Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cefndir yr Ymchwiliad

Mae’r adroddiad hwn yn deillio o drafodaethau yn Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru sydd dan gadeiryddiaeth Jane Hutt AS. Yn ystod haf 2020, ar ôl clywed am y gwahanol ffyrdd yr oedd y pandemig yn effeithio’n negyddol ar bobl anabl, penderfynodd y Fforwm sefydlu ymchwiliad ar sail tystiolaeth i brofiadau pobl anabl, gan nad oedd y Llywodraeth ganolog a’r cyfryngau prif ffrwd wedi adrodd digon am y mater.

Mae’r penderfyniad i sefydlu ymchwiliad o’r fath yn arwyddocaol. Hyd y gwyddom, dyma’r cyntaf o’i fath i gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth yn y DU. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn unigryw gan ei fod wedi cael ei reoli a’i gydgynhyrchu gan Grŵp Llywio o bobl anabl sy’n cynrychioli Mudiadau Pobl Anabl ac elusennau anabledd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru o ran cymorth gweinyddol, arbenigedd ymchwil ategol a dadansoddi data.

Cafodd ‘Cadeirydd’ (neu gydlynydd) yr ymchwiliad ei dewis gan aelodau anabl o’r Fforwm Cydraddoldeb Anabledd ac mae hi’n adnabod ei hun fel person anabl. Mae Dr Debbie Foster yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd. Disgrifiodd ei rôl fel un o gydlynwyr tystiolaeth ddogfennol a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru a thystiolaeth gan aelodau’r Grŵp Llywio, pob un ohonynt â phrofiad uniongyrchol o anabledd. Cafodd dros 300 o eitemau o dystiolaeth ysgrifenedig eu hystyried, eu didoli, eu crynhoi a’u trafod, eu blaenoriaethu a’u hategu gan y Grŵp Llywio, mewn proses ailadroddus. 

Methodoleg

Bu’r Grŵp Llywio yn cyfarfod yn rheolaidd rhwng mis Hydref 2020 a Chwefror 2021. Roedd Rhian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Cymru yn chwarae rôl werthfawr wrth gadeirio cyfarfodydd y Grŵp Llywio ar ôl gweithio’n flaenorol gyda’r holl randdeiliaid cysylltiedig Llywodraeth Cymru, awdur yr adroddiad, Mudiadau Pobl Anabl a phobl anabl o gymunedau sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig.

Mae cydgynhyrchu wedi dod yn derm ‘ffasiynol’ mewn cylchoedd polisi cyhoeddus ac academaidd. Fodd bynnag, mae cydgynhyrchu’n anodd ac yn cymryd llawer o amser. Yr hyn a fu o gymorth i’r Grŵp Llywio oedd ymrwymiad ei aelodau i’r model cymdeithasol o anabledd. Roedd hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bod trafodaethau cyhoeddus am COVID-19 yn cael eu llywio gan drafodaethau meddygol. Dim ond pan ddatgelwyd bod COVID-19 wedi effeithio’n anghymesur ar aelodau o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yr ystyriwyd y rhan bwysig yr oedd ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn ei chwarae o ran iechyd gwael a marwolaethau.

Mae’r frwydr dros yr hawl sylfaenol i fyw’n annibynnol wedi bod yn un hir i lawer o bobl anabl ac mae wedi arwain at y Mudiadau Hawliau Anabledd yn mabwysiadu’r dywediad: ‘Pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau’. Fel dull ymchwil, mae cydgynhyrchu’n caniatáu i brofiadau uniongyrchol pobl anabl gael eu hintegreiddio’n weithredol i’r broses ymchwil ac mae hyn yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn cynhyrchu atebion a pholisïau ymarferol. Mae cydgynhyrchu hefyd yn golygu gwrthod y gorffennol, pan oedd gwneuthurwyr polisi yn dibynnu ar ‘arbenigwyr’ a gweithwyr proffesiynol fel y’u gelwir. Gorffennol a oedd o blaid sefydliadu a gwahanu pobl anabl mewn addysg, cyflogaeth a bywyd bob dydd, yn hytrach na’u hintegreiddio.

Mae ein hadroddiad yn un hir. Yn anffodus, mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu faint o dystiolaeth a gafodd Llywodraeth Cymru, ac roedd rhai ohonynt yn fygythiad difrifol i hawliau dynol sylfaenol pobl anabl yn ystod y pandemig. Er mwyn rhoi strwythur i’r darllenydd, rydym wedi rhannu’r dystiolaeth yn bum thema gyffredinol, gydag is-themâu ym mhob adran. Dyma’r themâu cyffredinol (neu benodau):

  1. Model cymdeithasol o anabledd yn erbyn y model meddygol o anabledd
  2. Hawliau dynol
  3. Iechyd a Llesiant
  4. Anfanteision economaidd-gymdeithasol
  5. Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth     

Cynhaliwyd adolygiad o ystadegau/tystiolaeth feintiol ac ansoddol ar sut mae COVID-19 wedi effeithio ar bobl anabl er mwyn helpu i ddatblygu’r adroddiad hwn. Roedd y ffynonellau’n cynnwys adroddiadau/papurau ymchwil wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac ystadegau swyddogol, yn ogystal â llenyddiaeth lwyd gan gynnwys blogiau ac arsylwadau heb eu cyhoeddi. Mae’r ffynonellau amrywiol a chyfoethog hyn wedi cael eu dadansoddi yn ddau adroddiad cysylltiedig, sef y papur tystiolaeth ‘Effaith bosibl COVID-19 ar bobl anabl’ a’r Erthygl Ystadegol ‘Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar bobl anabl yng Nghymru’. Mae’r ddau hefyd yn gweithredu fel llyfryddiaeth ar gyfer y prif adroddiad.

Ar ddechrau pob adran, darperir crynodeb y cytunir arno gan y Grŵp Llywio. Yna cyflwynir y prif ganfyddiadau sy’n ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Yna cyflwynir rhestr gynhwysfawr o’r argymhellion a drafodwyd gan y Grŵp Llywio.

Mae crynodeb gweithredol o’r prif ganfyddiadau a’r argymhellion yn ymddangos ar ddechrau’r adroddiad hwn, ac mae’r rhain wedi’u trefnu o amgylch penawdau ehangach ar gyfer hygyrchedd. Fodd bynnag, rydym yn annog y darllenydd i gyfeirio at y dystiolaeth a’r argymhellion manylach sydd ym mhrif gorff yr adroddiad.

Cwmpas

Pan wnaethom ddechrau’r ymdrech hon, roeddem yn ymwybodol, oni bai ein bod yn gosod ffiniau ar gyfer cwmpas ein hymchwiliad, y gallai ddod yn amhosibl ei reoli ac ni fyddai ganddo ffocws digonol. Roedd presenoldeb Comisiynwyr neu Weinidogion penodol yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am addysg, plant a phobl hŷn yn ffactorau a ddylanwadodd ar ein penderfyniad i beidio â chanolbwyntio ar y grwpiau a’r meysydd hyn yn fanwl iawn. 

Mae llawer o bobl hŷn hefyd yn bobl anabl, ac mae cyflyrau meddygol sy’n gysylltiedig ag oedran yn cyfrannu at y tebygolrwydd y bydd rhywun yn profi anabledd. Fodd bynnag, yn wahanol i anabledd, mae oedran wedi dod yn un o’r prif ystyriaethau wrth wneud penderfyniadau llunio polisïau yn ystod y pandemig oherwydd y nifer uchel o farwolaethau ymysg y grŵp hwn yn ystod yr hyn a oedd yn cael ei alw’n ‘y don gyntaf’. Felly, penderfynwyd y byddai mynd i’r afael â’r materion croestoriadol cymhleth sy’n ymwneud ag oedran ac anabledd y tu hwnt i gwmpas yr ymchwiliad hwn. Serch hynny, rydym yn nodi bod pobl anabl a phobl hŷn yn aml yn wynebu heriau strwythurol tebyg mewn cymdeithas, yn arbennig y statws gwleidyddol gwahanol a roddir i iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU. Felly, ymysg ein hargymhellion, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r un statws seilwaith i ofal cymdeithasol â’r GIG yng Nghymru.

Problem arall y gwnaethom ei thrafod yn ystod yr ymchwiliad oedd sut mae cyfleu’n ddigonol y pryderon croestoriadol sy’n effeithio ar bobl anabl yn ystod y pandemig, yn arbennig pryderon pobl anabl o’r gymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae hyn bob amser yn broblem bosibl wrth ganolbwyntio’n bennaf ar un nodwedd warchodedig. Er hynny, daeth ymchwiliad y Prif Weinidog i’r gymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hefyd i’r casgliad bod y nifer anghymesur o farwolaethau ymysg cymuned benodol yn cyfiawnhau cynnal dadansoddiad manwl. Ym mis Rhagfyr 2020, gwnaethom drefnu ‘Grŵp Cyfeirio Croestoriadol’ i ddarparu fforwm i glywed lleisiau cymunedau amrywiol eraill o bobl anabl yng Nghymru. Roedd y fforwm yn ddigwyddiad cadarnhaol ac ysbrydoledig, ac er ein bod wedi ceisio integreiddio adborth o’r cyfarfod hwn i’r adroddiad, un peth a nodwyd oedd yr angen am ragor o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.

Crynodeb o’r Canfyddiadau a’r Argymhellion

Pwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd

Mae pandemig y coronafeirws wedi cynyddu’r anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sydd eisoes yn bodoli mewn cymdeithas a’u dylanwad ar ganlyniadau iechyd. Mae hyn wedi tynnu sylw at ba mor berthnasol yw’r Model Cymdeithasol o Anabledd, fel y dystiolaeth a’r hyn sy’n cael ei egluro yn adran 1 yr adroddiad hwn. 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i ail-ddatgan ei hymrwymiad yn 2002 i’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Wrth wneud hynny rydym yn gofyn ei bod yn adolygu tystiolaeth yn yr adroddiad hwn sy’n awgrymu bod prosesau gwneud penderfyniadau yn ystod y pandemig wedi tanseilio’r model cymdeithasol, ac wedi defnyddio model meddygol o anabledd yn lle. Yn y tymor hir rydym yn galw ar ymgyrch gyhoeddus genedlaethol i wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r ffafriaeth tuag at bobl abl mewn cymdeithas yng Nghymru ac rydym yn argymell y dylid integreiddio hanes y mudiad hawliau anabledd, gan gynnwys datblygu’r model cymdeithasol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru.

Yr angen i wella’r gynrychiolaeth o bobl anabl wrth wneud penderfyniadau

Mae ein hadroddiad yn rhoi tystiolaeth bod pobl anabl yn profi gwahaniaethu meddygol, mynediad cyfyngedig at wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol, cyfyngiadau ar fyw’n annibynnol, yn cael eu heithrio o fannau cyhoeddus a bywyd cyhoeddus ac mae eu hawliau dynol sylfaenol yn cael eu herydu, o ganlyniad i’r pandemig. Gall rhagfarn ddiarwybod a ffafriaeth tuag at bobl abl mewn sefydliadau helpu i egluro allgáu ac anfantais, ond mae cynnwys pobl anabl (a chymunedau amrywiol eraill) yn gyfartal yn y broses o wneud penderfyniadau rhagweithiol yn hanfodol, yn y tymor byr a’r tymor hir, os ydynt am gael sylw.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion y Cenhedloedd Unedig sy’n sicrhau bod gwledydd yn cynnwys pobl anabl yn llawn yng nghamau cynllunio pob ymateb i argyfyngau cyhoeddus yn y dyfodol. Rydym yn croesawu sefydlu cronfa newydd i gefnogi pobl anabl sy’n chwilio am swydd etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Fodd bynnag, mae angen i’r cynllun hwn fod yn berthnasol i bob agwedd ar y llywodraeth, llunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

I sicrhau bod pobl anabl yn gwneud cais am swyddi, dyrchafiadau i swyddi uwch, contractau sy’n cael eu caffael yn gyhoeddus a rolau cynghori, rydym yn argymell bod agwedd ragweithiol at addasiadau rhesymol yn cyd-fynd â hysbysebu pob rôl o’r fath, fel bod ymgeiswyr yn glir ei bod hi’n bosibl addasu amserlenni, dyddiadau cau neu gyllid.

Marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 ymysg pobl anabl

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 68% o farwolaethau COVID-19 ymysg pobl anabl yng Nghymru. Nid oes modd anwybyddu’r canran hwn ac mae’r adroddiad hwn yn dangos sut mae ffactorau cymdeithasol, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, sefydliadu, diffyg cyfarpar diogelu personol, gwasanaethau gwael a thameidiog, dim mynediad at wybodaeth gyhoeddus neu wybodaeth gyhoeddus dryslyd ac amgylchiadau personol, wedi cyfrannu at y ffigur hwn.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu ymchwiliad cenedlaethol i ffactorau sy’n effeithio ar farwolaethau gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, gan gynnwys pobl anabl, a bod yr ymchwiliad yn arwain at alw ar Lywodraeth y DU i lansio’r un ymchwiliad ar draws y pedair gwlad ehangach.

Byddai angen i unrhyw ymchwiliad yng Nghymru adolygu’r amrywiaeth o dystiolaeth ac argymhellion yn yr adroddiad hwn (ac adroddiad COVID-19 Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Prif Weinidog Cymru), a byddai’n rhaid iddynt allu datblygu camau gweithredu ac atebion y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol. Rhaid rhoi amserlen glir ar gyfer adrodd, gan gynnwys amserlenni ar gyfer gweithredu argymhellion.

Hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus

Ym mhob un o’r pum adran yn yr adroddiad hwn, cyflwynir tystiolaeth sy’n awgrymu bod pobl anabl yn teimlo bod eu bywydau’n cael eu gwerthfawrogi’n llai yng nghymdeithas Cymru. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu drwy eu profiadau o gael eu gwahaniaethu a’u hallgáu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig. Rydym yn darparu enghreifftiau o bobl anabl yn methu â chael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau mamolaeth, meddygfeydd meddygon teulu, llinellau cymorth mewn argyfwng a gwybodaeth gyhoeddus hollbwysig sy’n gysylltiedig â’r pandemig, i enwi dim ond rhai. Soniodd llawer o bobl anabl am ddryswch, diymadferthedd, cefnu, ynysigrwydd, ofn a rhwystredigaeth. Fodd bynnag, gwraidd y rhan fwyaf o’r allgáu hwn yw esgeulustra, gan amddifadu pobl anabl rhag cael mynediad at fannau cyhoeddus ac ymdeimlad o ddinasyddiaeth sylfaenol. 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn orfodol i holl weithwyr, contractwyr, ymarferwyr gofal iechyd a swyddogion ddangos tystiolaeth eu bod wedi llwyddo i gwblhau hyfforddiant ar amrywiaeth a chynhwysiant y mae pobl anabl a Mudiadau Pobl Anabl yn eu cydgynhyrchu, eu dylunio, eu darparu a’u hachredu.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cod ymarfer gorfodol i sicrhau bod gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni fel rhan safonol o’i phroses caffael cyhoeddus. Wrth ystyried newid i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o bell, mae’n rhaid gosod gofyniad i asesu sut bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar gydraddoldeb, asesiad na chynhaliwyd yn ystod y pandemig. Yn y dyfodol, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio newidiadau i’r ffordd o ddarparu gwasanaethau ar frys er mwyn canfod arferion a allai arwain at eithrio rhai grwpiau o ddefnyddwyr anabl yn barhaol. Os penderfynir bod angen darparu elfen o wasanaeth wyneb yn wyneb er mwyn bodloni gofynion hygyrchedd, rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu a’u hariannu’n briodol a sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau’n cael ei reoli.

Er mwyn sicrhau bod egwyddorion craidd Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn cael eu gwreiddio yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau yng Nghymru, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i helpu awdurdodau lleol i orfodi camau gweithredu sy’n deillio o wneud hyn. Mae’n rhaid sefydlu mecanweithiau hefyd i sicrhau bod Mudiadau Pobl Anabl yn cael eu cynrychioli’n deg ym mhob awdurdod lleol.

Rydym yn argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth i bobl anabl yng Nghymru i’w helpu i egluro ac eirioli eu buddiannau wrth ddelio â darparwyr iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Yr angen am Ddeddfwriaeth Hawliau Dynol yng Nghymru

Mae Adran 2 yr adroddiad hwn yn rhoi manylion am sut mae’r pandemig wedi effeithio ar hawliau dynol pobl anabl, gan gynnwys eu hawl sylfaenol i fyw’n annibynnol. Mae ein canfyddiadau’n dangos sut mae ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’, sef egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yng Nghymru (CLlC) 2014, wedi’u hanwybyddu yn ystod y pandemig.  Roedd cyflwyno Atodlen 12, rhan 2 o Ddeddf y Coronafeirws, a oedd yn atal dyletswyddau allweddol i ddarparu gwasanaethau i bobl anabl, yn ffactor allweddol a oedd yn cyfrannu at hyn. Fodd bynnag, roedd diffyg argaeledd o Gyfarpar Diogelu Personol, penderfyniadau lleol anghyson ac annheg a hysbysiadau Peidio â Cheisio Dadebru (DNAR) hefyd yn arwyddocaol. 

Rydym yn croesawu ymgynghoriad ac ymrwymiad diweddar y Dirprwy Weinidog i atal Atodlen 12 ac addasiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (CLlC) 2014, a ddisgrifir uchod. Fodd bynnag, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r broses o ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru ar frys, er mwyn helpu i sicrhau bod hawliau dynol pobl anabl yn cael eu diogelu’n well yn y dyfodol.

Gan ategu cais gan Gymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr, rydym yn argymell bod canllawiau cenedlaethol a phecynnau cymorth yn cael eu cynhyrchu sy’n cynnwys enghreifftiau ymarferol o’r hyn sy’n gyfystyr â thorri’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Byddai hyn yn helpu awdurdodau lleol i gynnal asesiadau cynhwysfawr o’r Ddeddf Hawliau Dynol a gwella cysondeb.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a darparwyr gwasanaethau gofal i sicrhau ar unwaith eu bod yn egluro i bobl ag anableddau dysgu sydd ar y rhestr warchod ac mewn lleoliad sefydliadol beth yn union yw eu hawliau.

Yn y tymor byr, rydym yn galw ar y Prif Weinidog i benodi Gweinidog dros Bobl Anabl er mwyn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol pobl anabl a chyfranogiad llawn ym mywyd Cymru. Yn y tymor hirach rydym yn argymell sefydlu Comisiynydd ar gyfer Pobl Anabl yng Nghymru, gyda rôl debyg i Gomisiynydd y Gymraeg, Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol Nid yw’r bwlch sydd wedi’i greu o ganlyniad i golli’r Comisiwn Hawliau Anabledd erioed wedi’i lenwi’n iawn ac mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y DU, sy’n brin o adnoddau, yn cael ei weld fwyfwy fel rheoleiddiwr, yn hytrach nag fel eiriolwr neu gychwynnwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Byddai’r symudiadau hyn yn cyfrannu rhywfaint at bontio diffygion mewn cynrychiolaeth yng Nghymru.

Pobl anabl a mynediad at gyfiawnder

Roedd y dystiolaeth a adolygwyd gan yr ymchwiliad hwn yn amlygu pryderon bod pobl anabl wedi cael problemau wrth geisio cael mynediad at gyfiawnder yn ystod y pandemig gan fod achosion yn cael eu cynnal ar-lein, dros fideo neu dros y ffôn. Mae mudiadau dyngarol hefyd wedi mynegi pryderon bod ffoaduriaid anabl wedi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd llai o hygyrchedd o ran cyfathrebu a dod i gysylltiad â’r feirws.

Rydym yn argymell bod y canllawiau ar wrandawiadau dros fideo a dros y ffôn ar draws pob llys a thribiwnlys yng Nghymru yn cyfeirio at yr angen i ystyried a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl, a bod y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson. Mae manylion am yr argymhellion i helpu i fynd i’r afael â mynediad at gyfiawnder cyflogaeth yn cael eu trafod ymhellach yn ein hadran ar waith a chyflogaeth.

Addysg

Fel sy’n cael ei egluro yn adran dulliau’r adroddiad hwn, penderfynodd ein hymchwiliad fod mesur sut mae’r pandemig wedi effeithio ar addysg bobl anabl y tu hwnt i gwmpas yr adroddiad hwn. Yn y dyfodol, byddem yn disgwyl i unrhyw ymchwiliad gan y Comisiynydd Plant yng Nghymru roi sylw i’r problemau penodol y mae plant anabl yn eu profi.  Ar ben hynny, disgwylir mai dim ond yn y dyfodol y bydd modd mesur effeithiau tymor hir y pandemig ar addysg a dysgu.

Fodd bynnag, gwnaethom ystyried tystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chynghrair Anghenion Dysgu Ychwanegol y Trydydd Sector. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod angen cymorth ychwanegol ar ddisgyblion anabl ac nad oeddent bob amser yn cael y cymorth hwn yn ystod y pandemig. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn clustnodi rhan o grant pandemig y Llywodraeth i awdurdodau lleol sy’n sicrhau bod plant ag Anghenion Addysgol Arbennig sy’n aros gartref yn cael cyfarpar priodol a hanfodol, deunyddiau hyfforddi a gofal cymdeithasol. Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol, rydym yn galw ar Adran Addysg Llywodraeth Cymru i fonitro nodweddion disgyblion sy’n dychwelyd ac sy’n aros gartref, er mwyn sicrhau nad yw disgyblion anabl yn cael eu heithrio nac yn cael eu rhoi dan anfantais.

Er mwyn mynd i’r afael ag allgáu digidol a thlodi, rydym yn argymell bod Cymunedau Digidol Cymru, mewn partneriaeth â’r Mudiadau Pobl Anabl, yn mynd ati ar unwaith i ddatblygu rhaglen addysg a sgiliau sydd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer pobl anabl. Byddai rhaglen o’r fath yn galw am ymgynghoriad helaeth a chydgynhyrchu.

Teithio Diogel, Hygyrch a Fforddiadwy

Mae ein canfyddiadau’n datgelu bod llawer o bobl anabl wedi dod ar draws rhwystrau newydd i deithio yn ystod y pandemig, gan gyfyngu ar symudedd a’u gwneud yn fwy ynysig. Nid oes digon o sylw wedi cael ei roi i anghenion teithio ‘mwy diogel’ pobl anabl, ee pobl â nam ar eu golwg nad ydynt yn gallu barnu pellter cymdeithasol nac addasu i lwybrau sydd wedi newid; pobl â nam symudedd sy’n gorfod ciwio a llai o gymorth i deithwyr. Mae pobl anabl hefyd wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar wasanaethau tacsi preifat drud.

Mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i’r cyfyngiadau ar symudedd pobl anabl ar frys drwy gynyddu cyllid i alluogi pobl anabl i ddefnyddio dulliau teithio ‘mwy diogel’ a hygyrch. Mae’n rhaid i gymorth i deithwyr fod ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae angen ystyried y problemau mynediad sy’n wynebu grwpiau namau gwahanol, fel effaith cadw pellter cymdeithasol, ciwiau ac allanfeydd.

Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru

Yn ystod y pandemig, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y sefyllfa wedi amharu’n ddifrifol ar fynediad pobl anabl at driniaeth feddygol barhaus a gwasanaethau iechyd, gan arwain, mewn rhai achosion, at ddirywiad difrifol mewn cyflyrau a oedd eisoes yn bodoli (ee nam ar y golwg), neu hyd yn oed marwolaeth. Pan fydd gwasanaethau iechyd arferol yn ‘dychwelyd i normal’, bydd GIG Cymru yn ei chael yn anodd diwallu anghenion cleifion, yn lleol. Gwelsom dystiolaeth nad oes gan ddinasyddion Cymru fynediad at rai gwasanaethau arbenigol. Mae angen canfod bylchau amlwg mewn gwasanaethau yn gynnar ac yn unol â’r ‘Agenda Atal ac Ymyrryd yn Gynnar’, fel bod anghenion amserol cleifion yn cael eu blaenoriaethu cyn rhwystrau i ofal, a osodir gan ofal iechyd datganoledig. Mae angen hwyluso atgyfeiriadau y tu allan i’r ardal (gan gynnwys Lloegr) a galluogi meddygon teulu i wneud atgyfeiriadau trydyddol. Mae angen ailedrych ar lwybrau a’u symleiddio, gan roi lle canolog i ddewis ac angen cleifion.

Mae ein hargymhellion yn cynnwys cydgynhyrchu Siarter Cleifion i Gymru sy’n cael ei chynhyrchu gyda grwpiau amrywiol ac sy’n rhoi mwy o hawliau a phŵer i gleifion.

Ar ben hynny, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu meini prawf â blaenoriaeth i sicrhau bod pobl anabl yn cael diagnosis a thystiolaeth feddygol amserol sy’n rhagofynion ar gyfer cael mynediad at feysydd allweddol bywyd o ddydd i ddydd er enghraifft, budd-daliadau, siopa, gwaith, addasiadau rhesymol a chymorth cymdeithasol. 

Yn y tymor canolig, mae angen cynnal asesiad o effeithiau hirdymor gwasanaethau mamolaeth annigonol ac anhygyrch ar genedlaethau’r dyfodol.  Yn y tymor byr, argymhellir system hunan-gofrestru ar gyfer y rheini sy’n ‘gwarchod’ yng Nghymru ac ar gyfer merched sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth. Byddai system hunan-gofrestru’n galluogi merched i gofrestru eu gofynion o ran addasiadau rhesymol ac yn eu galluogi i ystyried yn briodol a oes angen partner eiriolwr mewn apwyntiadau. 

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru fynnu bod pob awdurdod lleol yn datblygu cynllun gweithlu i fynd i’r afael â’r prinder cynyddol o wasanaethau ac arbenigwyr ailsefydlu (codwyd y mater hwn fel blaenoriaeth gan grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nam ar eu golwg).

Iechyd Meddwl a Llesiant

Mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn dangos sut mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol anghymesur ar iechyd meddwl a llesiant pobl anabl. Mae angen mwy o ymchwil a gwell data i ddeall y berthynas gymhleth rhwng ffactorau cymdeithasol, heintiau COVID-19, llesiant meddyliol ac anabledd yng Nghymru. Mae hefyd yn hanfodol bod gwyddonwyr cymdeithasol ac academyddion astudiaethau anableddau, ynghyd â chynrychiolwyr o Fudiadau Pobl Anabl ar lawr gwlad, yn cael eu cynnwys mewn timau cynghori ar ymchwil.         

Rydym yn galw am adolygu’r newidiadau ar frys a wnaed i’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod y pandemig, a’u dadwneud ar unwaith yng Nghymru.

Yn y dyfodol, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull mwy hyblyg sy’n canolbwyntio ar y claf wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, er mwyn sefydlu gwell deialog am anghenion a dewisiadau cleifion, a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym hefyd yn argymell bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i recriwtio a hyfforddi rhagor o bobl leol i weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, drwy ei wneud yn ganolbwynt gweithdai cyngor am yrfaoedd mewn lleoliadau addysg a chynnig trefniadau ‘gefynnau euraid’, gyda phecynnau hyfforddi wedi’u hariannu ar gael i’r rhai sy’n ymrwymo i weithio yn y maes yng Nghymru am x o flynyddoedd.

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda Mudiadau Pobl Anabl, y trydydd sector a mudiadau cymunedol ar lawr gwlad er mwyn mynd i’r afael ag ynysigrwydd ac unigrwydd. Mae’r mudiadau hyn mewn sefyllfa unigryw mewn cymunedau lleol. Mae gwir angen adeiladu ar yr wybodaeth hon sydd wedi cael ei chronni a buddsoddi mewn cysylltu pobl mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb.

Pobl anabl a Thlodi Economaidd

Mae tystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn dangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o brofi tlodi incwm cymharol a byw mewn ardaloedd mwy economaidd ddifreintiedig yng Nghymru na phobl nad ydynt yn anabl. Yn genedlaethol, mae pobl anabl wedi bod ar ei hôl hi’n anghymesur gyda biliau’r cartref yn ystod y pandemig, oherwydd eu bod dan anfantais yn y farchnad lafur, tai gwael a’r costau uwch sy’n gysylltiedig â bod yn anabl.

Rydym yn croesawu cyflwyno Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021, ac mae’n rhaid i’r ddyletswydd fod yn rhan allweddol o ymrwymiad Cymru i ‘ailgodi’n gryfach’ ac yn decach. Bydd yn bwysig cynnwys profiadau grwpiau anabl/grwpiau amrywiol yng Nghymru yn ystod y pandemig a chynnwys y grwpiau hyn yn y gwaith o osod amcanion a monitro canlyniadau.

Er mwyn sicrhau’r uchod, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau clir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar yr arferion gorau, gan gynnwys cydgynhyrchu ystyrlon. Mae hefyd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mecanweithiau lleol a Chymru gyfan ar waith i alluogi dinasyddion i herio asesiadau o’r effaith a phenderfyniadau, yn unol â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at broblemau difrifol gyda’r cymorth mae Llywodraeth y DU wedi’i roi i wahanol grwpiau o bobl anabl yn ystod y pandemig. Mae’r Cynllun Cymorth Hunanynysu (SISS), y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS), y cynnydd parhaus yn y Credyd Cynhwysol (CC) a’r darpariaethau tâl salwch yn bedwar maes rydym yn eu nodi fel rhai y mae angen eu hadolygu ar frys er mwyn mynd i’r afael â thlodi a chaledi pellach.

Yn y tymor byr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar frys i lobïo Llywodraeth y DU i adolygu a darparu rhagor o adnoddau ar gyfer y SSIS, y SEISS a’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol, a chefnogi galwad y TUC ym mis Ionawr 2021 i ymestyn tâl salwch i bob gweithiwr a’i gynyddu i lefel y cyflog byw go iawn: (£9.50 yr awr neu £10.85 yn Llundain). Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael cyngor cyfreithiol ynghylch a yw gwrthod rhoi’r un cynnydd i bobl anabl sy’n derbyn hen fudd-daliadau (gan gynnwys y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’r Taliad Annibyniaeth Personol) yn eu gwahaniaethu anuniongyrchol.

