Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd dros £7m yn cael ei fuddsoddi mewn 11 o brosiectau addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr arian hwn yn sicrhau mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg Gymraeg, sy'n allweddol i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i ddod â chyfleoedd i fwy o ddisgyblion, o'r blynyddoedd cynnar i ysgolion uwchradd, er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd Ysgol Llanfawr ar Ynys Môn yn cael arian ar gyfer uned gofal plant newydd. Bydd lle ar gyfer 50 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr uned newydd, er mwyn meithrin cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg.

Gall rhai prosiectau hefyd gefnogi cymunedau lleol i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg. Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen wedi sicrhau cyllid ar gyfer cae 3G dan lifoleuadau sy'n addas ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau i'w cynnal yn ystod oriau’r diwrnod ysgol. A bydd y cae hefyd ar gael i’r gymuned leol gyda’r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol, er mwyn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.

Dywedodd y Gweinidog, Jeremy Miles:

“Rwy'n falch o weld y cynlluniau ar gyfer prosiectau newydd a fydd yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob oedran ledled Cymru. Os ydyn ni'n mynd i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd ein cynlluniau.

“Mae fy neges i'n glir, rwy am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”