Neidio i'r prif gynnwy

Bydd deg o bartneriaethau yn rhannu dros £260 o gyllid Llywodraeth Cymru i edrych ar sefydlu Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru, i hybu'r economi leol a chefnogi ymdrechion adfywio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Unwaith y cytunir ar yr AGB drwy bleidlais gyfreithiol, bydd pob busnes yn cyfrannu'n ariannol drwy lefi, a gaiff ei ddefnyddio wedyn i ariannu'r gweithgareddau y cytunwyd arnynt fel a nodir yn eu cynllun busnes. Gallai'r rhain gynnwys marchnata, hyrwyddo a digwyddiadau, parcio ceir, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella mynediad i drefi, neu waith i wneud yr ardal yn fwy bywiog a hyfyw.

Y trefi fydd yn derbyn cyllid fel rhan o'r rhaglen bresennol yw:

  • Aberhonddu
  • Llangollen
  • Y Drenewydd
  • Y Barri
  • Port Talbot
  • Treorci
  • Aberdâr
  • Yr Wyddgrug

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu hefyd i Gasnewydd am AGB TGCh a digidol ac i Glyn Ebwy am AGB sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant sy'n gysylltiedig â'r Ardal Fenter. Mae nifer yr AGBau yn y sector ledled y DU yn cynyddu, ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu hannog yng Nghymru. 

Meddai Rebecca Evans:

"Rydyn ni'n gweld bod AGBau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng nghanol trefi ledled Cymru, ond mae'n cymryd amser, ymdrech a chefnogaeth, a dyna pam yr ydym yn darparu cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu sefydlu.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i greu newid economaidd parhaol yng Nghymoedd De Cymru drwy Dasglu'r Cymoedd, a dwi'n gobeithio y bydd cynnig yr AGB yn Aberdâr, Treorci, Port Talbot a Glyn Ebwy yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.

"Gall yr AGBau helpu i adfywio ein canol trefi a hyrwyddo y broses adfywio. Rydyn ni wedi gweld AGBau presennol yn darparu mentrau glanhau strydoedd, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau trosedd, cynnig cyrsiau hyfforddi busnes pwrpasol a chynnal digwyddiadau a gwyliau niferus."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Gyda'i gilydd, bydd yr wyth AGB a grëwyd yn ystod y rhaglen ddiwethaf wedi cynhyrchu dros £5 miliwn o fuddsoddiad preifat i gefnogi y gweithgareddau o'u dewis. Mae hyn yn elw sylweddol o'n buddsoddiad, gan helpu i sbarduno datblygiad economaidd lleol a chefnogi y stryd fawr yng Nghymru.

"Dwi'n arbennig o falch o weld dau gynnig arloesol yn cael eu cynnig. Mae'r cynnig o Glyn Ebwy yn cyd-fynd â gwaith ehangach yr Ardal Fenter yn yr ardal honno ac mae'n ategu mentrau eraill, gan gynnwys Menter y Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn. 

"Yng Nghasnewydd, dwi'n awyddus i weld sut y gall AGB sy'n canolbwyntio ar y sectorau TGCh a digidol helpu i gefnogi ein dull o ddatblygu economaidd sy'n canolbwyntio mwy ar ranbarthau."