Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i berfformio yn gryf gyda chyfradd ddiweithdra o 4.3%, sy’n is na chyfartaledd y DU am bum mis yn olynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw (17 Awst 2016), dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i berfformio yn gryf gyda chyfradd ddiweithdra o 4.3%, sy’n is na chyfartaledd y DU am bum mis yn olynol.

“Dros y 12 mis diwethaf, mae diweithdra wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw le arall ym Mhrydain.  Rydym ar y blaen i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda diweithdra yn gostwng ar raddfa sy’n fwy na dwywaith cyfartaledd y DU ac sydd bellach llawer is na chyfradd y DU o 4.9%.

“Dros yr un cyfnod, mae diweithdra yng Nghymru wedi codi 17,000 hefyd ac yn agos at y lefel uchaf a gofnodwyd erioed.  

“Fel llywodraeth sydd o blaid busnesau, rydym yn parhau i weithio’n galed i gefnogi’r amodau economaidd cywir i helpu i greu a diogelu swyddi ledled Cymru.  Beth bynnag sy’n digwydd o’n cwmpas, byddwn yn parhau i ddarparu amgylchedd gadarn, sefydlog a diogel ar gyfer busnes a menter.”