Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn a welir o hyd yn ein cymdeithas, yr wyf yn benderfynol o wneud mwy i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n ddiolchgar i Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl Llywodraeth Cymru am ei gefnogaeth yn ystod y pandemig i amlygu'r effeithiau ar bobl anabl. Yng ngoleuni'r dystiolaeth gan y Fforwm hwn, a data eraill sy'n dod i'r amlwg ynghylch effaith COVID-19 ar bobl anabl, penderfynais gomisiynu aelodau'r Fforwm i archwilio'r effaith y mae pandemig COVID-19 wedi'i chael ar bobl anabl. Gwnaed hyn er mwyn taflu goleuni ar heriau newydd a rhai presennol a ddaeth i'r amlwg yn sgil y pandemig, ac er mwyn ystyried sut roedd angen newid Fframwaith y Llywodraeth, Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, er mwyn ymateb yn well i'r heriau hynny.

Ymatebodd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl i'r her gydag egni a phenderfyniad, gan sefydlu is-grŵp penodol a gwahodd cynrychiolwyr newydd er mwyn sicrhau bod cynifer o safbwyntiau â phosibl yn cael eu cynnwys. Cafodd yr adroddiad a ddeilliodd o'r gwaith, Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, ei gydgynhyrchu gan yr Athro Debbie Foster o Ysgol Fusnes Caerdydd a Grŵp Llywio o bobl anabl yn cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl ac elusennau, wedi'i gadeirio gan Rhian Davies, Prif Weithredwraig Anabledd Cymru. Cynhaliwyd ymchwiliad y grŵp dros gyfnod o chwe mis lle cafodd amrywiaeth eang o'r dystiolaeth a oedd ar gael, gan gynnwys tystiolaeth ystadegol a thystiolaeth anecdotaidd, ei harchwilio gyda'r nod o ddeall profiadau pobl anabl a dysgu ohonynt.

Nid oedd hwn yn adolygiad cynhwysfawr a oedd yn cynnwys chwiliadau o'r holl dystiolaeth sydd ar gael am effaith COVID-19. Yn hytrach, roedd yn canolbwyntio ar gasglu'r canfyddiadau allweddol o'r wybodaeth a oedd ar gael o amrywiaeth o ffynonellau a sefydliadau rhanddeiliaid a'u hystyried ar y cyd â phrofiad bywyd aelodau o'r grŵp eu hunain.

Yn seiliedig ar y dull eang hwn, mae'r Adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth a nifer mawr o argymhellion i ni y gallwn seilio camau gweithredu pellach arnynt. Yn wir, pan dderbyniodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad gyntaf, trefnodd y Prif Weinidog gyfarfod gyda'r awduron, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau, i drafod y canfyddiadau a rhoi camau gweithredu priodol ar waith yn syth er mwyn mynd i'r afael â nhw.  

Mae'r adroddiad yn rhoi sylw penodol i'r effaith andwyol y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl anabl, gan waethygu anghydraddoldebau. Ym mis Rhagfyr, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig, fe wnes i ddatganiad yn tynnu sylw at yr effaith yma, ac yn benodol i’r data am y canran uchel o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r Adroddiad yn cynnwys pum prif bennod, sef y Model Cymdeithasol o Anabledd yn erbyn y Model Meddygol o Anabledd; Hawliau Dynol; Iechyd a Llesiant; Anfanteision Economaidd-gymdeithasol ac Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth.

Mae'n bleser gennyf ddweud bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi llawer o'r sylfeini allweddol ar waith ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y meysydd hyn. Rydym wedi cadarnhau ein hymrwymiad i'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn gyson, sef pwnc y bennod gyntaf sy'n darparu'r ethos cyffredinol ar gyfer gweddill yr adroddiad. Fodd bynnag, proses yw hon nid datganiad untro, a byddwn yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth i feithrin ethos y model ym mhob maes polisi dros dymor y Senedd nesaf.

Rydym wedi mynd ati i gryfhau'r fframwaith hawliau dynol drwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i gefnogi a gwella bywydau pobl anabl a bydd yn adeiladu ar ddarpariaethau'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Bydd y Ddyletswydd yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau ac yn helpu'r rhai hynny sydd dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol drwy roi'r gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau.

Mae llawer y gallwn ymfalchïo ynddo yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn galw am gael llawer mwy o gyfranogiad gan bobl anabl mewn bywyd cyhoeddus ac mae ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth wedi llwyddo i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau y mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn eu hwynebu wrth wneud hynny. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gyflwyno trefniadau ar gyfer sefydlu cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl sydd am gyflwyno eu hunain ar gyfer swydd etholedig a sicrhau nad yw'r treuliau y byddant yn mynd iddynt, o ganlyniad i'w gofynion mynediad neu gyfathrebu, yn cyfrif tuag at y terfyn treuliau ffurfiol.

Rydym yn cydnabod yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar gyflogaeth. Mae gwella cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl wedi bod yn flaenoriaeth hefyd. Drwy sicrhau bod busnesau mor gynhwysol â phosibl, y nod yw creu amodau lle y gall pob unigolyn ffynnu. Er mwyn helpu i wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd hefyd. Elfen allweddol o'r rhaglen i drawsnewid ADY yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y dysgwr ac mae'n gwneud y system yn decach, yn symlach ac yn llai gwrthwynebol ac yn cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol statudol newydd. Bydd y cynllun gweithredu fesul cam yn dechrau ym mis Medi 2021, gyda phecyn cyllid gwerth £20 miliwn.

Serch hynny, gwyddom fod mwy i'w wneud ac y bydd angen gwneud cryn dipyn o waith er mwyn lliniaru effeithiau niweidiol pandemig COVID-19. Ym mhob maes a nodir yn yr adroddiad, rydym yn ymrwymo i ystyried y dystiolaeth a gyflwynir ymhellach a chymryd rhan mewn dadl ystyrlon ynghylch y ffordd orau o liniaru'r effeithiau niweidiol ar bobl anabl. Lle y bo angen, byddwn yn ceisio mewnbwn ystadegol pellach er mwyn cael darlun gwirioneddol o'r effeithiau hynny.

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i sefydlu Tasglu a arweinir gan Weinidog i ddatblygu'r gwaith hwn, er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a amlygwyd gan yr adroddiad a goruchwylio'r broses o roi camau gweithredu ar waith. Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am roi rhai o'r camau gweithredu hyn ar waith, a bydd angen ymgymryd â'r rhai eraill ar y cyd â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol.   

Mae'n bleser gennyf allu cyhoeddi'r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, ac amlinellu rhai o'r camau gweithredu rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'i ganfyddiadau.  Edrychaf ymlaen at ymgysylltu'n llawn â'r Gweithlu i ystyried camau gweithredu pellach a'u rhoi ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais o adeiladu Cymru gryfach a thecach.

