Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo dros £31m o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd ar gyfer plant a babanod sy’n cael eu geni cyn pryd, a gwasanaethau obstetreg, yn y De.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd dros £25m yn cael ei wario ar ailddatblygu’r gwasanaethau ar gyfer babanod newyddanedig a’r gwasanaethau obstetreg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.  

O ganlyniad i’r buddsoddiad: 

  • Bydd yr uned ar gyfer babanod newyddanedig yn cael ei hailddatblygu i gynnwys wyth cot gofal dwys ychwanegol a mwy o gyfleusterau ar gyfer cleifion a theuluoedd, gan gynnwys swît ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli baban neu blentyn;

  • Bydd cyfleusterau obstetreg newydd yn cael eu darparu, gan gynnwys ward gydag wyth gwely ychwanegol ar gyfer cleifion preswyl â chyfleusterau ensuite;

  • Bydd theatr lawdriniaeth ddynodedig newydd ar gael, gyda lle penodol i gleifion gael dod at eu hunain yn dilyn llawdriniaeth.  
Bydd dros £6m yn cael ei fuddsoddi i gryfhau ac ailddatblygu gwasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Cwm Taf, gan gynnwys:  
  • ehangu’r uned ar gyfer babanod newyddanedig drwy ddarparu naw cot ychwanegol;

  • ailddatblygu’r ward obstetreg, i gynnwys chwe ystafell rhoi genedigaeth, ac un ohonynt gyda phwll; 

  • datblygu’r uned o dan ofal bydwragedd, a fydd yn cynnwys pedair ystafell rhoi genedigaeth, a dwy ohonynt gyda phwll.  
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cael ei ddefnyddio i ailwampio’r theatr bresennol ar gyfer llawdriniaethau mamolaeth, yn ogystal ag adeiladu ail gyfleuster theatr lawdriniaeth y drws nesaf iddi. 

Mae’r buddsoddiad yng Nghaerdydd a’r Fro yn fwy oherwydd cymhlethdod y safle a’r cyfyngderau sydd arno o ran lle.  

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Bydd y cyllid hwn yn gwella gwasanaethau i famau a babanod yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Athrofaol Cymru. 

“Mae’n rhan o’n hymrwymiad i gefnogi Rhaglen De Cymru drwy ddatblygu’r gwasanaethau iechyd i fenywod a babanod, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn ein helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl, yn unol â’r canllawiau a’r safonau sy’n cael eu rhoi gan gyrff arbenigol, gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr a rhwydwaith newyddenedigol Cymru gyfan. Bydd yn creu capasiti ychwanegol i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau yn y dyfodol.

“Mae’n enghraifft arall o sut rydyn ni’n buddsoddi i wella gofal iechyd ar gyfer y dyfodol, er budd pobl Cymru.” 

Mae disgwyl i’r cynlluniau gael eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2017 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.