Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, fel Noddwr Roald Dahl 100,  bydd Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw, yn cael blas ar y gweithgareddau sy’n digwydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd rhai pethau annisgwyl mewn lleoedd annisgwyl yn rhoi teimlad o gynnwrf am yr hyn sydd i ddod yn yr hydref.  

Bydd gweddw Roald Dahl, Felicity Dahl yn bresenol a’r bywgraffyddwr swyddogol, Donald Sturrock. Bydd cymunedau, cymdeithasau, sefydliadau ac elusennau sydd wedi gweithio i ddathlu bywyd a gwaith Roald Dahl yn ystod 2016 hefyd yn bresennol – ac i ddathlu ei gyfnod yng Nghymru, oedd yn ysbrydoliaeth i nifer o’i anturiaethau, ei gynlluniau a’i gymeriadau. 

Bydd Ei Huchelder Brenhinol yn ymweld â’r  Eglwys Norwyeg, ble y bydd yr Athro Damian Walford Davies, cadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn trafod cysylltiadau Roald Dahl gyda Caerdydd a’r Eglwys Norwyeg.  Bydd y Dduges hefyd yn cyfarfod y Bardd Rufus Mufasa, fu’n gweithio gyda 60 o blant o Ysgolion Cynradd Grangetown a Cadoxton, Caerdydd, i greu darnau ‘rap’ a cherddi i’w perfformio sydd wedi eu hysbrydoli gan Revolting Rhymes Roald Dahl.  Mae’r gweithdy yn rhan o gynllun allgymorth Dyfeisio Digwyddiad Llenyddiaeth Cymru, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n anelu at gael Cymru gyfan i ddarllen ac ysgrifennu.

Mae cynllun Dyfeisio eich Digwyddiad wedi cefnogi dros 200 o ddigwyddiadau a gweithdai ledled Cymru ers mis Ionawr, gan gysylltu â dros 5,0000 o blant, pobl ifanc ac oedolion hyd yma.

Bydd taith Ei Huchelder Brenhinol yn parhau i Ganolfan Mileniwm Cymru ble y bydd ymysg y rhai cyntaf i weld ‘George’s Marvellous Medicine Machine’ fydd yn un o’r gosodiadau sydd wedi’u creu ar gyfer digwyddiad ‘City of the Unexpected’ Roald Dahl yng Nghaerdydd ym mis Medi – sydd yn cael ei gynhyrchu gan Canolfan y Mileniwm a National Theatre Wales - ble y mae sawl syndod arall i ymwelwyr y brifddinas.   

O ganol dydd ar ddydd Sadwrn 17 Medi, bydd canol dinas Caerdydd yn ffrwydro i fywyd rhyfedd a gwych Roald Dahl, gyda digwyddiadau, perfformiadau ac arddangosfeydd ar y stryd ac mewn adeiladau ledled y ddinas, gydag uchafbwynt yn ystod y nos.  

Bydd rhai o gefnogwyr mwyaf (ac mwyaf adnabyddus) Roald Dahl yn darllen darnau o’i storïau mewn lleoliadau anarferol ar draws canol y ddinas ar y dydd Sul.  Gwahoddir cynulleidfa i’r Picnic Pyjamas ym Mharc Biwt y ddinas yn eu pyjamas, fydd yn dod â themâu, storïau, cymeriadau a chast y penwythnos gyda’i gilydd mewn gŵyl o fwyd, cerddoriaeth, a storïau Roald Dahl, ac o gymuned Caerdydd gydol y dydd.  

Yn ystod ei hymweliad, bydd Y Dduges hefyd yn cyfarfod â’r gantores a’r gyfansoddwraig Caryl Parry Jones sydd wedi bod yn arwain gweithdai Dyfeisio Dahl, a bydd y Dduges yn clywed darnau ymarfer o Dyfeisio Dahl gyda 22 disgybl o Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelai.

Bydd plant o Gorws Only Kids Aloud o dan arweiniad Tim Rhys-Evans yn dod â’r ymweliad i ben ac yn rhoi’r perfformiad olaf gyda’r caneuon ‘Revolting Children’ o Matilda a ‘Pure Imagination’ o 'Charlie and the Chocolate Factory'.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi a’r Seilwaith:  

“Mae’r ymweliad hwn yn enghraifft o’r cynnwrf sydd wedi bod yn gysylltiedig ac sy’n parhau i fod yn gysylltiedig â dathliadau Roald Dahl yng Nghymru.  Mae ein rhaglen o ddathliadau wedi rhoi cyfle i bobl ledled Cymru i ddod i adnabod Dahl yn well ac i ddathlu trwy ganeuon, cerddoriaeth, dawns, ac wrth gwrs – ddarllen ac ysgrifennu.

“Eleni rydym yn dathlu Blwyddyn Antur yng Nghymru, sy’n cyd-fynd yn berffaith â llysgennad antur mor wych – ac mae digon o anturiaethau eraill i’w cael wrth inni edrych ymlaen at ei benblwydd ym mis Medi, ac yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn agor arddangosfa Quentin Blake: Inside Stories yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.”