Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cadarnhau £7.7m o gyllid yn ychwanegol i barhau â gwasanaeth SilverCloud Cymru am dair blynedd arall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

SilverCloud Cymru yw’r adnodd ar-lein am ddim sy’n cefnogi iechyd meddwl.

Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae SilverCloud Cymru yn wasanaeth therapi ar-lein am ddim sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n wynebu gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol i ddelio â’u hiechyd meddwl a’u llesiant.

Yn dilyn cynllun peilot Cymru gyfan a lansiwyd yn ystod y pandemig COVID-19, mae’r gwasanaeth wedi helpu pobl i gael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl ar-lein. Wrth inni ddod allan o’r pandemig, bydd y cyllid ychwanegol yn ehangu’r gwasanaeth ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 11 oed a hŷn gael gafael ar therapi digidol. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig cefnogaeth amenedigol.

Yn ystod y cynllun peilot, cymerodd dros 23,000 o bobl ran yn rhaglenni iechyd meddwl SilverCloud ac adroddodd 64% o bobl ganlyniadau cadarnhaol wedi iddynt gyfeirio eu hunain.

Yn ogystal â bod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae gwasanaeth SilverCloud Cymru yn cael ei gynnal a’i gefnogi gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein. Manteision y gwasanaeth yw y gellir ‘cael gafael arno o gartref’ a’i fod yn cael ei arwain yn broffesiynol.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd ac rydyn ni eisiau cynnig ystod o adnoddau i helpu pobl. Gall y rhai hynny sydd ag anghenion iechyd meddwl lefel isel elwa’n fawr o ddefnyddio SilverCloud. Mae’r gwasanaeth ar gael 24/7 ac nid oes angen atgyfeiriad. Mae adborth rydym wedi’i gael wedi dangos bod pobl yn teimlo bod SilverCloud wedi’u helpu’n fawr yn ystod adegau lle’r oeddent angen ychydig o gefnogaeth. Rwy’n falch ein bod nawr yn ehangu ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.

Dywedodd Ken Cahill, Prif Swyddog Gweithredol SilverCloud Health:

Mae SilverCloud Health yn falch o gefnogi GIG Cymru i helpu cleifion ledled y wlad i gael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt ar hyn o bryd. Gan elwa o dros 18 mlynedd o waith ymchwil, mae gan ein rhaglenni, sydd wedi’u cynllunio gan seicolegwyr clinigol, gyfraddau llwyddo uchel sy’n cadarnhau eu heffeithiolrwydd. Mae pob person sy’n cael help yn stori llwyddiant yn ein barn ni.

Dywedodd Carol Brown, Arweinydd SliverCloud Cymru, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

Mae sicrhau bod y boblogaeth gyfan sy’n 11 oed a hŷn yn gallu cael gafael ar therapi digidol yn uniongyrchol yn cydnabod y ffaith bod pobl angen cefnogaeth yn syth i ddelio â’u hiechyd meddwl a’u llesiant wrth i effeithiau COVID-19 barhau i fod yn amlwg. Mae’r gwasanaeth yn fodd o leihau’r rhwystrau i gael gafael ar y gefnogaeth hon.