymru, gallwch:
- chwilio am gartrefi gofal yn eich ardal chi drwy ddarparu eich cod post neu'ch tref bost
- chwilio am gartrefi gofal gan ddefnyddio enw'r darparwr cartrefi gofal
- chwilio am gartrefi gofal sy'n cynnig gwasanaethau nyrsio, anableddau dysgu, iechyd meddwl, gofal seibiant neu wasanaethau dydd
- dod o hyd i gartrefi gofal sy'n darparu eu gwasanaeth yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill
- gweld pa gyfleusterau a gwasanaethau sydd gan gartref gofal i'w cynnig
- gweld a oes gan gartref gofal lefydd gwag ar hyn o bryd. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru gan y darparwyr cartrefi gofal yn rheolaidd, fodd bynnag, gall newid ar fyr rybudd
- darllen adroddiadau arolygu diweddaraf Arolygiaeth Gofal Cymru
- gweld gwybodaeth am gostau wythnosol nodweddiadol