Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros 95% o fusnesau fferm wedi derbyn yr hyn y maent wedi ei hawlio o'r Cynllun Taliad Sylfaenol neu geisiadau am fenthyciadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn ystod wythnos gyntaf cyfnod talu 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn golygu bod dros £213 miliwn wedi'i dalu i gyfrifon banc dros 14,700 o fusnesau fferm o Gymru yn ystod yr wythnos gyntaf.

Eleni, oherwydd y tywydd eithriadol o dwym a sych a gawsom yn yr haf, rwyf wedi cyflwyno cynllun benthyciadau BPS i helpu busnesau fferm â'u llif arian ac i reoli'u cyllid tra bo'u hawliadau BPS yn cael eu prosesu. 

Mae'r benthyciad BPS, ddaeth i ben ar gyfer ceisiadau ar 30 Tachwedd, wedi golygu bod £23.1 miliwn yn ychwanegol wedi'i dalu i dros 1,200 o fusnesau fferm eleni. 

Mae'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn Lloegr wedi derbyn data trawsffiniol gan eu cymheiriaid yn Lloegr, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru brosesu hawliadau BPS 2018 i dros 75% o ffermydd Cymru sydd â thir bob ochr y ffin. 

Dechreuodd cyfnod talu BPS 2018 ar 3 Rhagfyr a bydd yn cau ar 30 Mehefin 2019. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Dwi'n falch iawn o gadarnhau bod dros 95% o fusnesau fferm wedi cael eu talu naill ai eu taliadau BPS neu eu ceisiadau am fenthyciad yn ystod yr wythnos gyntaf o daliadau.

"Mae benthyciad y BPS, a gyflwynwyd gennyf mewn ymateb i'r haf sych a phoeth, wedi rhoi sicrwydd i ffermwyr wrth i'w ceisiadau BPS gael eu prosesu, ac wedi helpu 1,200 o fusnesau fferm i reoli eu harian a chynllunio eu cyllid. 

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid y diwydiant, sydd wedi cydweithio â'm swyddogion i gyflwyno'r cynllun benthyciadau BPS a chyfrannu at broses dalu lwyddiannus arall eto eleni.

"Eleni, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol gyda thaliadau i ffermydd sydd â thir y bob ochr i'r ffin o gymharu â blynyddoedd blaenorol.  Mae fy swyddogion yn parhau i bwyso ar yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn Lloegr am y data sy'n weddill ac yn gweithio'n galed ar brosesu'r hawliadau BPS sy'n weddill cyn gynted â phosibl.

“Rwy'n disgwyl y bydd yr holl daliadau, heblaw'r achosion mwyaf cymhleth, wedi'u talu cyn diwedd y cyfnod talu fis Mehefin nesaf.”