Feirws sy'n taro gwartheg yw'r dolur rhydd feirysol buchol.
Effeithiau'r clefyd:
- mae'r anifail yn fwy agored i ddal clefydau eraill
- mae'r anifail yn cynhyrchu llai o laeth
- mae'r anifail yn llai tebygol o genhedlu
- colledion ariannol mawr i ffermwyr
Amheuon a chadarnhad
Os ydych chi'n meddwl bod dolur rhydd feirysol ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch milfeddyg preifat.
Arwyddion clinigol
Efallai na fydd gwartheg sydd â'r feirws yn dangos fawr o arwyddion clinigol. Gall yr arwyddion hynny gynnwys:
- gwres
- blinder
- colli awydd am fwyd
- llif o'r llygaid
- llif o'r trwyn
- briwiau yn y geg
- dolur rhydd
- cynhyrchu llai o laeth
Mae'r dolur rhydd feirysol yn lleihau'r imiwnedd i glefydau eraill fel:
- salmonelosis
- heintiau anadlu
Gall heintiad cronig arwain at:
- erthylu
- geni lloi gwan a chyn pryd
- anffrwythlondeb
- clefyd mwcosaidd angheuol
Trosglwyddo, atal a thriniaeth
Mae'r haint yn cael ei ledaenu gan wartheg gafodd eu heintio â'r clefyd pan roeddynt yn y groth ac a oedd wedi'u heintio felly pan gawsant eu geni. Bydd ganddynt ddolur rhydd feirysol buchol drwy eu bywydau, gan heintio'r gwartheg o'u hamgylch. Eto, ni fydd arwyddion amlwg o'r clefyd a gallant fyw nes eu bod yn oedolion.
Gellir rheoli a dileu'r dolur rhydd feirysol buchol trwy:
- rhoi profion gwaed i'r fuches gyfan i gael hyd i'r gwartheg gafodd eu geni â'r haint
- difa'r gwartheg sydd wedi'u heintio
Mae brechlyn effeithiol ar gael a dylech ei drafod â'ch milfeddyg.