Adroddiad, Dogfennu
Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft : diweddariad cynnydd
Cynnydd rydym wedi gwneud i wella hawliau pobl anabl sy’n byw yng Nghymru.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 104 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cymdogaethau a lleoedd
Teithio
- Gweithio i sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl, dan arweiniad pobl anabl.
- Gweithio i gynnal arolygon a chyfweliadau gyda phobl anabl a darparwyr trafnidiaeth i gasglu data ar argaeledd, fforddiadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau trafnidiaeth yn ystod ac ar ôl y pandemig.
- Darparu cyllid ac arweiniad i Awdurdodau Lleol er mwyn gosod a chynnal systemau gwybodaeth ddigidol mewn safleoedd bysiau gyda swyddogaethau sain / darllenwyr sgrin.
- Gweithio i sicrhau bod unrhyw Apiau sy’n cael eu datblygu yn y dyfodol i gefnogi gwybodaeth i gwsmeriaid yn cydymffurfio’n llwyr ac yn gydnaws â thechnoleg darllenydd sgrin, yn glynu wrth y ddeddfwriaeth a’r safonau hygyrchedd perthnasol, ac yn cynnwys pobl anabl, gweithredwyr trafnidiaeth ac awdurdodau lleol yn y broses o integreiddio nodweddion hygyrchedd dulliau teithio, llwybrau a chyfleusterau ar wefannau cynllunio teithiau.
- Gweithio i ddyrannu cyllid o gyllidebau Teithio Llesol i gefnogi cyfranogiad pobl anabl, a dangos tystiolaeth o’u cyfranogiad wrth gyflwyno cynlluniau i Trafnidiaeth Cymru am gymeradwyaeth.
- Gweithio i sicrhau bod mannau gwefru ar gael ar gyfer cadeiriau olwyn, darparu offer hygyrch, mannau gorffwys, gwybodaeth am raddiant, a lle mae gofod yn cael ei rannu â beicwyr.
- Gweithio i ddarparu sicrwydd a goruchwyliaeth ar gyfer y swyddogaethau sydd wedi’u datganoli o ran monitro a gwerthuso’r gwaith o weithredu argymhellion gan sefydliadau trafnidiaeth, a’u dal yn atebol.
- Gweithio i drafod â phobl anabl a’u sefydliadau cynrychioladol ynghylch sut mae gwneud ‘Teithio Llesol’ a phob dull teithio yn fwy cynhwysol a hygyrch.
- Gweithio i sicrhau bod ‘Trafnidiaeth Cymru’ yn parhau i osod arwyddion clir a gweladwy yn y mannau seddi â blaenoriaeth.
Tai fforddiadwy a hygyrch
- Gweithio i adolygu canllawiau’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlST) gan ystyried y model cymdeithasol o anabledd i’w wneud yn hygyrch i bobl anabl.
- Gweithio i adolygu cynnwys canllawiau’r ALlST i sicrhau ei fod yn mynnu bod awdurdodau lleol yn trafod â phobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr anabl mewn ffordd briodol a hygyrch.
- Wrth werthuso adroddiadau’r ALlST, gweithio tuag at fynnu bod yr ALlST yn parhau i ystyried anghenion pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr anabl.
- Gweithio i ymgynghori â sefydliadau pobl anabl ac ystyried eu barn wrth lywio camau nesaf y gwaith sy’n ymwneud â Thai Digonol a Rhent Teg.
- Gweithio gyda sefydliadau tai i helpu i sicrhau bod gwybodaeth am dai yn hygyrch ac yn bodloni anghenion a dewisiadau pobl anabl.
- Parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol wrth i broses yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol barhau i gael ei datblygu a’i gwella, er mwyn canfod anghenion tai lleol.
Gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
- Gweithio i adolygu rhaglen hyfforddi Llywodraeth Cymru i staff ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, ac i werthuso ei heffeithiolrwydd.
- Sicrhau bod adnoddau e-ddysgu’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar gael i gyrff sector cyhoeddus ledled Cymru.
Cyflogaeth, incwm ac addysg
Cyflogaeth ac incwm
- Gweithio i drafod â Llywodraeth y DU ynghylch y Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) arfaethedig.
- Cynnwys Sefydliadau Pobl Anabl yn y gwaith o ddatblygu’r canllawiau statudol ar y rheoliadau caffael a fydd yn cael eu gosod yn sgil y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
- Edrych ar ymarferoldeb cynllun nod barcud Hyderus o ran Anabledd.
- Gweithio i gynnal ymchwil i agweddau cyflogwyr mewn perthynas â chyflogi pobl anabl a’u dealltwriaeth o’r cymorth sydd ar gael.
- Gweithio ar y cyd â Medr mewn perthynas â phrentisiaethau i annog busnesau i ddilyn y cwrs ar-lein ar lwyfan y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein a chael rhagor o gyngor a hyfforddiant gan Sefydliadau Pobl Anabl sydd â phrofiad bywyd o’r Model Cymdeithasol o Anabledd a chynhwysiant.
- Gweithio i gyfeirio at gyngor, arweiniad, adnoddau a’r arferion gorau i helpu busnesau i gyflogi pobl anabl, ac edrych ar ymarferoldeb porth canolog at y diben hwn.
- Edrych ar ymarferoldeb sefydlu Fforwm Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru.
- Gweithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau i fabwysiadu dull strategol o gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru sy’n cyrraedd statws arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
- Cynhyrchu adnoddau digidol ac adnoddau wedi’u hargraffu ar gyfer cyflogwyr i’w hannog i recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr anabl.
