Canllawiau ar gyfer rheoli heintiau anadlol acíwt mewn gofal cymdeithasol o aeaf 2023 i 2024 ymlaen
Mae’r ddogfen hon sydd i’w defnyddio gan y sector gofal cymdeithasol yn crynhoi’r canllawiau ynghylch y defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE), y canllawiau profi ac ynysu a’r canllawiau ymweld mewn perthynas â heintiau anadlol fel y ffliw a COVID-19.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Y tu hwnt i’r ymateb brys i'r pandemig, mae angen inni ystyried pa mor agored i niwed y mae pobl sy'n cael gofal cymdeithasol. Byddwn yn adeiladu ar ein gwybodaeth yn sgil y nifer uchel o breswylwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol a fanteisiodd ar y brechlyn COVID-19. Mae'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn parhau i weithio’n ddiflino i weithredu arferion atal a rheoli heintiau er mwyn diogelu preswylwyr a staff rhag ystod o heintiau anadlol acíwt (ARI). Mae heintiau anadlol acíwt yn cynnwys anhwylderau megis COVID-19, y ffliw, a feirws syncytiol anadlol (RSV).
Bydd rhai mesurau diogelu ac arferion da yn parhau i gael eu cynghori pan fo symptomau haint anadlol acíwt yn bresennol, ond rydym yn annog darparwyr gofal i sicrhau normalrwydd mewn cartrefi ac ym mywydau’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae’n bwysig ein bod i gyd yn cofio mai cartref y person yw'r cartref gofal ac nid amgylchedd clinigol. Am y rheswm hwn, bydd yna bob amser rywfaint o risg gynhenid o gael haint. Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i atal y risg hon ac yn cydnabod bod preswylwyr yn agored i niwed, mae’n rhaid i’r camau a gymerir ystyried y niweidiau ehangach.
Rydym yn parhau i fonitro amrywiolion COVID-19 gan gynnwys ymddangosiad BA.2.86. Os oes risg o drosglwyddadwyedd a difrifoldeb uwch, byddwn yn ystyried mesurau rhagofalus priodol a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Bydd hyn yn cynnwys lefel uwch o fesurau rheoli ac atal heintiau, rhagor o brofion wedi’u targedu, adolygu cynlluniau brechu yn ogystal â chyhoeddi canllawiau cryfach i’r cyhoedd ynghylch mesurau y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain ac eraill.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u seilio ar y canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd ar gyfer tymor y Gwanwyn/Haf 2023 yn ogystal â’r Fframwaith Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Feirysau Anadlol.
Rheoli heintiau anadlol: cyngor i staff
Rydym yn cynghori gweithwyr sy’n gweithio gyda’r cyhoedd ac sydd â symptomau haint anadlol a/neu dymheredd uchel i aros gartref. Dylent hefyd ddweud wrth eu cyflogwr cyn gynted â phosibl.
Pan fyddant yn teimlo’n well a/neu nad oes ganddynt dymheredd uchel a’u bod yn barod i ddychwelyd i'r gwaith, mae’n bosibl y bydd gweithwyr am drafod ffyrdd o leihau unrhyw risg â’u cyflogwr. Y rheswm am hyn yw y gallai rhai pobl fod yn heintus o hyd.
Dylai gweithwyr hefyd drafod ffyrdd o leihau trosglwyddo heintiau â’u rheolwr llinell os ydynt yn rhannu aelwyd neu’n cael cyswllt dros nos â rhywun sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif neu sydd â symptomau feirws anadlol.
Brechu yn erbyn y ffliw a COVID-19 yw ein hamddiffyniad gorau o hyd rhag dal a throsglwyddo'r feirysau hyn i eraill. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen wedi’u blaenoriaethu ar gyfer cael eu brechu yn rhan o Raglen Frechu'r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ac fe'u hanogir i fanteisio ar y cynnig o'r ddau frechlyn cyn gynted â phosibl. Bydd yr amddiffyniad a gynigir drwy frechiadau yn helpu i atal gweithwyr rheng flaen rhag mynd yn sâl, yn amddiffyn y bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt, a bydd hefyd yn diogelu’r system iechyd a gofal cymdeithasol rhag cael ei llethu.
Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach yn y Fframwaith Anadlol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd.
Pan nad oes heintiau anadlol mewn cartrefi gofal i oedolion neu yng nghartrefi pobl sy'n derbyn gofal cartref
Profion i staff a phreswylwyr
Nid argymhellir profi staff na phreswylwyr heb symptomau.
Mae manylion pellach i'w cael yn: Cyngor i staff iechyd a gofal ar feirysau anadlol gan gynnwys COVID-19: canllawiau | LLYW.CYMRU.
Gofynion PPE:
Dylai PPE fodloni gofynion Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru, sy'n nodi defnyddio Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau (SICPs). Mae hefyd yn trafod rhoi Rhagofalon ar Sail Trosglwyddo (TBPs) ar waith.
Dylai staff wisgo menig a ffedogau wrth ddarparu gofal personol agos. Dylai staff wisgo amddiffyniad llygaid/wyneb os bydd halogiad gwaed a/neu hylif y corff i'r llygaid/wyneb yn cael ei rag-weld neu’n debygol.
Mae’r cyngor presennol ar PPE ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nid yw'n ofynnol i breswylwyr cartrefi gofal na’r rhai sy’n derbyn gofal cartref wisgo masg.
Ymweld â chartrefi gofal
Pan nad oes brigiad o achosion yn y cartref gofal, dylai ymwelwyr gael eu croesawu, eu hannog a’u galluogi i ymweld. Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Er y gallai ymwelwyr gael cynnig PPE, nid yw'n ofynnol iddynt wisgo masg oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.
Gofynnir i bobl beidio ag ymweld â chartref gofal:
- os oes ganddynt symptomau haint anadlol gan gynnwys COVID-19
- os oes ganddynt dymheredd uchel
- os nad ydynt yn teimlo'n ddigon da i fynd i'r gwaith
- os oes rhywun yn eu cartref wedi cael canlyniad positif hysbys yn ystod y 10 diwrnod diwethaf
Symptomau haint anadlol acíwt mewn un unigolyn mewn cartref gofal neu yng nghartref rhywun sy'n derbyn gofal cartref
Profion i staff a phreswylwyr
Dylid profi pobl sydd â symptomau os ydynt yn gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol. Y bwrdd iechyd fydd yn trefnu'r prawf hwn ar y cyd â’r Tîm Diogelu Iechyd.
Fel rheol, nid argymhellir profi staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd â symptomau (oni bai eu bod yn bersonol agored i niwed ac y byddai triniaeth wrthfeirol yn briodol). Dylid atal staff sydd â symptomau o’u gwaith yn seiliedig ar eu symptomau a dilyn canllawiau Cyngor i staff iechyd a gofal ar feirysau anadlol gan gynnwys COVID-19: canllawiau | LLYW.CYMRU. Gellir defnyddio profion yn rhan o reoli achosion lluosog penodol.
Ynysu
Mewn cartrefi gofal, dylid ynysu pobl sydd â symptomau pan fo hynny’n bosibl nes bydd y symptomau wedi gwella.
Pan fo pobl sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif, dylai’r cyfnod ynysu fod am o leiaf 5 diwrnod. Dylid dod â’r cyfnod i ben pan fo’r unigolyn yn well a heb wres am 48 awr (uchafswm o ynysu am 10 diwrnod os nad oes gan yr unigolyn imiwnedd gwan).
Dylid arfer disgresiwn lleol o ran penderfynu estyn cyfnodau ynysu neu brofi er mwyn dod â chyfnodau ynysu y rhai sydd ag imiwnedd gwan i ben.
