Neidio i'r prif gynnwys

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyngor gan Fwrdd y Rhaglen Dileu TB Buchol a'r Grŵp Cynghori Technegol, ynghyd â'i hymateb, wrth i Gymru weld newid sylweddol yn y dull o fynd i'r afael â'r clefyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull newydd a phragmatig o ddileu TB sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan ymgorffori tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. 
  • Mae bron 96% o fuchesi yng Nghymru bellach heb TB, ond o ddilyn y trywydd presennol, mae'n annhebygol y bydd Cymru'n sicrhau Statws heb TB swyddogol erbyn 2041. Mae angen gweithio mewn partneriaeth ac ymdrech a gweithredu parhaus gan bawb, tuag at y nod cyffredin o Gymru heb TB.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyngor gan Fwrdd y Rhaglen Dileu TB Buchol a'r Grŵp Cynghori Technegol, ynghyd â'i hymateb, wrth i Gymru weld newid sylweddol yn y dull o fynd i'r afael â'r clefyd.  

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau rhoi cyngor y Bwrdd ar waith yn syth, gan wneud gwaith pellach ochr yn ochr â hynny.  

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd na fydd yn mynd ar drywydd polisi o ddifa’r holl foch daear ar lefel dorfol. 

Mae cyngor Bwrdd y Rhaglen Dileu TB yn cynnwys blaenoriaethau a fydd yn cael eu gweithredu a'u datblygu, gan ddechrau ar unwaith, ar draws tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt. 

 Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

"Mae TB buchol yn parhau i fod yn un o'r heriau iechyd anifeiliaid mwyaf difrifol sy'n wynebu Cymru. I deuluoedd sy'n ffermio, gall achos o TB olygu misoedd neu flynyddoedd o gyfyngiadau, ansicrwydd a dewisiadau anodd. 

"Mae bron 96% o fuchesi yng Nghymru bellach heb TB. Fodd bynnag, o ystyried y cynnydd presennol, mae'n annhebygol y bydd Cymru'n sicrhau Statws heb TB swyddogol erbyn 2041. 

"Nid yw aros yn yr unfan yn opsiwn.  

"Dyna pam rydyn ni'n mabwysiadu dull newydd a phragmatig o ddileu TB buchol. Ni fyddwn yn sefyll o'r neilltu wrth i ffermwyr wynebu ansicrwydd a phryder, ac ni fyddwn chwaith yn mynd ar drywydd polisi o ddifa’r holl foch daear ar lefel dorfol. 

"Yn lle hynny, byddwn ni'n cymryd camau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu harwain gan wyddoniaeth, gan ymgorffori tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt. Pan fo tystiolaeth o haint sy'n bygwth buchesi ffermwyr ac, yn sgil hynny, eu bywoliaethau, byddwn ni'n ymyrryd. 

“Bydd ffermwyr a'r cyhoedd yn ein barnu'n gwbl briodol ar sail a ydym yn atal y clefyd, ac yn lleihau ei effaith, hyd yn oed pan fo'r penderfyniadau'n anodd. Bydd cynnydd yn dibynnu ar bartneriaethau ac ymdrech a gweithredu parhaus gan bawb, tuag at y nod cyffredin yr ydyn ni i gyd yn ei rannu, sef Cymru heb TB.