Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Dr. Gwen Rees yn Ddarlithydd Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Rheolwr Datblygu Milfeddygol Menter a Busnes. Ar ôl graddio fel milfeddyg yn 2009, bu Dr Rees yn gweithio yng Nghymru a Seland Newydd cyn cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Bryste.

Mae Gwen yn arwain y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol ar gyfer Arwain DGC - menter gydweithredol sy'n dwyn ynghyd academyddion, milfeddygon a'r diwydiant iechyd anifeiliaid yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae'r rhwydwaith cenedlaethol hwn bellach yn cynrychioli dros 90% o bractisau milfeddygon sy'n trin anifeiliaid fferm yng Nghymru ac mae wedi arwain datblygiad arloesol Cod Ymddygiad Presgripsiynu cenedlaethol gwirfoddol ar gyfer practisau milfeddygon, ynghyd â chanllawiau clinigol ar gyfer clefydau allweddol mewn gwartheg a defaid a mentrau stiwardiaeth gwrthficrobaidd.

Mae rôl Dr Rees wrth ddatblygu'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol wedi cael ei gydnabod gan Wobr Effaith Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol 2021 a Gwobr Ceidwaid Gwrthfiotig y DU am Bresgripsiynu a Stiwardiaeth 2023. Mae llwyddiant Arwain DGC yng Nghymru wedi ysbrydoli menter i’r DU gyfan ac mae diddordeb rhyngwladol yn y gwaith o Awstralia, Seland Newydd a gwledydd Ewrop. Gwen yw Llywydd Cangen Gymreig Cymdeithas Filfeddygol Prydain ac mae hi’n Ymddiriedolwr y Sefydliad Lles Anifeiliaid.