Gofynion PPE
Dylai PPE a ddefnyddir fodloni gofynion Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru, sy'n nodi defnyddio Rhagofalon Safonol Rheoli Heintiau (SICPs). Mae hefyd yn trafod y Rhagofalon ar Sail Trosglwyddo (TBPs).
Dylai staff wisgo menig, ffedogau a masgiau llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif wrth ddarparu gofal personol agos i'r person. Dylai staff wisgo amddiffyniad llygaid/wyneb os bydd halogiad gwaed a/neu hylif y corff i'r llygaid/wyneb yn cael ei rag-weld neu’n debygol.
Dylai'r holl staff wisgo masg llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif os ydynt o fewn dau fetr i'r unigolyn â symptomau.
Mewn cartref gofal, dylai'r person â symptomau gael ei ynysu a'i gynorthwyo i wisgo masg wyneb pan fydd pobl eraill yn yr ystafell, os yw’n bosibl.
Nid yw'n ofynnol i breswylwyr na staff heb symptomau a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â'r unigolyn â symptomau wisgo masg.
Ymweld â chartrefi gofal:
Pan nad oes brigiad o achosion yn y cartref gofal, dylai ymwelwyr gael eu croesawu, eu hannog a’u galluogi i ymweld. Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Er y gallai ymwelwyr gael cynnig PPE, nid yw'n ofynnol iddynt wisgo masg oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.
Gofynnir i bobl beidio ag ymweld â chartref gofal:
- os oes ganddynt symptomau haint anadlol gan gynnwys COVID-19
- os oes ganddynt wres uchel
- os nad ydynt yn teimlo'n ddigon da i fynd i’r gwaith
- os oes rhywun yn eu cartref wedi cael canlyniad positif hysbys yn ystod y 10 diwrnod diwethaf
Dylech annog ymwelwyr sy'n darparu gofal uniongyrchol i ddefnyddio gorchudd wyneb os ydynt o fewn dau fetr i breswylydd sydd â haint anadlol posibl neu haint anadlol wedi’i gadarnhau. Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol iddynt wisgo masg wyneb oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.
Pan fo dau neu ragor o unigolion mewn cartref gofal wedi datblygu symptomau haint anadlol acíwt
Profion i staff a phreswylwyr
Dylid profi pobl sydd â symptomau os ydynt yn gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol. Y bwrdd iechyd fydd yn trefnu'r prawf hwn ar y cyd â’r Tîm Diogelu Iechyd.
Fel rheol, nid argymhellir profi staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd â symptomau (oni bai eu bod yn bersonol agored i niwed ac y byddai triniaeth wrthfeirol yn briodol). Dylid atal staff sydd â symptomau o’u gwaith yn seiliedig ar eu symptomau a dilyn canllawiau Cyngor i staff iechyd a gofal ar feirysau anadlol gan gynnwys COVID-19: canllawiau | LLYW.CYMRU. Gellir defnyddio profion yn rhan o reoli achosion lluosog penodol.
Gellir defnyddio profion yn rhan o atal a rheoli heintiau/ffrydio er mwyn rheoli achosion lluosog a brigiadau o achosion.
Pan fo dau berson neu ragor â symptomau, dylid eu profi â phrawf PCR amlddadansoddiad i sefydlu pa feirws sy’n mynd ar led. Dylid trefnu hyn drwy’r bwrdd iechyd lleol.
Ynysu:
Mewn cartrefi gofal, dylid ynysu pobl sydd â symptomau neu eu carfannu â’i gilydd pan fo hynny’n bosibl nes bydd y symptomau wedi gwella.
Pan fo pobl sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif, dylai’r cyfnod ynysu/carfannu fod am o leiaf 5 diwrnod a dylid dod â’r cyfnod i ben pan fyddant yn well a heb wres am 48 awr (uchafswm o ynysu am 10 diwrnod os nad oes gan yr unigolion imiwnedd gwan).