Cyflwyniad

Mae Adroddiad y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar Effaith COVID-19, Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, yn dwyn ynghyd ganlyniadau ymchwiliad dwys i brofiadau pobl anabl yn ystod y pandemig.

Codwyd nifer o faterion yn ystod cyfarfodydd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn ystod misoedd cyntaf y pandemig wrth i'r effeithiau ddechrau dod i'r amlwg. Roedd yn dod yn fwyfwy amlwg bod y pandemig yn cael effaith negyddol ar bobl anabl a hynny i raddau anghymesur. Y trafodaethau cychwynnol hynny oedd man cychwyn sawl mis o waith manwl a wnaed gan un o is-grwpiau'r fforwm, o dan gadeiryddiaeth Rhian Davies o Anabledd Cymru, ac a arweiniodd at adroddiad a gydlynwyd gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd.

I lunio'r adroddiad, cyfeiriodd y grŵp at brofiadau bywyd ei aelodau ei hun yn ogystal ag ystyried amrywiaeth eang o ffynonellau tystiolaeth, y rhan fwyaf o Gymru ond ambell un o'r tu hwnt i Gymru hefyd. Nid oedd modd i'r grŵp gynnal arfarniad manwl o gywirdeb a chadernid yr holl wybodaeth a gasglwyd, yr oedd rhywfaint ohoni'n anecdotaidd neu'n ansoddol ei natur.

Mae awduron yr adroddiad wedi nodi amrywiaeth o ganfyddiadau pwerus ac wedi gwneud nifer mawr o argymhellion sydd wedi'u rhannu yn bum prif bennod:

  1. Y Model Cymdeithasol o Anabledd yn erbyn y Model Meddygol o Anabledd
  2. Hawliau Dynol
  3. Iechyd a Llesiant
  4. Anfanteision Economaidd-gymdeithasol
  5. Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth     

Mae'r adroddiad yn creu sylfaen bwysig ar gyfer addasiad o Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Anabl, Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, yn y dyfodol neu fersiwn gwbl newydd ohono o bosibl. Cyhoeddwyd y fframwaith ym mis Medi 2019 ac mae'n datgan ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wella annibyniaeth pobl anabl yng Nghymru, a'n cynlluniau i weithio gyda phobl anabl eu hunain yn ogystal â phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, i gyflawni'r ymrwymiadau hyn. Er ei fod yn ddilys o hyd, cafodd y fframwaith ei lansio cyn y pandemig felly mae angen ei adolygu yng ngoleuni COVID-19 a'r heriau newydd y mae wedi'u creu, yn ogystal â'r heriau presennol sydd wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.

Ar ddiwedd tymor y Senedd diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Tasglu yn cael ei sefydlu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a nodwyd gan yr adroddiad ac i oruchwylio'r broses o roi camau gweithredu ar waith i fynd i'r afael â nhw. Bydd y Tasglu yn adeiladu ar ganfyddiadau'r adroddiad ac yn parhau â'r drafodaeth am y materion pwysig y mae'n tynnu sylw atynt.

Bydd hefyd yn adeiladu ar y camau pwysig y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd i liniaru effaith anghymesur COVID-19 ar bobl anabl.

Mae'r camau hyn yn cynnwys:

  • Sefydlu Tasglu i ystyried y materion a godwyd yn yr adroddiad ac i ddechrau'r gwaith o fynd i'r afael â nhw ar y cyd â'n partneriaid mewn Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol.
  • Cyflwyno'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021 ac sy'n rhoi'r gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau. Mae'r canllawiau'n pwysleisio bod angen i gyrff cyhoeddus ystyried profiadau bywyd wrth wneud penderfyniadau strategol.
  • Atal Atodlen 12 o dan Adran 15 o Ddeddf y Coronafeirws a oedd yn caniatáu i ddarpariaeth gofal a chymorth mewn Awdurdodau Lleol gael ei llacio. Gwnaed hyn yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, gan gynnwys y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl.
  • Sefydlu Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19: Cymru sy'n cynnig cyngor a chymorth moesegol i wneuthurwyr polisi mewn perthynas â materion a achoswyd gan COVID-19 neu faterion yr effeithiodd y pandemig arnynt.  
  • Pennu cwmpas Uned Data Cydraddoldeb yn Llywodraeth Cymru a fydd yn rhan ganolog o fwrw ymlaen gyda chamau i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru.
  • Datblygu'r strategaeth penodiadau cyhoeddus, a lansiwyd ychydig cyn y pandemig, sy'n cynnwys camau i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth pobl anabl mewn penodiadau cyhoeddus.
  • Ymrwymiad gan y Llywodraeth nesaf i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. 
  • Gwneud ein gwybodaeth am COVID-19 yn fwy hygyrch, fel y gwelir yn y gyfres o ddeunyddiau hygyrch sydd ar gael ar gyfer ein hymgyrch Profi Olrhain Diogelu.

Mae rhai o'r camau gweithredu hyn yn cynnig ymateb i'r argymhellion yn adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Mae'r rhestr yn amlinellu rhai o'r camau a gymerwyd a'r camau y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddynt, a cheir rhagor o gamau a mwy o fanylion yng nghorff y ddogfen hon. Rydym eisoes yn ymdrin ag argymhellion eraill hefyd, er bod llawer yn uchelgeisiau tymor hwy, a nodir hynny yn yr adroddiad. Bydd angen eu trafod ymhellach ac mae'n bosibl hefyd y bydd angen eu mireinio wrth i'r cyfyngiadau symud ddod i ben yng Nghymru ac wrth i amgylchiadau newid.

Bydd nifer helaeth o'r argymhellion yn rhan o flaenoriaethau'r Tasglu. Lle nad yw cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli, byddwn yn defnyddio'r dulliau ysgogi sydd gennym i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU ac eraill i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny. Byddwn yn meithrin cydberthnasau i sicrhau ein bod yn weladwy ar faterion perthnasol a'n bod yn gallu herio'n effeithiol pan fo angen.

Nid yw'r ymateb cychwynnol hwn i'r Adroddiad yn rhestr gynhwysfawr o'r camau sy'n cael eu cymryd, ond mae'n crynhoi ein cynnydd hyd yn hyn yn erbyn ei argymhellion.  Byddwn yn adolygu cynnydd yn rheolaidd wrth i'r Tasglu ddechrau ei waith ac wrth i lawer o'r argymhellion gael eu datblygu a'u hymgorffori ymhellach mewn Fframwaith i Bobl Anabl sydd newydd ei ail-lunio.

