Bydd mwy na £10 miliwn o bunnau o gyllid yn cefnogi sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol ar draws Cymru, dyna gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw.
Bydd y buddsoddiad ar gyfer 2026 i 2027 yn helpu'r ystod eang o bobl a theuluoedd sy'n dibynnu ar wasanaethau cymorth hanfodol bob dydd. O bobl ifanc mewn argyfwng i bobl hŷn sy'n byw ar eu pennau eu hunain, bydd y cyllid yn sicrhau bod cymorth yn parhau i fod ar gael pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen fwyaf.
Mae'r gwasanaethau a fydd yn elwa o'r cyllid yn cynnwys ChildLine Cymru fel bod y sefydliad yn gallu parhau i ddarparu ei linell gymorth 24 awr am ddim i bobl ifanc dan 19 oed sydd angen rhywun i siarad â nhw, gan gynnig cymorth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Bydd Cyngor y Deillion Cymru yn parhau i helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i wella eu bywydau a byw mor annibynnol â phosibl.
Bydd Pobl yn Gyntaf Cymru yn parhau i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i gael eu clywed, a llunio'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.
Yng nghefn gwlad Powys, bydd ffermwyr hŷn yn cael cymorth i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain drwy brosiect arbennig sy'n cael ei redeg gan Gofal a Thrwsio Powys ac Age Cymru Powys.
Bydd nifer o sefydliadau eraill sy'n darparu cymorth hanfodol ledled Cymru hefyd yn elwa o'r cyllid.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Bob dydd, mae sefydliadau'r trydydd sector ar hyd a lled Cymru yn cynnig achubiaeth i bobl sydd angen cefnogaeth
Mae'r buddsoddiad hwn o £10 miliwn yn golygu y gall y gwasanaethau hanfodol hyn barhau i helpu pobl yn ein cymunedau, o berson ifanc yn ei arddegau sydd angen rhywun i siarad â nhw yng nghanol y nos, i ffermwr oedrannus sydd eisiau aros yn ddiogel yn y cartref y mae wedi byw ynddo ers blynyddoedd maith.
Mae'r sefydliadau hyn yn gwneud gwaith anhygoel, ac mae angen sicrwydd arnynt er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol a chefnogi'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae'r cyllid hwn yn rhoi'r sicrwydd hwnnw iddynt am flwyddyn arall, tra byddwn ni’n gweithio gyda nhw i ddatblygu gwasanaethau gwell fyth ar gyfer y dyfodol