Dylid arfer disgresiwn lleol o ran penderfynu estyn cyfnodau ynysu neu brofi er mwyn dod â chyfnod ynysu y rhai sydd ag imiwnedd gwan i ben.
Gofynion PPE
Dylai PPE a ddefnyddir fodloni gofynion Llawlyfr Atal Heintiau Cenedlaethol Cymru, sy'n disgrifio defnyddio Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau (SICPs).
Wrth ddarparu gofal personol agos i bobl â symptomau, dylech wisgo:
- menig
- ffedogau
- masgiau llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif
Dylech wisgo amddiffyniad llygaid/wyneb os bydd halogiad gwaed a/neu hylif y corff i'r llygaid/wyneb yn cael ei rag-weld neu’n debygol.
Dylai’r holl staff wisgo masgiau llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif pan fydd trosglwyddiad clwstwr hysbys o haint anadlol neu glwstwr a amheuir.
Nid yw'n ofynnol i breswylwyr heb symptomau wisgo masg wyneb, ond efallai y byddant yn dewis gwneud hynny drwy ddewis personol. Er hynny, mewn rhai lleoliadau pan fo pobl yn wynebu risg uchel o gael eu heintio am fod ganddynt imiwnedd gwan, gellid annog pobl nad ydynt yn heintus i wisgo masg wyneb.
Dylid cynorthwyo pobl sy’n ynysu/wedi’u carfannu i wisgo masg wyneb pan fydd pobl eraill yn yr ystafell, os yw’n bosibl.
Ymweld â chartrefi gofal:
Dylai trefniadau ymweld barhau i fod mor agored a hyblyg â phosibl yn ystod brigiad o achosion/achos lluosog. Dylech barhau i hwyluso ymweliadau. Dim ond ar ôl cynnal asesiad risg y dylech weithredu cyfyngiadau o ran ymweld. Fan leiaf, caiff ymwelwyr hanfodol barhau i ymweld yn ystod brigiad o achosion/achos lluosog.
Caiff preswylwyr enwebu dau ymwelydd hanfodol. Mae hyn er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd heb gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r cartref yn sylweddol yn ystod brigiad o achosion. Cânt ymweld ar wahân neu ar yr un pryd.
Er y gallai ymwelwyr gael cynnig PPE nid yw'n ofynnol iddynt wisgo masg oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.
Gofynnir i bobl beidio ag ymweld â chartref gofal:
- os oes ganddynt symptomau haint anadlol gan gynnwys COVID-19
- os oes ganddynt wres uchel
- os nad ydynt yn teimlo'n ddigon da i fynd i’r gwaith
- os oes rhywun yn eu cartref wedi cael canlyniad positif hysbys yn ystod y 10 diwrnod diwethaf
Datgan brigiad o achosion:
Dylid datgan achos lluosog/brigiad o achosion os daw dau neu ragor o achosion o haint anadlol i’r amlwg ymhlith cleifion neu staff o fewn lleoliad penodol lle yr amheuir:
- haint nosocomiaidd
- trosglwyddo parhaus
Mae gwybodaeth bellach am adrodd am achosion ar gael ar dudalen Iechyd Cyhoeddus Cymru ar heintiau mewn lleoliadau gofal a preswyl. Gweler hefyd adran 5 o dudalen Iechyd Cyhoeddus Cymru ar atal a rheoli heintiau.
Er mwyn gallu datgan bod brigiadau o achosion wedi dod i ben, ni ellir cael unrhyw achosion newydd symptomatig neu achosion o COVID-19 wedi’u cadarnhau sy’n gysylltiedig â’r brigiad o achosion am gyfnod o 14 o ddiwrnodau.
Derbyniadau newydd i gartrefi gofal
Ar hyn o bryd, nid argymhellir profi cleifion cyn eu derbyn i gartrefi gofal gan fod y risg o gyflwyno COVID-19 i leoliadau o’r fath wedi’i lleihau’n sylweddol yn sgil cyfraddau imiwneiddio uchel.