Fodd bynnag, y tu hwnt i gamau gweithredu unigol, y bwriad yw y bydd yr Adroddiad a'r dystiolaeth y mae'n ei hamlygu yn ffurfio'r sail ar gyfer cyfres o drafodaethau amlsectoraidd drwy waith y Tasglu. Mae hyn yn unol â dymuniad awduron yr adroddiad, sef bod yr adroddiad yn sbarduno sgwrs ehangach yn holl adrannau'r llywodraeth gan gynnwys amrywiaeth o bartneriaid a sefydliadau cyflawni, ac nad yw'n cael ei ystyried yn adroddiad sydd ag argymhellion penodedig ac yn barod i'w ddefnyddio. Rhoddir safbwynt pobl anabl wrth wraidd sgwrs o'r fath a bydd yn sicrhau bod uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud y Model Cymdeithasol yn egwyddor drefniadol ar gyfer gweithredu yn cael ei ailgadarnhau mewn modd gweladwy a pharhaus.

Diweddariad Cynnydd

Y Model Cymdeithasol o Anabledd yn erbyn y Model Meddygol o Anabledd

Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2002. Mae hynny'n golygu mai'r model hwn yw sail y ffordd rydym yn datblygu polisïau ac yn darparu ein gwasanaethau, a hefyd yr hyn rydym yn ei wneud fel cyflogwyr, rheolwyr a chydweithwyr pobl anabl.

Mae'r model yn nodi gwahaniaeth pwysig rhwng ‘nam’ ac ‘anabledd’. Mae'n cydnabod mai gweithredoedd ein cymdeithas sy'n anablu pobl anabl, ac nid eu namau. Pobl, a'r systemau maent yn eu creu a'u rhoi ar waith, sy'n anablu pobl. Gall y gweithredoedd anablu hyn gael eu hysgogi gan ddiwylliant sefydliadol, anwybodaeth, rhagfarn neu ddifaterwch. O ganlyniad i'r rhain, caiff pobl anabl eu heithrio neu eu hymyleiddio o sawl agwedd ar fywyd.

Aethpwyd i'r afael â'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru ailgadarnhau ei ymrwymiad yn 2002 i'r Model Cymdeithasol o Anabledd ar unwaith pan dderbyniwyd yr adroddiad, pan fynegodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ymrwymiad clir a diamwys i'r Model Cymdeithasol mewn Datganiad Ysgrifenedig lle croesawodd yr adroddiad pwysig hwn.

Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r ffaith bod fframwaith a chynllun gweithredu presennol y Llywodraeth, Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, yn cydnabod pwysigrwydd y model cymdeithasol yn arwyddocaol. Dylid nodi hefyd y rhoddwyd cryn dipyn o sylw i greu diffiniad o'r Model Cymdeithasol fel rhan o'r gwaith a wnaed i lunio'r fframwaith Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019, er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth o'r model ymhellach a datblygu ei egwyddorion.

Mae'r adroddiad yn anghytuno â'r defnydd o iaith y model meddygol, megis y term ‘agored i niwed’. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r amheuaeth hon ynghylch iaith y model meddygol. Ni ddylid tybio bod pobl sydd â namau, ac sy'n cael y cymorth cywir, yn “agored i niwed”. Gall unrhyw un (boed yn anabl neu beidio), fod yn “agored i niwed” ar adegau gwahanol yn ystod ei fywyd am resymau gwahanol. Gall methu â darparu'r cymorth cywir neu addasiadau rhesymol i bobl anabl eu rhoi mewn sefyllfaoedd lle maent yn agored i niwed.

Yn naturiol, mae'n destun pryder bod y grŵp wedi tynnu sylw at dystiolaeth o enghreifftiau lle mae'r model meddygol o anabledd, ac iaith y model meddygol hefyd, wedi tanseilio'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at ymgorffori'r model cymdeithasol mewn prosesau gwneud penderfyniadau, a hynny ar lefel Cymru a'r DU. Mae'r ffaith bod hyn wedi gwneud i bobl anabl deimlo bod y ‘drws ar glo’ iddynt, fel y mae teitl yr adroddiad yn ei awgrymu, yn peri cryn bryder. Wrth inni ddechrau gweld diwedd ar y cyfyngiadau symud, byddwn yn ymrwymo i weithio gyda'r Tasglu er mwyn dangos yn llawnach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r Model Cymdeithasol ym mhob agwedd ar ein gwaith ac, yn benodol, wrth gynllunio ar gyfer unrhyw argyfwng yn y dyfodol.

Hawliau Dynol

Rydym wedi nodi'r pryderon a godwyd yn yr adroddiad ynghylch y ffaith bod y mesurau brys a roddwyd ar waith i reoli lledaeniad pandemig COVID-19 yng Nghymru wedi erydu hawliau dynol pobl anabl. Er gwaethaf y pryderon hyn, mae'n bwysig pwysleisio bod safbwyntiau pobl anabl wedi cael sylw amlwg a'u bod wedi cael eu hystyried drwy gydol y pandemig wrth i'r sefyllfa genedlaethol ddatblygu. Yn fwyaf nodedig, gwnaed hyn drwy waith y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, yr oedd Grŵp Llywio'r adroddiad yn rhan bwysig ohono.

Rôl y Fforwm yw rhoi cyfle i randdeiliaid gynghori Llywodraeth Cymru ar y materion allweddol sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru. Daeth hyn yn fwyfwy pwysig yn ystod pandemig COVID-19 wrth i'r Fforwm gyfarfod yn amlach, gan sicrhau bod llais pobl anabl yn cael ei glywed ar y lefelau uchaf. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cadeirio saith o gyfarfodydd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn ystod pandemig COVID-19 hyd yn hyn ac, ar adegau, ymunodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, a Dr Gill Richardson, a arweiniodd y Rhaglen Frechu, â hi. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys fframwaith moesegol COVID-19 ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion; newidiadau blynyddol i drefniadau codi tâl am ofal cymdeithasol a Thaliadau Uniongyrchol, ynysigrwydd cymdeithasol, cyfyngiadau gwarchod a llacio'r cyfyngiadau symud, Profi Olrhain Diogelu a defnyddio gorchuddion wyneb. Cafwyd sawl cyfarfod ychwanegol er mwyn cyfrannu at ymgyngoriadau hefyd, gan gynnwys ymgynghoriad ar Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru. Cyfrannodd y Fforwm at ddarnau pwysig o waith hefyd, megis y canllawiau ar Ofal Cymdeithasol yn ystod COVID-19.

Ym mis Hydref 2020, mynegodd aelodau'r Fforwm eu barn am benderfyniad Gweinidogion Cymru i gynnal neu atal darpariaethau adran 15 o Ddeddf y Coronafeirws 2020, ynghyd â Rhan 2 o Atodlen 12 i'r Ddeddf honno. Mae'r darpariaethau hyn yn newid rhai dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas ag asesiadau a diwallu anghenion ar gyfer gofal a chymorth. Ymrwymodd aelodau'r Fforwm i gyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad adolygiad cyflym a drefnwyd. Yn dilyn yr adolygiad cyflym hwn, gwnaed penderfyniad ym mis Ionawr i atal darpariaethau gofal cymdeithasol Deddf y Coronafeirws 2020. Mae'r penderfyniad hwn yn dangos yr effaith a gafodd gwrando ar farn pobl anabl drwy ymgyngoriadau ac adolygiadau cyflym ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Er mwyn diogelu a gwella hawliau pobl anabl ymhellach, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru yn ystod tymor presennol y Senedd. Mae hyn yn cynnig ymateb cadarnhaol i un o'r argymhellion allweddol yn yr Adroddiad ar Effaith COVID-19, a bydd yn sicrhau y rhoddir fframwaith deddfwriaethol ar waith er mwyn cefnogi hawliau pobl anabl ymhellach.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion pellach ynghylch cryfhau hawliau dynol, megis creu swydd Weinidogol i gynrychioli pobl anabl ac, yn y tymor hwy, sefydlu rôl Comisiynydd Pobl Anabl. Fel y nodir yn yr adroddiad, bydd angen ystyried yr argymhellion hyn yng ngoleuni gwaith ymchwil parhaus i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru, y disgwylir adroddiad arno'n fuan. Bydd y Tasglu yn cynnig cyfle i ganlyniadau'r gwaith ymchwil gael eu trafod ac i bobl anabl gyfrannu at unrhyw benderfyniadau yn sgil ei ganfyddiadau.

Dywed aelodau'r grŵp fod gwybodaeth ddryslyd ac anhygyrch yn ystod pandemig COVID-19 wedi cael effaith andwyol ar hawliau dynol pobl anabl. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Yn 2020, gwnaethom sefydlu Grŵp Cyfathrebu Hygyrch i drafod y rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael gafael ar wybodaeth a'u goresgyn. Mae'r Grŵp yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau, sydd wedi bod yn dyst i'r anawsterau y mae'r rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, pobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg, pobl ag anawsterau dysgu neu sy'n awtistig yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar wybodaeth glir a chryno yn ystod pandemig y coronafeirws.

Yn ogystal â darparu dehonglwr byw mewn darllediadau cyhoeddus, mae gwybodaeth wedi cael ei chynhyrchu mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch ac ieithoedd. Mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i nodi'r rhwystrau amrywiol i gyfathrebu y mae grwpiau gwahanol yn eu hwynebu, a sut i oresgyn y rhwystrau hynny, er mwyn sicrhau bod pob dinesydd yng Nghymru yn cael gwybodaeth glir a dealladwy.

Iechyd a Llesiant

Mae'r swm o dystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad yn ddifrifol ac yn bwerus, a chydnabyddir yr effeithiau na ellir mo'u gwadu. Yn wir, ymchwiliwyd i nifer ohonynt yn y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl gan Weinidogion yn ystod y pandemig. Cafwyd cyfleoedd i aelodau'r Fforwm drafod pryderon yn uniongyrchol â Gweinidogion, y Prif Swyddog Meddygol, y Cwnsler Cyffredinol ac uwch-swyddogion sy'n delio â gwarchod, brechu ac agweddau allweddol eraill ar y pandemig.

Caiff llawer o'r argymhellion eu cwmpasu yng ngwaith y Tasglu. Bydd hyn yn hwyluso sgyrsiau pellach am bryderon defnyddwyr gwasanaeth ac yn meithrin ysbryd cydgynhyrchu wrth fynd i'r afael â nhw, rhywbeth y mae'r adroddiad yn galw amdano. Bydd trafodaethau o'r fath yn cynnwys yr argymhellion yn yr adroddiad sy'n ymwneud â materion megis diagnosis, gwarchod a gwasanaethau mamolaeth.

Nodir yr alwad am ymholiad cenedlaethol i ffactorau sydd wedi effeithio ar farwolaethau gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, gan gynnwys pobl anabl. Ers i'r adroddiad gael ei lunio, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â'r pandemig yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2022. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n llawn at yr ymchwiliad hwn wrth gwrs.

Yn ogystal, ymgymerodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon  y Senedd ag ymchwiliad i effaith COVID-19, a’r ffordd y cafodd ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ystyriodd yr ymchwiliad hwn, a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2021, effaith y pandemig, a'r ffordd y cafodd ei reoli, ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o hyn, ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol, ynghyd â'r effaith ar staff, cleifion a phobl eraill a oedd yn cael gofal neu driniaeth mewn lleoliadau clinigol ac yn y gymuned. Ystyriodd ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU hefyd. Cyhoeddwyd nifer o adroddiadau yn sgil yr ymchwiliad.

Mewn sawl man, mae adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yn galw am fwy o ymchwil i faterion penodol, megis effaith COVID-19 ar iechyd meddwl, ac i brosesau dadgyfuno data daflu goleuni ar brofiad penodol y rhai hynny sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Amlygir y gydberthynas rhwng ffactorau economaidd-gymdeithasol a ffactorau sy'n ymwneud ag iechyd fel maes y mae angen ymchwilio iddo ymhellach ac mae'n glir bod angen gallu dadgyfuno data ar lefel Cymru hefyd lle mae ar gael ar lefel y DU yn unig weithiau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino i greu darlun o effeithiau COVID-19 ledled Cymru, gan gynnwys drwy'r gwaith a arweiniodd at yr adroddiad hwn ac eraill, megis gwaith y Grŵp Cynghori Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac mae wrthi'n ystyried sut i gefnogi'r broses o goladu data a thystiolaeth ymhellach. Mae storfa o dystiolaeth a data am effeithiau COVID-19 wedi cael ei chreu er mwyn dod â thystiolaeth ynghyd sy'n ymwneud â grwpiau o bobl sydd â nodweddion gwarchodedig, ac mae gwaith i ddatblygu cwestiynau yn seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i'w cynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddo.

Yn ogystal, mae gwaith yn cael ei wneud i ystyried y syniad o sefydlu Uned Data Cydraddoldeb yng Nghymru, a phennu ei chwmpas. Mae cyfres o gyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai wedi cael eu cynnal i ddatblygu dealltwriaeth o strwythurau a rhwystrau presennol ac anghenion rhanddeiliaid, gan gynnwys drwy'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl. Bydd yr ymchwil yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ystyriaethau allweddol ar gyfer yr Uned, ynghyd ag opsiynau mewn perthynas â'i strwythur ac adnoddau.

Mae sawl argymhelliad mewn perthynas â hygyrchedd gwasanaethau, gan gynnwys y rhai a gaiff eu tendro gan Lywodraeth Cymru. Lle caiff gwasanaethau eu tendro, cynhelir asesiad risg strategaeth caffael sy'n cynnwys ystyried hygyrchedd fel rhan o'r contract a gaiff ei sefydlu. Byddai newidiadau i'r dull o ddarparu gwasanaethau yn destun asesiad o'r fath yn ogystal ag Asesiadau Effaith Integredig, sy'n cynnwys Asesiad gorfodol o'r Effaith ar Gydraddoldeb cyn caffael. Bydd y Tasglu yn cynnig cyfle i ystyried ymhellach pa mor effeithiol y caiff hygyrchedd ei ystyried mewn contractau ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, ac i ddeall hyn yn well.

Mae'r adroddiad yn galw am gyllid cynyddol ar gyfer gwasanaethau eirioli i gefnogi pobl anabl wrth iddynt ddelio â darparwyr gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus. Drwy'r Gronfa Gynghori Sengl, roedd £8.1m ar gael yn 2020 i 2021 ac mae dros £9.6m ar gael yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022 er mwyn rhoi cyngor ar faterion Lles Cymdeithasol. Gwnaeth y gwasanaethau cynghori a ddarparwyd drwy'r Gronfa Gynghori Sengl y llynedd helpu dros 127,813 o bobl i ddelio â 286,666 o broblemau lles cymdeithasol, gyda gwerth £43,718,464 o fudd ariannol ychwanegol i'r bobl a gafodd eu helpu, sy'n cynnwys pobl anabl.

Er mwyn cynghori sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl sy'n darparu gwasanaethau eirioli, mae £3m o gyllid ychwanegol ar gyfer COVID-19 wedi cael ei sicrhau ar gyfer 2021 i 2022. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n tendro ar gyfer opsiwn yn lle Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector ar hyn o bryd a fydd yn cynnig cymorth i sefydliadau'r trydydd sector sydd wedi colli incwm, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau eirioli.

Mae trefniadau ar waith i ymgysylltu ac ymgynghori â'r trydydd sector o ran darpariaeth iechyd meddwl, fel y gelwir amdano yn yr adroddiad. Mae'r Llywodraeth yn ymgysylltu'n rheolaidd â'r trydydd sector drwy Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru er mwyn sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau. Rydym hefyd yn cefnogi'r Fforwm Iechyd Meddwl Cenedlaethol sy'n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr er mwyn sicrhau y cânt eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu rhaglenni a pholisïau. Mae'r Fforwm hefyd yn rhan o'n bwrdd partneriaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

Mae Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019 i 2022 yn cynnwys ymrwymiadau i gryfhau prosesau i ymgysylltu â'r trydydd sector a defnyddwyr gwasanaeth a chaiff cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn ei gynnwys fel rhan o ddiweddariadau rheolaidd y Cynllun Cyflawni.

Caiff yr angen i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd a brofir gan bobl anabl o ganlyniad i COVID-19 ei gydnabod yn llawn. Roedd cyhoeddi ‘Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ ym mis Chwefror 2020 yn gam cyntaf pwysig tuag at fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru.

Sefydlwyd grŵp cynghori yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o'r sector statudol a'r trydydd sector a sefydliadau llawr gwlad er mwyn helpu i ddatblygu'r strategaeth ac, wrth inni roi'r strategaeth ar waith, mae'r grŵp hwn yn ein helpu i ddeall effaith unigrwydd ac ynysigrwydd yn well. Mae materion allweddol a godwyd gan y grŵp yn ystod y pandemig wedi cynnwys y canlynol:

  • allgáu digidol
  • goresgyn rhwystrau i ailymgysylltu
  • mathau o gymorth parhaus sydd eu hangen
  • cynnal cymorth yn y gymuned
  • sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb.

Mae Anabledd Cymru, Arweinydd Awtistiaeth Cymru, Fforwm Golwg Cymru a pherson sydd ag anabledd dysgu yn aelodau o'r grŵp.

Anfanteision Economaidd-gymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella bywydau pawb yng Nghymru. Gwyddom fod COVID-19 yn cael effaith ddifrifol, ond rydym yn gwneud popeth y gallwn fel Llywodraeth i liniaru ei effeithiau. Rydym yn cydnabod mai Llywodraeth y DU sy'n meddu ar y dulliau ysgogi allweddol ar gyfer trechu tlodi, a bod trethi a gwariant ar les yn ganolog i wella canlyniadau i deuluoedd incwm isel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw'n rheolaidd at bwysigrwydd darparu cymorth ariannol digonol i bob unigolyn, teulu a busnes yng Nghymru er mwyn helpu i liniaru'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar ein cymunedau. Byddwn yn parhau i wneud hyn wrth inni symud i'r cyfnod adfer.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gynnal y cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol a pharhau â rhaglenni cymorth ariannol (megis y cynllun ffyrlo a chymorth i bobl hunangyflogedig) a gyflwynwyd mewn ymateb i effaith pandemig COVID-19 ar incwm aelwydydd. Hoffem weld y taliad o £20 yr wythnos yn cael ei ddarparu i aelwydydd incwm isel sy'n cael budd-daliadau etifeddol hefyd, megis Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm.

Fel y mae'r pandemig hwn yn ei ddangos, mae angen i'r system nawdd cymdeithasol fod yn ddigon cadarn a hyblyg i ymateb i heriau mawr a bach. Bydd llawer o wersi i'w dysgu o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn er mwyn parhau i gefnogi pobl Cymru.

Mae'r Llywodraeth yn croesawu'r pwyslais cryf ar anfantais economaidd-gymdeithasol yn adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwyslais presennol ar gydnabod a lliniaru ffactorau economaidd-gymdeithasol ym mholisi cydraddoldeb y Llywodraeth, yn enwedig drwy ddeddfu'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a ddaeth i rym ar 31 Mawrth 2021. Rydym yn cytuno â galwad yr adroddiad i'r Ddyletswydd fod yn rhan allweddol o ymrwymiad Cymru i ailadeiladu'n gryfach, yn wyrddach ac yn decach.

Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, roi sylw priodol i'r angen i leihau anghydraddoldebau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Bydd y Ddyletswydd yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau, gan sicrhau y caiff tystiolaeth ei hystyried er mwyn deall anghydraddoldebau a'r effaith y bydd penderfyniadau yn ei chael ar bobl sy'n byw yng Nghymru.

Daeth y Ddyletswydd i rym yn ddiweddar ac mae pwysigrwydd dulliau ymgysylltu effeithiol eisoes wedi'i bwysleisio mewn canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid yn y trydydd sector ynghylch y ffordd orau o sefydlu prosesau ymgysylltu a chydgynhyrchu gyda'r rhai y mae penderfyniadau yn effeithio arnynt. Bydd y Tasglu, ynghyd â'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, yn darparu dull pwysig o gyfrannu at y gwaith hwn.

Nodir bod mynediad at dai priodol yn ffactor pwysig o ran yr anfantais economaidd-gymdeithasol a brofir gan bobl anabl. Mae sawl cam gweithredu eisoes wedi'i gynnwys yn y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd, gan y cydnabyddir bod byw mewn cartref o ansawdd da, sydd wedi'i ddylunio'n dda yn cynnig amrywiaeth eang o fuddiannau i iechyd, dysgu a ffyniant. Am y rheswm hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol, a phartneriaid eraill fel Tai Pawb, i wella bywydau pobl anabl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Mae gan Gymru stoc dai amrywiol eisoes sy'n diwallu amrywiaeth eang o anghenion, ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i wella argaeledd tai hygyrch.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae angen i bob cartref newydd a ariennir drwy grant gyrraedd Safonau Cartrefi Gydol Oes a chael ei ddylunio gyda nodweddion megis grisiau llydan fel bod modd gosod lifft risiau, digon o le i symud, ystafell gawod hygyrch ar y llawr gwaelod, drysau llydan a llwybrau allanol cyfleus. Mae hyn yn cynnig hyblygrwydd ac yn golygu y gallai'r cartref ymateb i anghenion newidiol a bod yn addas i amrywiaeth eang o breswylwyr drwy gydol ei oes. Mae'r Grant Tai Cymdeithasol hefyd yn ariannu tai Gofal Ychwanegol a thai pwrpasol eraill a gaiff eu dylunio'n benodol ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru broses graffu dechnegol newydd yn ddiweddar sy'n golygu y caiff pob prosiect tai newydd a ariennir drwy'r grant ei adolygu cyn llunio'r dyluniadau terfynol er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau, ei fod wedi'i ddylunio'n dda ac y bydd yn diwallu anghenion y bobl a fydd yn byw yno. Bydd y broses newydd hefyd yn cynnwys adolygiad ôl-ddeiliadaeth a chaiff cartrefi eu gwerthuso'n feirniadol er mwyn cadarnhau eu bod wedi cyrraedd y safonau ac y defnyddir unrhyw wersi a ddysgwyd i fireinio'r safonau yn y dyfodol.

Yn seiliedig ar dystiolaeth gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar 10 Mawrth y byddai cynnydd o £400,000 yng ngrant Galluogi Awdurdodau Lleol fel nad oes rhaid iddynt ddefnyddio'r prawf modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bach a chanolig mwyach. Mae diddymu'r prawf modd ar gyfer yr addasiadau mwyaf cyffredin yn gam arwyddocaol a fydd o fudd i bobl anabl ledled Cymru.

Gwnaeth asiantaethau Gofal a Thrwsio helpu pobl anabl i gael gwerth dros £1.2 miliwn o fudd-daliadau ychwanegol sy'n dibynnu ar brawf modd rhwng mis Ebrill 2020 a diwedd mis Ionawr 2021, a gwyddom fod llawer o dimau addasiadau mewn awdurdodau lleol yn gwneud gwaith tebyg.

Mae gwaith â blaenoriaeth i ddiwallu anghenion pobl anabl wedi parhau drwy gydol pandemig y coronafeirws, gyda rhaglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig, sydd werth £145 miliwn dros 4 blynedd, gyda'r nod o alluogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddiwallu anghenion tai a llety grwpiau blaenoriaeth, gan gynnwys oedolion a phlant sydd ag anabledd corfforol neu anabledd dysgu.

Drwy gydol yr argyfwng iechyd y cyhoedd, bu Llywodraeth Cymru yn annog mwy o ffocws, a hynny ar frys, ar addasiadau i dai sy'n galluogi cleifion i gael eu rhyddhau o'r ysbyty ac sy'n cefnogi unigolion sy'n agored i'r coronafeirws i barhau i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref. Rydym yn ymrwymedig i'r dull gweithredu sector cyfan hwn a byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau pellach yn ystod 2021 i 2022, gan gynnwys yr hyn a ystyrir yn waith â blaenoriaeth, megis hwyluso prosesau i ryddhau cleifion o'r ysbyty ac addasiadau i bobl sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd.

Mae galwad yr adroddiad am fwy o waith ymchwil a dadansoddi yn y maes tai wedi cael ei fwydo i mewn i broses cynllunio tystiolaeth am dai Llywodraeth Cymru. Mae prosesau rheolaidd i gasglu data gan ddarparwyr addasiadau eisoes ar waith, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddadansoddi lefelau presennol y gwariant ar bob rhaglen ariannu addasiadau i dai a nodi sut mae pob un yn cefnogi'r gwaith o ddarparu addasiadau i dai yng Nghymru. Byddwn yn ystyried ffyrdd o adeiladu ar y gwaith hwn ac i archwilio'r materion mewn ffordd ansoddol, gan felly gynyddu'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi ein polisi tai yn y dyfodol.

Mae cyflogaeth yn faes arall lle mae'r adroddiad yn nodi y gall pobl anabl brofi anfantais economaidd-gymdeithasol. Ers cyhoeddi Fframwaith a Chynllun Gweithredu ‘Gweithredu ar Anabledd yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’ ym mis Medi 2019, gwelwyd llawer o ddatblygiadau cadarnhaol ym maes cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru.

O dan Gynllun Gweithredu'r Fframwaith Byw'n Annibynnol, mae pecyn cymorth wedi cael ei ddatblygu i alluogi cyflogwyr i ddenu, recriwtio, datblygu a chadw gweithwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys penodi chwe Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl sy'n gweithio gyda busnesau i newid agweddau mewn perthynas â chyflogi pobl anabl. Byddant yn codi ymwybyddiaeth o'r doniau a'r sgiliau a gynigir gan bobl anabl, yn helpu cyflogwyr i addasu eu harferion recriwtio ar gyfer eu gweithlu, ac yn dangos sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael yn effeithiol er mwyn helpu pobl anabl i ddod o hyd i waith.

Mae arweinlyfr sy'n cynnwys cyngor ar gyflogi pobl anabl wedi cael ei lunio i dywys cyflogwyr drwy'r broses o recriwtio a chadw person anabl. Mae Cymhellion Prentisiaeth ychwanegol ar gael i gyflogwyr am gyflogi prentisiaid anabl hefyd. Fel rhan o'r ymrwymiad yn sgil COVID-19 i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith, darparwyd Grant Rhwystrau gwerth £1.2m ar gyfer busnesau newydd er mwyn helpu unigolion di-waith i ddechrau busnes yng Nghymru. Wrth glustnodi'r cyllid hwn, rhoddir blaenoriaeth i'r rhai y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt, gan gynnwys pobl anabl.

Mae ymrwymiad i gynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar Gynllun Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru. Nod y cynllun yw helpu mwy o bobl anabl i ddechrau neu aros yn y gwaith ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w hyrwyddo i gyflogwyr a phobl anabl drwy ein rhwydweithiau cymorth cyflogaeth.

Mae fforwm a arweinir gan randdeiliaid wrthi'n cael ei sefydlu. Rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n berchen arno a chaiff ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Mynediad i Waith er mwyn cefnogi cydweithio, helpu i ddatblygu mentrau polisi newydd a hyrwyddo'r cynllun.

Mae adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yn rhoi pwyslais cryf ar lesiant yn y gweithle ac mae rhaglenni penodol, megis Cymru Iach ar Waith, yn cefnogi llesiant pobl anabl yn y gwaith. Mae'r rhaglen hon yn helpu cyflogwyr i ddatblygu a chynnal amgylcheddau, polisïau a diwylliannau sy'n hyrwyddo iechyd da ac yn cefnogi'r rhai sy'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch, neu sy'n ddi-waith oherwydd cyfnodau o afiechyd, i ddychwelyd i'r gwaith mewn modd priodol ac amserol. Mae Cymru Iach ar Waith mewn sefyllfa dda i gefnogi ac annog y gwaith o ddatblygu polisïau llesiant a hyrwyddo trafodaeth bellach ar y pwnc hwn wrth i'r Tasglu ddechrau ei waith pwysig.

Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth

Mae'r adroddiad yn cynnig disgrifiad pwerus o'r rhwystrau niferus y mae COVID-19 wedi'u cyflwyno i bobl anabl, a phwysigrwydd cynhwysiant a hygyrchedd ar bob lefel ac ym mhob sector er mwyn goresgyn y rhwystrau hynny.

Mae hygyrchedd corfforol ar ein strydoedd ac mewn mannau agored wedi bod yn her i rai pobl anabl gan fod dargyfeiriadau dros dro ac arwyddion newydd mewn llawer o leoedd. Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i'w hatgoffa o'u dyletswydd i sicrhau bod unrhyw newidiadau i amgylcheddau ffisegol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd nad yw'n peri unrhyw broblemau anfwriadol i bobl anabl. Ym mis Mehefin 2020, gwnaethom gyhoeddi canllawiau o'r enw “Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws”. Mae'r canllawiau yn nodi y dylai rhwymedigaethau cyfreithiol sicrhau bod polisïau, arferion, gweithdrefnau a threfniadau gwaith yn cefnogi cydraddoldeb a llesiant pobl anabl, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ac yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Daeth pwysigrwydd dulliau teithio hygyrch yn amlycach fyth yn ystod y pandemig, a datblygwyd Llwybr Newydd Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru 2021 gan roi blaenoriaeth i hygyrchedd ynghyd â chynaliadwyedd.

Yn ystod blwyddyn gyntaf COVID-19, gwnaed gwaith ymgysylltu helaeth â phob grŵp sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig ac mae barn pobl anabl wedi ei mynegi'n gryf yn y ddogfen a luniwyd yn sgil hyn. Ar y cyd â'r strategaeth, cyhoeddwyd adroddiad ychwanegol sy'n adlewyrchu'r gwaith ymgysylltu hwnnw, o'r enw ‘Symudedd yng Nghymru’.

O ganlyniad i'r strategaeth, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu llwybr cydraddoldeb a fydd yn nodi'r cerrig milltir a'r camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn darparu system drafnidiaeth sy'n fwy hygyrch.

Aethpwyd i'r afael â materion uniongyrchol a oedd yn deillio o'r pandemig wrth iddynt ddod i'r amlwg hefyd. Mae gweithgor bysiau wedi cael ei sefydlu gyda'r diwydiant bysiau a Chymdeithas Cŵn Tywys y Deillion. Mae'r grŵp yn ystyried materion penodol sy'n wynebu teithwyr anabl yn ystod pandemig COVID-19, megis rhwystrau wrth geisio dal bws ac mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol wrth deithio.

Cafodd gwasanaethau Cymorth i Deithwyr ar gyfer teithio ar drenau ei ddatblygu drwy waith Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru a wnaeth barhau i weithredu'n rhithwir a drwy'r post. Gwnaed nifer o welliannau i ganllawiau staff, briffiadau ac asesiadau risg, gan roi pwyslais ar roi cymorth rhagweithiol i unrhyw un y mae angen help arno.

Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at yr heriau o ran mynd i'r afael ag allgáu digidol, ac nad cysylltedd a mynediad (dyfeisiau a seilwaith) yn unig yw'r ateb. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid inni wneud ein hymrwymiad yn glir i gefnogi pawb i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a dewis sut maent yn cymryd rhan yn ein byd cynyddol ddigidol, ac yn manteisio i'r eithaf arno.

Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru yn darparu cymorth a hyfforddiant i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr o sefydliadau i ymgysylltu â dinasyddion a datblygu eu sgiliau digidol. Er nad yw wedi'i chynllunio i ddatblygu rhaglenni addysg a sgiliau penodol sydd wedi'u teilwra i unigolion, mae'r rhaglen yn ymgysylltu'n weithredol ag amrywiaeth o sefydliadau ac yn gweithio gyda nhw. Mae'r rhain yn cynnwys Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, RNIB Cymru, Action on Hearing Loss Cymru a Sight Cymru.

Caiff effaith y mathau o rwystrau a amlinellir uchod ar gynyddu unigrwydd ac ynysigrwydd ei chydnabod yn llawn. Gall pob un ohonom deimlo'n unig ac yn ynysig, ond gwyddom fod rhai grwpiau mewn cymdeithas y mae'r materion hyn yn peri mwy o risg iddynt; mae pobl anabl yn un grŵp o'r fath.

Mae deall a gwella gwydnwch pobl, eu gwneud yn llai agored i effeithiau niweidiol unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a sicrhau y gallant gael gafael ar wasanaethau cymorth priodol, oll yn hollbwysig er mwyn cynnal iechyd, llesiant ac annibyniaeth.

Roedd cyhoeddi ‘Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ ym mis Chwefror 2020 yn gam cyntaf pwysig tuag at fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru.

Sefydlwyd grŵp cynghori yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o sefydliadau llawr gwlad, gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl ynghyd â'r sector statudol a'r trydydd sector, er mwyn helpu i ddatblygu'r strategaeth a nawr, wrth inni roi'r strategaeth ar waith, mae'r grŵp yn ein helpu i ddeall effaith unigrwydd ac ynysigrwydd yn well.

Mae materion allweddol a godwyd gan y grŵp yn ystod y pandemig yn cynnwys y canlynol: allgáu digidol; goresgyn rhwystrau i ailymgysylltu; mathau o gymorth parhaus sydd eu hangen; cynnal cymorth yn y gymuned a sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb.

Mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o'r effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar iechyd meddwl a llesiant pobl anabl a'u teuluoedd a'u gofalwyr, a bydd yn gweithio gyda'r Grŵp Cynghori ar Unigrwydd ac Ynysigrwydd i ystyried beth arall y gellir ei wneud.