Gan adleisio argymhelliad yn adroddiad y Prif Weinidog ar Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac effaith Covid-19 (Mehefin 2020), rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu Uned Amrywiaeth Anabledd trawsadrannol yn Llywodraeth Cymru. Mae angen yr uned hon i helpu i roi lle canolog i gydraddoldeb i bobl anabl yng ngwaith Llywodraeth Cymru o ddarparu, monitro a llunio polisïau  Dylai’r Uned hon gael ei chefnogi gan uned data cydraddoldeb trawstoriadol.

Yn y tymor hir, rydym yn argymell bod Cymru’n cael mwy o bwerau i wneud penderfyniadau yn y meysydd uchod, er mwyn gallu ymateb yn gyflym ac yn briodol i amrywiaeth economaidd-gymdeithasol yn ei thiriogaethau ei hun.

Tai Hygyrch

Mae tai a’r cartref wedi dod yn fwyfwy pwysig yn ystod y pandemig. Mae’r cartref wedi troi’n weithle ar gyfer rhai pobl, yn ddosbarth ar gyfer pobl eraill ac mae wedi dod yn lle diogel, ofnus neu unig. Mae prinder sylweddol o dai hygyrch a phriodol sydd ar gael i bobl anabl yng Nghymru, sydd yn y sector rhentu gan fwyaf ar hyn o bryd. Mae’r cysylltiad rhwng tai o ansawdd gwael a chanlyniadau iechyd gwael wedi cael ei sefydlu (Marmot, 2020). Mae perchnogaeth tai wedi’i gyfyngu i leiafrif bach o bobl anabl ac os bydd y pandemig yn lleihau’r nifer hwn ymhellach, bydd eiddo preifat wedi’u haddasu yn cael eu colli, gan ychwanegu at yr argyfwng hwn.

Mae angen gweithredu ar frys i sefydlu canllawiau ar gyfer Cymru gyfan ar beth yw gwaith tai ‘blaenoriaeth’, er mwyn i anghenion mynediad pobl anabl gael sylw’n gyflym. Yn y tymor canolig, rydym yn argymell bod Cymru’n cydgynhyrchu safonau hygyrchedd cenedlaethol ar gyfer tai cymdeithasol gyda’r Mudiadau Pobl Anabl, gan roi mecanweithiau ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol a datblygwyr eiddo yn cydymffurfio â’r safonau.

Mae angen cymorth ariannol brys ar bobl anabl sydd angen addasu eu mannau byw ac ar berchnogion tai anabl gadw eu heiddo sydd wedi’u haddasu. Yn y tymor hir, rydym yn argymell cynnal rhagor o ymchwil a dadansoddiad o’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl yng Nghymru rhag cael tai o ansawdd uchel a bod yn berchen ar gartref, yn arbennig y rheini sy’n cael budd-daliadau sy’n ymwneud ag anabledd cyflyrau iechyd hirdymor.  Gan gynnwys, edrych ar fesurau posibl i leddfu polisi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n rhwystro pobl anabl rhag bod yn berchen ar dai. 

Gwaith a Chyflogaeth

Yn ystod y flwyddyn i Medi 2020 oedd gan Gymru fwlch cyflogaeth anabledd o 32.1 pwynt canradd. Mae’r data a archwiliwyd gennym yn awgrymu bod llawer iawn o bobl anabl yn gweithio yn y galwedigaethau a’r diwydiannau y mae’r argyfwng wedi effeithio fwyaf arnynt. Mae sefyllfa wael pobl anabl yn y farchnad lafur cyn y pandemig hefyd yn awgrymu y bydd dirwasgiad sy’n gysylltiedig â’r pandemig yn cael effaith negyddol anghymesur ar gyflogaeth pobl anabl. Mae pobl anabl yn cael eu gorgynrychioli mewn swyddi ansicr a chyflog isel ac mae llawer yn dewis swyddi hunangyflogaeth neu lawrydd oherwydd eu bod yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd i bobl â namau.

Rydym yn croesawu’r ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Seilwaith a Sgiliau Llywodraeth Cymru i oblygiadau newid tymor hir i gynyddu lefelau gweithio o bell. Mae ein hadroddiad yn darparu tystiolaeth bod y mwyafrif (ond nid pob un) o bobl anabl wedi elwa ar lefelau uwch o weithio gartref (lle bo hynny ar gael) yn ystod y pandemig. Gellid dadlau bod yr ‘achos busnes’ ar gyfer gweithio gartref wedi’i ennill. 

Rydym yn argymell sefydlu ‘tasglu dychwelyd i’r gwaith’ brys er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael cyngor cyflogaeth rhagweithiol am eu rhwymedigaethau cyflogaeth i bobl anabl. Cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, defnyddio ffyrlo, dewis swyddi, budd-daliadau salwch a rhoi addasiadau rhesymol priodol ar waith (gan gynnwys gweithio gartref yn y tymor hir). Rydym yn rhagweld cynnydd yn y galw am wybodaeth am adsefydlu gweithluoedd ac addasiadau rhesymol wrth i fannau gwaith ailagor, o ystyried yr hyn rydym eisoes yn ei wybod am effaith tymor hir COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol ar y boblogaeth ehangach.

Mae ymchwil yn awgrymu bod problem barhaus tymor hir gyda dealltwriaeth cyflogwyr o gyfrifoldebau cyfreithiol i wneud addasiadau yn y gweithle. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cadw pobl anabl mewn gwaith, drwy fuddsoddi yn addysg cyflogwyr a’r cyhoedd a datrys anghydfodau yn y gweithle. Ar ben hynny, rydym yn argymell gorfodi cyflogwyr mwy i adrodd ar y bwlch cyflog oherwydd anabledd a chasglu data cynhwysfawr am sut mae newidiadau i arferion gweithio wedi effeithio ar bobl anabl mewn ymateb i COVID-19 a chyflwyno dirwasgiad ar ôl i’r economi ddechrau gwella. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i lobïo Llywodraeth y DU i gynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau Mynediad at Waith.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a lansiwyd gan Busnes Cymru, drwy ddiweddaru ei strategaeth cyflogaeth ar gyfer pobl anabl i fynd i’r afael â heriau annisgwyl COVID-19. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo adnoddau ar gyfer Cronfa Ddysgu Undeb Cymru a sicrhau bod llefydd hygyrch ar gael i bobl anabl ar raglenni ReAct a chynlluniau mentora, sgiliau a hyfforddiant proffesiynol y maent yn eu hariannu.

Gan groesawu cyhoeddiadau diweddar y Prif Weinidog ar asesiadau risg yn y gweithle, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru mynd ati ar frys i weithio gydag undebau llafur a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, i orfodi cosbau ystyrlon lle nad yw cyflogwyr yn cydymffurfio â’r gyfraith fel y dylent. Cyflwyno gweithdrefn adrodd ‘chwythu’r chwiban’ gyfrinachol yn y gweithle, er mwyn i weithwyr unigol allu rhoi gwybod am bryderon ynghylch risgiau i’w hiechyd a’u diogelwch, neu risgiau i eraill (ee cleientiaid, cwsmeriaid, teulu) a fyddai’n helpu i hwyluso hyn.

Yn y tymor canolig, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio traddodiadau unigryw partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ac yn ymchwilio i sut y gellir sefydlu systemau newydd ar gyfer dulliau amgen o ddatrys anghydfod ar gyfer gweithwyr anabl. Mae mynediad at gyfiawnder yn gyfyngedig i lawer o bobl anabl ac mae llawer o’r rhwymedïau y gellid eu ceisio yn ymwneud â phenderfyniadau ynghylch ‘rhesymoldeb’ addasiadau i’r gweithle y gofynnir amdanynt neu y gwrthodir eu gwneud. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Mudiadau Pobl Anabl, academyddion, rhwydwaith o Gynrychiolwyr Cydraddoldeb yn y Gweithle TUC Cymru a’r gymuned fusnes i ddatblygu’r cynnig hwn.

Gallai Llywodraeth Cymru annog cyflogwyr i lunio Polisïau Llesiant yn y Gweithle ar y cyd â’u gweithwyr a sefydliadau perthnasol eraill, yn unol â Safon Ansawdd NICE ar Iechyd yn y Gweithle, Absenoldeb Salwch Hirdymor a’r Gallu i Weithio sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru fynd ati gyda grwpiau amrywiol ac undebau llafur i archwilio datblygu Nod Siarter Llesiant yn y Gweithle, a fyddai’n galw am dystiolaeth o gydgynhyrchu polisïau a meincnodau.

Cael gafael ar Adnoddau i Ailgodi’n Decach

Mae ein tystiolaeth yn dangos rôl hollbwysig Mudiadau Pobl Anabl a mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn ystod y pandemig. Ceisiodd llawer o wirfoddolwyr, yn aml yn ddi-dâl, lenwi’r bwlch a adawyd wrth i lawer o wasanaethau statudol gael eu tynnu’n ôl oddi wrth bobl anabl. Daeth mudiadau cymunedol newydd ar lawr gwlad, gyda chyllid cyfyngedig neu ddim cyllid o gwbl, i'r amlwg yn ogystal ag aelodau o’r teulu a ffrindiau heb fawr o brofiad blaenorol na mynediad at ganllawiau, adnoddau neu gefnogaeth ffurfiol. Fodd bynnag, er bod hyn yn dangos ymdeimlad cadarnhaol o gymuned yng Nghymru, mae angen cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfraniad y grwpiau, yr unigolion a’r mudiadau hyn, er mwyn peidio â dychwelyd at fodel elusennol o anabledd sy’n nawddoglyd ac yn hen ffasiwn. Mae mynediad at gyllid yn y dyfodol a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau yn ganolog i gydnabod gwerth y cyfraniadau hyn.  

Rydym yn argymell bod y trefniadau cyllido presennol yn cael eu hail-archwilio ar frys er mwyn gwneud iawn am y golled yn y capasiti i godi arian yn ystod yr argyfwng. Hefyd, mae angen cydnabod bod angen adnoddau a chymorth tymor hir ar fudiadau yn ogystal â chronfeydd cymorth COVID-19 mewn argyfwng.

Yn y tymor byr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i fudiadau sydd eisoes â chyllid ei gario ar draws blynyddoedd ariannol a darparu model ar gyfer y dyfodol a fydd yn hybu dilyniant o ran staffio a gwirfoddoli. 

Efallai nad yw rhai mudiadau cymunedol a mudiadau llawr gwlad yn ddigon mawr i gyflogi staff (fel awduron grantiau penodol), felly mae’n bwysig bod ffrydiau cyllido newydd, gyda phrosesau ymgeisio mwy hyblyg, ar gael. Disgwylir y bydd adnoddau’n brin ac y bydd y gystadleuaeth yn uchel. Mae’n rhaid i Gymru allu ‘ailgodi’n decach’ a rhoi cyfleoedd i grwpiau amrywiol gyfrannu. Rydym yn argymell y dylid neilltuo rhai meysydd cyllid (gweler yr enghreifftiau isod) a dylid rhoi sylw arbennig i hygyrchedd prosesau ymgeisio ac amserlen prosiectau, er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfle cyfartal i gyfranogi.

Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at brofiadau rhai grwpiau ‘lleiafrifol’ o bobl anabl yn ystod y pandemig sydd wedi peryglu bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt), ceiswyr lloches, merched ifanc a merched sy’n dioddef cam-drin domestig a phobl anabl sy’n ddibynnol ar ‘ofalwyr’ sy’n eu cam-drin. Nid ydym wedi gallu manylu ar y profiadau hyn ac rydym yn argymell bod rhagor o waith ymchwil yn cael ei gynnal.  Yn y tymor byr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn clustnodi cyllid brys ar gyfer y grwpiau hyn a grwpiau eraill drwy lunio ‘rhestr blaenoriaethau’. Yn y tymor canolig, mae angen rhoi sylw i broblemau hanesyddol, gan gynnwys prinder llety a gwasanaethau brys hygyrch i bobl anabl yn y grwpiau hyn yng Nghymru.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisi rhagweithiol ar gyllidebu ar sail anabledd.  Mae’r syniad hwn yn deillio o’r cysyniad o Gyllidebu ar sail Rhyw. Mae hyn yn golygu dadansoddi gwahanol effeithiau cyllideb ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl er mwyn llywio’r gwaith o ddyrannu adnoddau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio mewn polisïau cyhoeddus.

Mynediad at Lefydd Cyhoeddus a Bywyd Cyhoeddus

Mae rhannau mawr o bumed adran ein hadroddiad, sef: ‘Hygyrchedd, Allgáu a Dinasyddiaeth’, yn ymdrin â thystiolaeth am y gwahanol ffyrdd y mae pobl anabl wedi cael eu hallgáu yn gorfforol ac yn ymarferol yn ystod y pandemig a sut maent wedi’u gwthio i’r cyrion yn seicolegol ac yn emosiynol mewn mannau cyhoeddus a bywyd bob dydd. 

Un enghraifft gynnar oedd y ‘rhestr warchod’, a oedd yn rhoi blaenoriaeth i rai mewn meysydd fel danfon siopa a mynediad at feddyginiaethau, ond nid oedd yn ystyried holl anghenion cymdeithasol pobl anabl (ee pobl â nam ar eu golwg sy’n methu cadw pellter cymdeithasol). Un arall fu’r rheolau ar ddefnyddio mygydau wyneb a’r ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain anghyson yn sesiynau briffio’r Llywodraeth i roi gwybodaeth am y pandemig, a oedd yn rhoi fawr ddim ystyriaeth neu ddim ystyriaeth o gwbl o anghenion cyfathrebu pobl Fyddar/pobl anabl. Mae ad-drefnu mannau cyhoeddus mewn trefi a dinasoedd, sy’n arwain yn aml at gau’r holl draffig a chyflwyno dodrefn palmant neu lwybrau beicio newydd, yn enghraifft arall lle na roddwyd digon o sylw i ofynion hygyrchedd a chyfeiriadedd pobl sydd â nam ar eu golwg neu symudedd cyfyngedig.  Mae’r math hwn o ‘esgeulustra’ yn helpu i ddangos problem llawer mwy difrifol: y ffordd mae rhagdybiaethau o alluoedd pobl yn llywio’r broses gwneud penderfyniadau ond gall arwain at ganlyniadau sy’n cyfyngu ar fywyd pobl anabl.

Rydym eisoes wedi pwysleisio’r angen i wneud penderfyniadau mewn ffordd ragweithiol wedi’i chydgynhyrchu. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyd-ddatblygu cod cwrteisi a bod hwn yn dod yn brif ffocws ymgyrch cyfathrebu Llywodraeth Cymru wrth i fesurau’r cyfyngiadau symud ddechrau llacio ac wrth inni symud i gam nesaf yr adferiad.

Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at rôl bwysig gwybodaeth a chyfathrebu cywir a hygyrch, gan gynnwys rôl cyfryngau traddodiadol a chyfryngau cymdeithasol. Rydym yn galw ar ddarlledwyr a Llywodraeth Cymru i sicrhau ar unwaith bod y deunydd sy’n ymddangos ar y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys BSL ac is-deitlau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer mynediad ond hefyd ar gyfer normaleiddio defnyddio BSL. 

Yn y tymor canolig, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad i annog  y diwydiant teledu, ffilm a newyddiaduraeth i gasglu/cyhoeddi data cadarn am amrywiaeth. Er mwyn annog mwy o fynediad a chynhwysiant yn y sectorau hyn, rydym yn argymell sefydlu cynllun bwrsariaeth i alluogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i gael gafael ar gyrsiau, sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau. Dylai hyn gysylltu ag ymdrechion ehangach i gefnogi’r diwydiant newyddion lleol yng Nghymru, sy’n hanfodol i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn bywyd cyhoeddus.

Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu canllawiau arfer gorau ynghylch hygyrchedd cyhoeddus ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd / gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac rydym yn argymell ei bod yn sefydlu gweithgor gyda Mudiadau Pobl Anabl at y diben hwn.  Yn y tymor hir, byddai hyn yn cyfrannu at sefydlu Siarter Hygyrchedd Cyhoeddus Cymru a nod barcud i wobrwyo’r sefydliadau hynny sy’n cydymffurfio â’r arferion gorau.

Rydym yn cefnogi galwadau Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru i Lywodraeth Cymru sefydlu gweithgorau i hyrwyddo dysgu ar y cyd ac enghreifftiau o arferion da cynhwysol.

Fframwaith Presennol Llywodraeth Cymru ar Anabledd

Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol yw fframwaith a Chynllun Gweithredu cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn arwyddocaol, mae’n cydnabod pwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd: y rhwystrau corfforol, sefydliadol ac agweddol y mae pobl anabl yn eu hwynebu mewn cymdeithas yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae’n cyfeirio at rôl “annerbyniol” ffactorau economaidd-gymdeithasol o ran cynnal yr anfantais y mae pobl anabl yn eu profi a chyfyngu ar eu potensial ar gyfer y dyfodol.

Mae’r adroddiad hwn wedi tynnu sylw at sut mae’r pandemig wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau a’r anfanteision sydd eisoes yn bodoli.  Wrth wneud hynny, mae wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y camau a gymerwyd yng Nghymru, yn ogystal â’r DU yn ehangach wedi cyfrannu at hyn. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ddatgan ei hymrwymiad i’r model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn golygu gwrthdroi’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru sydd wedi tanseilio hawliau pobl anabl i fyw’n annibynnol, ac mae’n hanfodol bod gwersi’n cael eu dysgu a bod mecanweithiau’n cael eu sefydlu i sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.  Ar ben hynny, mae ein hadroddiad yn darparu map ffordd newydd sy’n helpu i ganfod heriau newydd (yn ogystal â hen heriau) sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil COVID-19 er mwyn ddiweddaru’r Fframwaith a’r Cynllun Gweithredu ar Anabledd yng Nghymru.

Yn rhannol, mae comisiynu a chreu’r adroddiad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cyflawni ei hymrwymiad i weithio gyda phobl anabl mewn partneriaeth go iawn.  Fodd bynnag, yn ystod ein hymchwiliad, gwnaethom sylwi bod thema gyson yn cael ei lleisio gan bobl anabl yng Nghymru. Mynegodd llawer y farn nad agwedd ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru at bobl anabl oedd y broblem, ond agweddau, anwaith ac ymddygiad allgáu asiantaethau cyhoeddus eraill y mae’n eu hariannu. Os ydym yn gobeithio cyflawni un o brif amcanion yr adroddiad hwn i ‘ailgodi’n decach’ ar ôl y pandemig ein prif argymhelliad yw i Lywodraeth Cymru ddod yn fodel arfer da a defnyddio ei dylanwad a’i phwerau ariannol sylweddol yng Nghymru i sicrhau newid ym mhob sefydliad ar draws y wlad.

Y prif ganfyddiadau: y model cymdeithasol o anabledd yn erbyn y model meddygol o anabledd

Mae Mudiadau Pobl Anabl wedi mynegi pryder cyffredinol bod y model cymdeithasol o anabledd wedi cael ei ddiystyru i raddau helaeth yn ystod y pandemig. Mae’r model cymdeithasol yn bwysig, oherwydd mae “wedi cael ei lunio gan bobl anabl eu hunain...[ac] mae profiadau wedi dangos i ni fod y rhan fwyaf o’r problemau sy’n ein hwynebu yn cael eu hachosi mewn gwirionedd gan y ffordd mae cymdeithas yn cael ei threfnu. Nid ein namau neu ein cyrff yw’r broblem. Rhwystrau cymdeithasol yw prif achos ein problemau... [gan gynnwys] agweddau pobl at anabledd, a rhwystrau corfforol a sefydliadol” (Anabledd Cymru).

Mae’r dystiolaeth rydym yn ei chyflwyno yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod gwleidyddion, llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol wedi troi’n ôl ar frys at ddefnyddio model meddygol o anabledd sydd heb ei gydnabod. Mae’r model meddygol hwn yn diffinio pobl anabl yn ôl eu cyflyrau meddygol ac mae wedi cael ei feirniadu am ganolbwyntio’n bennaf ar yr hyn na all pobl ei wneud oherwydd eu gwahaniaethau, yn hytrach na’r hyn y gallant ei wneud pe bai rhwystrau mewn cymdeithas yn cael eu dileu. Mae barn feddygol a naratifau arbenigol wedi llywio’r pandemig, er gwaethaf y dystiolaeth ddiamheuol bod ffactorau economaidd-gymdeithasol yn chwarae rhan allweddol mewn marwolaethau yn sgil COVID-19. Roedd pobl anabl yn cael eu galw’n ‘agored i niwed’ gan y Llywodraeth a’r cyfryngau prif ffrwd, ac roedd llawer ohonynt yn teimlo bod hyn yn ddiraddiol ac yn tanseilio cyflawniadau’r mudiad hawliau anabledd. Wrth gefnu ar y model cymdeithasol o anabledd, mae’n awgrymu nad oedd yn cael ei ddeall yn iawn neu nad oedd wedi’i wreiddio’n ddigonol yn y broses o lywodraethu a gwneud penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, a gyhoeddodd yn ffurfiol ei hymrwymiad i roi’r model cymdeithasol ar waith yn 2002, i ail-gadarnhau hyn ar unwaith a chymryd camau i sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu yn ei gweithredoedd a’i phenderfyniadau ac wrth ddarparu’r holl wasanaethau y mae’n eu hariannu yng Nghymru.

Wrth i’r pandemig ddatblygu, roedd yr hyn a oedd i bob pwrpas yn cael ei bortreadu gan wleidyddion fel argyfwng meddygol, yn amlygu gwirionedd dyfnach yn raddol bod argyfwng cymdeithasol eisoes yn bodoli: sy’n deillio o bolisïau o gyni, ac sy’n cael ei achosi gan danfuddsoddi parhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). ‘Diogelu ein GIG’ oedd prif neges cam cyntaf y pandemig a’r cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, dechreuodd pobl anabl gwestiynu pam yr oedd hyn yn angenrheidiol a gan bwy oedd y GIG yn cael ei amddiffyn?  Roedd y flaenoriaeth feddygol a roddwyd i gleifion COVID-19 yn dwysau tuedd hirsefydlog sy’n cael ei derbyn fwyfwy, sef: dogni gofal iechyd. Un a oedd yn cefnu ar lawer o bobl anabl a phobl hŷn sydd eisoes yn y system. Yn ei hanfod, mae penderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau prin y GIG yn rhai gwleidyddol ac yn adlewyrchu’r prif werthoedd a blaenoriaethau cymdeithasol. Dywedodd pobl anabl wrthym nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi na’u blaenoriaethu yn ystod y pandemig.

Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n ffafrio pobl abl, ac oherwydd hynny, mae pobl anabl yn dod ar draws rhwystrau fel mater o drefn yn eu bywyd bob dydd. Fodd bynnag, roedd rhai mesurau a gyflwynwyd i atal COVID-19 rhag lledaenu yn ychwanegu at y rhwystrau hyn, gan arwain at bobl anabl yn cael eu heithrio o fannau cyhoeddus, gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd a mynediad at feddyginiaethau a bwyd sylfaenol. Mae profiadau o’r fath yn atgyfnerthu pwysigrwydd deall a defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd mewn polisïau ac wrth wneud penderfyniadau. Rydym yn dadlau bod cefnu ar y model hwn yn brydlon er mwyn defnyddio model meddygol wedi bod yn enghraifft glir o ffafriaeth tuag at bobl abl mewn sefydliadau, ac rydym yn darparu rhagor o dystiolaeth o hyn isod:

  • Mae adroddiadau Cyfrifiad 2011 yn dangos bod gan bron i 700,000 o unigolion yng Nghymru ryw fath o salwch neu ‘anabledd’ hirdymor cyfyngus, neu 22.7% o’r boblogaeth. Dywedodd 10.8% fod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn eithaf cyfyngedig, a dywedodd yr 11.9% arall eu bod wedi eu cyfyngu'n fawr iawn. Mae amcangyfrifon mwy diweddar o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020) yn dangos bod 415,600 o bobl anabl (diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010) rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, sy’n cynrychioli 21.9% o'r boblogaeth 16 i 64 oed.
  • Ym mis Mawrth 2020, cododd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bryderon difrifol bod adleoli gweithwyr gofal proffesiynol i ymateb i’r coronafeirws yn gadael pobl anabl a phobl hŷn yn ‘agored i niwed’ ac yn golygu nad oeddent yn gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol. Roedd hyn ar adeg pan oedd nifer y gofalwyr ar gael, oherwydd yr angen am hunanynysu a salwch, eisoes wedi’i gyfyngu.
  • Tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2020) sylw at y ffaith fod pobl anabl yn fwy tebygol o farw o’r feirws ond maent hefyd wedi dioddef caledi ariannol sylweddol a thlodi oherwydd pandemig: un o brif achosion iechyd gwael yn y lle cyntaf.
  • Roedd ystod eang o Fudiadau Pobl anabl ochr yn ochr â Sefydliad Hawliau Dynol Prydain a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn herio’r defnydd o hysbysiadau ‘Peidio â Cheisio Dadebru (DNAR)’ yn ystod y pandemig. Tynnwyd sylw hefyd at y mater ehangach o wahaniaethu meddygol, sydd wedi arwain at gyfyngu ar fynediad at driniaeth feddygol. Credwn fod defnyddio hysbysiadau DNAR yn anwahaniaethol ar gyfer grwpiau cyfan o bobl, er enghraifft pobl ag anableddau dysgu a phobl hŷn, ac yn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn derbyn y model meddygol o anabledd a defnyddio hierarchaeth o ‘werth’ wrth gael mynediad at ofal iechyd (gweler hefyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2020: Mencap yn The Observer, Chwefror 2021).
  • Cafodd diffiniadau’r Llywodraeth ganolog o grwpiau ‘mewn perygl’ ar sail meini prawf meddygol neu oedran cul yn ystod y pandemig eu mabwysiadu gan weinyddiaethau datganoledig ac maent wedi cael eu beirniadu gan Fudiadau Pobl Anabl. Rydym yn cwestiynu’r rôl ganolog a briodolir i feddygon teulu o ran diffinio pwy dylai gael eu cynnwys neu eu heithrio o’r rhestr ‘gwarchod’ swyddogol, a oedd yn pennu pwy fyddai’n cael mynediad neu flaenoriaeth i wasanaethau hanfodol. Roedd y model meddygol hwn yn eithrio grwpiau o bobl anabl gyda namau ‘sefydlog’ a dim ond yn ddiweddarach y rhoddwyd unrhyw ystyriaeth i’r graddau yr oedd pobl wedi’u heithrio’n gymdeithasol ac felly, hefyd ‘mewn perygl’.
  • Mae pobl anabl wedi cael eu heithrio ac, mewn rhai achosion, wedi cael eu cam-drin mewn mannau cyhoeddus yn ystod y pandemig oherwydd bod gofynion ymddygiad gorfodol wedi’u cyflwyno, yn seiliedig yn aml ar ganllawiau meddygol dryslyd. Yn aml, roedd canllawiau o’r fath yn methu ag ystyried gofynion hygyrchedd gwahanol grwpiau nam, gan roi pobl anabl dan anfantais yn ddifrifol ac yn ddiangen. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gwynion a dderbyniwyd gan Fudiadau Pobl Anabl wrth iddynt godi. Fodd bynnag, yn aml mae newid wedi bod yn annigonol oherwydd mae wedi bod yn adweithiol yn hytrach nag yn rhagweithiol: gan dynnu sylw pellach at yr angen am gydgynhyrchu gwirioneddol wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau.
  • Mae hawliau pobl anabl i fyw’n annibynnol wedi cael eu herydu yn ystod y pandemig a bu cynnydd yn y defnydd o bwerau disgresiwn gan swyddogion mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae hwn yn ddatblygiad sy’n peri pryder ac yn arwydd o ailddatgan y model meddygol o anabledd. Mae pryderon penodol wedi cael eu mynegi gan grwpiau sy’n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu. Mae rhai o aelodau’r grwpiau hyn mewn lleoliadau sefydliadol, lle mae cwynion wedi’u codi am y ffaith eu bod wedi cael eu heithrio o brosesau gwneud penderfyniadau, gan eu wneud yn oddefol i bob pwrpas (Pobl yn Gyntaf Cymru (AWPF): Cyfarfod y grŵp llywio 20 Tachwedd 2020). 
  • Yn yr adran nesaf, rydym yn ymhelaethu ymhellach ar sut mae COVID-19 wedi effeithio ar hawliau dynol pobl anabl. Dylid nodi, fodd bynnag, fod y ddeddfwriaeth frys y mae San Steffan a Llywodraethau rhanbarthol wedi’u cyflwyno yn ystod y pandemig wedi cael effeithiau dwfn ar hawliau pobl hŷn. Mae angen cyfleu a chydnabod y teimlad o ofn a dicter ymysg pobl anabl yng Nghymru bod ‘y cloc wedi cael ei droi’n ôl’. Mae’r adroddiad hwn yn dadlau bod mynd yn groes i hawliau dynol pobl anabl yn sgil troi cefn ar fodel cymdeithasol o anabledd, ail-fabwysiadu model meddygol sydd wedi’i ddad-achredu a’r broses gysylltiedig o ddibrisio pobl anabl.

Argymhellion

Mae’r pandemig wedi dangos diffygion y model meddygol o anabledd yn glir. Ni fydd dulliau meddygol yn datrys yr hyn problemau cymdeithasol sy’n gofyn am atebion gwleidyddol. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru sicrhau, drwy gynlluniau nawr ac yn y dyfodol, bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n briodol ymysg y bobl uwch sy’n gwneud penderfyniadau: dim ond drwy fod yn bresennol wrth y bwrdd y bydd eu buddiannau’n cael eu hystyried pan fydd y Llywodraeth yn ymateb i sefyllfaoedd o argyfwng.

Mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod ail-gyflwyno model meddygol o anabledd yn y broses gwneud penderfyniadau wedi cyfrannu at dorri hawliau dynol sylfaenol pobl anabl. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei holl weithwyr, contractwyr a derbynwyr cyllid yn cael ac yn cwblhau hyfforddiant gorfodol ar amrywiaeth a chynhwysiant yn foddhaol. Mae’n hollbwysig bod egwyddorion allweddol y model cymdeithasol o anabledd a chydgynhyrchu yn cael eu deall gan holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cafodd ‘Pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau” ei fabwysiadu gan grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl oherwydd yn y gorffennol, mae pobl anabl wedi cael pobl eraill yn dweud wrthynt beth sydd orau iddynt. Felly, ein hargymhelliad yw bod pobl anabl yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o ddarparu ac achredu’r hyfforddiant hwn.

Mewn cytundeb â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2020), rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu rôl meddygon teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill wrth ganfod a chategoreiddio unigolion sydd mewn grwpiau ‘risg uchel’ neu grwpiau ‘gwarchod’. O ystyried y posibilrwydd y gallai COVID-19 a’i amrywiadau fod yn rhan o’n bywydau am flynyddoedd i ddod, mae’n bwysig bod polisi sy’n diffinio grwpiau ‘mewn perygl’ yng Nghymru yn cael ei lunio’n gymdeithasol, nid yn unig yn cael ei ddiffinio’n feddygol, fel sydd wedi digwydd o’r blaen, a bod mudiadau pobl anabl yn rhan o’r broses hon.

Ni ellir dadlau’r cysylltiad rhwng gwerthoedd, agweddau a gweithredoedd. Mae bron pob un o’r ffactorau sy’n analluogi pobl yn ein cymdeithas wedi’u gwreiddio ym mhŵer y model meddygol o anabledd dros y model cymdeithasol, gan arwain at ddiwylliannau, arferion ac ymddygiadau sy’n dangos ffafriaeth tuag at bobl abl ac agweddau sy’n allgáu pobl yn ddi-gwestiwn. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn herio ffafriaeth tuag at bobl abl drwy ymgyrch gyhoeddus genedlaethol a bod hanes pobl anabl a mudiadau hawliau anabledd, gan gynnwys datblygu Model Cymdeithasol o Anabledd, yn cael ei gynnwys yng Nghwricwlwm Cenedlaethol pob ysgol yng Nghymru.

Rydym yn argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru yn lansio ei hymchwiliad ei hun ac yn arwain galwad ar Lywodraeth y DU i sefydlu ymchwiliad cenedlaethol i’r raddfa a’r rhesymau sy’n effeithio ar y nifer anghymesur o uchel o farwolaethau COVID-19 ymysg pobl anabl yn ystod y pandemig. Byddai hyn yn bodloni un o argymhellion allweddol Sefydliad Hawliau Dynol Bonavero ym Mhrifysgol Rhydychen, a oedd wedi cynnwys hyn yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Tŷ’r Cyffredin ar effaith anghyfartal COVID-19. Gellid ymestyn cwmpas unrhyw ymchwiliad o’r fath i gynnwys themâu cysylltiedig eraill y mae ein tystiolaeth yn eu nodi.

Rydym yn edrych ar effaith y pandemig ar hawliau dynol pobl anabl yn fanylach isod. Mae llawer o hawliau dynol o’r fath wedi cael eu tanseilio o ganlyniad i Lywodraethau’n troi’n ôl at sefyllfa feddygol ddiofyn wrth ymateb i fygythiadau a achosir gan y feirws. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i newid y sefyllfa hon ar unwaith drwy flaenoriaethu deddfwriaeth hawliau dynol newydd.

Y prif ganfyddiadau: hawliau dynol

Mae hawliau dynol pobl anabl, gan gynnwys yr hawl sylfaenol i fyw’n annibynnol, wedi cael eu hepgor yn ystod y pandemig. Mae’n glir i ni fod angen rhoi mesurau ar waith ar frys i sicrhau na ellir erydu’r hawliau hyn yn y modd hwn eto, a hynny drwy ymgorffori hawliau sylfaenol a mesurau diogelu i gyfraith Cymru yn y dyfodol. Wrth i’r pandemig ddatblygu, cafodd y canfyddiad gwreiddiol bod hon yn sefyllfa sy’n effeithio’n gyfartal ar bawb ei herio. Mewn nodyn briffio i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, cyn gynhared â mis Ebrill 2020, dechreuodd WEN Cymru drwy ddweud: ‘Dydyn ni gyd ddim yn yr un cwch’: realiti a ddaeth yn fwy a mwy amlwg wrth i amser fynd heibio.

Canfu’r ymchwiliad fod Mudiadau Pobl Anabl ledled Cymru wedi cael braw, a hynny’n gyfiawn, gan ganlyniadau Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020, a oedd yn atal darpariaethau allweddol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oni bai fod angen gwasanaethau i ddiogelu oedolyn rhag camdriniaeth, esgeulustod, neu berygl o hynny. Drwy gydol y pandemig mae Anabledd Cymru, ar ran amrywiaeth o Fudiadau Pobl Anabl, wedi codi pryderon oherwydd yn wahanol i ataliad dyletswyddau’r Ddeddf Gofal (2014) yn Lloegr, nid oedd gofyniad penodol i osgoi achosion o dorri’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng Nghymru. 

Mae’r hawl i fyw ac i weithredu’n annibynnol yn rhan annatod o hawliau dynol pobl anabl, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny (gweler: y fframwaith Gweithredu ar Anabledd). Cafodd ystod o faterion hawliau dynol sy’n effeithio ar bobl anabl yn ystod COVID-19, yn groes i’r ymrwymiad hwn, eu nodi yn ein tystiolaeth. Rydym yn croesawu ymgynghoriad ac ymrwymiad diweddar y Dirprwy Weinidog i atal yr addasiadau i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.

Yn nyddiau cynnar y pandemig, roedd Sefydliad Prydain dros Hawliau Dynol (BIHR) a Sefydliadau Ambarél Anabledd Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryderon y byddai hawliau oedolion anabl ac oedolion hŷn, plant, gofalwyr a’r rhai sy’n cael eu cadw mewn ysbytai iechyd meddwl yn cael eu torri pe bai Bil y Coronafeirws yn cael ei basio. Roeddent wedi mynegi pryderon y byddai rhwymedigaethau awdurdodau lleol i asesu pobl ag anghenion gofal a chymorth (neu â’r anghenion hynny o bosibl) o dan Ddeddf Gofal 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu lleihau. Mae tystiolaeth ddilynol wedi cadarnhau bod y rhybuddion hyn yn gyfiawn.

Roedd pobl anabl wedi dioddef lleihad sylweddol mewn gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig, yn rhannol o ganlyniad i gyfyngiadau symud, ond hefyd o ganlyniad i lacio rhwymedigaethau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i fodloni eu gofynion (y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Defnyddwyr Anabl, Ebrill 2020; Prifysgol Rhydychen, 2020).

Ym mis Gorffennaf 2020, dywedodd Sefydliad Bonavero dros Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Rhydychen: “mae’r llywodraeth wedi methu gwreiddio modelau cymdeithasol a hawliau dynol o anabledd yn ei hymateb i’r pandemig”. Wrth wneud hynny, roedd hefyd wedi datgan bod “prosesau llunio polisïau’r llywodraeth mewn ymateb i’r pandemig wedi methu cyflawni ei Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ei hun o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn cysylltiad â phobl anabl”.

Cododd y Grŵp Llywio bryderon ynglŷn â “diffyg tryloywder” mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol yn ystod y cyfyngiadau symud, gan arwain at anghydraddoldeb mewn gwasanaethau a dryswch, er enghraifft darpariaeth amrywiol prydau ysgol am ddim neu’r hyn sy’n ariannol gyfwerth. Hefyd, trafodwyd cwestiynau ynghylch pa mor deg oedd atal mesurau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a pha mor gyson oedd hynny.

Mae egwyddorion allweddol ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’, yr ystyrir yn rhan annatod o’r athroniaeth sy’n sail i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (a deddfwriaeth Gymreig allweddol arall), wedi cael eu herydu’n sylweddol yn ystod y pandemig. Felly, mae’n bwysig eu bod yn cael eu hadfer yn gyflym. Ym mis Awst 2020, roedd Pobl yn Gyntaf Cymru yn un o’r Mudiadau Pobl Anabl i adrodd ar yr effeithiau negyddol ar eu haelodau yn sgil, ymysg pethau eraill, gwybodaeth anhygyrch a diffyg ymgynghori yn ystod y pandemig, a’r effeithiau niweidiol difrifol ar hawliau dynol pobl anabl. 

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi hawl i addysg (Erthygl 2, Protocol 1), hawl i wneud penderfyniadau am eu bywyd eu hunain (Erthygl 8), a hawl i ddiogelwch rhag gwahaniaethu (Erthygl 14) i bob plentyn. Mae grwpiau hawliau dynol (gweler BIHR, 2020) yn dadlau bod Deddf y Coronafeirws wedi torri’r rhain. Er bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) (2020a) wedi galw am leihau’r cymorth am y cyfnod byrraf posibl i blant ag anghenion addysgol arbennig, nodwyd gan y Comisiwn bod y pandemig wedi effeithio’n anghymesur ar y grŵp hwn (EHRC, 2020b). Roedd ymchwil Prifysgol Sussex gyda rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig (Awst 2020) wedi canfod bod 4 o bob 10 rhiant yn teimlo nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth gan asiantaethau addysgol nac asiantaethau eraill yn ystod y cyfyngiadau symud.

Cafodd y defnydd o hysbysiadau DNAR i bobl anabl ei godi fel achos o dorri hawliau dynol yn gynnar yn y pandemig gan amrywiaeth o Fudiadau Pobl Anabl, BIHR ac EHRC (gweler hefyd 1. Uchod). Ym mis Mai, cododd EHRC (2020) bryderon am lacio’r Ddeddf Gofal drwy Ddeddf y Coronafeirws 2020, a’r effaith anghymesur ar bobl hŷn a phobl anabl.

Codwyd pryderon dwys yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ac wedi hynny (EHRC 2020b) ynghylch y diffyg PPE mewn lleoliadau preswyl, lle anghofir bod pobl anabl yn byw yn aml. Ychydig o sylw sydd wedi’i roi i’r cyfyngiadau ar hawliau pobl anabl i fyw’n annibynnol ac ar eu rhyddid, o’u cymharu â phobl hŷn mewn lleoliadau sefydliadol tebyg. Mae EHRC hefyd wedi adrodd ar enghreifftiau lle dywedwyd wrth breswylwyr cartrefi gofal nad oeddent yn gallu mynd i’r ysbyty.

Mae EHRC (2020a) wedi codi pryderon ynglŷn â chadw pobl yr amheuir eu bod yn cario’r coronafeirws, a llacio’r mesurau hollbwysig mewn cysylltiad â chadw a nodir yn y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Ym mis Ebrill 2020, adroddodd Human Rights Watch fod yr amodau mewn rhai gwersylloedd ffoaduriaid a lleoedd i bobl wedi’u dadleoli mor wael, nid oedd pobl yn gallu ymolchi, cadw pellter cymdeithasol na chael gafael ar ddŵr glân a thoiledau. I bobl anabl sy’n wynebu risg uwch o ran haint COVID-19, mae hyn wedi bod yn broblemus iawn, yn enwedig oherwydd y diffyg gwybodaeth hygyrch.

Mae ymchwiliad diweddar i’r system cyfiawnder troseddol gan EHRC wedi canfod bod pobl â rhai namau (ee anabledd dysgu, iechyd meddwl) yn ei chael hi’n anodd cymryd rhan lawn mewn achosion gan ddefnyddio dolenni fideo a sain ystafell y llys. Rhaid gwneud addasiadau priodol i gynnal eu gallu i gael achos teg (EHRC 2020b). Mae tystiolaeth gan Anabledd Dysgu Cymru a gyflwynwyd i Heddlu De Cymru ym mis Gorffennaf 2020 hefyd yn tynnu sylw at bryderon nad yw swyddogion heddlu wedi cael hyfforddiant digonol i ymateb yn briodol i bobl anabl wrth orfodi’r cyfyngiadau symud. Canfuwyd hefyd bod amwysedd ynghylch y rheolau hefyd wedi arwain at “warcheidwadaeth” (vigilantism) ac mae pobl awtistig yn benodol wedi dweud bod hyn yn achosi straen iddynt.

Ym mis Gorffennaf 2020, yn ei chyflwyniad i is-ymchwiliad y Pwyllgor Merched a Chydraddoldeb a oedd yn edrych ar effaith anghyfartal COVID-19 ar bobl anabl, dywedodd Cymdeithas y Cyfreithwyr:

Yn gyffredinol, mae gwrandawiadau o bell wedi bwrw ymlaen ar gyfer y rhai a gedwir yn gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ond mae ein haelodau wedi adrodd ei bod yn anodd asesu cyflwr corfforol unigolyn o bell. Yn ogystal â hynny, mae cleifion yn llai tebygol o gael eu rhyddhau o ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol a’r diffyg gwasanaethau cymunedol sydd ar gael. Mae aelodau hefyd wedi adrodd anghysondebau rhwng mynediad ysbytai at gyfleusterau o bell, fel cyfleusterau fideogynadledda i gleifion allu siarad â’u cynrychiolwyr. Achosir rhagor o anhawster i aelodau sy’n cynrychioli unigolion nad ydynt yn gallu cwrdd â nhw oherwydd y gwaharddiad hollgynhwysfawr ar ymweliadau.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl wedi dweud yn ddiweddar yr ystyrir yn aml bod pobl anabl yn y DU yn byw ‘bywyd llai gwerthfawr’ (Hoffman, Tachwedd 2020). Mae hwn yn brofiad a adroddwyd gan lawer o bobl anabl yn ystod y pandemig, ac mae’n rhaid ei herio yng Nghymru. Roedd datganiad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ar COVID-19 ac ar hawliau dynol pobl anabl yn mynegi pryderon dwys bod y pandemig wedi datgelu nad yw Gwladwriaethau wedi gweithredu’r Confensiwn yn gynhwysfawr.

Gan gydnabod bod pobl anabl yn wynebu risg benodol o ganlyniad i “wahaniaethu dwfn” sy’n bodoli eisoes, mae’r Confensiwn wedi galw am “gamau gweithredu hollbwysig ar frys” i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys yn benodol mewn cynlluniau argyfwng cyhoeddus, a’r ymdrechion i ymateb i’r pandemig ac adfer ohono. Roedd y datganiad yn cloi drwy ddweud “bod dull gweithredu ar sail hawliau dynol yn hollbwysig i’r ymdrechion ymateb ac adfer nid yn unig mewn cysylltiad â phandemig COVID-19, ond hefyd i sicrhau bod Gwladwriaethau’n cymryd camau gweithredu nawr i adeiladu cymdeithasau cyfartal, cynaliadwy a chydnerth sy’n meddu ar y mecanweithiau i atal ac ymateb yn gyflym i argyfyngau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol, ac i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”

Argymhellion

Rydym yn argymell yn gryf bod Gweinidogion yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru, a hynny fel blaenoriaeth. Mae hwn “yn nodi hawliau pobl anabl ac yn darparu fframwaith gweithredu o ran sut mae’r hawliau hyn yn cael eu diogelu a’u gorfodi” (Anabledd Cymru, Rhagfyr 2020). O dan y Confensiwn, cyfrifoldeb y llywodraeth ar bob lefel yw hawliau dynol. 

Mae ein hymchwiliad wedi tynnu sylw at effaith niweidiol Atodlen 12, rhan 2 o Ddeddf y Coronafeirws, sy’n atal dyletswyddau allweddol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ar hawliau pobl anabl i fyw’n annibynnol. Rydym yn croesawu ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar hyn a’i hymrwymiad i ddiddymu Atodlen 12, rhan 2 cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn ymrwymo i fyw’n annibynnol ac yn nodi fframwaith. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ei defnyddio. Dylai gynnwys, ymysg pethau eraill, argymhelliad gan Anabledd Cymru (Rhagfyr 2020) bod pobl anabl yn cael yr hawl i gyflogi Cynorthwywyr Personol yn uniongyrchol drwy daliadau uniongyrchol gan eu hawdurdod lleol.

Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar ‘Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru’, wedi’i gydlynu gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Diverse Cymru. Mae tystiolaeth o ymgorffori hawliau plant yng nghyfraith Cymru yn awgrymu bod mwy o sylw wedi’i roi i’w hawliau dynol mewn polisïau a deddfwriaeth, ac mewn asesiadau o effaith. Yn seiliedig ar hynny, rydym yn argymell yn gryf bod hawliau pobl anabl yn cael yr un statws cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru, a hynny cyn gynted â phosibl.

Yn y tymor byr, rydym yn argymell bod y Prif Weinidog yn penodi Gweinidog dros Bobl Anabl er mwyn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol pobl anabl a’u cyfranogiad llawn ym mywyd Cymru. Yn y tymor hir, rydym yn argymell sefydlu Comisiynydd Pobl Anabl yng Nghymru, gyda rôl debyg i Gomisiynwyr y Gymraeg, Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol Nid yw’r bwlch a grëwyd pan gollwyd y Comisiwn Hawliau Anabledd wedi’i lenwi yng Nghymru, na’r DU yn ehangach.  Byddai hyn yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at lenwi’r bwlch hwn pe bai gan Gymru, ynghyd â hyn, Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mwy rhagweithiol, â gwell adnoddau.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n adolygu canllawiau COVID-19 yn rheolaidd ac yn sicrhau bod y canllawiau clir, hygyrch a chyson hyn yn cydymffurfio’n llawn â chyfreithiau a safonau cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys yr egwyddorion ymreolaeth unigol a pheidio â gwahaniaethu fel yr argymhellir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) (2020).

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr egwyddorion allweddol ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’, fel yr amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (a deddfwriaeth Gymreig allweddol arall) yn cael eu hadfer yn gadarn ar ôl iddynt gael eu herydu yn ystod y pandemig. Tynnwn sylw at y ffordd y mae gwybodaeth ddryslyd ac anhygyrch, ac ymgynghori gwael wedi cael effaith niweidiol ar hawliau dynol pobl anabl (AWPF, Awst 2020). 

Gan adleisio argymhellion EHRC (2020b) a Chynghrair Anghenion Dysgu Ychwanegol y Trydydd Sector (Gorffennaf 2020), rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn clustnodi’r rhan o grant pandemig y Llywodraeth i awdurdodau lleol sy’n sicrhau bod plant ag anghenion addysgol arbennig sy’n aros gartref yn cael cyfarpar priodol a hanfodol, deunyddiau hyfforddi, a gofal cymdeithasol. Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol, rydym yn galw ar Adran Addysg Llywodraeth Cymru i fonitro nodweddion disgyblion sy’n dychwelyd ac sy’n aros gartref, er mwyn sicrhau nad yw disgyblion anabl yn cael eu heithrio nac yn cael eu rhoi dan anfantais (Cŵn Tywys Cymru, Gorffennaf 2020).

Mae’r diffyg defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel adnodd yn ystod y pandemig wedi bod yn amlwg. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Asesiadau hyn yn cael eu defnyddio’n briodol ac nad ymarferion ymgynghori yn unig ydynt, ond cyfleoedd i gydgynhyrchu cynlluniau gweithredu a gwerthusiadau â phobl anabl a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill.

Mae EHRC yng Nghymru yn cael ei weld mwy a mwy fel rheoleiddiwr yn hytrach nag eiriolwr neu gychwynnwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.  Mae’r ymchwiliad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ymestyn pwerau a chwmpas EHRC Cymru, ac i wneud iawn am flynyddoedd o’i danariannu. Mae grwpiau â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl yng Nghymru, wedi bod yn ddiamddiffyn ac wedi’u tangynrychioli cyn ac yn ystod yr argyfwng hwn, a rhaid iddynt fod wrth galon prosesau gwneud penderfyniadau er mwyn i Gymru allu adfer.

O ran mynediad at gyfiawnder, rydym yn galw am gyfeiriad yn y canllawiau ar wrandawiadau dros fideo a dros y ffôn ar draws pob llys a thribiwnlys yng Nghymru at yr angen i ystyried a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl, ac yn argymell bod effaith y canllawiau hyn yn cael ei hadolygu’n gyson.

Wrth osod gorsafoedd golchi dwylo a chyfleusterau hylendid mewn cyfleusterau ffoaduriaid neu gadw, mae angen i lywodraethau a sefydliadau dyngarol sicrhau hefyd eu bod yn hygyrch i bawb. Mae angen i wybodaeth am ddiogelwch rhag y feirws ac am sut mae cael profion a thriniaeth fod yn hygyrch i bobl â gwahanol fathau o namau. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar y Swyddfa Gartref i sicrhau bod y mesurau hyn ar waith.

Mae’r ymchwiliad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r un statws i wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ag y rhoddir i’r GIG sy’n cael ei ystyried yn wasanaeth seilwaith allweddol.

I sicrhau bod egwyddorion craidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn cael eu gwreiddio yn narpariaeth gwasanaethau yng Nghymru, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid i helpu awdurdodau lleol i orfodi camau gweithredu sy’n deillio o’i weithrediad, ac yn sicrhau bod Mudiadau Pobl Anabl yn bresennol ym mhob awdurdod lleol (Maniffesto Anabledd Cymru (AC), Rhagfyr 2020).

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr (Gorffennaf 2020) yn awgrymu y dylai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried darparu canllawiau cenedlaethol gydag enghreifftiau ymarferol o beth sy’n achos o dorri’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, oherwydd mae’n bosibl bod diffyg profiad o gynnal asesiadau cynhwysfawr mewn cysylltiad â’r Ddeddf Hawliau Dynol mewn awdurdodau lleol. Heb ganllawiau o’r fath, rydym yn argymell bod canllawiau cenedlaethol a phecynnau cymorth yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru i sicrhau cysondeb, sicrwydd a dull gweithredu ar gyfer cofnodi prosesau gwneud penderfyniadau.

Y prif ganfyddiadau: iechyd a llesiant

Fel grŵp, mae Swyddfa Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol yn nodi bod pobl anabl wedi bod yn unigryw o ddiamddiffyn a dan anfantais yn ystod y pandemig. Mae’n dadlau bod pobl anabl yn fwy tebygol o gael cyflyrau iechyd sy’n bodoli’n barod, gan eu gwneud yn fwy agored i ddal y feirws a chael symptomau difrifol ar ôl cael yr haint. Maen nhw hefyd yn fwy dibynnol ar wasanaethau sy’n cael eu darparu’n gyhoeddus yn eu bywyd o ddydd i ddydd, ond cafodd llawer o’r gwasanaethau hanfodol hyn eu tynnu’n ôl neu eu cyfyngu yn ystod y pandemig, a hynny ar fyr rybudd yn aml. Cafodd rhai pobl anabl eu gadael ar eu pen ac nid oeddent yn gallu goroesi yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd eraill wedi methu cael gafael ar wybodaeth a gofal iechyd hirdymor, hanfodol. Roedd pobl anabl sy’n byw ar eu pen eu hunain ac mewn sefydliadau yn agored iawn i niwed. Dengys hyn yn yr ail achos gan y niferoedd llethol o farwolaethau mewn cartrefi gofal preswyl a chyfleusterau seiciatrig.

Cyhoeddodd Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru ddatganiad yn ystod y pandemig. Roedd yn ailddatgan hawliau pobl anabl i elwa’n gyfartal ar driniaeth yn y gwasanaeth iechyd, boed hynny ar gyfer y coronafeirws neu unrhyw broblem iechyd arall, gan ddadlau na ddylai’r (diffyg) gwerth mae cymdeithas yn ei roi ar fywyd pobl anabl ddylanwadu ar hyn. Roedd y Grŵp hefyd yn ailddatgan hawl sylfaenol pobl anabl i gyfrannu’n llawn at benderfyniadau am eu bywyd eu hunain, gan gynnwys penderfyniadau am fywyd a marwolaeth.

Mae’r dystiolaeth yr ydym yn ei chyflwyno isod, sy’n frawychus ar brydiau, yn mynd yn groes i nifer o’r gwerthoedd craidd a fynegir mor huawdl gan y Cenhedloedd Unedig a Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru. Mae’r ystadegau swyddogol yn dangos sut mae pobl anabl yng Nghymru wedi dwyn baich y marwolaethau yn sgil COVID-19: ffaith sydd prin wedi cael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol neu ranbarthol. Mae ‘tawelwch’ sy’n awgrymu bod rhywfaint o anocheledd yn cael ei dderbyn i ryw raddau ymysg gwleidyddion, y cyfryngau a’r cyhoedd, rhywbeth nad ydym ac na allwn ei dderbyn, oherwydd byddai gwneud hynny’n golygu bod gennym ran yn y casgliad ymhlyg bod bywyd pobl anabl yn fwy aberthadwy.

Fel y nodwyd yn ein hadran ar hawliau dynol, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â gwahaniaethu meddygol yn erbyn pobl anabl yn ystod y pandemig. Mae rhybuddion ynghylch effaith hirdymor cyfyngiadau cymdeithasol y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant pobl wedi cael eu cyhoeddi hefyd. Mae’r ‘esboniadau’ am enghreifftiau o wahaniaethu’n dueddol o awgrymu bod y rhain yn gamau gweithredu anfwriadol a ddigwyddodd mewn achosion argyfyngus. Rydym yn cwestiynu hyn ac yn credu bod angen ymchwilio i ba raddau y mae tanfuddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, lle mae diwylliant cyfrifyddiaeth yn disodli gwerthoedd llesiant cyfunol a dull moesegol o werthuso angen pobl mwy a mwy, wedi cael effaith niweidiol ar brosesau gwneud penderfyniad mewn cysylltiad â phobl anabl ym maes gofal iechyd. Fel y nodwyd, roedd dogni gofal iechyd eisoes yn nodwedd o’r GIG cyn y pandemig. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at y sefyllfa amhosibl sy’n wynebu llawer o staff mewn rolau cyflenwi gwasanaethau rheng flaen pan nad oes ganddynt ddigon o adnoddau. Mae hefyd wedi cadarnhau pam ei bod mor bwysig bod gweithwyr meddygol proffesiynol a chlinigwyr, yn ogystal â gwleidyddion sy’n cyfrannu at benderfyniadau allweddol am adnoddau, yn deall y model cymdeithasol o anabledd. Dyma’r unig ddull gweithredu sydd â gobaith o fynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol cymhleth sydd wedi cyfrannu at yr hyn sy’n debygol o fod yn argyfwng iechyd meddwl a llesiant hanesyddol yng Nghymru, wrth inni adfer ar ôl y pandemig.

Dengys y data a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 68%, neu bron i 7 o bob 10 marwolaeth gysylltiedig â Covid yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020 yn bobl anabl. Mae pobl ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o farw o COVID-19, a hynny’n anghymesur (Pobl yn Gyntaf Cymru, 2020). Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu nad oedd y gyfradd marwolaethau hon yn ganlyniad anochel i nam, gan fod llawer o farwolaethau’n seiliedig ar ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Cyhoeddwyd dadansoddiad mwy diweddar o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ôl statws anabledd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2021. Mae’r dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar y marwolaethau rhwng 20 Ionawr 2020 ac 20 Tachwedd 2020 yn Lloegr yn unig. Mae’n dangos bod y risg o farwolaeth gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) 3.1 gwaith yn fwy i ddynion mwy anabl ac 1.9 gwaith yn fwy i ddynion llai anabl, o’i gymharu â dynion nad ydynt yn anabl; ymysg merched, roedd y risg o farwolaeth 3.5 gwaith yn fwy i ferched mwy anabl a 2.0 gwaith yn fwy i ferched llai anabl, o’i gymharu â merched nad ydynt yn anabl. Ar ôl defnyddio modelau ystadegol i addasu ar gyfer nodweddion personol ac aelwydydd, gan gynnwys y math o aelwyd, daearyddiaeth, ffactorau demograffig ac economaidd-gymdeithasol, a chyflyrau iechyd a oedd yn bodoli’n barod, roedd risg lai ond dal yn ystadegol arwyddocaol uwch o farwolaeth yn parhau i fod yn anesboniadwy ar gyfer merched sy’n fwy anabl ac yn llai anabl (1.4 ac 1.2 gwaith yn y drefn honno) a dynion sy’n fwy anabl (1.1) ond nid ar gyfer dynion sy’n llai anabl. Mae hyn yn golygu nad oes un ffactor yn egluro’r risg sylweddol uwch o farwolaeth gysylltiedig â COVID-19 ymysg pobl anabl, a bod eu man preswylio, amgylchiadau economaidd-gymdeithasol a daearyddol, a chyflyrau iechyd sy’n bodoli'n barod i gyd yn chwarae rhan; un rhan bwysig o’r risg uwch yw bod pobl anabl yn fwy agored i amrywiaeth o amgylchiadau o anfantais yn gyffredinol, a hynny’n anghymesur o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

Ym mis Tachwedd 2020, roedd adroddiad gan Public Health England wedi archwilio data o’r English Learning Disabilities Mortality Review a System Hysbysu Cleifion COVID-19 NHS England, sy’n cofnodi marwolaethau mewn ysbytai. Canfu fod 451 fesul 100,000 o bobl ag anabledd dysgu cofrestredig wedi marw yn sgil Covid-19 rhwng 21 Mawrth a 5 Mehefin: cyfradd marwolaethau sydd 4.1 gwaith yn uwch na’r boblogaeth gyffredinol, ar ôl addasu ar gyfer ffactorau eraill fel oedran a rhywedd. Nid yw pob marwolaeth o’r fath yn cael ei chofrestru ar y cronfeydd data hyn, felly mae ymchwilwyr yn amcangyfrif y gallai’r gyfradd wirioneddol fod cyn uched â 692 fesul 100,000, sef 6.3 gwaith yn uwch.

