Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 39 o brosiectau ledled Cymru yn elwa o £8.2m o gyllid natur Llywodraeth Cymru, yn ol cyhoeddiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiectau wedi'u henwi yn rownd ddiweddaraf y Gronfa Rhwydwaith Natur ac maent yn cynnwys popeth o ymchwilio i chwilod ar sborion glo ac ailgyflwyno llygod y dŵr i wlyptiroedd Casnewydd i ddysgu mwy am ddeiet dolffiniaid oddi ar arfordir gorllewin Cymru.

Mae'r gronfa hon yn elfen allweddol o'r Rhaglen Rhwydwaith Natur, a lansiwyd yn 2021, gan helpu Llywodraeth Cymru i weithio tuag at nod y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang 30 erbyn 30, sy'n anelu at ddiogelu a rheoli 30% o amgylcheddau morol, dŵr croyw a daearol y blaned yn effeithiol erbyn 2030. 

Mae'r gronfa yn rhaglen y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fe'i sefydlwyd i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o dir a safleoedd morol gwarchodedig, i gefnogi adferiad natur ac i annog ymgysylltu â chymunedau lleol.

Cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y rownd ddiweddaraf o gyllid ar ymweliad â'r Seagrass Project ym Mhentywyn sydd wedi derbyn £249,000.

Mae cynefinoedd morwellt yn bwysig i amgylchedd morol Cymru gan eu bod yn gallu dal carbon, sy'n helpu i fynd i'r afael â'n hymrwymiadau o ran yr argyfwng natur a hinsawdd.

Bydd y prosiect newydd yn canolbwyntio ar dair Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA); Sir Benfro Forol, Bae Caerfyrddin ac Aber Hafren.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn - mae'n rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r rownd ariannu ddiweddaraf heddiw, mae bob amser yn fy ysbrydoli i weld yr amrywiaeth o waith anhygoel sy'n digwydd ledled Cymru i ddiogelu natur a bioamrywiaeth.

"Bydd y cyllid newydd hwn yn helpu i hwyluso'r dull 'Tîm Cymru' sydd ei angen arnom i wella cyflwr a gwydnwch ein safleoedd gwarchodedig wrth ymgysylltu â chymunedau lleol a'u cysylltu â safleoedd naturiol anhygoel ar garreg eu drws."

Meddai Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Elusen Project Seagrass, Dr Leanne C. Cullen-Unsworth:

"Mae morwellt yn rhoi llu o fanteision i bobl a'r blaned.

"Mae'r systemau hyn yn cefnogi bioamrywiaeth uchel iawn, pysgodfeydd masnachol a gallant ddal a storio llawer iawn o garbon.
"Mae'r DU wedi colli oddeutu 90% o'i morwellt brodorol dros y ganrif ddiwethaf. Mae dolydd morwellt iach yn werthfawr yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd presennol.

"Mae angen i ni ofalu am ein dolydd sy'n weddill ond mae gennym gyfle enfawr nawr i roi rhywfaint o'r hyn sydd wedi'i golli yn ôl ac mewn blynyddoedd i ddod elwa ar fanteision systemau aeddfed a iach.

"Mae'r prosiect hwn yn hwb sylweddol, bydd yn sbarduno adferiad hirdymor morwellt yn Ne Cymru."

Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: 

"Mae ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy'n helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd a chefnogi adferiad natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

"Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn bartneriaeth werthfawr sy'n ein helpu i gyflawni'r nod hwn.

"Bydd y gwobrau diweddaraf hyn yn cefnogi amrywiaeth drawiadol o brosiectau sy'n dangos uchelgais y Gronfa yn ogystal â maint yr her sy'n ein hwynebu ni i gyd.

Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym yn falch iawn o weld y prosiectau hyn yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, pob un yn gyrru ymlaen â’r camau ymarferol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

“Trwy ein partneriaeth gyda Lywodraeth Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn helpu i gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd daearol a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur ac annog ymgysylltiad cymunedol.

“Mae’r prosiectau llwyddiannus hyn yn enghreifftiau gwych o’r gwaith cydweithredol sy’n digwydd ledled Cymru wrth i ni weithio i roi byd natur ar y ffordd i adferiad erbyn 2030, a sicrhau buddion pellgyrhaeddol i gymunedau lleol a bywyd gwyllt. Edrychwn ymlaen at weld y prosiectau’n dod yn fywyd dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.