Rydym yn parhau i fonitro'r dystiolaeth i ddeall effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau ar iechyd meddwl a llesiant. Mae lefelau gorbryder yn uwch nawr nag yr oeddent cyn y pandemig a gwyddom hefyd ei fod wedi cael effaith anghymesur ar rai grwpiau. I rai, bydd llacio'r cyfyngiadau a'i gwneud yn bosibl iddynt weld anwyliaid a gwneud y pethau maent yn eu mwynhau yn gwella eu hiechyd meddwl, ond rydym yn cydnabod y bydd angen cymorth mwy arbenigol ar rai pobl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y cymorth hwn yn deg ac yn hygyrch, a bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â safon Cymru gyfan ar gyfer dulliau cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar y synhwyrau.

Nodir bod cynnwys pobl anabl mewn prosesau gwneud penderfyniadau a'u cynrychioli'n well mewn bywyd cyhoeddus yn ffactorau allweddol sy'n ysgogi newid. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynyddu amrywiaeth ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus, gan gynnwys mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolyn rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol drwy sefyll am swydd etholedig.

Sefydlwyd y Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig, fel cynllun peilot, i gynnig cymorth i ymgeiswyr anabl a oedd yn sefyll yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 ac ymgeiswyr anabl a fydd yn sefyll yn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022. Rhain yw'r etholiadau sydd wedi'u datganoli i Gymru. Diben y gronfa hon yw helpu unigolion i chwarae rôl lawn wrth gefnogi a chynrychioli eu cymunedau. Rydym yn cydnabod ei bod yn debygol y bydd pobl anabl yn wynebu mwy o gostau wrth sefyll am swydd etholedig a bydd y gronfa hon yn helpu i leihau rhywfaint o'r rhwystrau ariannol a wynebir.

Fel cyflogwr, mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o wersi ac adnoddau i staff yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda'r nod o ymgorffori cynhwysiant ym mhopeth a wnawn a chefnogi staff i herio unrhyw achosion o wahaniaethu a welant. Dros y deuddeg mis nesaf, byddwn yn gweithio gyda rhwydweithiau amrywiaeth i staff, cydweithwyr ac ymarferwyr dysgu arbenigol i gynllunio a chyflwyno cyfres newydd o adnoddau dysgu yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn rhan o'r broses o'r cychwyn cyntaf.

Mae addasiadau rhesymol wedi cael eu gosod yn amlycach ym mhrosesau recriwtio Llywodraeth Cymru er mwyn annog ymgeiswyr i gysylltu â ni.

Darperir cymorth ychwanegol yn ôl y gofyn. Mae iaith wedi cael ei diweddaru a'i chryfhau er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn well, ac mae tîm cynhwysiant ac amrywiaeth newydd ar gyfer recriwtio yn cael ei greu a fydd yn datblygu'r gwaith hwn ymhellach.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar rôl y cyfryngau o ran gwella agweddau a dealltwriaeth. Mae hyrwyddo amrywiaeth ym mhob rhan o'r diwydiannau creadigol yn flaenoriaeth allweddol i raglen Cymru Greadigol. Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid sydd hefyd yn ymrwymedig i sicrhau gwelliannau, gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru. Byddwn yn ceisio nodi cyfleoedd i hyrwyddo ac annog y casgliad gwell o ddata am amrywiaeth, fel y galwyd amdano yn yr adroddiad, gan gynnwys drwy ddulliau grantiau a gweithgarwch ymgysylltu rhanddeiliaid.

Yn olaf, rydym yn llwyr gydnabod rôl hanfodol y trydydd sector wrth ddarparu cymorth i bobl anabl fel y gallant gael gwasanaethau a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Drwy gronfeydd y trydydd sector, megis Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol a'r Gronfa i Gynghorau Gwirfoddol Sirol a wnaeth alluogi sefydliadau i ymateb i'r argyfwng, rydym wedi cefnogi 48 o sefydliadau a nododd eu bod yn cefnogi unigolion anabl drwy ddarparu £1,342,000 o gyllid, a gwnaethom roi £434,000 o gyllid i 17 o sefydliadau eraill a nododd eu bod yn darparu gwasanaethau eirioli. Yn ogystal, rydym wedi cefnogi amrywiaeth eang o sefydliadau pobl anabl sydd wedi colli incwm.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu dyraniad Cymru o Gronfa Argyfwng COVID-19 yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Genedlaethol, sy'n cael ei gweinyddu gan Anabledd Cymru, ac mae'n cefnogi amrywiaeth o brosiectau arloesol gan Sefydliadau Pobl Anabl ledled Cymru. Rydym wedi sicrhau £3m o gyllid ychwanegol ar gyfer COVID-19 yn 2021-2022 ac rydym wrthi'n tendro ar gyfer opsiwn yn lle Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector. Bydd y gronfa hon yn cefnogi sefydliadau'r trydydd sector sydd wedi colli incwm, gan gynnwys y rhai hynny sy'n darparu gwasanaethau eirioli.

Casgliad

Mae'r adroddiad hwn yn rhestru camau gweithredu sydd ar waith a'n bwriad i ystyried canfyddiadau'r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 ymhellach a gwneud cynnydd mewn perthynas â'r argymhellion a nodir ynddo. Nid yw'r camau yn hollgynhwysfawr a byddwn yn adeiladu arnynt ymhellach. Caiff dyheadau awduron yr adroddiad i'r Tasglu hwyluso cyfres drawsadrannol ac amlsectoraidd o sgyrsiau ynghylch profiadau a safbwyntiau pobl anabl yn ystod pandemig COVID-19, ac yn ehangach fel dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau, eu cydnabod yn llawn.

Cydnabyddir hefyd, er bod yr argymhellion unigol yn bwysig, fod awduron yr adroddiad am i brif bwyslais eu gwaith ganolbwyntio ar y dystiolaeth y mae'r argymhellion hynny yn seiliedig arni. Yn benodol, mae'r adroddiad yn cynnig cyfle i ystyried a thrafod profiadau o safbwynt person anabl a chyfrannu at bolisïau a gwasanaethau a ddarperir yn unol â hynny.

Mae gwaith ar y Tasglu wedi dechrau a bydd hwn yn gyfrwng pwysig ar gyfer datblygu'r argymhellion hyn, ond hefyd i nodi newidiadau a fydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau dwfn a brofir gan bobl anabl, a'u rhoi ar waith. Fel rhan o'i waith, bydd pwyslais ar asesu Fframwaith a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol, yng ngoleuni'r anghydraddoldebau a amlygwyd gan y pandemig. Bydd angen adolygu ac ailwampio'r cynnwys a'r camau gweithredu, er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben yn y byd rydym bellach yn byw ynddo.

Yn y gwaith pwysig hwn, bydd dealltwriaeth a chyngor y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn datblygu'r cynllun newydd, a'i roi ar waith yn effeithiol wedi hynny, fel y gellir mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a wynebir gan bobl anabl yng Nghymru.