Roedd y marwolaethau wedi’u rhannu’n ehangach ar draws y sbectrwm oedran yn y grŵp hwn. Roedd y cyfraddau marwolaethau’n uwch o lawer ymysg oedolion ifanc o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Roedd y gyfradd marwolaethau ymysg pobl anabl 18-34 oed 30 gwaith yn uwch na’r gyfradd yn yr un grŵp oedran nad ydynt yn anabl. Roedd y marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 mewn lleoliadau gofal preswyl yn uwch nag yr oeddent ymysg oedolion ag anableddau dysgu’n gyffredinol. Mae cymharu marwolaethau pobl ag anableddau dysgu yn sgil COVID-19 â marwolaethau ymysg holl breswylwyr Cymru yn awgrymu bod y gyfradd safonedig yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau tua 3 gwaith i 8 gwaith yn uwch yn y garfan hon na’r boblogaeth gyffredinol (Iechyd Cyhoeddus Cymru, Watkins a Gwelliant Cymru, 2020).

O ran iechyd meddwl a llesiant, ym mis Mai 2020 adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai’r sgôr gyfartalog ar gyfer pryder oedd 4.3 allan o 10 ymysg pobl anabl, a hynny cyn COVID-19 (yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019). Cynyddodd sgôr pryder gyfartalog pobl anabl yn dilyn cychwyniad pandemig y coronafeirws i 5.5 allan o 10 ym mis Ebrill 2020, cyn lleihau i 4.7 allan o 10 ym mis Mai 2020. Roedd 41.6% o bobl anabl, o’i gymharu â 29.2% o bobl nad ydynt yn anabl, wedi parhau i gofnodi sgôr pryder uchel (sgôr rhwng 6 a 10) ym mis Mai 2020.

Roedd data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2020 wedi canfod bod cyfran uwch o bobl anabl (83% o’i gymharu â 71% o bobl nad ydynt yn anabl) yn “bryderus iawn” neu “rywfaint yn bryderus” ynglŷn ag effaith COVID-19 ar eu bywyd. Roedd tua 50% o bobl anabl a oedd yn cael gofal meddygol cyn y pandemig wedi dweud eu bod naill ai’n cael triniaeth ar gyfer dim ond rhai o’u cyflyrau ar hyn o bryd (29%), neu fod eu triniaeth wedi cael ei chanslo neu heb ddechrau (22%). Roedd hyn yn cymharu â 27% o bobl nad ydynt yn anabl yr oedd ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, neu salwch, a oedd yn cael gofal cyn y pandemig. Ym mis Medi 2020, roedd dros 45% o’r bobl anabl hynny a ddywedodd bod lefel eu triniaeth wedi gostwng neu fod eu triniaeth wedi’i chanslo yn dweud eu bod yn teimlo bod eu hiechyd wedi gwaethygu.

Roedd holl sgoriau llesiant pobl anabl yn is ym mis Medi 2020 o’u cymharu â chyfnod tebyg cyn pandemig y coronafeirws. Roedd bron i hanner (47%) y bobl anabl wedi cofnodi lefelau uchel o bryder, o’u cymharu â llai na thraean (29%) y bobl nad ydynt yn anabl. Yn ogystal â hynny, roedd pobl anabl wedi cofnodi’n amlach na phobl nad ydynt yn anabl fod y pandemig yn effeithio ar eu llesiant oherwydd ei fod yn gwaethygu eu hiechyd meddwl (41% i bobl anabl ac 20% i bobl nad ydynt yn anabl); eu bod yn teimlo’n unig (45% a 32%); a’u bod yn treulio gormod o amser ar eu pen eu hunain (40% a 29%).

Mae ‘pryder ynghylch â’r dyfodol’ ymysg y pethau sy’n cael eu crybwyll amlaf o ran beth sydd wedi effeithio ar lesiant pobl anabl (68%) a phobl nad ydynt yn anabl (64%). Ym mis Medi 2020, roedd pobl anabl yn llai gobeithiol am y dyfodol na phobl nad ydynt yn anabl: Mae 11% o bobl anabl yn credu na fydd bywyd byth yn dychwelyd i normal, o’i gymharu â dim ond 5% o bobl nad ydynt yn anabl.

Mae’r data a gasglwyd gan Gymdeithas Fawcett yn canolbwyntio ar effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant merched. Roedd 56.4% o ferched anabl yn dweud eu bod yn cael trafferth ymdopi ag ynysigrwydd cymdeithasol, o’i gymharu â 41.6% o ferched nad ydynt yn anabl. Roedd 42.2% o ferched anabl yn dweud bod  ynysigrwydd cymdeithasol yn rhoi mwy o bwysau ar berthnasoedd gartref, o’i gymharu â 37.0% o ferched nad ydynt yn anabl. Dim ond 24.9% a 28.9% o ferched anabl oedd wedi rhoi sgôr uchel (7 neu uwch ar raddfa o 0-10) ar gyfer bodlonrwydd ar fywyd a hapusrwydd yn y drefn honno, o’i gymharu â 38.6% a 39.9% o ferched nad ydynt yn anabl. Roedd y lefelau pryder ar eu huchaf ymysg merched yn gyffredinol, ond yn enwedig ymysg merched anabl. Roedd dros hanner y merched anabl (53.1%) wedi cofnodi lefel uchel o bryder.

Canfu arolwg diweddar gan y Chronic Illness Inclusion Project (2020) o dros 2,300 o bobl sy’n byw â chyflwr sy’n effeithio ar eu hegni mai ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd oedd y problemau cymdeithasol mwyaf yr oeddent yn eu hwynebu. Dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr â chyflwr sy’n effeithio ar eu hegni fod ganddynt broblem iechyd meddwl gydafiachus. Daeth adroddiad gan FTWW (2020) i’r casgliad bod symptomau sy’n gwaethygu a diffyg mynediad at driniaeth yn achosi pryder mawr i ferched sy’n byw â chyflyrau iechyd cronig / rheolaidd yng Nghymru, yn ogystal ag iechyd meddwl yn dirywio.

Mewn arolwg o 936 o bobl anabl (GMDPP, Gorffennaf 2020), roedd 83% yn poeni am sut byddent yn cael eu trin yn yr ysbyty oherwydd yr agweddau tuag at bobl anabl. Dywedodd 90% fod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl ac roedd 56% wedi cael trafferth cael gafael ar PPE. Canfu arolygon eraill (ee FDF, 2020) fod 4 o bob 5 ymatebydd anabl wedi dweud bod COVID-19 yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a bod angen rhagor o hyder arnynt i integreiddio i’r ‘normal newydd’.

Fel y nodwyd yn ein hadran ar hawliau dynol, mae ystod o sefydliadau, gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wedi beirniadu’r newidiadau i’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod y pandemig. Roedd y Comisiwn (2002a) wedi tynnu sylw’r Llywodraeth at yr angen am ofal wrth gadw pobl yr amheuir eu bod yn cario’r coronafeirws yn gaeth, a llacio’r mesurau diogelu hollbwysig mewn cysylltiad â chadw: gan argymell bod yr eithriadau dim ond yn ymestyn cyn belled ag sydd rhaid, o ran amser a’u hyd a’u lled, a’u bod yn cael eu monitro a’u haddasu’n rheolaidd.

Bu amhariad ar wasanaethau iechyd meddwl yn ystod COVID-19, ac roedd y galw amdanynt wedi codi. Yng ngogledd Cymru, cafodd 1,700 o bobl eu rhyddhau ar gam ac roedd llai o bobl â chyflyrau iechyd meddwl wedi cysylltu â’u meddyg teulu ledled Cymru, o’i gymharu â’r un adeg y llynedd (Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: dyfynnwyd gan ‘The Hidden Cost of COVID’, 2020. BBC 1. 09 Tachwedd, 20.30).

Rydym yn gwybod bod cadw pellter corfforol, ynysigrwydd cymdeithasol ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd yn gwaethygu canlyniadau iechyd meddwl. Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod cynnydd sylweddol mewn lefelau iselder a phryder wedi bod mewn rhai grwpiau o ganlyniad i’r gofynion cadw pellter cymdeithasol (Autistica, 2020; Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, 2020; Ymgynghoriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Mehefin 2020; RNIB, 2020). Mae’r ymchwil i effaith seicolegol trawma torfol yn awgrymu bod pobl o grwpiau ar y cyrion yn dioddef niwed penodol i’w hiechyd meddwl. Mae’r berthynas rhwng iechyd meddwl a chorfforol hefyd yn cael ei chydnabod gan yr American Psychological Association (2020), sy’n nodi cydberthynas rhwng ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd a chyflyrau iechyd, fel clefyd y galon a dementia.

Yn ôl ymchwil a wneuthyr gan Cronfa’r Teulu Cymru yn ystod y pandemig (Medi 2020), mae effaith niweidiol wedi bod ar iechyd meddwl a llesiant y rhan fwyaf o blant anabl neu ddifrifol wael, yn ogystal â’u brodyr a’u chwiorydd, eu rhieni a’u gofalwyr, ac yn ôl yr adroddiadau nid oes llawer o arwydd o adferiad.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod llacio’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn Neddf y Coronafeirws 2020 wedi effeithio’n anghymesur ar bobl anabl a phobl hŷn, gan arwain at leihad sylweddol mewn cymorth hanfodol a arweiniodd yn ei dro at ddirywiad corfforol a meddyliol. Cafodd yr amhariad hwn ar wasanaethau ei ddwysáu gan adleoli’r rhai sy’n darparu gwasanaethau o’r fath fel arfer i ffwrdd o wasanaethau i bobl anabl, a diffyg argaeledd PPE (BIHR, 2020; EHRC, 2020a a b).

Fel yr adroddwyd yn yr adran ar hawliau dynol, ac yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ymchwiliad effaith COVID-19 ar bobl sydd yn rhanu nodweddion gwarchodedig y Pwyllgor Merched a Chydraddoldeb, roedd rhai meddygfeydd teulu ym Mhrydain ac un yng Nghymru wedi anfon cyfathrebiadau cyffredinol i bobl anabl a phobl hŷn yn gofyn iddynt gydsynio i hysbysiadau Peidio â Cheisio Dadebru (DNAR), er nad oedd ganddynt gyflyrau iechyd perthnasol. Canfu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2020a) fod hysbysiadau DNAR yn cael eu defnyddio mewn cynlluniau ‘gofal’ i bobl hŷn neu bobl anabl mewn cartrefi preswyl heb ymgynghoriad priodol.

Mae adroddiadau bod pwerau disgresiwn a gyflwynwyd yn ystod y pandemig wedi cael eu defnyddio’n amhriodol i gyfyngu ar ryddid pobl anabl mewn lleoliadau sefydliadol, gan effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant (y Cenhedloedd Unedig, 2020).

Yn ôl arolwg o bobl anabl yng Nghymru (AC, Rhagfyr 2020), dim ond 15% o ymatebwyr a oedd yn teimlo bod eu hawliau’n cael eu gorfodi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd 56% o ymatebwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu gorfodi, a 29% yn teimlo nad ydynt yn cael eu gorfodi’n effeithiol o gwbl.  Rydym hefyd wedi canfod tystiolaeth sy’n awgrymu perthynas glir rhwng lleihau gofal cymdeithasol a’i dynnu’n ôl yn ystod y pandemig, ac effaith niweidiol ar lesiant ymysg pobl anabl. Mae tystiolaeth o arolwg Mencap (Awst 2020) yn dangos bod pobl ag anabledd dysgu, er enghraifft, wedi dioddef effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl (69%), eu perthnasoedd (73%), eu hiechyd corfforol (54%) a’u hannibyniaeth (67%), yn ôl gofalwyr teulu.

Mae pryderon moesegol wedi’u codi ynglŷn â’r ffordd mae rhai grwpiau wedi cael blaenoriaeth  wrth benderfynu ar bwy ddylai gael brechlyn y coronafeirws, ac mae safle pobl anabl ar y rhestr categorïau blaenoriaeth honno wedi cael ei chwestiynu (cyfarfod y Grŵp Llywio ar 20.11.20).

Yn ei maniffesto yn 2020, cododd Fair Treatment for The Women of Wales (FTWW) bryderon ynglŷn â sut mae cleifion yng ngwasanaeth iechyd Cymru yn ystod ac ar ôl y pandemig yn neu wedi cael blaenoriaeth, ac effaith hirdymor y penderfyniadau hyn. Roedd yn mynegi pryderon penodol ynglŷn â mynediad at wasanaethau arbenigol yng Nghymru, a oedd eisoes yn brin neu’n anodd eu cyrraedd cyn y pandemig. Tynnir sylw at y ffaith nad yw iechyd merched yn cael ei grybwyll unwaith yn strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ‘Cymru Iachach’, er y rhagolygon y bydd cyflyrau fel endometriosis (sy’n effeithio ar 1 o bob 10 merch) yn arwain at amseroedd aros o 3 blynedd a mwy erbyn hyn mewn un canolfan arbenigol yng Nghaerdydd, ac nad oes canolfannau rhagoriaeth i gyflyrau awto-imiwn (mae 80% o bobl ag un o’r cyflyrau hyn yn ferched) yng Nghymru.

Mae pryderon wedi’u codi ynglŷn â mynediad defnyddwyr hirdymor gwasanaethau’r GIG ar gyfer cyflyrau iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru (Fight for Sight, 2020). Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, cafodd 54% yn llai o gleifion lawdriniaeth yng Nghymru ac yn ôl yr amcangyfrifon, gallai gymryd dros dair blynedd i glirio’r ôl-groniad o gleifion, gyda 49,000 o bobl yng Nghymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth: deg gwaith yn fwy na’r llynedd (Ysgol Feddygaeth Abertawe: Prifysgol Abertawe: ‘The Hidden Cost of COVID’, 2020. BBC 1. 09 Tachwedd, 20.30). Bydd y meini prawf ar gyfer penderfynu pa gleifion sy’n cael blaenoriaeth ar ôl y pandemig yn bwysig ac mae’n rhaid iddynt beidio â gwahaniaethu.

Mae’r ddibyniaeth gynyddol ar y sector gwirfoddol i leihau’r baich ar ddarparwyr gwasanaethau statudol ac i fodloni anghenion cymhleth dinasyddion yn ystod y pandemig wedi tynnu sylw at werth gwasanaethau yn y gymuned (yn enwedig sefydliadau llai). Mae Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles y Sector Gwirfoddol (2020), er ei fod yn cefnogi ‘Strategaeth Cysylltu Cymunedau’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘presgripsiynu cymdeithasol’ yn gyffredinol, wedi galw am nodi ymrwymiadau cyllido yn y dyfodol yn glir cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau parhad.

Yn ystod y pandemig, mae nifer o Fudiadau Pobl Anabl ac academyddion (Park, Awst 2020) wedi tynnu sylw at y berthynas rhwng llythrennedd iechyd isel a rhai namau. Ymysg yr enghreifftiau mae ymchwil a ganfu, o’u cymharu ag oedolion hŷn sy’n clywed, bod oedolion hŷn byddar a’r rhai sydd â nam ar eu clyw yn wynebu risg uwch o ganlyniadau cysylltiedig â COVID-19 o bosibl. Mae’r ffactorau cyfrannol yn cynnwys mynediad gwael at wybodaeth gyhoeddus a methu cael mynediad at wasanaethau iechyd oherwydd yr orddibyniaeth ar wasanaethau ffôn, a darpariaeth annigonol o ddehonglwyr.

Roedd aelodau o’r Grŵp Llywio wedi cyfleu enghreifftiau o bobl anabl yn gorfod cael diagnosis neu gynllun triniaeth oherwydd eu bod yn ceisio sicrhau addasiadau rhesymol yn y gweithle, cyllid Mynediad i Waith a budd-daliadau lles fel y Taliad Annibyniaeth Personol. Mae cymhwysedd ar gyfer y cyfryw fudd-daliadau ac adnoddau hyn yn dibynnu’n aml ar dystiolaeth feddygol, ac mae’r pandemig wedi arafu’r broses hon yn sylweddol.

Mae darparu Eiriolwyr yn un o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru. Fodd bynnag, roedd aelodau o’r Grŵp Llywio wedi codi pryderon bod angen i unigolion fod wedi’u grymuso’n ddigonol i ddeall eu hawliau a mynd ar drywydd eiriolwyr sydd wedi cael hyfforddiant addas, os oes angen. Teimlwyd ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan wasanaethau eirioli yng Nghymru ddigon o adnoddau a’u bod ar gael/yn hygyrch i bob person anabl.

Roedd canfyddiadau tri arolwg (ym mis Ebrill, mis Mai a mis Mehefin 2020) gan y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Defnyddwyr Anabl wedi olrhain effaith COVID-19 ar bobl anabl a phobl hŷn. Canfu fod dau draean y bobl a oedd yn ‘gwarchod’ yn teimlo’n ‘eithriadol o annifyr neu’n annifyr’ am adael y tŷ, ac mai dim ond 1 o bob 10 a oedd wedi cael cyfathrebiadau gan eu meddyg teulu y GIG ar ôl i’r cyfyngiadau gwarchod gael eu llacio. Hefyd, mynegwyd pryderon ynglŷn â chael apwyntiadau meddygol a meddyginiaeth (42% a 38% yn y drefn honno). Pan ofynnwyd iddynt a oedd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol neu Gynorthwywyr Personol yn gwisgo PPE wrth ymweld, dim ond 69% a ymatebodd yn gadarnhaol i ddechrau, ond cododd y ffigur hwn i 88% mewn arolygon diweddarach. Yn yr arolwg diweddaraf, roedd 31% o’r ymatebwyr yn dal yn bryderus ynglŷn â lefel y gofal roeddent yn ei gael ar hyn o bryd neu ynglŷn â’r ffordd yr oedd yn cael ei ddarparu.

Mae’r ddarpariaeth mamolaeth wedi bod yn anghyson ar draws byrddau iechyd yng Nghymru yn ystod y pandemig. Canfu adroddiad gan FTWW (Tachwedd 2020) lefelau uwch o straen, pryder, gofid iechyd meddwl a cholli babis ymysg merched. Mae merched anabl wedi wynebu rhwystrau ychwanegol, gan gynnwys argaeledd amgylcheddau mamolaeth sy’n addas ar gyfer COVID-19. Pan fo angen gwirioneddol i gael eiriolwr neu bartner wrth eu hochr, mae merched anabl wedi cael problemau’n mynegi hyn ac addasiadau eraill o ran y prosesau a’r arferion diwygiedig. Mae gofal ar ôl geni, gan gynnwys ymweliadau gan ymwelwyr iechyd â’r cartref, wedi cael eu canslo ar y cyfan a’u cynnal dros y ffôn, sy’n eithrio llawer o famau sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw.  Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl amenedigol yn llai tebygol o gael eu nodi heb apwyntiadau wyneb yn wyneb. Bydd rhaid asesu effeithiau hirdymor gwasanaethau mamolaeth annigonol ac anhygyrch ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae pobl anabl yn dweud eu bod wedi ceisio cael gafael ar wasanaethau drwy eu meddyg teulu a bod cyfathrebu gwael rhwng asiantaethau ac adrannau’r GIG yng Nghymru, a rhwng Cymru a Lloegr. Mae’n ymddangos bod cronfeydd data/meddalwedd anghydnaws rhwng gwahanol ddarparwyr yn achosi problemau ac mae cyfathrebiadau anghyson yn golygu bod disgwyl i ddefnyddwyr gwasanaethau â mwy nag un nam hwyluso’r camau gweithredu rhwng gwahanol arbenigwyr yn aml, neu ar draws ffiniau, a hynny ar adeg pan fyddant yn wael ac mae angen cymorth arnynt. Mae rhwystrau o’r fath yn cynyddu straen ac yn dwysáu cyflyrau iechyd ac iechyd meddwl gwael. Mae’r pandemig wedi gwaethygu’r rhwystrau a oedd yn bodoli’n barod.  Mae angen dulliau model cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y claf ac yn seiliedig ar hawliau dynol er mwyn goresgyn y rhwystrau presennol yn y system gofal iechyd (y Grŵp Llywio).

Clywsom dystiolaeth gan ein ‘grŵp cyfeirio croestoriadol’ o rai grwpiau o bobl ifanc anabl yn ‘disgyn drwy’r bylchau’ yn y ddarpariaeth yn ystod y pandemig. Ymysg y rhain mae pobl ifanc sydd newydd adael gofal, mamau ifanc yr oedd cymorth eu cynorthwyydd personol wedi’i dynnu’n ôl, a phlant mewn gofal na chafodd unrhyw gyswllt â theuluoedd.  Dywedodd un person a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc traws fod yr holl gymorth wedi’i atal a bod pobl ifanc traws awtistig yn benodol wedi cael trafferth deall beth oedd yn digwydd.

Canfu arolwg o dros 600 o ofalwyr ledled Cymru (Gofalwyr Cymru, 2020) fod nifer yn anymwybodol o gyngor a chymorth, neu wedi brwydro i’w cael. Dim ond 38% oedd wedi gweld gwybodaeth a oedd wedi’u helpu yn eu rôl gofalu, ac nid oedd 41% wedi clywed am yr Asesiad o Anghenion Gofalwyr. Roedd nifer y gofalwyr di-dâl wedi codi o un o bob chwech i dros un rhan o bump o’r boblogaeth yng Nghymru yn ystod y pandemig, sef amcangyfrif o 683,000 o ofalwyr. Bydd llawer yn ofalwyr ‘cudd’ ac, ar ôl ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu yn ystod y pandemig, yn ei chael hi’n anodd eu gollwng o bosibl.

Argymhellion

Yng ngoleuni’r dystiolaeth a gyflwynwyd, rydym yn ailddatgan ein galwad am ymchwiliad cyhoeddus ar frys i nifer anghymesur y marwolaethau ymysg pobl anabl yng Nghymru a’r DU yn ystod y pandemig. Mae angen cael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wedi arwain at ganfyddiad bod y marwolaethau hyn yn cael eu derbyn, a herio’r ffactorau hyn. Byddai ymchwiliad yn adolygu’r dystiolaeth a’r argymhellion y mae’r adroddiad hwn yn eu cyflwyno, ond yn gallu datblygu camau gweithredu ac unioni y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol. Rhaid cydgynhyrchu’r ymchwiliad â phobl anabl a sicrhau y rhoddir sylw i faterion cydraddoldeb croestoriadol.  Rydym yn argymell bod amserlen glir yn cael ei phennu ar gyfer yr ymchwiliad o’r dechrau, a’i bod yn cynnwys terfynau amser ar gyfer rhoi’r argymhellion ar waith. 

Canfu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth bod pobl anabl wedi dioddef gwahaniaethu meddygol yn ystod y pandemig.  Mae mynediad at wasanaethau meddygol gofal meddygol parhaus, gwasanaethau adsefydlu, ac agweddau negyddol rhai gweithwyr iechyd proffesiynol at bobl anabl wedi cyfrannu at hyn. Mae hyn yn dangos bod angen newid diwylliant ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys newid agweddau at bobl anabl (AC, Rhagfyr 2020). Rydym yn argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad hyfforddi gorfodol yn GIG Cymru, a’i fod yn cael ei ddatblygu a’i gyflawni ar y cyd â Mudiadau Pobl Anabl yng Nghymru, er mwyn dechrau mynd i’r afael â hyn.

Mae cyfle i ‘ailgodi’n gryfach’ ar ôl y pandemig. Mae ein hadroddiad, a’r adroddiad Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, yn tynnu sylw at yr angen i wasanaethau iechyd feithrin partneriaethau go iawn â chymunedau amrywiol. Mae’r berthynas rhwng amgylchiadau meddygol a chymdeithasol, a’u heffaith ar iechyd a marwolaethau, wedi’i sefydlu’n glir bellach. Ni all clinigwyr weithio mewn adrannau wedi’u dadwleidyddoli ac mae angen i wasanaethau iechyd Cymru ‘ailgodi’n decach’ drwy fabwysiadu dulliau gweithredu amlddisgyblaethol sy’n gallu mynd i’r afael â phryderon defnyddwyr gwasanaethau, a oedd wedi’u tangynrychioli yn y gorffennol. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad gwirioneddol i ariannu darpariaeth a esgeuluswyd a chydgynhyrchiant ar bob lefel o waith dylunio, cyflenwi a gwerthuso gwasanaethau iechyd yn adrannol, yn lleol ac yn genedlaethol.

Pan fydd gwasanaethau iechyd arferol yn ‘dychwelyd i normal’ yn y pen draw, bydd GIG Cymru yn ei chael Mae dinasyddion Cymru’n wynebu diffyg mynediad at rai gwasanaethau arbenigol ac ni ddylent fod dan anfantais o ganlyniad i hynny.  Mae angen canfod bylchau amlwg mewn gwasanaethau yn gynnar ac yn unol â’r ‘Agenda Atal ac Ymyrryd yn Gynnar’. Rhaid i anghenion cleifion fod yn drech na’r rhwystrau i ofal a osodir gan ofal iechyd datganoledig. Mae angen mynediad amserol at iechyd a gofal cymdeithasol i atal problemau economaidd-gymdeithasol rhag dwysáu, a fyddai’n arwain at gylch amddifadedd ac iechyd ac anabledd sy’n gwaethygu. Mae angen hwyluso atgyfeiriadau y tu allan i’r ardal (gan gynnwys Lloegr) a galluogi meddygon teulu i wneud atgyfeiriadau trydyddol. Mae angen ailedrych ar lwybrau a’u symleiddio, gan roi lle canolog i ddewis ac angen cleifion. Rydym yn argymell cydgynhyrchu Siarter Cleifion i Gymru sy’n cynnwys grwpiau amrywiol ac yn rhoi rhagor o hawliau a phŵer i gleifion.

Mae’r pandemig wedi dangos bod gwahanol ddulliau gweithredu ar gyfer cyflenwi gofal iechyd yn gallu gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i rai pobl anabl a, lle bo hyn i’w weld, rydym yn argymell ei fod yn cael ei gynnal. Fodd bynnag, roedd rhai pobl anabl wedi’u heithrio rhag cael gafael ar wasanaethau meddygol a oedd wedi newid i ddarpariaeth o bell. Er ein bod yn deall nad oedd hi’n bosibl cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb mewn amgylchiadau argyfyngus bob amser, mae’n bwysig eu bod yn cael eu defnyddio nawr. Mae model hybrid o apwyntiadau wyneb yn wyneb (gyda PPE perthnasol) ac apwyntiadau o bell yn cael ei argymell, ond rydym yn ofni y bydd symud i ddarpariaeth o bell yn cael ei ystyried yn ddewis amgen rhatach. Felly, rydym yn argymell bod cymhellion ariannol i gadw darpariaeth wyneb yn wyneb yn cael eu hymgorffori yng nghynlluniau gwasanaethau iechyd ar gyfer y dyfodol.

Mae’r dystiolaeth yn dangos sut mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol anghymesur ar iechyd meddwl a llesiant pobl anabl. Mae ffactorau fel teimlo’n ynysig, unigrwydd, cyfyngiadau symud, cymorth cymdeithasol a statudol sefydledig yn cael ei dynnu’n ôl, gwasanaethau a mannau cyhoeddus anhygyrch, amodau byw economaidd-gymdeithasol gwael, negeseuon cyhoeddus dryslyd ac ati wedi cyfrannu’n sylweddol. Adroddwyd lefelau uchel o boeni a phryder ymysg pobl anabl (y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Rydym yn argymell bod angen ymchwil pellach i gael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y ffactorau cymdeithasol hyn, salwch meddwl ac anabledd. Mae’n hanfodol bod gwyddonwyr cymdeithasol ac academyddion astudiaethau anableddau, ynghyd â chynrychiolwyr o sefydliadau ar lawr gwlad, yn cael eu cynnwys mewn timau cynghori ar ymchwil.

Mae angen dybryd i ddadgyfuno data iechyd a llesiant yn ôl statws anabledd a nodweddion gwarchodedig eraill. Yn ogystal â hynny, mae angen data pellach ar gyfraddau heintiau COVID-19 yng Nghymru, cyfnodau yn yr ysbyty, effeithiau ar iechyd meddwl a llesiant: wedi’u dadgyfuno yn ôl anabledd, rhywedd, oedran, hil, incwm, ac ar draws mwy nag un grŵp ‘risg uchel’ (APA, 2020).

Rydym yn galw am adolygu’r newidiadau ar frys a wnaed i’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a’u dadwneud ar unwaith yng Nghymru. Yn y dyfodol, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull mwy hyblyg sy’n canolbwyntio ar y claf wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, er mwyn sefydlu gwell deialog ynghylch anghenion a dewisiadau cleifion, a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl. 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn ymchwil yn y dyfodol ac yn recriwtio a hyfforddi rhagor o bobl leol i weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gan gynnwys ei wneud yn ganolbwynt gweithdai cyngor am yrfaoedd mewn lleoliadau addysg a chynnig trefniadau ‘gefynnau euraid’, gyda phecynnau hyfforddi wedi’u hariannu ar gael i’r rhai sy’n ymrwymo i weithio yn y maes yng Nghymru am x o flynyddoedd.

Rydym yn croesawu ‘Strategaeth Cysylltu Cymunedau’ Llywodraeth Cymru ond yn argymell bod ei ‘llwyddiant’ yn cael ei werthuso drwy gyfeirio at ganlyniadau ansoddol defnyddwyr a drwy ymgynghori â Mudiadau Pobl Anabl, y trydydd sector a darparwyr ar lawr gwlad mewn cymunedau. Mae’n hanfodol bod amrywiaeth eang o ddefnyddwyr yn cyfrannu at cydgynhyrchu atebion a bod ffrydiau cyllido hirdymor (hirach na thri mis) ar gael i gynnal cyfraniad personél.

Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu meini prawf blaenoriaeth i sicrhau bod pobl anabl yn cael diagnosis a thystiolaeth feddygol yn brydlon. Mae’r rhain yn rhagamodau ar gyfer agweddau allweddol ar fyw yn aml siopa, gwaith, budd-daliadau. Rydym hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau eirioli i bobl anabl yng Nghymru i’w helpu i egluro ac eirioli eu buddiannau wrth ddelio â darparwyr iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym yn argymell cynnal asesiad o effeithiau hirdymor gwasanaethau mamolaeth annigonol ac anhygyrch ar genedlaethau’r dyfodol. Mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau hygyrch ac arbenigol mwy lleol. Rydym hefyd yn argymell bod merched yn cael hunangofrestru eu gofynion a bod ceisiadau am addasiadau rhesymol yn cael eu ffurfioli’n gywir, er mwyn ei gwneud hi’n bosibl ystyried yn briodol a oes angen partner eiriolwr mewn apwyntiadau. 

Y prif ganfyddiadau: anfanteision economaidd-gymdeithasol

Gwyddwn eisoes fod pobl anabl eisoes dan anfantais economaidd-gymdeithasol sylweddol, tra hysbys cyn y pandemig, a bod COVID-19 wedi dwysáu hyn ymhellach. Roedd adolygiadau dylanwadol Marmot (2010; 2020), dan arweiniad yr Athro Syr Michael Marmot ac wedi’u comisiynu gan y Sefydliad Iechyd, wedi sefydlu’r cysylltiadau annatod rhwng amgylchiadau economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau iechyd. Ar sail y profiadau yn Lloegr, roedd yr adroddiadau hefyd yn tynnu sylw at gyfyngiadau datganoli, gan fod agweddau allweddol ar bolisi cymdeithasol yng Nghymru yn dal wedi’u cyfyngu gan benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn San Steffan. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Marmot “Build Back Fairer: The COVID-19 Marmot Review”. Mae’r hanes pwerus hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o effaith anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol ar ganlyniadau COVID-19 yn cloi drwy eirioli dros yr angen am gymdeithas decach sy’n seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, dros leihau anghydraddoldeb incwm a chyfoeth, a dros adeiladu economi sy’n rhoi iechyd a llesiant wrth galon polisïau, yn hytrach na nodau economaidd cul.

Yn y dystiolaeth am effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru a gynhyrchwyd ar gyfer yr adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno data sy’n dangos cysylltiad clir rhwng canlyniadau a thlodi, amddifadedd cymdeithasol, budd-daliadau’r wladwriaeth, tai, a phrofiadau o waith a chyflogaeth.  Mae’r rhain oll wedi cyfrannu at yr anfantais mae pobl anabl wedi’i hwynebu yn ystod y pandemig. Mae’r dystiolaeth gyfunol o’r adroddiad hwn a’r adroddiad a gynhyrchwyd gan grŵp cynghori COVID-19 Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y Prif Weinidog (Mehefin 2020) yn dangos cysylltiad clir rhwng nodweddion gwarchodedig, ffactorau economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau iechyd a llesiant. Mae Cymru, fel Lloegr, angen deall ei hanghydraddoldebau ei hun yn well ac mae ein hargymhellion wedi’u dylunio i gyfrannu at y blaenoriaethau ar gyfer gwneud penderfyniadau wrth adfer o’r argyfwng hwn, gan ddarparu cyfleoedd i ‘ailgodi’n decach’. Fodd bynnag, dim ond y cam cyntaf yw cydnabod tlodi materol o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae angen i Lywodraeth Cymru wahaniaethu ei hun oddi wrth Loegr a bod yn fodlon cwestiynu, holi a herio ffafriaeth sefydliadol tuag at bobl abl ble bynnag mae’n digwydd mewn cymdeithas yng Nghymru. Dim ond wedyn y bydd yn gallu dechrau mynd i’r afael â phroblem hanesyddol mwy fyth sy’n wynebu pobl anabl: tlodi hanesyddol o ddychymyg ac uchelgais, sef gwaddol clir cyfleoedd anghyfartal.

Amddifadedd a thlodi cymharol

Diffinnir bod rhywun yn byw mewn tlodi incwm cymharol os yw’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd yn y DU (yn ôl y canolrif). Mae dadansoddiad o set ddata ddiweddaraf Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog yn dangos bod pobl mewn aelwydydd sy’n cynnwys person anabl yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Yn benodol:

  • Roedd 37% o’r plant a oedd yn byw mewn aelwyd yn cynnwys person anabl mewn tlodi incwm cymharol, o’i gymharu â 24% o’r plant a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.
  • Yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwyd yn cynnwys person anabl mewn tlodi incwm cymharol, o’i gymharu â 18% o’r rhai a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.

(Sylwch, yn set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, fod pobl anabl yn cael eu nodi fel y rhai sy’n cofnodi unrhyw salwch neu gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ychydig neu'n fawr iawn ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd (diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010)).

Canfu adroddiad gan Cyngor ar Bopeth (2020) fod 1 o bob 6 person anabl (16%) wedi disgyn ar ei hôl hi o ran talu biliau yn ystod y pandemig, o’i gymharu â llai na 1 o bob 10 person nad yw’n anabl (7%), gan awgrymu bod anghydraddoldebau a lefelau tlodi a oedd yn bodoli eisoes wedi cael eu dwysáu ymhellach.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod merched anabl yn benodol wedi cael eu gwthio’n ddyfnach i dlodi amser, incwm a llais, a hynny o ganlyniad i lefelau cynyddol o waith gofal â thâl a di-dâl, ac ansicrwydd incwm yn sgil y pandemig (Oxfam, 2020). Yn 2009 i 2010, roedd 27% o ofalwyr yn cael y Lwfans Byw i’r Anabl. Canfu Carers UK, yn 2014, mai dim ond 18% o ofalwyr anabl a oedd mewn gwaith a bod 61% wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu, a bod 74% o ofalwyr a oedd yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl ar incwm isel neu nad oedd unrhyw un yn yr aelwyd mewn gwaith cyflogedig (Carers UK ymchwiliad i Ofalu a Chyllid Teuluol, 2013).

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r dull swyddogol o fesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Cafodd ffigurau a gynhyrchwyd o set ddata gyfun ddiweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (2017 i 2019) eu dadansoddi ar gyfer yr adroddiad hwn, ochr yn ochr â data MALlC 2019 a oedd wedi’u rhyddhau'n ddiweddar. Roedd y dadansoddiad dilynol yn dangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn benodol:

  • Roedd traean (32.3%) o bobl 16 i 64 oed sy’n byw yn y 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig yn anabl, ac roedd 18.2% o bobl 16 i 64 oed sy’n byw yn y 50% o ardaloedd bach lleiaf difreintiedig yn anabl. Mae’r ffigurau hyn yn cymharu â 21.8% o bobl anabl yn yr holl boblogaeth.
  • Roedd 13.8% o bobl anabl 16-64 oed yng Nghymru yn byw yn y 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn cymharu ag 8.1% o bobl 16 i 64 oed nad ydynt yn anabl yng Nghymru.
  • Roedd 57.2% o bobl anabl 16-64 oed yn byw yn y 50% o’r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig o’i gymharu â 46.3% o bobl nad oeddent yn anabl.

Budd-daliadau’r Wladwriaeth

Yn ystod y pandemig, roedd galw eang ar Lywodraeth y DU i gynyddu budd-daliadau nawdd cymdeithasol allweddol i ddiogelu’r rhai mewn tlodi neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi.  Er enghraifft, soniodd Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree a OXFAM yr angen i gynyddu’r Budd-dal Plant, y Lwfans Gofalwr, lwfans safonol Credyd Cynhwysol, y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, y Lwfans Byw i’r Anabl, Taliadau Annibyniaeth Personol, ac eraill.  Yn wahanol i Gredyd Cynhwysol, nid yw budd-daliadau anabledd a salwch wedi codi, gan roi bob person anabl dan anfantais sylweddol gan fod costau bywyd bob dydd wedi cynyddu i lawer ohonynt yn ystod COVID-19.

Mae tystiolaeth i ategu’r uchod ar gael mewn arolwg o 224 o bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd meddwl. Wedi’i gynnal gan y Consortiwm Budd-daliadau Anabledd rhwng 14 a 23 Ebrill, canfu fod 95% o’r rhai a arolygwyd wedi cofnodi cynnydd yn eu costau byw. Cefnogir hyn gan dystiolaeth ychwanegol o arolwg ehangach o deuluoedd (Family Find, Medi 2020) a oedd wedi canfod bod hanner wedi colli incwm. Mae costau 4 o bob 5 aelwyd wedi cynyddu, ac mae dros 3 o bob 5 teulu’n cofnodi gostyngiad yn y lefelau cymorth ffurfiol ac anffurfiol. Eto, mae merched anabl wedi cael eu nodi fel rhai sy’n ennill cyflogau isel sydd fwyaf dibynnol ar ‘hen fudd-daliadau’ nad ydynt wedi codi (Women’s Budget Group, 2020). 

I fynd i’r afael â lefelau uchel o dlodi ac amddifadedd cyn yr argyfwng, ac effaith hirhoedlog yr argyfwng hwn ar incwm aelwydydd, mae OXFAM (2020) wedi galw ar Lywodraeth y DU i ehangu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Lwfans Gofalwr a’i wneud ar gael i’r rhai sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n hunanynysu. Ar ben hynny mae wedi lobïo dros ddileu’r cyfnod aros o bum wythnos ar gyfer Credyd Cynhwysol, a’r cyfyngiad dau blentyn ar gyfer y budd-dal plant er mwyn atal rhagor o dlodi plant. Hyd y gwyddwn ni, nid yw’r ceisiadau hyn wedi cael eu bodloni o hyd.

Roedd dogfen friffio’r New Economics Foundation (2020) ar weithrediad Credyd Cynhwysol yn ystod y pandemig wedi canfod bod taliadau i hawlwyr yn cael eu hoedi’n gosbedigol a bod effaith anghymesur ar bobl anabl a merched. Roedd hyn yn cynnwys cosbi pobl a oedd wedi methu apwyntiadau, er gwaethaf y cyfyngiadau yn ystod y pandemig ar amser pobl, eu gallu i deithio a chyswllt wyneb yn wyneb.

Yn ôl cynllun cymorth hunanynysu Llywodraeth y DU: “Fe allech chi gael taliad o £500 i helpu os ydych wedi colli enillion o ganlyniad i orfod hunanynysu ac na allwch weithio gartref.” Serch hynny, mae adroddiadau (BBC 20 Ionawr 2021) yn awgrymu bod tri chwarter y ceisiadau, llawer ohonynt gan weithwyr incwm isel sydd wedi dod i gysylltiad â COVID-19 drwy eu gwaith, yn cael eu gwrthod. Mae hyn yn effeithio’n benodol ar bobl anabl neu bobl mewn aelwyd sy’n cynnwys person anabl sydd wedi cael cyfarwyddyd i warchod, ac sydd ymysg y rhai sy’n cael y cyflogau isaf yn aml.

Roedd un undeb llafur wedi rhoi gwybod i TUC Cymru am enghraifft lle gwrthodwyd ffyrlo i aelod â nam ar y golwg ar safle dosbarthu, nad yw’n gallu cadw pellter cymdeithasol oherwydd ei nam. Roedd yr aelod wedi gorfod cymryd absenoldeb salwch yn amhriodol, a dim ond cael Tâl Salwch Statudol (TUC Cymru, 2020).

Yn ôl y TUC (Ionawr 2021), mae cyfradd tâl salwch y DU ymysg yr isaf yn Ewrop ar hyn o bryd. Nid yw bron i 2 filiwn o weithwyr yn ennill digon i fod yn gymwys ar ei gyfer merched yn bennaf. Nid yw gweithwyr sy’n cael tâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu statudol, neu dâl tadolaeth ychwanegol, na phobl hunangyflogedig, yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol. Cyhoeddodd y TUC bleidlais yn awgrymu nad yw 20% o weithwyr sydd wedi gorfod hunanynysu, ond nad ydynt yn gallu gweithio gartref, wedi cael unrhyw dâl salwch (na chyflog). Dywed 40% y byddai’n rhaid iddynt fynd i ddyled neu ôl-ddyledion ar eu biliau pe bai eu hincwm yn disgyn i £96 yr wythnos lefel Tâl Salwch Statudol ar hyn o bryd. Mae’r ffigur hwn yn codi i 48% o weithwyr anabl.

Tai

Mae Maniffesto 2020 Anabledd Cymru yn galw am fabwysiadu Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru i ddarparu canllawiau ar greu tai sy’n addas i bawb, ac i ddechrau gweithio tuag at Gymru lle nad oes rhaid i unrhyw un boeni am gael tŷ addas. Mae problemau uniongyrchol a hirdymor yn gysylltiedig â thai a COVID-19. Mae tai yn benderfynydd cymdeithasol pwysig o iechyd ac mae cyfyngiadau symud y pandemig wedi cynyddu pwysigrwydd amgylchedd y cartref ym mywyd pobl ymhellach, gan fod y cartref wedi gorfod ateb dibenion gwahanol. Mae pobl anabl, fel grŵp, yn wynebu heriau sylweddol wrth ddod o hyd i dai hygyrch a fforddiadwy (ESRC, Clair, 2020).

Mae dadansoddiad ad hoc o ddaliadaeth tai yn ôl nodweddion gwarchodedig (ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod 46% o bobl anabl yn byw mewn eiddo rhent, o’i gymharu â 28% o bobl nad ydynt yn anabl. Mae pobl anabl sy’n rhentu yn fwy tebygol o fyw mewn eiddo cymdeithasol ar rent nag eiddo rhentu’n breifat (mae rhentwyr nad ydynt yn anabl yn fwy tebygol o fyw mewn eiddo rhentu’n breifat). Hefyd, mae llawer o bobl anabl yn wynebu rhwystrau gwirioneddol i fod yn berchen ar dŷ oherwydd y ffordd y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n trin ad-daliadau morgais y rhai sy’n hawlio budd-daliadau. Mae pobl anabl mewn cyflogaeth yn gallu wynebu risg uwch o beidio â gwneud taliadau oherwydd eu presenoldeb mewn swyddi anniogel a swyddi sy’n talu’n isel.

Ym mis Ebrill 2020, roedd y Resolution Foundation wedi adrodd bod y rhai sy’n byw mewn tai rhent cymdeithasol neu dai rhent preifat yn fwy tebygol o deimlo’r effaith ar eu gallu i weithio na’r rhai sy’n berchen-feddianwyr (dadansoddiad o’r Arolwg o’r Llafurlu yn y DU).

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Sefydliad Bevan adroddiad ar ba fathau o aelwydydd yng Nghymru fyddai’n meddu ar ddigon o asedau hylifol i gymryd lle incwm rheolaidd o bosibl, pe bai incwm yn cael ei golli am 1, 2 neu 3 mis. Ar sail dadansoddiad o’r Arolwg Cyfoeth ac Asedau, roedd yr adroddiad wedi canfod y byddai effaith arbennig o wael ar rentwyr pe bai eu hincwm yn dod i ben yn sydyn dim ond 44% o rentwyr preifat a 35% o rentwyr cymdeithasol yng Nghymru sydd â digon o gynilion i gymryd lle un mis o’u hincwm rheolaidd.

Gellir deillio mesur o orlenwi yn ôl anabledd o’r sgôr deiliadaeth ystafelloedd gwely yng Nghyfrifiad 2011. Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd yn cofnodi anabledd neu broblem iechyd hirdymor cyfyngus (gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag oedran) (diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb) asesu a oedd eu gweithgareddau dydd i ddydd yn cael eu cyfyngu’n fawr, ychydig, neu ddim o gwbl. Mae cyfran y rhai sy’n cael eu cyfyngu’n fawr neu ychydig ac yn byw mewn aelwydydd gorlawn yn is nag ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol, a’r rhai heb eu cyfyngu. Fodd bynnag, oherwydd bod proffil oedran y bobl hyn yn hŷn, ac oherwydd bod pobl hŷn yn llai tebygol o fyw mewn aelwydydd gorlawn, mae’r darlun hwn yn newid os caiff y data eu hystyried ar wahân yn ôl grŵp oedran.

Mae Tabl 1 isod yn dangos, ym mhob categori oedran, bod y rhai y mae eu gweithgareddau’n gyfyngedig ychydig neu’n fawr yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd gorlawn na’r rhai nad ydynt yn gyfyngedig a’r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd y gyfran uchaf (11.5%) ar gyfer plant (rhai 15 oed ac iau) y mae eu gweithgareddau’n cael eu cyfyngu’n fawr.

Canran yr aelwydydd sydd â deiliadaeth o -1 neu lai, yn ôl grŵp oedran a statws anabledd, Cyfrifiad 2011, Cymru
Grŵp oedran Roedd gweithgareddau o ddydd i ddydd yn gyfyngedig llawer Roedd gweithgareddau anabledd o ddydd i ddydd yn cyfyngu ychydig Gweithgareddau o ddydd i ddydd heb fod yn gyfyngedig Cyfanswm
Oed 0 i 15 oed 11.5 10.9 9.0 9.1
Oed 16 i 49 oed 10.1 9.6 9.3 9.3
Oed 50 i 64 oed 4.6 3.5 2.6 3.1
65 oed a hŷn 2.9 2.1 1.6 2.1
Cyfanswm 5.0 4.7 7.3 6.8

Yn ystod 2018 i 2019, derbyniwyd bod cyfanswm o 2,631 o aelwydydd yn gymwys, yn anfwriadol ddigartref ac ag angen blaenoriaethol, ac roedd dyletswydd i ddarparu llety iddynt (o dan Adran 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014). O blith y rhain roedd 294 o achosion (11% o’r holl asesiadau Adran 75) lle roedd aelod o’r aelwyd yn cael ei ystyried yn ‘agored i niwed’ oherwydd anabledd corfforol. Roedd 546 o achosion eraill (21% o’r holl asesiadau Adran 75) yn ymwneud ag aelod o’r aelwyd a oedd yn cael ei ystyried yn ‘agored i niwed’ oherwydd salwch meddwl, anabledd dysgu neu anawsterau dysgu cynnydd ar y 18% a gofnodwyd yn 2017 i 2018 a 2016 i 2017.

Roedd arolwg YouGov, wedi’i gomisiynu gan Habinteg Housing Association i nodi dechrau ei wythnos #ForAccessibleHomes flynyddol, wedi gofyn i sampl gynrychioladol genedlaethol o 4,237 oedolyn yn y DU am gynllun eu cartrefi a’u profiadau yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19. Roedd yr arolwg, a gynhaliwyd rhwng 25 a 26 Awst 2020, wedi canfod y canlynol:

  • Roedd pobl anabl dros 3 gwaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o gofnodi bod diffyg hygyrchedd eu cartref wedi andwyo eu llesiant yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • Roedd pobl anabl 17 gwaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o beidio â gallu cyflawni’r holl dasgau a gweithgareddau dydd i ddydd gartref heb gymorth yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • Roedd pobl anabl 23 gwaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o beidio â gallu defnyddio pob rhan o’u cegin heb gymorth yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • Roedd pobl anabl 22 gwaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o beidio â gallu defnyddio pob rhan o’u hystafell ymolchi heb gymorth yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • Dywedodd bron i chwarter yr ymatebwyr anabl (24%) nad oes ganddynt gartref sy’n diwallu eu hanghenion mynediad.

Mae Tai Pawb (2020), sy’n hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru, wedi adrodd gostyngiad yn nifer y ceisiadau am addasiadau o ganlyniad i ofnau ymysg tenantiaid am y risg o drosglwyddo COVID-19. Mae PPE llawn wedi bod yn ofynnol wrth ryngweithio â chleientiaid, sydd wedi gorfod cael ei gyfyngu cymaint â phosib (heblaw am waith brys). Codwyd pryderon ynglŷn ag argaeledd deunyddiau a’r drafferth roedd contractwyr yn ei chael yn cynnal cadwyn gyflenwi gynaliadwy. Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, rhagwelir y bydd y galw sydd wedi cronni yn arwain at ôl-groniad o waith fwy na thebyg. Mae angen canllawiau cenedlaethol i sicrhau bod ceisiadau gan bobl anabl yn cael blaenoriaeth briodol.

Codwyd pryderon y gallai pobl anabl sy’n berchen ar dai, yn enwedig y rhai sy’n hawlio budd-daliadau anabledd / salwch hirdymor, gael eu gorfodi i’r sector rhentu o ganlyniad i galedi ariannol mewn cysylltiad â’r pandemig. Mae perchnogaeth tai eisoes yn gyfyngedig i nifer o bobl anabl, ond yn enwedig i’r rhai sy’n cael budd-daliadau. Polisi Llywodraeth y DU yw darparu ar gyfer taliadau llog morgais ar ffurf benthyciad, sydd wedyn yn gorfod cael ei ad-dalu â llog Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais. O ran y bobl anabl hynny sydd wedi talu i addasu eu cartref, mae symud i eiddo rhent hefyd yn golygu colli addasiadau hollbwysig. Mae hyn yn golygu costau ychwanegol i bwrs y wlad ar gyfer y rhent sy’n daladwy a’r gwaith sydd angen ei wneud. Felly mae’n bwysig bod y grŵp hwn yn cael cymorth.

Gwaith a Chyflogaeth

Mae Erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod hawliau pobl anabl i weithio ac i elwa ar farchnad swyddi sy’n agored ac yn hygyrch iddynt (AC, 2020). Mae dadansoddiad a gynhaliwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn dangos, o blith y 1,392,000 o bobl sydd mewn cyflogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd (yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020), mae 14.5% wedi’u cofnodi fel bod yn anabl. Yng nghyd-destun amharodrwydd a gydnabyddir yn eang ar ran pobl anabl i rannu manylion am eu nam oherwydd eu bod yn ofn o wahaniaethu, mae’n bosibl bod y ffigur hwn yn amcangyfrif rhy isel.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020, 48.5% yw’r gyfradd cyflogaeth a gofnodwyd ymysg pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru. Y ffigur cyfatebol ymysg pobl nad ydynt yn anabl yw 80.6%. Mae hyn yn dangos lefel yr anfantais cyflogaeth yng Nghymru ac mae’n cyfateb i fwlch cyflogaeth anabledd o 32.1 pwynt canran, sydd ychydig yn is ymysg merched na dynion (28.9 pwynt canran o’i gymharu â 35.4 pwynt canran). Mae’r bwlch cyflogaeth anabledd wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae dadansoddiad yn dangos ei fod wedi lleihau i raddau mwy ymysg merched na dynion.

Patrymau Cyflogaeth

Yn ystod y pandemig daeth yn amlwg bod arwyddocâd i’r math o alwedigaeth neu ddiwydiant roedd rhywun yn gweithio ynddo dynodiad gweithiwr allweddol hanfodol, dod i gysylltiad â COVID-19 oherwydd galwedigaeth, dal swydd ansicr a hunangyflogaeth.

Gweithwyr hanfodol (allweddol)

Yng Nghymru, roedd dadansoddiad o’r grŵp hwn o’r dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig (ar sail galwedigaethau y gellid eu cyfateb yn uniongyrchol â’r rheini a restrir yng nghanllawiau) (2019) Llywodraeth Cymru, yn ôl statws anabledd (diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb), wedi canfod bod 15.4% o amcangyfrif o 491,000 o weithwyr hanfodol yn anabl, sy’n weddol debyg i gyfran y bobl anabl ym mhob cyflogaeth (15.0%).

Roedd cyfran y bobl anabl cyflogedig a oedd yn weithwyr hanfodol ychydig yn uwch na’r gyfran gyfatebol o bobl gyflogedig nad ydynt yn anabl 34.7% o’i gymharu â 33.6%.

Cyflogaeth mewn diwydiannau a oedd wedi gorfod cau

Mae dadansoddiad o’r diwydiannau a oedd wedi gorfod cau o 23 Mawrth 2020 ymlaen dros gyfnod cyntaf y cyfyngiadau COVID-19, a gynhyrchwyd ar gyfer yr adroddiad hwn (Rhagfyr 2020), yn awgrymu bod cyfran sylweddol o’r rheini roedd y cau wedi effeithio arnynt yn bobl anabl cyflogedig. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio rhestr wreiddiol Llywodraeth y DU o'r mathau o fusnesau a ddylai gan yn ystod yr argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r un rhestr.

Mae'r prif bwyntiau i Gymru wedi'u crynhoi isod

  • Roedd tua 230,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau yng Nghymru yn 2019 y dywedwyd wrthynt am gau ar ôl yr achosion cyntaf o COVID-19, sef tua 16% o gyfanswm y gweithlu. Mae gweithwyr yn y diwydiannau hynny yn fwy tebygol o fod yn ferched, yn ifanc ac o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
  • 36,400 (15.9%) o’r bobl a gyflogir mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau oherwydd COVID-19 a nodwyd fel pobl anabl. Mae hyn ychydig yn uwch na'r 15.0% o bawb sy'n gweithio.
  • Mae cyfran uwch o bobl anabl cyflogedig yn gweithio mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau (16.6% o’i gymharu â 14.7% o weithwyr nad ydynt yn anabl).

Hunangyflogaeth

Darparodd Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Llywodraeth y DU incwm i lawer o bobl a oedd yn gweithio yn y sectorau a oedd wedi gorfod cau, ac roedd y Cynllun Cymorth i'r Hunangyflogedig yn gwneud yr un fath ar gyfer y rheini a oedd yn hunangyflogedig cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu nad oedd llawer o bobl hunangyflogedig yn gallu diwallu’r meini prawf cymhwysedd i hawlio cymorth ariannol y Llywodraeth, naill ai oherwydd y cyfnod roeddent wedi bod yn hunangyflogedig; oherwydd eu bod yn cyfuno gwaith hunangyflogedig a TWE; oherwydd eu bod yn Gwmni Cyfyngedig; oherwydd eu bod ar absenoldeb mamolaeth; neu oherwydd incwm is na’r cyfartaledd yn ystod cyfnodau o salwch.  Mae’r Cynllun hefyd yn annheg oherwydd ei fod yn seiliedig ar gyfartaledd elw cyffredinol dros y tair blynedd diwethaf, nid incwm cyffredinol. Nid oedd unigolion hunangyflogedig gyda chostau uchel (cyfarpar, rhent swyddfa), ond elw isel yn gallu cynnal eu busnes na'u hincwm. Roedd y Cynllun Cymorth i'r Hunangyflogedig yn talu dim ond 80% o’r elw yn rownd un a 70% yn rownd dau, ond roedd cyflogwyr yn gallu ategu at gyflogau unigolion cyflogedig ar ffyrlo hyd at 100%.

Mae dadansoddiad o hunangyflogaeth yn ôl anabledd a ddaeth o’r Dadansoddiad ar Nodweddion Gwarchodedig (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019) ar gyfer yr adroddiad hwn, yn dangos bod 15.3% o bobl hunangyflogedig Cymru yn anabl, ond nid oedd 77.1% o’r bobl hunangyflogedig yn anabl (sylwch nad oedd 7.6% o’r bobl hunangyflogedig wedi datgan a oeddent yn anabl ai peidio).

O’r 32,200 o bobl hunangyflogedig anabl yng Nghymru, roedd 64% yn ddynion a 69% yn 45 oed a hŷn. Roedd y gyfran o bobl anabl mewn gwaith a oedd yn hunangyflogedig yn 14.7% – ychydig yn uwch na’r gyfran o bobl nad oeddent yn anabl mewn gwaith a oedd yn hunangyflogedig (13.5%).

Cyflogaeth mewn galwedigaethau sy'n wynebu risg uwch o COVID-19

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n rhoi dadansoddiad o farwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn ôl galwedigaeth. Mae’r dadansoddiad a gynhaliwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai grwpiau galwedigaethau penodol y gellid ystyried eu bod yn wynebu risg uwch o ran COVID-19 neu'r grwpiau hynny yr oeddent wedi canfod, yn eu dadansoddiad i Gymru a Lloegr, fod ganddynt gyfraddau marwolaethau uwch mewn cysylltiad â COVID-19 o'u cymharu â phobl o'r un oedran yn y boblogaeth gyffredinol.

Roedd adroddiad gan y JRF (Medi 2020) yn edrych ar bwy sy’n wynebu’r risg fwyaf o golli eu swydd, ar sail Mynegai Risg Swyddi Cyn Brechlyn COVID-19 sy’n ystyried pa mor anodd yw hi i rywun wneud ei waith wrth gadw pellter cymdeithasol. Roedd unigolion ag ‘anableddau sy’n cyfyngu ar waith’ fel y’u gelwir yn wynebu risg uwch o ran swyddi, gyda 4 pwynt canradd yn fwy tebygol o fod mewn swydd risg uchel/uchel iawn na phobl nad ydynt yn anabl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal a chyhoeddi dadansoddiad ychwanegol o bobl sy’n cael eu cyflogi mewn galwedigaethau risg uchel yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Tabl 2: Statws Anabledd y rhai sy’n cael eu cyflogi mewn galwedigaethau sydd â’r potensial mwyaf i ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (COVID-19), 2019

Statws Anabledd (Diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb) Galwedigaethau Risg Uchel Galwedigaethau Risg Uchaf Pob Galwedigaeth

Y gyfran o bob galwedigaeth: Galwedigaethau Risg Uchel

Y gyfran o bob galwedigaeth: Galwedigaethau Risg Uchaf

Y gyfran o bawb sy’n gyflogedig: Galwedigaethau Risg Uchel Y gyfran o bawb sy’n gyflogedig: Galwedigaethau Risg Uchaf Y gyfran o bawb sy’n gyflogedig: Pob Galwedigaeth

Anabl

72,700 9,100 218,700 33.2% 4.2% 16.2% 16.6% 15.0%

Ddim yn Anabl

367,700 44,800 1,200,100 30.6% 3.7% 81.8% 81.7% 82.1%

Amherthnasol  dim ateb

9,000 900 43,300 20.8% 2.1% 2.0% 1.7% 3.0%

Pawb sy’n gyflogedig

449,400 54,900 1,462,000 30.7% 3.8% 100% 100% 100%

Nodiadau. Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth 

Pobl sy’n gyflogedig, 16 oed ac yn hŷn

Mae dadansoddiad o’r data hyn ar gyfer yr adroddiad hwn yn dangos:

  • Roedd 33.2% o bobl anabl gyflogedig yng Nghymru mewn galwedigaethau risg uchel ac roedd 4.2% yn y galwedigaethau risg uchaf. Mae hyn yn cymharu â 30.7% a 3.7% o bobl gyflogedig nad ydynt yn anabl, yn y drefn honno. Canfu hefyd fod 16.6% o’r bobl a gyflogwyd yn y galwedigaethau risg uchaf yn anabl (o’i gymharu â 15.0% o’r bobl a gyflogir ym mhob galwedigaeth).
  • O ran rhyw, roedd 39.7% o ferched cyflogedig yng Nghymru yn gweithio mewn galwedigaethau risg uchel, gyda 5.3% yn cael eu cyflogi yn y galwedigaethau risg uchaf. Mae hyn yn cymharu â 30.7% a 3.7% o ddynion cyflogedig yn y drefn honno.
  • Roedd cyfran y merched a oedd yn gyflogedig mewn galwedigaethau risg uchel ac a oedd yn anabl a’r rhai nad oedd yn anabl yn debyg (41.0% a 39.8% yn y drefn honno) ond yn sylweddol uwch na’r cyfrannau o ddynion anabl a rhai nad oedd yn anabl (23.6% a 22.9% yn y drefn honno).

Mae TUC Cymru yn dadlau 'Dydyn ni gyd ddim yn yr un cwch', oherwydd mae gweithwyr sy’n cael cyflog isel, merched, gweithwyr Du ac Asiaidd, pobl anabl, a’r rheini sy’n byw mewn tlodi, wedi cael profiadau gwahanol iawn yn ystod y pandemig. Mae’r data uchod yn atgyfnerthu’r farn hon. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith y bu cynnydd sylweddol mewn swyddi ansicr ers argyfwng economaidd 2008. 

Mewn canfu adroddiad gan Ymchwil Llafur (2020), sonir am arolwg o aelodau UNSAIN a gynhaliwyd yn ystod y pandemig ble roedd 17% o’r aelodau anabl du a ddylai fod wedi bod yn gwarchod gartref wedi cael eu gorfodi i fynd i’r gwaith.

Roedd prif ganfyddiadau gan Leonard Cheshire (Hydref 2020) ar sail dadansoddiad o 1,171 o ymatebion gan oedolion anabl oed gweithio, wedi canfod ymysg pobl anabl mewn cyflogaeth yn y DU ym mis Mawrth 2020:

  • Mae’r pandemig wedi effeithio ar waith 71% (69% yng Nghymru)
  • Mae 24% (25% yng Nghymru) yn gweithio llai o oriau ers hynny
  • Mae 20% (25% yng Nghymru) wedi colli incwm ers hynny
  • Mae 11% (15% yng Nghymru) wedi teimlo eu bod mewn perygl o golli eu swydd
  • Mae 57% (64% yng Nghymru) wedi teimlo mwy o bryder nag arfer oherwydd pryderon bod eu swydd yn y fantol
  • Mae 40% (39% yng Nghymru) yn teimlo eu bod mewn mwy o berygl o golli eu swydd oherwydd bod cyflogwyr yn eu beirniadu am eu bod yn anabl.

Mesurau gweithle a gyflwynwyd i liniaru effeithiau COVID

Canfu Leonard Cheshire (2020) fod 74% o’r bobl anabl a gymerodd ran yn yr arolwg ac a roddwyd ar ffyrlo yn credu bod cynllun y Llywodraeth wedi helpu i ddiogelu eu swydd. Fodd bynnag, o’r holl bobl anabl a roddwyd ar ffyrlo yn y DU ac a ymatebodd, mae 26% wedi methu dychwelyd i’r gwaith. Mae TUC Cymru (2020) wedi cofnodi enghreifftiau o gyflogwyr yn gwrthod rhoi pobl anabl sy’n teimlo eu bod mewn perygl o COVID-19 ar ffyrlo: a'u gorfodi i hawlio Tâl Salwch Statudol yn lle hynny.

Mae erthygl yn Personnel Today yn son am ymchwil gan Scope (2020) ble y dywedir bod 22% o weithwyr anabl wedi wynebu gorfod dewis rhwng mynd i’w gweithle a gadael eu swydd. Mae wedi galw am roi hawl awtomatig i’r rheini yn y categori ‘eithriadol o agored i niwed’ yn glinigol gael eu rhoi ar ffyrlo. Gwrthodwyd cais 18% o’r ymatebwyr i weithio gartref, ac ni chafodd 11% eu rhoi ar ffyrlo pan roeddent wedi gofyn am hynny. Cafodd 11% arall wybod na fyddent yn cael eu symud i rôl arall. Dywedodd 55% eu bod yn teimlo bod pobl anabl wedi cael eu hanghofio yng nghyhoeddiadau diweddar y llywodraeth ynghylch adferiad economaidd.

Mae diogelwch gweithleoedd yn ystod y pandemig yn cael ei gwestiynu gan dystiolaeth o arolwg o 2,133 o weithwyr yng Nghymru a Lloegr a gynhaliwyd ar ran y TUC gan BritainThinks, rhwng 31 Gorffennaf a 5 Awst 2020. Canfu fod llai na hanner y gweithwyr (46%) yn meddwl bod eu gweithleoedd wedi cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol diogel. Dim ond 42% ddywedodd eu bod wedi cael cyfarpar diogelu personol digonol a dywedodd 32% eu bod yn poeni am roi pobl eraill yn eu cartref mewn mwy o berygl. Yn bryderus, dywedodd dim ond 38% o’r rhai a arolygwyd eu bod yn gwybod a oedd eu cyflogwyr wedi cynnal asesiad risg Covid, er bod gwneud hynny a’i rannu â staff yn ofyniad cyfreithiol. Roedd arolwg gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020, wedi canfod nad oedd 21% o gyflogeion sy’n mynd i weithleoedd yn fodlon ar fesurau iechyd a diogelwch y cyflogwr.

Canfuwyd bod yr effaith fwyaf ar y rheini ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr ac mae’r adroddiad hwn yn dangos bod hyn yn cynnwys nifer fawr o bobl anabl. Dywedodd 1 o bob 4 (27%) o weithwyr ar incwm isel y rheini sy’n ennill llai na £15,000 y flwyddyn, nad oedd unrhyw gamau wedi cael eu cymryd gan gyflogwyr i leihau’r risg o heintiau’r coronafeirws, a dywedodd dros ddwy ran o dair (38%) ar gontractau ansicr nad oedd dim camau wedi cael eu cymryd i atal trosglwyddo yn y gwaith (TUC, 2020).

Effaith COVID-19 ar uchelgais pobl anabl o ran gyrfa i’r dyfodol

Mae tystiolaeth sy’n awgrymu bod y pandemig wedi tanseilio hyder pobl anabl, yn enwedig pobl ifanc. Dywed Leonard Cheshire fod 42% o bobl anabl oedran gweithio wedi gweld effaith negyddol ar eu dyheadau ar gyfer eu gyrfa i’r dyfodol (44% o bobl ifanc 18 i 24 oed). O ran y potensial i ennill cyflog yn y dyfodol: Roedd 48% yn credu bod y pandemig wedi cael effaith negyddol (i bobl 18 i 24 oed, roedd hyn yn codi i 54%). O ran y gallu i weithio, dywedodd 45% fod yr effaith yn negyddol, gan gynnwys un o bob saith a ddywedodd fod yr effaith wedi bod yn negyddol iawn (14%). I bobl ifanc anabl, mae hyn yn codi i 71%.

Ofnau am agweddau cyflogwyr at bobl anabl ar ôl y pandemig

Roedd 20% o gyflogwyr yn y DU a ymatebodd i ymchwil gan Leonard Cheshire (2020) yn llai tebygol o gyflogi person anabl, gyda 39% yn dweud mai gwaith corfforol, gwaith llaw neu waith anodd oedd i gyfrif am hyn. O’r rheini sy’n llai tebygol o gyflogi person anabl, dywedodd 22% y byddai hyn yn dibynnu ar y ‘math o anabledd’ neu ei ‘ddifrifoldeb’. Roedd prif bryderon cyflogwyr yn cynnwys:

  • 56% ymarferoldeb gwneud addasiadau i'r gweithle
  • 54% cost gwneud addasiadau i’r gweithle
  • 38% sicrhau bod y broses ymgeisio ar gael i bobl â phob anabledd.

Rhagolygon gwaith yn y dyfodol

Tynnwyd sylw at effaith bosibl dirwasgiad, mwy o gystadleuaeth am waith a gwahaniaethu ar ragolygon cyflogaeth pobl anabl (FTWW 2020; Disability@Work, 2020). Codwyd ofnau hefyd y gallai cyflogwyr fod yn llai parod i gyflogi pobl anabl oherwydd cynnydd mewn rhagfarn ddiarwybod yn ystod cyfnodau o straen ac ansicrwydd difrifol (Y Gwasanaeth Sifil, 2020) neu oherwydd gallai cyflogwyr fod yn fwy amharod i gymryd risgiau wrth i’r economi wella.

Mae problem ers tro byd nad yw diwylliannau gweithleoedd yn deall pobl anabl, a amlygwyd gan arolwg gan y BBC YouGov o dros 1,000 o oedolion anabl (Ibbeston, 2020). Mae’n datgan bod bron i chwarter yr ymatebwyr (roedd hyn yn codi i 37% ymysg y rheini sydd â nam dysgu, nam cymdeithasol neu nam ar y cof) yn credu bod hyn yn rhwystr parhaus, gyda 17% wedi gweld gwahaniaethu gweithredol yn erbyn ymgeiswyr anabl.

Mae adroddiad gan Cyngor ar Bopeth ar sail arolwg ar-lein o 6,015 o oedolion rhwng 29 Mehefin ac 8 Gorffennaf 2020, yn awgrymu bod 1 person anabl o bob 4 (27%) yn wynebu cael ei ddiswyddo. Mae hyn yn codi i 37% ar gyfer y bobl hynny y mae eu nam yn cael effaith sylweddol ar eu gweithgareddau. (Cafodd data arolwg Opinium ei bwysoli i gynrychioli’r DU). Roedd y galw am wefannau cyngor gwahaniaethu Cyngor ar Bopeth hefyd bedair gwaith yn uwch dros y cyfnod hwn.

Nid oedd 54% o’r holl oedolion anabl a gyflogwyd cyn y pandemig yn astudiaeth Leonard Cheshire yn hyderus y gallent gael swydd newydd pe baent yn ddi-waith. Roedd hyn yn codi i 68% ymysg y rheini 55 i 65 oed.  Ar ben hynny, nid oedd 50% o’r holl oedolion anabl a gyflogwyd cyn y pandemig yn hyderus ynghylch gallu ail-hyfforddi pe baent yn ddi-waith, gan godi i 62% ar gyfer pobl 55 i 65 oed.

Gweithio gartref a gweithio hyblyg yn ystod y pandemig

Mewn arolwg o dros 1,000 o bobl anabl (Ibbeson, 2020) dywedodd 33% o’r ymatebwyr fod dod o hyd i weithle sy’n addas i’w hanghenion yn rhwystr i gyflogaeth, gyda bron i gynifer (30%) yn dweud bod diffyg opsiynau ar gyfer gweithio gartref yn arbennig o drafferthus.

Mae Leonard Cheshire (2020) yn adrodd bod 43% o bobl anabl a gyflogwyd cyn y pandemig wedi cyfeirio at fanteision gallu gweithio’n fwy hyblyg yn ystod y pandemig. Dywedodd 47% o gyflogwyr hefyd eu bod yn bwriadu cynnig gweithio gartref yn y dyfodol a 42% yn bwriadu cynnig oriau gweithio hyblyg. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus wrth drafod gweithio gartref a gwaith hyblyg, oherwydd nid yw’n anochel bod cydberthynas rhwng y ddau (Foster a Hirst, 2020b).

Canfu arolwg ar-lein ledled y DU gan yr undeb llafur UNSAIN o 4,455 o’i aelodau anabl a oedd yn gweithio, rhwng 5 a 21 Mehefin 2020, fod hanner wedi gweithio gartref yn ystod argyfwng COVID-19 o’i gymharu â 5% cyn iddo ddechrau. Roedd 73% yn teimlo eu bod yn fwy cynhyrchiol, neu’r un mor gynhyrchiol wrth weithio gartref, o’i gymharu â’u man gwaith cyn y cyfyngiadau symud. Credai 54% y byddent yn elwa ar weithio gartref yn y dyfodol, ond roedd 37% yn credu nad oedd eu cyflogwr yn debygol o gynnig hyn.

Roedd ymchwil a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd a Chymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr a gynhaliwyd yn ystod y pandemig ymysg gweithwyr cyfreithiol proffesiynol anabl, wedi canfod bod gweithio gartref wedi cynyddu cynhyrchiant a hygyrchedd i lawer (Foster a Hirst, 2020b). Cynhaliwyd yr arolwg o 108 o ymatebwyr rhwng 23 Gorffennaf a 16 Awst. Yn ôl ymchwil blaenorol, roedd galw mawr wedi bod am weithio gartref ond gwrthodwyd gwneud addasiadau rhesymol yn y proffesiwn cyn y pandemig (Foster a Hirst, 2020a). Roedd manteision gweithio gartref yn cynnwys gallu rheoli effeithiau’r nam yn well, fel poen a blinder, cael gwared ar y teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, mwy o fynediad a chyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant, digwyddiadau datblygu staff, rhwydweithio a chyfarfodydd ar-lein. Yn yr un modd ag arolwg UNSAIN, dywedodd dros 70% o’r gweithwyr cyfreithiol proffesiynol anabl y byddai’n well ganddynt weithio o bell yn yr hirdymor. Fodd bynnag, roeddent hefyd eisiau dewis o ran lleoliad eu gwaith.

Nid oedd gan bob person anabl fynediad at weithio gartref yn ystod y pandemig ac ni ddylid ystyried gweithio gartref fel un ateb technolegol sy’n addas i bob unigolyn anabl (Foster a Hirst 2020b; Labour Research 2020; SCOPE, 2020). Mae galwedigaeth, sefyllfa economaidd-gymdeithasol, tai, amgylchiadau personol, lleoliad, incwm, mynediad i’r rhyngrwyd, sgiliau, cyfrifoldebau gofalu, nam, argaeledd addasiadau a chymorth gan gyflogwyr i gyd wedi bod yn ffactorau pwysig wrth benderfynu pa mor briodol neu lwyddiannus fydd hyn.

Mae erthygl yn ‘Personnel Today’ yn sôn am arolwg gan SCOPE a ganfu fod oedran a lleoliad yn ffactorau pan wrthodwyd ceisiadau pobl anabl am ffyrlo neu weithio gartref yn ystod y pandemig. Gwrthodwyd cais un rhan o dair o weithwyr anabl rhwng 18 a 34 oed i weithio gartref, a gwrthodwyd adleoli 20% ohonynt a gwrthodwyd ffyrlo i 15% ohonynt. Gweithwyr anabl yn Llundain oedd fwyaf tebygol o gael eu cais wedi’i wrthod; nid oedd bron i draean yn gallu gweithio gartref, a gwrthodwyd ffyrlo i 21%. 

Addasiadau rhesymol a gwasanaethau Mynediad i Waith

Mae tystiolaeth sy’n awgrymu bod rhai gweithwyr anabl, ond nid pob un, wedi ei chael hi’n anodd sicrhau addasiadau rhesymol priodol gan gyflogwyr a chymorth gan Fynediad i Waith i hwyluso gweithio gartref yn ystod y pandemig (Foster a Hirst, 2020; UNSAIN 2020; Labour Research, Tachwedd 2020; ASLI UK, 2020). Roedd mynediad cyfyngedig i gartrefi pobl yn ffactor mawr a gyfrannodd at hyn.

O’r 1,000 o bobl anabl cyflogedig y gofynnwyd iddynt a oeddent wedi gofyn am addasiadau rhesymol gan eu cyflogwr yn ystod y pandemig (Ibeston, 2020), roedd 53% heb wneud hynny, roedd 45% wedi gwneud hynny. Roedd dynion anabl (39%) yn llai tebygol na merched anabl o fod wedi gofyn am addasiadau (50%). Ymysg y rheini a ddywedodd fod eu nam yn ‘cyfyngu llawer arnynt’, roedd 58% wedi gofyn am addasiadau, ac roedd 38% heb wneud hynny. Roedd y mwyafrif helaeth o’r rheini a ofynnodd am addasiadau rhesymol wedi dweud bod naill ai’r cyfan (60%) neu rai (33%) o’r newidiadau y gofynnwyd amdanynt wedi cael eu gwneud. Dywedodd 65% o ferched fod eu holl geisiadau am addasiadau rhesymol wedi cael eu cyflawni, ond dim ond 50% o ddynion. Roedd dynion yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael eu bodloni’n rhannol (44% o’i gymharu â 27% ar gyfer merched). Daeth yr ymchwil i’r casgliad bod cymorth gan gyflogwyr yn ystod y pandemig yn fwy tebygol o fod wedi cynyddu na lleihau.

Mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch gweithrediad cynllun Mynediad i Waith y Llywodraeth. Mae grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl wedi gofyn droeon i’r Adran Gwaith a Phensiynau dderbyn llofnodion digidol ar ffurflenni Mynediad i Waith oherwydd oedi mewn taliadau.   Caiff effaith hyn ei hamlygu gan fudiadau sy’n cynrychioli pobl Fyddar sy’n cael eu cyflogi fel dehonglwyr (ASLI UK 2020). Maent yn ofni y bydd hyn yn arwain at golli sgiliau a phrinder posibl, oherwydd y bu’n rhaid i’r dehonglwyr chwilio am waith arall. Mae’r goblygiadau hirdymor ar weithwyr Byddar fel grŵp yn un enghraifft o pam mae angen rhagor o ymchwil ar sut mae’r pandemig wedi effeithio ar fynediad hirdymor at wasanaethau i bobl anabl.

Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi mynegi pryder y bydd y caledi ariannol a achosir gan y pandemig yn arwain at ostyngiad mewn cyflogaeth a gweithgareddau yn y sectoR gan leihau llais y sector a’i allu i weithio gyda chymunedau ar y cyrion (CGGC, 2020).

Argymhellion

Mae pobl anabl yng Nghymru yn fwy tebygol o brofi tlodi incwm cymharol a byw mewn ardaloedd mwy economaidd ddifreintiedig na phobl nad ydynt yn anabl. Yn genedlaethol, mae pobl anabl wedi bod ar ei hôl hi’n anghymesur gyda biliau’r cartref yn ystod y pandemig, oherwydd eu safle yn y farchnad lafur a’r costau uwch sy’n gysylltiedig â bod yn anabl. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi pobl anabl a lobïo San Steffan i sicrhau bod y cynnydd presennol mewn credyd cynhwysol yn parhau. Ar ben hynny, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael cyngor cyfreithiol ynghylch a yw gwrthod rhoi’r un cynnydd i bobl anabl sy’n derbyn hen fudd-daliadau (gan gynnwys y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’r Taliad Annibyniaeth Personol) yn golygu bod hynny’n eu rhoi dan anfantais sylweddol ac felly bod hynny’n wahaniaethu anuniongyrchol. Os yw hyn yn wir a bod yr hen fudd-daliadau’n cael yr un statws â chredyd cynhwysol, rydym yn credu y dylid eu hôl-ddyddio hefyd.

Roedd Llywodraeth Cymru yn gyflymach na Lloegr o ran darparu rhai budd-daliadau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd y pandemig hefyd yn amlygu terfynau datganoli yng Nghymru, gyda Llywodraethau datganoledig eraill yn gallu amrywio’r cymhwysedd i gael budd-daliadau. Rydym yn argymell casglu rhagor o ddata a data gwell am y berthynas rhwng budd-daliadau’r wladwriaeth ac anfanteision economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.  Credwn ei bod yn hanfodol bod gan Gymru fwy o ymreolaeth dros y maes hwn o wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, yn y tymor byr, rydym yn argymell sefydlu ‘Uned Anghysondeb Anabledd’ sy’n debyg i’r hyn a gynigiwyd yn yr Adroddiad Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (Mehefin 2020).

Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw Cynllun Cymorth Hunanynysu Llywodraeth y DU yn gweithio ac mae angen adolygiad brys o’r darpariaethau presennol ar gyfer tâl salwch er mwyn galluogi gweithwyr i hunanynysu. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn lobïo dros ddiwygio’r ddau fudd-dal ac yn cefnogi galwad y TUC ym mis Ionawr 2021, i ymestyn tâl salwch i bob gweithiwr a chynyddu tâl salwch i’r cyflog byw gwirioneddol: (£9.50 yr awr neu £10.85 yn Llundain).

Mae’r adroddiad hwn wedi tynnu sylw at brinder sylweddol o dai hygyrch a phriodol sydd ar gael i bobl anabl yng Nghymru, sydd yn y sector rhentu gan fwyaf ar hyn o bryd. Mae taer angen rhagor o ganllawiau ar gyfer Cymru gyfan ar beth yw gwaith tai ‘blaenoriaeth’ er mwyn i ofynion pobl anabl gael sylw strategol ac er mwyn i Gymru sefydlu safonau hygyrchedd ar gyfer tai cymdeithasol gyda Mudiadau Pobl Anabl. Mae angen sefydlu mecanweithiau i sicrhau bod awdurdodau lleol a datblygwyr eiddo yn cydymffurfio â’r safonau hyn.

Mae mynediad at berchnogaeth tai wedi’i gyfyngu i leiafrif bach o bobl anabl yng Nghymru. Yn y tymor byr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn targedu cymorth ariannol penodol ar gyfer y lleiafrif hwn. Yn yr hirdymor, cynnal rhagor o ymchwil a dadansoddiad o’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag bod yn berchen ar gartref a’r rheini sy’n derbyn budd-daliadau sy’n ymwneud ag anabledd cyflyrau iechyd hirdymor, gan gynnwys edrych ar fesurau posibl i leddfu polisi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae pobl anabl yng Nghymru wedi wynebu materion o ran sicrwydd, ansawdd a phriodoldeb tai, ac mae perthynas rhwng y rhain â chanlyniadau iechyd gwael (Marmot, 2020). Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel y gwnaeth y grŵp cynghori COVID-19 Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, i gomisiynu rhagor o ymchwil i rôl sylweddol tai yn ystod y pandemig. Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae tai nid yn unig yn effeithio ar iechyd (gan gynnwys iechyd meddwl), ond sut mae wedi dod yn gynyddol arwyddocaol o ran dylanwadu ar gyflogaeth, llesiant, fel arwydd o dlodi a’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â cham-drin domestig.

Rydym yn croesawu cyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021.  Gwrthodwyd y Ddyletswydd hon yn Lloegr ond rhaid iddi fod yn rhan allweddol o ymrwymiad Cymru i ‘ailgodi’n gryfach’ ac yn decach. Bydd y Ddyletswydd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus cymwys a’u “penderfyniadau strategol” ac mae’n bwysig bod grwpiau anabl amrywiol yng Nghymru yn ganolog i osod amcanion yn y cam cynllunio. Rhaid i Asesiadau o’r Effaith Economaidd-gymdeithasol fynd y tu hwnt i ymarferion ticio blychau (beirniadaeth o Asesiadau eraill o’r Effaith ar Gydraddoldeb). Dylid ystyried bod pob Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ddogfen ‘fyw’ a pharhaus, a dylai grwpiau / rhanddeiliaid perthnasol graffu arnynt yn barhaus, a rhaid iddynt fod yn rhan weithredol o’r gwaith o fonitro eu canlyniadau.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau clir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar yr arferion gorau, gan gynnwys cydgynhyrchu ystyrlon. Mae hefyd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mecanweithiau lleol a Chymru gyfan ar waith i alluogi dinasyddion i herio asesiadau o’r effaith a phenderfyniadau, yn unol â Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Yn y flwyddyn i mis Medi 2020 roedd gan Gymru fwlch cyflogaeth anabledd o 32.1 pwynt canradd ac yn ystod y pandemig roedd pobl anabl yn cael eu cynrychioli mewn galwedigaethau a diwydiannau yr oedd yr argyfwng wedi effeithio arnynt fwyaf. Rhagwelir hefyd y bydd pobl anabl mewn mwy o berygl o golli eu swyddi ar ôl y pandemig.  Rydym yn argymell y dylai lansio Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl newydd Busnes Cymru gyd-daro â datblygu strategaeth gyflogaeth newydd ar gyfer pobl anabl. Mae angen i hyn adeiladu ar ganfyddiadau’r adroddiad hwn a gallu addasu ac ymateb yn gadarnhaol i’r heriau sydd wedi deillio o COVID-19. Mae angen sefydlu meincnodau newydd ar gyfer arferion cyflogaeth da i gyflogwyr yng Nghymru er mwyn addasu i’r farchnad lafur ar ôl Covid.  Mae’n debyg mai un her fydd mwy o alw am addasiadau rhesymol yn y gweithle o ystyried effaith COVID-19 ar iechyd a lles corfforol a meddyliol hirdymor.

Mae adroddiadau’n dal i ddod i’r fei bod rhai gweithwyr wedi teimlo ei bod yn rhaid iddynt barhau i weithio mewn amgylcheddau anniogel.  Mae hyn yn rhoi bywydau pob gweithiwr mewn perygl, ond mae’n effeithio’n benodol ar bobl anabl a’r rheini sy’n byw mewn cartrefi sy’n cynnwys pobl anabl. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar unwaith gydag undebau llafur a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yng Nghymru i orfodi cosbau ystyrlon pan fydd asesiadau risg yn annigonol, neu pan fydd y gyfraith yn cael ei thorri.  Rydym hefyd yn argymell sefydlu gweithdrefn adrodd ‘chwythu’r chwiban’ gyfrinachol yn y gweithle, er mwyn i weithwyr unigol allu rhoi gwybod am bryderon am risgiau i’w hiechyd a’u diogelwch, neu risgiau i eraill (cleientiaid, teulu ac ati). Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog ar asesiadau risg yn y gweithle a chredwn y bydd ein hargymhellion yn ategu’r rhain.

Mae llawer o bobl anabl mewn gwaith sy’n ansicr hunangyflogedig, llawrydd neu’n gweithio yn yr economi ‘gig’. Ni ddylid gorfodi unig fasnachwyr i gofrestru fel Cwmnïau Cyfyngedig i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus, ac ni ddylai’r rheini sy’n dibynnu ar un cyflogwr ar Dalu Wrth Ennill fel ‘gweithwyr llawrydd ffug’ golli mynediad at hawliau cyflogaeth os byddant yn colli gwaith yn sydyn neu’n mynd yn sâl. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd y gall gefnogi’r siarter llawrydd i wella hawliau a gwarchodaeth i bobl hunangyflogedig. 

Gellir dadlau bod yr achos busnes dros weithio gartref wedi’i ennill yn ystod y pandemig ac mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi’n asesu goblygiadau cynigion Llywodraeth Cymru i gefnogi newid hirdymor i gynyddu gweithio o bell 30%. Ac ystyried manteision gweithio gartref i lawer o bobl anabl (ond nid pob un) rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Mudiadau Pobl Anabl ar yr amcan hwn ac yn sicrhau newid yn y gyfraith, i sicrhau bod gweithio gartref yn addasiad rhesymol sy’n cael ei gydnabod yn gyfreithiol ar gyfer gweithwyr anabl, gan gynnwys gwrthdroi’r baich profi, a fyddai’n golygu ei bod yn rhaid i gyflogwyr ddangos amgylchiadau lle na fyddai gweithio gartref yn rhesymol.

Yn y tymor byr, mae'n hanfodol nad yw manteision hygyrchedd gweithio gartref i bobl anabl yn cael eu gwyrdroi pan fydd mannau gwaith ffisegol ar gael.  Felly, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Mynediad i Waith gyhoeddi canllawiau ar y cyd i gyflogwyr ynghylch ‘rhesymoldeb’ gweithio gartref fel addasiad hirdymor.  Dylid defnyddio’r taflenni ffeithiau a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Busnes Cymru ac a gynhyrchwyd gan Anabledd Cymru, sy’n cynnwys manylion ynghylch sut gall cyflogwyr roi cymorth priodol i bobl anabl sy’n gweithio gartref.  

Mae angen cyngor ar unwaith ar gyflogwyr ynghylch ffyrlo, dileu swyddi a budd-daliadau salwch pan fydd hyn yn berthnasol i weithwyr anabl. Mae angen cefnogi Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i chwarae rôl fwy rhagweithiol o ran sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru yn deall ac yn cydymffurfio’n llawn â chyfraith gwahaniaethu (Deddf Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2010) a darpariaethau gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail anabledd, methu gwneud addasiadau rhesymol a gwahaniaethu ar sail anabledd drwy gysylltiad.  Mae hi’n bwysig bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhoi i gyflogwyr cyn diwedd Cynllun Ffyrlo’r Llywodraeth, gan fod disgwyl y bydd mwy o swyddi’n cael eu dileu ar yr adeg hon.

