Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies yn hanu o Fangor ac erbyn hyn wedi ymgartrefu gyda’i gŵr a’i phedwar o blant yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn.

Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Glanyrafon ar Gyngor Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007.

Yn 2011, fe’i phenodwyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwyydd Golygyddol y cyfnodolyn ymchwil ‘Gwerddon’. Cychwynnodd ar ei swydd gyda Mudiad Meithrin ym Medi 2014. Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’, gofal cofleidiol a meithrinfeydd yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr a’r hwylusydd mwyaf o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru gyda dros fil o leoliadau ledled y wlad. Mae Gwenllian yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cronfa’r Loteri yng Nghymru a gwirfoddola yn y Cylch lleol ar y Pwyllgor fel yr Unigolyn Cyfrifol.