Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Dr Huw Brunt

Dr Huw Brunt yw Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylchedd.

Mae’n eiriolwr dros broffesiynau iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. 

Mae Dr Brunt yn darparu arweinyddiaeth strategol a chyngor arbenigol ar ystod eang o faterion iechyd cyhoeddus amgylcheddol i Weinidogion Cymru, swyddogion y Llywodraeth a phartneriaid allanol.

Mae'n ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd cyhoeddus amgylcheddol, megis: 

  • parodrwydd am ddigwyddiadau amgylcheddol
  • cadernid ac ymateb
  • ansawdd aer, tir a dŵr
  • penderfynyddion amgylcheddol ehangach iechyd
  • risgiau hinsawdd
  • diogelwch bwyd ac afiechydon a gludir gan fwyd/dŵr
  • iechyd a diogelwch

Mae’n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a chydag adrannau Llywodraeth y DU, ac mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol, asiantaethau GIG Cymru a phartneriaid system eraill.

Mae gan Dr Brunt gefndir mewn iechyd amgylcheddol ac mae’n Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus cymwysedig. Mae’n Gymrawd o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd (ac ar hyn o bryd yn Gynghorydd Cyfadran Cymru) ac yn aelod o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae wedi dal amrywiaeth o rolau ar draws llywodraeth leol a chanolog, academia a’r GIG yng Nghymru. Mae ganddo Ddoethuriaeth mewn ansawdd aer, iechyd y cyhoedd ac anghydraddoldebau, ac mae’n gymrawd ymchwil gwadd academaidd. Mae wedi ymrwymo i ddarparu arferion proffesiynol da, cydgysylltiedig ar draws ehangder y ddisgyblaeth iechyd cyhoeddus amgylcheddol.

E-bost: environmental.public.health@llyw.cymru