- Drwy ‘Cymru’n Gweithio’, gall pobl anabl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn yr ystad carchardai diogel a’r rhai sy’n ceisio lloches, barhau i gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd a chyflogadwyedd, ynghyd ag ystod ehangach o gymorth gan gynnwys hyfforddiant, uwchsgilio, cyllid a chymorth gydag ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld.
Plant a phobl Iifanc
- Parhau i wreiddio canllawiau Galluogi Dysgu’r Cwricwlwm i Gymru i helpu ymarferwyr i ddatblygu cwricwlwm cynhwysol sy’n addysgol briodol ac sy’n bodloni anghenion eu holl ddysgwyr, gan ddarparu amgylcheddau effeithiol a phrofiadau diddorol.
- Parhau i gynyddu buddsoddiad a monitro effaith gweithrediad y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Gweithio ar godi ymwybyddiaeth o hawliau plant i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall sut mae gwreiddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant yn eu gwaith.
- Gweithio i godi ymwybyddiaeth o ddeunyddiau Hwb mewn perthynas â hawliau plant a phobl ifanc anabl gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau ac ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.
- Gan adlewyrchu anghenion unigol a hybu tegwch, mae Gyrfa Cymru’n parhau i helpu pobl ifanc anabl i gynllunio eu gyrfa, i baratoi ar gyfer cael swydd ac i ddod o hyd i’r prentisiaethau, y cyrsiau a’r hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt.
Byw’n annibynnol
Llesiant
- Gweithio gyda darparwyr llety gwyliau / ymwelwyr yng Nghymru i wella’r ddarpariaeth o wybodaeth sy’n ymwneud â chyfleusterau hygyrch.
- Defnyddio rhwydweithiau sy’n bodoli eisoes i hybu mynediad at chwaraeon a hamdden cyfrwng Cymraeg i bobl anabl.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol i greu mannau chwarae hygyrch. Awdurdodau lleol i asesu a, chyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu mannau ac ymgynghori â phlant fel rhan o’r Dyletswyddau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
- Helpu Awdurdodau Lleol i gydymffurfio â’u dyletswydd statudol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a theuluoedd ar lefel awdurdod lleol ynghylch gofal plant cynhwysol a hygyrch, a gwasanaethau eraill sydd ar gael.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn y sector i helpu gweithwyr gofal plant a chwarae i gael gafael ar yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen i helpu plant anabl i gael gofal plant yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Gweithio i sicrhau bod meddalwedd gynorthwyol Gymraeg briodol, gan gynnwys adnabod llais a synthesis dwyieithog, ar gael yn rhwydd i wella llesiant pobl anabl.
Gofal cymdeithasol a byw’n Annibynnol: iechyd
- Gweithio i ddatblygu a gweithredu fframwaith adrodd safonol i fonitro cynnydd ac effaith awdurdodau lleol.
- Gweithio gyda phobl anabl ar ymarferoldeb sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol.
- Gweithio i ddarparu ar gyfer pobl ag amrywiaeth o amhariadau o fewn Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch, sydd wedi’u diweddaru a’u hehangu.
- Gwella mynediad plant a phobl ifanc anabl at wasanaethau iechyd meddwl cymunedol, gan gynnwys gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.
- Gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
Mynediad at gyfiawnder
- Gweithio i barhau i gefnogi Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru.
- Gweithio i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi fframwaith strategol o wasanaethau cyngor lles cymdeithasol ledled Cymru sy’n targedu grwpiau allweddol o’r boblogaeth, gan gynnwys pobl anabl, gan wella eu mynediad at gyngor lles cymdeithasol diduedd gyda sicrwydd ansawdd.
- Gweithio i adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer pobl anabl sydd wedi goroesi camdriniaeth yng Nghymru drwy ffrwd waith y Dull System Gyfan o gomisiynu cynaliadwy ar gyfer atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
- Parhau i gymryd camau i archwilio sut i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru yn dilyn gwaith y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol.
- Cafodd Grŵp Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2025. Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen hwn wedi cael ei ffurfio i ddatblygu cyfres o argymhellion allweddol i lywio gwaith Llywodraeth Cymru o gynhyrchu ‘trywydd’ ar gyfer polisi Iaith Arwyddion Prydain.
- Bydd ‘trywydd’ polisi Iaith Arwyddion Prydain yn amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad a chanlyniadau cyfartal, sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei chydnabod a’i hyrwyddo, sicrhau hawliau iaith cyfartal, a grymuso arweinwyr Byddar Cymru. Bydd y grŵp yn cynghori ar flaenoriaethau Iaith Arwyddion Prydain ar draws ystod eang o bolisïau trawslywodraethol, gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yn ystyried lle mae rhwystrau iaith a’r camau gweithredu sy’n ofynnol i sicrhau mynediad cyfartal at wybodaeth a gwasanaethau ar gyfer pobl Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Mynediad at wasanaethau
- Gweithio i ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol a chefnogi mentrau sydd â’r nod o gynyddu cynrychiolaeth pobl anabl mewn gwleidyddiaeth.
- Byddwn yn parhau i gefnogi a gweithio’n frwd gyda phartneriaid i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth. Rydyn ni eisoes wedi cynnal dau gam o’n Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, sydd â’r nod o gael gwared ar y rhwystrau i gyfranogiad a hybu mwy o amrywiaeth ymysg aelodau etholedig lleol.
- Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn adeiladu ar ein gwaith hyd yma ac yn cynnwys amrywiaeth o fesurau sydd â’r nod o greu amgylchedd gwleidyddol mwy cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl gyda’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â sefyll mewn etholiad. Rydyn ni wrthi’n rhoi’r trefniadau hyn ar waith.
- Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi’r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth geisio swydd etholedig ac i geisio deall ymhellach beth gellir ei wneud i gael gwared ar y rhwystrau hyn er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu’r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth.