Rhagwelir ôl-groniad sylweddol o hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth, ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, yn aml nid yw mynediad at gyfiawnder ffurfiol ar gael i lawer o weithwyr anabl, sydd fel arfer angen atebion cyflym i anghydfodau ynghylch addasiadau rhesymol, er mwyn aros yn y gwaith. Mae llawer o bobl anabl mewn swyddi ansicr ac sydd â thâl isel ac yn methu neu’n anfodlon mynd i’r llys oherwydd diffyg adnoddau neu’r effaith ar eu hiechyd/nam sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn awgrymu bod lefelau’r gwahaniaethu ar sail anabledd a gofnodwyd yn amcangyfrif rhy isel a bod y llwybrau cyfiawnder ffurfiol yn annigonol. Mae achosion anhysbys o gyflogwyr yn defnyddio cytundebau cyfrinachedd neu gymalau ‘cau ceg’, sydd fel rheol yn arwain at derfynu cyflogaeth, yn ychwanegu at yr ansicrwydd hwn.

Rydym yn argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio traddodiadau presennol partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, yn cynnal rhagor o ymchwil ac yn buddsoddi mewn datblygu systemau newydd o ddulliau amgen o ddatrys anghydfod ar gyfer gweithwyr anabl. Mae tystiolaeth yn dangos ei bod hi’n hanfodol bod mwy o bobl anabl yn cael eu cadw mewn cyflogaeth bresennol.  Gellir gwneud hyn yn aml drwy addysgu cyflogwyr a datrys anghydfodau yn y gweithle cyn iddynt droi’n ymgyfreitha costus sy’n cymryd llawer o amser. Byddai strategaeth o’r fath hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch swyddi i bobl anabl yng Nghymru. Dylid defnyddio rhwydwaith TUC Cymru o Gynrychiolwyr Cydraddoldeb yn y Gweithle i gefnogi’r cynnig hwn, ond er mwyn bod yn effeithiol, mae hi’n hanfodol bod hyfforddiant ac amser cyfleuster priodol yn cael eu rhoi i gefnogi’r rôl bwysig hon.

Mae pobl anabl ofn dychwelyd i’r farchnad lafur yn aml oherwydd diffyg hyder ac ofnau y byddant yn colli mynediad hollbwysig at fudd-daliadau. Mae absenoldebau corfforol hir o’r gweithle hefyd yn gallu bod yn broblem ffactor sy’n debyg o fod yn berthnasol i gyfran fwy o lawer o’r boblogaeth waith gyffredinol. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu ‘tasglu dychwelyd i’r gwaith’ amserol, er mwyn gweithio gyda Mudiadau Pobl Anabl, goroeswyr ‘Covid hir’ a rhanddeiliaid iechyd a chyflogwyr perthnasol eraill. Yn aml, mae angen cymysgedd o gymorth ariannol, emosiynol, seicolegol, cyfreithiol ac ymarferol i hwyluso adferiad llwyddiannus i’r gwaith. Mae angen i wahanol asiantaethau ddod at ei gilydd i ddatblygu strategaeth o’r fath. (‘Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl’ newydd Llywodraeth Cymru, gwasanaethau therapi ac iechyd galwedigaethol a Mynediad i Waith). Rydym hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil sy’n archwilio profiadau gwledydd eraill, lle mae gwasanaethau therapi iechyd galwedigaethol yn cael eu darparu gan fwyaf mewn gwasanaethau iechyd a chymunedol, yn hytrach na’n system bresennol ni sy’n dibynnu gormod ar ddarpariaeth iechyd galwedigaethol anghyson sy’n canolbwyntio ar y cyflogwr.

Mae academyddion wedi awgrymu camau eraill y gall cyflogwyr a’r llywodraeth eu cymryd i leihau effaith negyddol y pandemig ar bobl anabl yn y farchnad lafur.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • mwy o fesur ac adrodd ar gyfran y gweithlu sy’n anabl a’r effaith arnynt o ganlyniad i newidiadau a wnaed i arferion gweithio mewn ymateb i’r dirwasgiad
  • cadw a chefnogi gweithwyr sydd fwyaf “agored i niwed yn glinigol”
  • darparu cymorth ychwanegol ar gyfer y nifer sylweddol o bobl anabl hunangyflogedig
  • cyflwyno adroddiadau gorfodol ar y bwlch cyflog oherwydd anabledd i gyflogwyr mawr
  • hyrwyddo a chyllido Mynediad i Waith yn well
  • blaenoriaethu canlyniadau cyflogaeth pobl anabl; (Disability@Work, 2020).

Ar ôl y pandemig, mae’n bwysig bod anghenion sgiliau a hyfforddi pobl anabl yn cael eu diwallu’n briodol. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn neilltuo adnoddau ar gyfer Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ac yn sicrhau bod lleoedd a gedwir ar gyfer pobl anabl ar gael ar raglen ReAct, cynlluniau mentora a rhaglenni sgiliau a hyfforddiant proffesiynol eraill. Wrth wneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer cynlluniau o’r fath, rydym yn argymell cynnwys meini prawf hanfodol sy’n dangos sut bydd cynlluniau sy’n cael eu hariannu gan arian cyhoeddus yn gwbl hygyrch i bobl anabl.

Yn y sector gwirfoddol, lle mae cyflogaeth yn ansicr ond mae cefnogaeth yn y gymuned wedi bod yn hanfodol yn ystod y pandemig ac mae hi’n hanfodol bod hynny’n parhau ar gyfer yr adferiad, gofynnir i Lywodraeth Cymru ganiatáu i fudiadau gario cyllid ar draws blynyddoedd ariannol a darparu model ariannu a fydd yn hybu dilyniant o ran staffio a gwirfoddoli. Mae angen rhoi sylw i adroddiadau bod y seilwaith gwirfoddoli wedi cael ei lethu yn ystod y pandemig ac nad yw’n gallu sianelu adnoddau mor gyflym ag y byddai’n dymuno (CGGC, 2020).

Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pawb, gan gynnwys pobl anabl, yn gallu cael gafael ar adnoddau i helpu’r adferiad o’r pandemig. Mae’n anochel y bydd galw mawr am adnoddau prin a bydd angen i amserlenni a phrosesau ymgeisio hygyrch ystyried gofynion gwahanol bobl anabl. Rydym wedi cael clywed am brofiadau diweddar artistiaid anabl yn y diwydiannau creadigol sy’n awgrymu bod ymgeiswyr anabl yn teimlo dan anfantais, pan lansiodd Llywodraeth Cymru ddwy rownd o geisiadau grant.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i lunio Polisïau Llesiant yn y Gweithle ar y cyd â’u gweithwyr a sefydliadau perthnasol eraill, yn unol â Safon Ansawdd NICE ar Iechyd yn y Gweithle, Absenoldeb Salwch Hirdymor a’r Gallu i Weithio sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru fynd ati gyda grwpiau amrywiol ac undebau llafur i archwilio datblygu Nod Siarter Llesiant yn y Gweithle, a fyddai’n galw am dystiolaeth o gydgynhyrchu polisïau a meincnodau.

Y prif ganfyddiadau: allgáu, hygyrchedd a dinasyddiaeth

Mae pobl anabl fel grŵp wedi wynebu allgáu cymdeithasol ychwanegol sylweddol yn ystod y pandemig. Rydym yn nodi mannau cyhoeddus anhygyrch, gwasanaethau, arferion, anwybodaeth y cyhoedd, cyfathrebu gwael a phenderfyniadau polisi fel rhwystrau newydd a wynebir gan bobl anabl. Mae methiant sylfaenol i ystyried gofynion sylfaenol grwpiau namau gwahanol ac i ymgynghori’n ddigonol yn rhan ganolog o hyn. Canlyniad hyn fu colli annibyniaeth a cholli dinasyddiaeth ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn fel blaenoriaeth. 

Mae’r rhwystrau sydd wedi wynebu pobl anabl yn ystod y pandemig hwn wedi bod yn niferus ac yn amrywiol, ond byddid wedi gallu osgoi rhai petai pobl anabl wedi bod yn rhan o’r broses penderfynu ar gam cynllunio’r argyfwng. Roedd cyflwyno’r categori meddygol swyddogol o bobl a oedd i ‘warchod’ yn gynnar wedi achosi dryswch ac wedi golygu nad oedd rhai pobl anabl a’r rheini a oedd yn eu cefnogi yn gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau hollbwysig sy’n achub bywydau. Roedd ansicrwydd bwyd, mynediad at feddyginiaethau a gwasanaethau meddygol, cefnogaeth bob dydd, teithio a thechnoleg, yn ddim ond rhai o’r problemau a gafodd pobl anabl, a byddwn yn sôn amdanynt yn yr adran hon.

Roedd llawer o bobl wedi teimlo’n ynysig, yn unig ac yn ddryslyd yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, i bobl anabl roedd hyn yn digwydd ar yr un pryd â cholli pŵer, llais, dewis a dinasyddiaeth, a oedd yn effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd ac roedd yn eu gwneud yn ddiymadferth ac yn achosi trawma seicolegol.  Mae hi’n ddigon anodd i bobl anabl lywio drwy fywyd pan fydd pethau’n sefydlog, ond pan fydd arferion ffisegol a chymdeithasol yn newid dros nos a bod mannau a gwasanaethau cyhoeddus yn cau neu’n methu ystyried anghenion hygyrchedd yn iawn, mae pobl anabl yn cael eu difreinio, yn cael eu hallgáu’n gymdeithasol ac yn gorfforol ac yn cael eu cau allan. Yn ystod y pandemig roedd hi’n gyffredin i nifer o bobl anabl sôn eu bod yn teimlo bod y cloc wedi cael ei droi’n ôl ugain mlynedd o ran eu dinasyddiaeth.

Mae'r dystiolaeth a nodir isod yn amlygu rhwystrau penodol a wynebodd pobl anabl. Rhaid mynd i’r afael â hyn yng Nghymru os ydym am adfer y ddinasyddiaeth mae pobl anabl yn sôn eu bod wedi’i cholli ac os ydym am osgoi hyn yn y dyfodol. Er ein bod yn cydnabod nad oedd unrhyw ‘lasbrint’ yn bodoli’n barod i reoli’r argyfwng, a bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio ymateb i faterion a godwyd gan Fudiadau Pobl Anabl wrth iddynt ddod i’r amlwg, y wers allweddol i’w dysgu yw bod angen i gynhwysiant a hygyrchedd fod yn sail i bob penderfyniad.

Yn ystod y pandemig, roedd teithio’n arbennig o drafferthus i rai pobl anabl. Roedd llai o drafnidiaeth gyhoeddus, ofnau o ran dod i gysylltiad â’r feirws a llai o hygyrchedd wedi arwain at ddefnyddio mwy o dacsis preifat. Canfu arolwg gan RIDC (Awst 2020) fod 64% o’r ymatebwyr anabl a oedd fel arfer yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi dweud nad oeddent wedi gwneud hynny o gwbl ers dechrau’r pandemig. Ni fu cynnydd yn yr hen fudd-daliadau i wneud iawn am y costau teithio uwch. Mae pobl anabl a phobl â salwch hirdymor yn fwy tebygol o fod yn derbyn yr hen fudd-daliadau (Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree, 2020). Ar ben hynny, roedd Deddf y Coronafeirws 2020 hefyd yn llacio’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim i blant ysgol anabl (a. 508A-F Deddf Addysg 1996) a darparu addysg amgen i ddisgyblion sy’n sâl neu wedi’u gwahardd (a.19 Deddf Addysg 1996) (BIHR, 2020; y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2020).

Roedd problemau prinder bwyd, prynu mewn panig a siopa ar-lein yn gyffredin yn gynnar yn ystod y pandemig. Canfu un arolwg (RIDC, Ebrill 2020) fod bron i hanner yr ymatebwyr anabl a oedd yn siopa ar-lein yn ystod yr argyfwng, yn credu bod yr archfarchnadoedd yn gwneud yn ‘wael neu’n wael iawn’. Nid oedd slotiau siopa a slotiau danfon blaenoriaeth ar gael i nifer fawr o bobl anabl. Canfu un arolwg nad oedd 80% o’r ymatebwyr anabl wedi cael eu cynnwys yn y grŵp gwarchod swyddogol, ac eto roedd gan 57% ohonynt anghenion cymorth (GMDPP, Gorffennaf 2020). Mae hyn wedi effeithio’n benodol ar bobl anabl sydd â gofynion dietegol arbennig (FTWW, 2020).

Roedd tystiolaeth gan y Sefydliad Bwyd yn Kings College, Llundain (Ebrill, 2020) yn amcangyfrif bod nifer yr oedolion heb sicrwydd bwyd ym Mhrydain wedi cynyddu bedair gwaith o dan gyfyngiadau symud COVID-19. Fodd bynnag, roedd y prinder bwyd mewn siopau ond yn cyfrif am 40% o’r profiadau ansicrwydd, ac roedd hyn wedi effeithio’n anghymesur ar oedolion anabl ac oedolion â phlant.

Yn dilyn gofynion Llywodraeth y DU bod pobl anabl yn hunanynysu, nododd data gan RIDC (Ebrill 2020) nad oedd 6 o bob 10 o’r 842 o ymatebwyr anabl wedi gadael eu cartref o gwbl a dim ond 1 person anabl a pherson hŷn o bob 5 oedd yn meddwl bod y Llywodraeth yn gwneud digon i’w cefnogi. Gwelwyd cynnydd mewn allgáu, unigrwydd, teimlo’n ynysig a dirywiad mewn iechyd meddwl o ganlyniad i hyn.

Dechreuodd Cymunedau Digidol Cymru fynd i’r afael ag allgáu digidol yn ystod y pandemig drwy wella’r mynediad at ddyfeisiau a hyfforddiant digidol. Fodd bynnag, mae angen rhagor o ffocws ar ofynion digidol pobl anabl sydd wedi wynebu rhwystrau sylweddol rhag cael gafael ar wasanaethau ar-lein, yn ogystal ag ynysigrwydd ac unigrwydd (Grŵp Llywio Ynysigrwydd Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, 2020). Mae’r tebygolrwydd y bydd rhai gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i weithredu o bell yn y dyfodol yn golygu bod angen gallu gwerthuso a gweithredu ar raddfa’r tlodi digidol sydd yng Nghymru a’r hyn sy’n dylanwadu ar hynny,  daearyddiaeth, incwm, addysg, anabledd, oedran, rhywedd, ethnigrwydd a hygyrchedd.

Mae tystiolaeth o arolygon o bobl anabl yn awgrymu bod teimlo’n ynysig eisoes ddwywaith yn uwch ymhlith pobl anabl o bob oed a bod hynny nawr hyd yn oed yn fwy acíwt. Mae allgáu digidol wedi cyfrannu at hyn, gan gynnwys mynediad cyfyngedig at fand eang, sgiliau a thechnolegau cyfrifiadurol (GDA, Ebrill 2020). Dywedodd yr un arolwg fod “Dros 90% yn dweud eu bod am i leisiau pobl anabl gael eu clywed mewn penderfyniadau am eu bywydau eu hunain, a’r ymateb i Covid sy’n esblygu”.

Mae’r trydydd sector a Mudiadau Pobl Anabl wedi gorfod dysgu’n gyflym sut mae symud o ddarpariaeth wyneb yn wyneb i weithio o bell: gan ddefnyddio cyfuniad o ymyriadau ar-lein digidol a dulliau eraill. Mae cynhwysiant ac allgáu digidol wedi creu cyfleoedd a heriau. Mae sefydliadau’n dysgu ac yn addasu’n gyflym. Mae Mudiadau Pobl Anabl, grwpiau cymunedol a mudiadau trydydd sector lleol mewn sefyllfa well i greu atebion lleol i heriau cenedlaethol.

Mae rhai grwpiau sy’n cynrychioli pobl â salwch cronig (Hale et al, 2020) wedi croesawu’r cynnydd enfawr mewn gweithgarwch a chysylltedd ar-lein yn ystod y pandemig. Er y cydnabyddir efallai na fydd atebion technolegol yn ateb i bawb sydd â salwch cronig, mynegwyd pryder ymysg pobl anabl y gallai opsiynau technolegol sydd wedi gwella hygyrchedd a chyfranogiad gael eu tynnu’n ôl neu y byddant yn lleihau unwaith y sefydlir rhagor o amodau diogel o ran COVID-19.

Mae grwpiau celfyddydau yng Nghymru wedi mynegi pryderon na fydd gan leoliadau perfformio ac adloniant cyhoeddus lawer o gapasiti oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol ac yn eu hymgyrch i gynyddu capasiti, gallai mynediad i bobl anabl gael ei beryglu neu gallai seddi cadw gael eu haberthu.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bu cynnydd o 7% mewn troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gafodd eu riportio i’r heddlu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019. Mae data dros dro yn dangos bod 64 dynladdiad domestig wedi cael eu riportio i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2020, a 30 o’r rheini rhwng mis Ebrill a mis Mehefin: cynnydd yn nifer y dynladdiadau domestig a gafodd eu riportio i’r heddlu o gymharu â’r un cyfnod o chwe mis yn y flwyddyn flaenorol. Roedd neges y Llywodraeth i ‘aros gartref’ yn golygu bod merched a merched anabl, a oedd cyn y pandemig eisoes wedi cael eu nodi fel grŵp sy’n dioddef lefelau anghymesur o drais rhywiol a thrais domestig, yn wynebu rhagor o risg oherwydd rhwystrau sylweddol i gael gafael ar gymorth (EVAWC, 2020). Roedd teimlo’n ynysig a mynediad cyfyngedig at rwydweithiau cefnogi a oedd eisoes yn bodoli, gan gynnwys y rheini a oedd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, wedi golygu bod pobl anabl yn dibynnu mwy ar gamdrinwyr, gan gynnwys gofalwyr a oedd yn cam-drin.

Mae rhai grwpiau o bobl anabl wedi ei chael hi’n anodd cael gafael ar negeseuon iechyd y cyhoedd (Armitage a Nellums, 2020) ac mae pobl anabl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig lle nad yw Saesneg yn iaith gyntaf wedi wynebu anfanteision dwbl.  Mae gwybodaeth mewn amrywiaeth o wahanol fformatau wedi bod ar goll yn ystod y pandemig; yn yr un modd â chanllawiau clir a chyson sydd wedi’u gwahaniaethu’n dda fel rhai ‘lleol’ neu Gymreig. Mae hyn wedi bod yn bryder penodol i Fudiadau Pobl Anabl sy’n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu, a nodir y gallai ac y dylai’r cyfryngau yng Nghymru fod yn chwarae rôl fwy rhagweithiol. Mae asiantaethau’r llywodraeth hefyd yn cael eu beirniadu am ddefnyddio terminoleg ac iaith amhriodol wrth gyfeirio at bobl anabl: ac mae gwasanaethau newyddion a chyfryngau cymdeithasol yn copïo hyn wedyn (Grŵp llywio 20 Tachwedd 2020 1 Rhagfyr 2020).

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael gafael ar newyddion o ffynonellau cyfryngau yn Lloegr, sy’n gallu dangos diffyg dealltwriaeth o ddatganoli. Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ, 2020) wedi nodi bod cau swyddfeydd lleol, diswyddiadau sylweddol ar draws papurau newydd a thoriadau i ddarlledu wedi creu “diffyg lluosogrwydd ac annibyniaeth y wasg” yng Nghymru, gan gynnwys papurau newydd yng Nghymru yn hysbysebu cyngor COVID-19 yn Lloegr. Yn ystod y pandemig, mae hi wedi bod yn anodd i bobl anabl gael gwybodaeth gywir a hygyrch sy’n berthnasol i’w lleoliad a’u nam, yn enwedig os nad ydynt yn aelod o Fudiad Pobl Anabl, sy’n cael ei waethygu gan lythrennedd gwael yn y cyfryngau a thwyllwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Mae pobl anabl hefyd wedi bod yn destun rhethreg negyddol a di-rym gan Lywodraethau (fel yr amlinellir yn adran model cymdeithasol yr adroddiad hwn).

O ran dinasyddiaeth ac ymddiriedaeth yn asiantaethau’r llywodraeth, dywedodd un arolwg (GMDPP, Gorffennaf 2020) fod traean o bobl anabl yn teimlo “nad oedd eu hawdurdod lleol yn gwneud unrhyw beth arwyddocaol” tra’r oedd 76% o bobl anabl yn “fodlon â’r cymorth a ddarparwyd gan y llywodraeth”.

Cafodd ein hymholiad llawer mwy o feirniadaeth gan bobl anabl a Mudiadau Pobl Anabl am awdurdodau lleol yng Nghymru na Llywodraeth Cymru. Teimlwyd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hygyrch i raddau helaeth a’i bod wedi ymateb yn gyflym ac yn briodol i’r problemau a godwyd. Roedd hyn yn wahanol i’r ffordd roedd rhai awdurdodau lleol yn trin pobl anabl. Mae pobl anabl yn credu mai’r broblem fwyaf yw nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y broses o wneud penderfyniadau a neu ymrwymiad gwael i gydgynhyrchu atebion. Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, er enghraifft, yn dod â’r holl gyrff gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd ac yn dal cyllid ar lefel leol, ond nid oes digon o gynrychiolwyr dinasyddion i gynrychioli amrywiaeth profiadau pobl anabl. Mae angen i systemau fod ar waith i sicrhau bod gwahanol namau a nodweddion rhyngblethedd yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.

O ganlyniad i ganllawiau corfforol ac ymddygiadol swyddogol a gyhoeddwyd gan Lywodraethau yn ystod y pandemig, mae pobl anabl wedi wynebu rhwystrau ychwanegol sylweddol rhag cael mynediad i fannau cyhoeddus, strydoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Cynhaliodd YouGov (Gorffennaf 2020) arolwg o 1,115 o bobl anabl ar ran SCOPE a chanfu eu bod yn poeni am: peidio gallu gwisgo gorchudd wyneb; mynd i rai llefydd cyhoeddus gyda gofalwr; ciwio am gyfnodau hir wrth siopa; mynediad oherwydd bod y stryd fawr ar gau i draffig; argaeledd toiledau cyhoeddus hygyrch ac roedd 87% yn poeni am gadw pellter cymdeithasol.

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a CGGC yn tynnu sylw at effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol ac yn awgrymu bod cyrff cyhoeddus (ac awdurdodau lleol) yn cydnabod gwerth a rôl mae’r trydydd sector yn ei chwarae yn well, yn enwedig eu hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion, meini prawf cymhwysedd isel sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pherthnasoedd cymunedol a’r gefnogaeth greadigol a ddarperir ganddynt ar unwaith. Mae cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol wedi ymddiried mwy a mwy yn y sector, gan rannu gwybodaeth yn haws.

Mae colli annibyniaeth wedi bod yn ganlyniad mawr i’r pandemig i lawer o bobl anabl. Mae rhai pobl wedi canfod bod colli’r gwasanaethau a’r gefnogaeth maent fel arfer yn eu defnyddio wedi golygu nad ydynt wedi gallu mynd allan o’r tŷ, mae eraill wedi gorfod dibynnu ar gefnogaeth anffurfiol (ffrindiau a theulu) i hwyluso bywyd o ddydd i ddydd. Canfu arolwg diweddar gan RNIB Cymru fod 66% o’r ymatebwyr dall a rhannol ddall yn teimlo’n llai annibynnol nawr o’i gymharu â chyn y cyfyngiadau symud.

Mae Deddf Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (2014) yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fabwysiadu dull ataliol o ddiwallu anghenion cymorth. Canfu yr adroddiad “Rehabilitation for people with sight loss in Wales” (2020) a ysgrifennwyd gan Cyngor y Deillion Cymru gyda Fforwm Swyddogion Ailsefydlu Cymru er fod bwriad y gwasanaethau ailsefydlu a ddarperir gan Swyddogion Ailsefydlu yw bodloni’r gofyniad hwn ar gyfer oedolion sydd â nam ar eu golwg, er mwyn sicrhau annibyniaeth a llesiant, ar hyn o bryd dim ond 8 o’r 22 awdurdod lleol sy’n diwallu’r safonau sylfaenol ar gyfer nifer y Swyddogion Ailsefydlu cymwysedig y pen o’r boblogaeth.  Mewn rhai rhannau o Gymru, mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn aros yn hirach na deuddeg mis am gymorth ailsefydlu.  Mae Covid-19 wedi effeithio’n wael ar asesiadau o anghenion ac mae hyd yn oed llai o gysondeb nawr yn y ddarpariaeth gyda phob awdurdod lleol yn mabwysiadu dull gweithredu gwahanol. Mae tystiolaeth gan aelodau’r Grŵp Llywio yn awgrymu, mewn nifer o achosion, nad oes unrhyw asesiadau’n cael eu cynnal neu, os ydynt, eu bod yn cael eu cynnal o bell. Mae cyfyngiadau difrifol ar y ddarpariaeth ailsefydlu i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg yn cael eu bodoli a lle mae cyfyngiadau Covid wedi arwain at gau ysgolion, mae rhieni a phlant wedi gorfod ymdopi cystal ag y gallant heb gymorth arbenigol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cleifion awtistig, cleifion â phroblemau iechyd meddwl a chleifion ag anabledd dysgu wedi gweld bod llawer o’u gweithgareddau hunangymorth (fel grwpiau cymunedol wyneb yn wyneb) wedi cael eu cwtogi’n ddifrifol yn ystod y cyfnod hwn, ac mae llawer bellach yn ynysig iawn ac yn methu â chyfleu eu hanawsterau drwy’r mecanweithiau cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd (FTWW, 2020).

Isod mae rhai enghreifftiau o sut roedd y rhwystrau yn ystod y pandemig wedi effeithio’n niweidiol ar hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol ac wedi cyfrannu’n sylweddol at fwy o allgáu cymdeithasol.

Cadw pellter cymdeithasol a chyfathrebu

Dywedodd pobl â nam ar eu golwg gyda neu heb gymorth cŵn tywys nad oeddent yn gallu barnu a oeddent yn cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol o 2m, a oedd wedi arwain at achosion o gam-drin neu gael eu herio gan aelodau o’r cyhoedd. Mae’r grŵp hwn hefyd mewn mwy o berygl o ddal y feirws oddi ar arwynebau oherwydd eu bod yn cyffwrdd pethau i ganfod y ffordd.

Dywedodd defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (mae tua 87,000 o’r rheini yng nghymuned Fyddar y DU), nad oedd awdurdodau cyhoeddus na’r cyfryngau yng Nghymru a Lloegr wedi diwallu eu gofyniad am wybodaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig yn briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dehonglydd iaith arwyddion ar gyfer pob cyhoeddiad. Mae Llywodraeth San Steffan wedi methu â gwneud hynny droeon. Fodd bynnag, nid yw darlledwyr yng Nghymru o reidrwydd yn cynnwys y dehonglydd iaith arwyddion yn y deunydd sy’n cael ei ddarlledu. Mae hyn yn rhwystro defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain Byddar rhag gweld y cyhoeddiadau os ydynt yn eu gwylio ar y newyddion. Canfu un arolwg a oedd yn cynnwys 936 o bobl anabl Byddar fod 47% o’r ymatebwyr wedi cwyno bod y cyngor swyddogol yn ‘aneglur’ (GMDPP, Gorffennaf 2020).

Mae hi’n bwysig nodi bod pobl Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf neu eu dewis iaith hefyd yn wynebu rhwystr o natur ddiwylliannol ac ieithyddol. Mae gan BSL ei chystrawen a’i rheolau gramadegol ei hun ac nid yw’n fersiwn wedi’i arwyddo o’r Saesneg ac, o’r herwydd, mae hi’n gallu bod yn anodd deall cyfathrebu ysgrifenedig o unrhyw hyd.

Effaith masgiau wyneb

Mae allgáu cymdeithasol, poen ac ofn yn ddim ond rhai o’r effeithiau mae pobl anabl wedi sôn amdanynt pan roedd yn rhaid iddynt wisgo masgiau wyneb yn ystod y pandemig. Roedd hi wedi cymryd cryn amser i awdurdodau cyhoeddus a’r cyhoedd werthfawrogi nad oedd masgiau wyneb yn briodol i bawb ac nad oedd pawb yn gallu eu gwisgo. Mewn rhai achosion mae hyn wedi golygu bod pobl anabl wedi cael eu cam-drin ac wedi dioddef gelyniaeth. I bobl Fyddar a phobl anabl, mae masgiau wyneb wedi bod yn arbennig o drafferthus. Mae darllenwyr gwefusau ac unrhyw un sydd hyd yn oed â nam ysgafn ar ei glyw wedi’i chael hi’n anodd, os nad yn amhosibl, cyfathrebu’n iawn oherwydd bod y masgiau’n cuddio mynegiant yr wyneb ac yn effeithio ar y lleferydd. Mae erthygl yn y British Medical Journal (Grote et al., 2020) yn tynnu sylw at yr angen am fasgiau tryloyw (neu ddehonglwyr) mewn lleoliadau gofal iechyd (a lleoliadau eraill), er mwyn gallu cymryd rhan lawn mewn trafodaethau ar rowndiau ward ac mewn cyd-destunau cymdeithasol eraill.

Dryswch a phryder ynghylch rheolau a chanllawiau’r pandemig

Mae canllawiau swyddogol am reolau ar wahanol gyfnodau o’r pandemig wedi achosi llawer o ddryswch yn y boblogaeth drwyddi draw, ond roedd hyn yn effeithio’n ddifrifol ar rai pobl anabl: er enghraifft, pobl ag anawsterau dysgu, dementia, materion iechyd meddwl. Mae canllawiau gwahanol ar gyfer rhannau gwahanol o’r DU ac, yn fwy diweddar, i ardaloedd gwahanol mewn rhanbarth, wedi gwaethygu’r dryswch cychwynnol ac wedi arwain at straen a phryder.

Mae pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn dweud eu bod yn profi dryswch a straen penodol (AWPF et al, Mehefin 2020), yn enwedig lle mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi bod yn berthnasol i lety preswyl sy’n cael ei rannu ac mae aelwydydd estynedig wedi cael eu creu (AWPF, Awst 2020b).

Fodd bynnag, roedd cyfran fwy o bobl anabl (83%) na phobl nad ydynt yn anabl (77%) yn cefnogi gorfodi “llym” neu “lym iawn” gan yr heddlu ar reolau’r llywodraeth sydd wedi eu hanelu at fynd i’r afael â’r coronafeirws, fel cadw pellter cymdeithasol; roedd pobl anabl yn llai tebygol o gymdeithasu mewn grwpiau mawr na phobl nad ydynt yn anabl; dim ond 5% o bobl anabl oedd yn cymysgu â grwpiau dros bump (o’r tu allan i’w haelwyd), o’i gymharu â 9% o bobl nad ydynt yn anabl (ONS. Medi a Tachwedd 2020).

Gwarchod a llacio cyfyngiadau

Nid oedd rhai pobl anabl a ddylai fod wedi bod yn gwarchod wedi cael llythyrau gwarchod (ee pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg) ac roedd eraill yn eu derbyn heb ddeall pam. Arweiniodd hyn at fynediad anghyson at fwyd a nwyddau eraill.  Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwarchod wedi effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau o bobl anabl, er enghraifft, pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, pobl anabl hŷn (AWPF, Awst 2020). Mae llawer yn dal i fethu â chael gafael ar eu cymunedau lleol, eu ffrindiau a’u teuluoedd. Y canlyniadau fu teimlo’n ynysig iawn, teimlo’n unig ac iselder.

Mae rhai pobl wedi cael profiad cadarnhaol o lacio’r cyfyngiadau, ond i eraill mae’r digwyddiadau hyn a’r newidiadau mewn rheolau sy’n eu llywodraethu wedi achosi dryswch a phryder mawr.

Effaith newidiadau i’r amgylchedd adeiledig ac ail-wneud strydoedd

Mae symudedd a rhyddid rhai pobl anabl wedi cael ei gyfyngu’n ddifrifol gan newidiadau i fannau cyhoeddus a strydoedd mewn dinasoedd a threfi yn ystod y pandemig. Mae grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nam ar eu golwg wedi tynnu sylw penodol at effaith niweidiol y newidiadau a wnaed i lwybrau cyfarwydd a ddysgwyd, cynllun palmentydd, llwybrau beicio dros dro, cyrbiau a chroesfannau a cholli neu gyfyngu ar dywyswyr sy’n gweld (RNIB Cymru a Cŵn Tywys Cymru, Mai ac Awst 2020).

Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Mae hyder pobl anabl wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi disgyn ac wedi cael effaith negyddol ar symudedd, cyfranogi mewn bywyd bob dydd a dinasyddiaeth. Gofynnodd 4ydd arolwg y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Defnyddwyr Anabl (Awst, 2020) i 1,665 o bobl anabl a phobl hun ar ei phanel defnyddwyr beth fyddai’n eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol. Cafwyd 724 ymateb. Y tri phrif beth oedd: teithwyr eraill yn gwisgo cyfarpar diogelu personol (29%); cadw pellter cymdeithasol (26%); glanweithdra trafnidiaeth gyhoeddus (20%). Dywedodd 9% o’r ymatebwyr a oedd wedi teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig eu bod wedi cael eu heithrio rhag gwisgo masg oherwydd eu hanabledd, ac roeddent yn dweud y gall hyn fod wedi achosi problemau gyda staff a theithwyr. Dywedodd 52% o’r ymatebwyr eu bod yn ansicr ynghylch dychwelyd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl i gyfyngiadau teithio Covid-19 gael eu dileu’n llwyr.

Defnyddio technolegau gwahanol

Mae pobl anabl sydd ag amrywiaeth o namau gwahanol wedi dweud eu bod wedi wynebu mwy o allgáu cymdeithasol a/neu gynhwysiant cymdeithasol gan ddibynnu ar eu nam, y math a’r amrywiaeth o dechnolegau a ddefnyddiwyd ac ansawdd y rhyngweithio ac agweddau’r defnyddwyr eraill. Un ffactor allweddol sy’n pennu a fu’r profiadau gyda thechnoleg yn gadarnhaol ynteu’n negyddol yw i ba raddau maent wedi bod yn briodol, yn hygyrch ac yn addas i’r diben. 

Nid yw technoleg yn golygu nad oes angen darparu gwybodaeth mewn gwahanol fformatau ac i rai pobl ni all ei defnyddio mewn rhai cyd-destunau byth gymryd lle cyswllt uniongyrchol â phobl. Mae rhagdybiaeth wedi bodoli yn ystod y pandemig bod technoleg ar gael ac yn hygyrch i bawb, ac mae angen herio hynny. Mae defnyddwyr BSL Byddar a phobl Fyddar hŷn sy’n anghyfarwydd â thechnoleg wedi dweud eu bod wedi cael eu hallgáu’n ddigidol. Mae nifer o adroddiadau wedi nodi nad oedd pobl Fyddar mewn ardaloedd gwledig ac oedolion ifanc Byddar yn gallu cyfathrebu ag unrhyw un yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud (Redfern a Baker, 2020; Wright et al, 2020).

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhai grwpiau o bobl anabl wedi dod o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer gweithio, cymdeithasu, cysylltu a dysgu drwy ddefnyddio mwy ar blatfformau pell yn ystod y pandemig (Hale et al, 2020; Foster a Hirst, 2020, Warner, 2020). Mae sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu, er enghraifft, wedi tynnu sylw at sut mae cyfleoedd newydd i ddysgu sgiliau wedi dod i’r amlwg ac nid oedd y rhain ar gael i’r grŵp hwn o’r blaen, a thybiwyd yn anghywir y byddent y tu hwnt i’w gallu (Warner, Anabledd Dysgu Cymru, 2020).

Mynediad cyfyngedig at wasanaethau a gofal iechyd hanfodol

Mae mynediad cyfyngedig at wasanaethau hanfodol gan gynnwys gofal iechyd ac ailsefydlu yn ystod y pandemig wedi effeithio’n anghymesur ar bobl anabl. Canfu arolwg gan ‘Fight for Sight’ (Mehefin 2020) o 325 o bobl a oedd wedi colli eu golwg fod 73% o’r ymatebwyr wedi cael trafferth cael triniaeth, gyda 4 o bob 10 yn poeni y byddai eu golwg yn dirywio neu’n arwain at ddifrod di-droi’n-ôl. Nid oedd pobl â nam ar eu golwg yn cael eu blaenoriaethu na’u categoreiddio yn y grŵp ‘gwarchod’ swyddogol ac nid oeddent yn gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol.

Canfu Inclusion London (Mehefin 2020) fod dros 60% o bobl Fyddar ac anabl a holwyd yn dweud eu bod wedi cael trafferth cael gafael ar fwyd, meddyginiaeth a hanfodion. Sefydlodd meddygon teulu a gwasanaethau cyhoeddus eraill linellau ffôn yn ystod y pandemig i leihau cyswllt corfforol, ond ni roddwyd unrhyw ystyriaeth ymlaen llaw i fynediad i bobl Fyddar ac anabl.

Argymhellion

Rydym yn argymell system hunangofrestru ar gyfer y rheini sy’n ‘gwarchod’ yng Nghymru. Byddai cyflwyno hyn yn gynnar wedi atal rhai o’r problemau a gafodd pobl anabl a oedd wedi’u heithrio rhag cael mynediad â blaenoriaeth at feddyginiaethau, bwyd a gwasanaethau. Rydym yn argymell bod hyn yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r gwaith cynllunio at argyfyngau yn y dyfodol.

Mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i’r cyfyngiadau ar symudedd pobl anabl ar frys drwy gynyddu cyllid i alluogi pobl anabl i ddefnyddio dulliau teithio ‘mwy diogel’. Mae’n rhaid i gymorth i deithwyr fod ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae angen ystyried y problemau mynediad sy’n wynebu grwpiau namau gwahanol, fel effaith cadw pellter cymdeithasol, ciwiau ac allanfeydd.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod pob awdurdod lleol yn datblygu cynllun gweithlu i fynd i’r afael â’r prinder cynyddol o Ailsefydlu ac arbenigwyr ailsefydlu dros yr hirdymor ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg.

Rydym yn ymwybodol bod mwy o arian wedi cael ei ddyrannu yn ystod y pandemig i fynd i’r afael â cham-drin merched a merched. Fodd bynnag, fel y mae EVAWC (2020) yn ei nodi, roedd y gwasanaethau hyn eisoes yn cael eu tanariannu ac mae angen rhagor o adnoddau i fynd i’r afael â’r ffactorau risg a hygyrchedd penodol sy’n wynebu merched a merched anabl sy’n dioddef cam-drin domestig. Rydym yn galw am ddiwygio’r ddeddfwriaeth frys ar unwaith ac i Lywodraeth Cymru glustnodi arian i ddiwallu’r anghenion hyn.

Yn rhy aml, mae ‘llinell cymorth’ sy’n cael arian cyhoeddus neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt, yn methu rhoi sylw i hygyrchedd defnyddwyr anabl.  Rydym yn argymell bod cod ymarfer gorfodol yn cael ei ddatblygu ar gyfer darparwyr yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, sy’n sicrhau bod gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni fel rhan safonol o’r broses caffael cyhoeddus.

Mae ymateb llywodraeth y DU i ddeiseb a lansiwyd gan bobl Fyddar ac anabl i gynnwys dehonglydd BSL yn yr ystafell ar gyfer sesiynau briffio dyddiol wedi bod yn gwbl annigonol: Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a llywodraethau eraill yn gallu gwneud hyn.  Rydym yn galw ar ddarlledwyr, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod y deunydd sy’n ymddangos ar y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys BSL ac is-deitlau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer mynediad ond hefyd ar gyfer normaleiddio defnyddio BSL. (ASLI a NRCPD, Mawrth 2020).

Bu llawer o alw am gyflwyno ‘cod cwrteisi coronafeirws’ i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau pobl anabl i ddefnyddio mannau cyhoeddus yn ddiogel, a'r rhwystrau mae cadw pellter cymdeithasol wedi’u creu i bobl anabl sy’n cerdded, yn defnyddio’r ffordd ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cod cwrteisi a bod hwn yn brif ffocws ymgyrch cyfathrebu Llywodraeth Cymru wrth i fesurau’r cyfyngiadau symud ddechrau llacio ac wrth inni symud i gam nesaf yr adferiad.

Er y cydnabyddir bod yr amodau a arweiniodd at rai o’r newidiadau yn ystod y pandemig yn ddigynsail a’u bod wedi cyflwyno amodau brys, mae'r canlyniadau wedi bod yn drychinebus i rai pobl anabl. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn argymell bod pobl anabl yn cael eu hintegreiddio’n llawn mewn gwaith cynllunio at argyfyngau i sicrhau bod problemau mynediad a chynhwysiant yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith yn rhagweithiol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau hyn ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a darparwyr gwasanaethau gofal i sicrhau ar unwaith eu bod yn egluro i bobl ag anableddau dysgu sydd ar y rhestr warchod beth yw eu hawliau. Rydym hefyd yn gofyn i bob awdurdod lleol a darparwr gofal gofio bod ganddynt ddyletswyddau llesiant o hyd tuag at bobl ag anableddau dysgu, hyd yn oed os cânt eu cyflawni mewn ffordd wahanol.

Mae’r dystiolaeth o’r ymchwiliad hwn wedi tynnu sylw at sut mae profiadau pobl anabl yng Nghymru yn ystod y pandemig wedi amrywio rhwng lleoliadau oherwydd anghysondebau rhwng awdurdodau. Roedd y Grŵp Llywio wedi dysgu bod rhai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn darparu modelau posibl o arferion da oherwydd eu bod wedi ceisio gwella cynrychiolaeth a chydgynhyrchu gyda phobl anabl.  Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor i gynnal rhagor o ymchwil, gyda’r nod o gynhyrchu canllawiau arfer gorau i awdurdodau lleol yng Nghymru a datblygu Siarter Hygyrchedd Gwasanaethau Cyhoeddus a nod barcud. Rydym hefyd yn argymell, er mwyn hybu gwell cynrychiolaeth o gymunedau amrywiol ac er mwyn mynd i’r afael ag anghydbwysedd grym, bod treuliau cynrychiolwyr yn cael eu talu a’u bod yn cael eu talu am eu hamser.

Er mwyn mynd i’r afael ag allgáu digidol a thlodi, rydym yn argymell bod Cymunedau Digidol Cymru, mewn partneriaeth â’r Mudiadau Pobl Anabl, yn mynd ati ar unwaith i ddatblygu rhaglen addysg a sgiliau sydd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer pobl anabl. Byddai rhaglen o’r fath yn galw am ymgynghoriad helaeth a chydgynhyrchu.

Mae angen cynlluniau llythrennedd yn y cyfryngau sydd ag adnoddau priodol mewn ysgolion a chymunedau yng Nghymru. Dylid helpu dinasyddion i adnabod a chael gafael ar ffynonellau newyddion dibynadwy sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu bywyd (sy’n arbennig o bwysig mewn argyfwng). Mae hefyd angen i bobl anabl fod yn fwy amlwg yn y cyfryngau hefyd er mwyn gwella agweddau a dealltwriaeth. Mae hefyd angen ffyrdd o gymell y diwydiannau teledu a ffilm i gynrychioli rhagor o bobl anabl drwy’r broses cynhyrchu ee ysgrifennu straeon a sgriptiau, cynhyrchu, ymchwilio, perfformio ac mewn rolau fel criw. Mae angen i hyn ystyried llwyddiant cynlluniau amrywiaeth blaenorol neu bresennol ac a oes gwerth mewn cyflwyno cwotâu neu dargedau ar gyfer cynrychiolaeth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad i hybu casglu a chyhoeddi data amrywiaeth yn gadarn yn y diwydiannau teledu, ffilm a newyddiaduraeth a hybu rhagor o ymdrechion a buddsoddiad i wella mynediad a chynhwysiant yn y diwydiant newyddiaduraeth, gan gynnwys cyfleoedd i gael gafael ar gyrsiau, sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau. Dylai hyn gysylltu ag ymdrechion ehangach i gefnogi’r diwydiant newyddion lleol yng Nghymru sy’n hanfodol i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant.

Roedd y pandemig wedi datgelu bod angen rhagor o waith a buddsoddiad i ddatblygu cymunedau (rhithiol neu wyneb yn wyneb) a thechnolegau i hwyluso cysylltiadau cymdeithasol a lliniaru unigrwydd yng Nghymru. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Mudiadau Pobl Anabl, mudiadau cymunedol ar lawr gwlad ac yn y trydydd sector, sydd i gyd mewn sefyllfa unigryw i fynd i’r afael ag ynysigrwydd ac unigrwydd oherwydd bod ganddynt wybodaeth am bobl anabl a chymunedau lleol. Mae gwir angen adeiladu ar yr wybodaeth hon sydd wedi cael ei chronni a buddsoddi mewn cysylltu pobl mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb.

Rydym yn argymell adolygu lefel a’r math o wasanaethau sy’n cael arian cyhoeddus sydd ar gael i bobl sydd ag anableddau dysgu. Yn y gorffennol mae gofal dydd wedi cael ei ddarparu, ond ers y pandemig mae mwy a mwy o dystiolaeth (AWPF, Awst 2020) yn awgrymu y bu twf mewn hyder a sgiliau technolegol, sy’n golygu bod rhithgymunedau yn bwysicach.  Mae rhai pobl yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ar-lein ac yn magu hyder wrth arwain a darparu’r hyfforddiant hwn ac mae angen adnoddau i ailgyfeirio gwasanaethau presennol i ddatblygu sgiliau ymhellach.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chanoli pŵer sydd wedi digwydd yn ystod COVID-19 ar frys drwy barhau i gryfhau’r berthynas gadarnhaol sydd wedi datblygu yn ystod y pandemig rhwng Mudiadau Pobl Anabl a’r sectorau statudol. Mae hyn yn golygu bod angen ailedrych ar y cyllid cyfredol i wneud iawn am golli’r capasiti codi arian yn ystod yr argyfwng ac i gydnabod bod angen adnoddau a chefnogaeth hirdymor ar fudiadau yn ogystal â'r cronfeydd cymorth argyfwng COVID-19.

Er mwyn sicrhau bod dinasyddion Cymru’n cael eu cynnwys yn ddigidol yn ddigonol, mae angen edrych drwy lens cydgynhyrchu a chynnwys dinasyddion. Rydym yn cefnogi galwadau Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru i Lywodraeth Cymru sefydlu gweithgorau i hyrwyddo dysgu ar y cyd ac enghreifftiau o arferion da cynhwysol.

Rydym yn croesawu sefydlu cronfa newydd i gefnogi pobl anabl sy’n chwilio am swydd etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan mewn democratiaeth leol a sefyll am swydd etholedig. Fodd bynnag, mae angen ehangu’r cynllun hwn i gynnwys pob agwedd ar y llywodraeth, llunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. I sicrhau bod pobl anabl yn gwneud cais am swyddi, dyrchafiadau i swyddi uwch, contractau sy’n cael eu caffael yn gyhoeddus a rolau cynghori, rydym yn argymell bod agwedd ragweithiol at addasiadau rhesymol yn cyd-fynd â hysbysebu pob rôl o’r fath, fel bod ymgeiswyr yn glir ei bod hi’n bosibl addasu amserlenni, dyddiadau cau neu gyllid.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisi rhagweithiol ar gyllidebu ar sail anabledd. Mae’r syniad hwn yn deillio o’r cysyniad o Gyllidebu ar sail Rhyw. Mae hyn yn golygu dadansoddi gwahanol effeithiau cyllideb ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl er mwyn llywio’r gwaith o ddyrannu adnoddau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio mewn polisïau cyhoeddus. Mae bylchau cyrhaeddiad mawr yn parhau rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl mewn addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, entrepreneuriaeth a bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Mae cyllidebu ar sail anabledd yn ffordd i Lywodraeth Cymru hyrwyddo cydraddoldeb drwy bolisi cyllidol.

Rhestr o dermau

Ffafriaeth tuag at bobl abl

Mae hyn yn cyfeirio at wahaniaethu a rhagfarn yn erbyn pobl anabl yn seiliedig ar y gred bod nodweddion dynol (corfforol, meddyliol, ymddygiadol), gweledol neu anweledol, nodweddiadol neu ‘ddelfrydol’ sy’n cydymffurfio â ‘norm’ ac sydd felly’n well na’r nodweddion eraill.  Mae wedi’i wreiddio mewn tybiaeth bod angen ‘gwella’ pobl anabl a bod pobl anabl eisiau cael eu ‘gwella’. Enghraifft o farn fyd-eang sy’n dangos ffafriaeth tuag at bobl abl yw nad yw pobl abl yn rhoi fawr ddim ystyriaeth, os o gwbl, i sut bydd pobl sydd â gwahanol namau yn cael yr un cyfle i wneud pethau, oherwydd bod mae pobl yn tybio nad oes modd cyflawni tegwch.

Ffafriaeth tuag at bobl abl mewn sefydliadau

Mae hyn yn cynnwys set o arferion, credoau a rhagfarnau sy’n allgáu ac yn rhoi pobl anabl dan anfantais systematig. Gall ffafriaeth tuag at bobl abl mewn sefydliadau fod yn fwriadol ond, yn aml, mae’n cael ei gwreiddio i mewn i ddiwylliant ac arferion sefydliadau, fel nad yw’n cael ei chydnabod na’i herio.  Mae ffafriaeth tuag at bobl abl mewn sefydliadau yn digwydd bob dydd ac yn cael ei gymryd yn ganiataol a dyma sy’n ei gwneud yn bwerus ac yn anodd mynd i’r afael â hi. Mae enghreifftiau o ffafriaeth tuag at bobl abl mewn sefydliadau yn cynnwys lle nad yw’r broses gwneud penderfyniadau’n ystyried y gwahanol rwystrau corfforol y mae pobl anabl yn eu hwynebu, na’r ddyletswydd (cyfreithiol, cymdeithasol neu foesol) i ragweld, cynnig a gweithredu addasiadau rhesymol. 

Mudiadau Pobl Anabl

Mae’r mudiadau hyn, y cyfeirir atynt weithiau fel Mudiadau Pobl Fyddar a Phobl Anabl, yn fudiadau sy’n cael eu rhedeg a’u rheoli gan bobl anabl i gynrychioli buddiannau pobl anabl. Mae’n rhaid i fwyafrif y Bwrdd Ymddiriedolwyr fod yn bobl anabl. Mae Mudiadau Pobl Anabl yn wahanol i fudiadau anabledd, maent yn cael eu rhedeg ar gyfer pobl anabl ond nid ydynt yn cael eu harwain ganddynt.

Cyllidebu ar sail Anabledd

Mae hyn yn golygu dadansoddi sut mae cyllideb yn effeithio’n wahanol ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl er mwyn llywio’r gwaith o ddyrannu adnoddau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o anghydraddoldebau sydd wedi’u gwreiddio mewn polisïau cyhoeddus. Mae cyllidebau o’r fath yn cydnabod gwahanol sefyllfaoedd ac anghenion pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ac yn ceisio hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl.

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswyddau cyfreithiol i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a hybu cysylltiadau da rhwng pobl. Wrth wneud penderfyniadau ariannol a darparu gwasanaeth, mae’n rhaid gwneud cynigion sy’n cael eu hasesu i sicrhau nad yw grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu gwahaniaethu gan y penderfyniad. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu adnoddau i gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Byw’n annibynnol

Ystyr byw’n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw’n golygu eich bod yn gorfod byw ar eich pen eich hun na’ch bod yn gorfod gwneud popeth drosoch eich hun. Mae’n golygu’r hawl i gymorth a chefnogaeth ymarferol i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas fel pobl eraill, yn ogystal â’r hawl i ddewis a rheoli sut y darperir hyn. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu byw’n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt.” Wedi’i gymryd o gynllun gweithredu Gweithredu ar Anabledd Llywodraeth Cymru.

Model Meddygol o Anabledd

Yn y gorffennol, mae llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau wedi edrych ar bobl anabl drwy Fodel Meddygol, lle mae nam person yn cael ei ystyried fel y peth sy’n ei analluogi. Cyfeirir at hyn hefyd fel model ‘diffyg’ anabledd. Y nod yw ‘gwella’ y bobl anabl fel eu bod yn cyd-fynd yn well â chymdeithas, yn hytrach na chymdeithas yn addasu i bobl â namau. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r Model Cymdeithasol ar gyfer Anabledd, sy’n ceisio cael gwared â’r rhwystrau i gymryd rhan.

Model Cymdeithasol o Anabledd

Fe’i datblygwyd gan y mudiad hawliau anabledd ac yn y DU mae’r model cymdeithasol yn gwahaniaethu rhwng ‘nam’ ac ‘anabledd’. Mae'n cydnabod bod pobl â nam yn anabl o ganlyniad i'r rhwystrau sy'n bodoli'n gyffredin mewn cymdeithas. Mae'r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau negyddol a rhwystrau corfforol a sefydliadol sy'n gallu atal pobl anabl rhag cael eu cynnwys a rhag cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen trawsnewid cymdeithas, gan gael gwared ar rwystrau er mwyn i bobl anabl allu chwarae rhan lawn. (Cynllun gweithredu Gweithredu ar Anabledd Llywodraeth Cymru).

Addasiadau Rhesymol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod darparwyr gwasanaeth a chyflogwyr yn gwneud addasiadau rhesymol i alluogi pobl anabl i gael mynediad llawn at wasanaethau a chyflogaeth.  Mae’r hyn sy’n ‘rhesymol’ yn dibynnu ar ffactorau fel fforddiadwyedd ond, yn fwyaf arwyddocaol, mae’n dibynnu a yw’n helpu i gael gwared â’r anfantais sylweddol y mae person anabl yn ei hwynebu os na wneir addasiad.  Mae llawer o addasiadau yn syml iawn, yn rhad ac o fudd i bobl nad ydynt yn anabl, er enghraifft, arferion gweithio hyblyg. Gall rhai addasiadau gael eu hariannu gan asiantaethau’r Llywodraeth fel Mynediad i Waith, sy’n darparu cyngor ac adnoddau i ariannu technolegau ac offer a thechnolegau cynorthwyol.

Ôl-nodiadau ar ddefnyddio iaith a therminoleg

Yn unol ag iaith a therminoleg y model cymdeithasol, mae’r adroddiad yn gwahaniaethu rhwng ‘anabledd’ a ‘nam’. Mae ‘pobl anabl’ yn cyfeirio at bobl sy’n wynebu rhwystrau sy’n eu hanalluogi yn eu bywydau bob dydd oherwydd methiant y gymdeithas i ystyried eu namau a neu gyflyrau iechyd wrth gynllunio neu ddarparu gwasanaethau.

Mae rhai rhwystrau’n gysylltiedig â nam, a lle bo’n berthnasol, mae’r adroddiad yn cyfeirio at brofiadau pobl sydd â namau penodol neu yn achos pobl fyddar, eu hunaniaeth ieithyddol. Mae’r adroddiad yn defnyddio’r derminoleg a ddewiswyd gan eu sefydliadau cynrychioliadol ee pobl â nam ar eu golwg, pobl ag anableddau dysgu, pobl fyddar.

Mae’r Grŵp Llywio’n cydnabod nad yw’r term ‘pobl ag anableddau dysgu’ yn gydnaws ag iaith y model cymdeithasol o ystyried bod ‘anableddau’ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer namau yn hytrach nag i ddynodi rhwystrau sy’n eu hanalluogi. Fodd bynnag, gan nad oes term arall yn y model cymdeithasol sy’n dderbyniol i aelodau o’u mudiad cynrychioladol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, mae’r adroddiad yn defnyddio term ei hun.

Mae hi’n bwysig nodi bod pobl Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf neu eu dewis iaith hefyd yn wynebu rhwystr o natur ddiwylliannol ac ieithyddol. Mae gan BSL ei chystrawen a’i rheolau gramadegol ei hun ac nid yw’n fersiwn wedi’i arwyddo o’r Saesneg ac, o’r herwydd, mae hi’n gallu bod yn anodd deall cyfathrebu ysgrifenedig o unrhyw hyd. Mae BSL yn iaith frodorol yn y DU ac fel lleiafrif diwylliannol ac ieithyddol, nid yw pob person Byddar yn ystyried ei hun yn anabl.

Roedd y pandemig yn pwysleisio’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael mewn BSL o’i gymharu â’r llu o lenyddiaeth, taflenni, cyngor ac arweiniad ysgrifenedig. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y mynediad cyfyngedig iawn at wybodaeth a gwasanaethau mewn BSL.

Fel llawer o leiafrifoedd ieithyddol, mae pobl Fyddar yn mwynhau diwylliant unigryw, ac yn haeddu’r un parch ag unrhyw berson arall.

Acronymau

DRC

Y Comisiwn Hawliau Anabledd, a sefydlwyd i atal gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Roedd y Comisiwn Hawliau Anabledd yn bodoli rhwng 1999 a 2007 pan gafodd ei ddisodli gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

EHRC

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, corff cyhoeddus anadrannol statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Roedd yn cyfuno gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal, ynghyd â chymryd cyfrifoldeb dros amddiffyn a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.

NICE

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

ReAct

Mae ReAct yn helpu pobl y mae diweithdra yn effeithio arnynt i ennill sgiliau newydd ac mae’n annog cyflogwyr i gyflogi gweithwyr di-waith.

SISS

Cynllun Cymorth Hunanynysu, sy’n darparu taliadau o £500 i’r rheini sydd ar incwm isel, nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac sy’n gorfod hunanynysu.

SEISS

Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, sy’n darparu grantiau i bobl hunangyflogedig gymwys sydd wedi colli gwaith ac incwm yn ystod y pandemig.

TUC a TUC Cymru

Mae Cyngres genedlaethol yr Undebau Llafur yn cynrychioli pob undeb llafur cysylltiedig ledled y DU. Mae’n wahanol i TUC Cymru, mae’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru sydd hefyd yn gysylltiedig â'r TUC yn genedlaethol.  

UNCRDP

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, pan gyfeirir ato gan ddefnyddio terminoleg y Model Cymdeithasol. Y tu allan i’r DU, cyfeirir ato fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)

Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau hyfforddi 2 i 3 blynedd sy’n cael eu rhedeg gan yr Undeb Llafur, i gefnogi sgiliau cyflogadwyedd a chael gwared â rhwystrau i ddysgu ar gyfer dysgwyr traddodiadol. 

Aelodau’r Grŵp Llywio

  • Yr Athro Debbie Foster Prifysgol Caerdydd, Awdur yr Adroddiad.
  • Rhian Davies  Anabledd Cymru, Cadeirydd y Grŵp Llywio.
  • Andrea Gordon  Cŵn Tywys Cymru ac mewn cytundeb â Chyngor Cymru ar gyfer Pobl Ddall a RNIB Cymru i gynrychioli’r sector sydd â nam ar y golwg.
  • Lee Ellery Aelod Annibynnol o’r Fforwm Cydraddoldeb Anabledd, aelod o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Abertawe ac aelod o Banel Anabledd a Chynhwysiant Abertawe a hwylusir gan Leonard Cheshire Cymru.
  • Gaye Hampton Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, Grŵp Cyfathrebu Hygyrch Llywodraeth Cymru.
  • Debbie Shaffer Sylfaenydd Fair Treatment for the Women of Wales.
  • Dr Natasha Hirst Ffotonewyddiadurwr, undeb llafur ac ymgyrchydd dros anabledd.
  • Joshua Reeves Leonard Cheshire Cymru.
  • Joe Powell Pobl yn Gyntaf Cymru.

Llyfryddiaeth

Mae’r Llyfryddiaeth hwn yn rhestru’r ffynonellau gwybodaeth y cyfeirir atynt yn adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, yn ogystal â ffynonellau gwybodaeth eraill a adolygwyd wrth ysgrifennu’r adroddiad.