Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych dros 16 oed, yn byw yng Nghymru ac os nad ydych mewn addysg amser llawn, yna gallwch ymgeisio am brentisiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ag astudiaethau. Fel prentis, byddwch yn:

  • gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
  • cael sgiliau sy’n benodol i’r swydd
  • cael cymhwyster
  • ennill cyflog a thâl gwyliau
  • amser i astudio (diwrnod yr wythnos gan amlaf)

Mae prentisiaethau yn cymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i’w cwblhau, gan ddibynnu ar lefel y brentisiaeth.

Pwy all wneud cais

Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i unrhyw un sydd dros 16 oed.

Lefelau prentisiaeth

Enw

Lefel

Lefelau cyfwerth mewn addysg

Prentisiaeth Sylfaen

NVQ Lefel 2

5 TGAU da

Prentisiaeth

NVQ lefel 3

2 gymhwyster Safon Uwch

Prentisiaeth Uwch

NVQ lefel 4 neu uwch

cyfwerth â HNC/HND neu radd lefel sylfaen ac uwch

Prentisiaeth Radd

NVQ lefel 6

Byddwch yn cyfuno gwaith ag astudio’n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg ac yn cael gradd baglor.

Mae Prentisiaethau Gradd yn cael eu cynnig mewn galwedigaethau TGCh / Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch ar hyn o bryd.

Mae prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn caniatáu i chi hyfforddi yn eich dewis iaith.

Prentisiaethau i bobl anabl

Gellir sicrhau bod bron pob prentisiaeth yn hygyrch i bobl ag anableddau, cyflyrau iechyd neu anawsterau dysgu. Bydd eich cyflogwr yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael cymorth wedi'i deilwra i ddiwallu eich anghenion er mwyn i chi allu gweithio'n hyderus.

Sut i ymgeisio

Gallwch chwilio am brentisiaeth ar Dod o hyd i Brentisiaeth. Ceir manylion am sut i wneud cais yn yr hysbyseb ar gyfer prentisiaeth wag.

Gall Gyrfa Cymru roi cyngor i chi ar sut i lunio cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad.