Mae Cymru'n gwneud cynnydd yn ei Rhaglen Dileu TB drwy ddull partneriaeth cryfach sy'n gwneud newidiadau cadarnhaol ym mholisi'r llywodraeth i ffermwyr wrth fynd i'r afael â'r clefyd.

Cyn ei ddiweddariad i Aelodau'r Senedd y prynhawn yma, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Mae ein dull partneriaeth gyda'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) a Bwrdd y Rhaglen yn gwneud newidiadau gwirioneddol sy'n helpu i fynd i'r afael â'r clefyd ac yn cefnogi ffermwyr trwy gyfnodau anodd.
Rydw i wedi gweld drosof fy hun y poen meddwl y mae TB yn ei achosi i deuluoedd a busnesau ffermio ac rwy'n awyddus i gymryd camau i fynd i'r afael ag ef.
Adolygu'r polisi lladd ar y fferm oedd blaenoriaeth gyntaf y Grŵp Cynghori Technegol (TAG).
Mae adborth ar y newid polisi wedi bod yn gadarnhaol gyda nifer o ffermwyr yn dewis oedi cyn lladd gwartheg cymwys.
Ers cyflwyno'r polisi newydd flwyddyn yn ôl, mae lladd ar y fferm wedi cael ei osgoi trwy gael gwared ar oddeutu chwarter yr anifeiliaid – 242, o 111 o fuchesi unigol – a fyddai wedi cael eu lladd ar y fferm yn flaenorol.
Bydd newidiadau pellach i’r polisi TB yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Yn dilyn cais gan y diwydiant a chyngor dilynol gan y TAG a Bwrdd y Rhaglen, bydd newid mewn polisïau Adweithyddion Amhendant (IR).
Aeth y Dirprwy Brif Weinidog ymlaen:
Gofynnodd diwydiant, ac rydym wedi gwrando. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg IR safonol hyn yn risg uwch na gwartheg eraill oherwydd bod cyfran fwy ohonynt yn mynd ymlaen i ddod yn adweithyddion TB yn ddiweddarach.
Ar hyn o bryd mae hyn yn peryglu gwartheg IR safonol o'r fath gyda’r haint heb ei ganfod yn cael ei symud ac yn lledaenu TB i fuchesi eraill - pryder allweddol a godwyd gan y diwydiant.
O dan drefniadau newydd, bydd y gwartheg hyn (IR safonol wedi’u datrys) yn cael eu cyfyngu i'w buchesi gyda symudiadau trwyddedig yn unig yn cael eu caniatâu yn uniongyrchol i'w lladd, neu i Uned Orffen Gymeradwy. Rwy'n rhagweld y bydd y newid polisi hwn yn dod i rym o'r Hydref hwn, ac rwy'n gobeithio y caiff ei groesawu.
Mae dull partneriaeth gref hefyd yn cryfhau y broses o reoli TB yn Sir Benfro lle mae milfeddygon a ffermwyr yn cael eu grymuso drwy ddarparu data ac addysg i helpu i reoli TB ar eu ffermydd.
Gan adeiladu ar yr egwyddorion a'r arferion gorau a sefydlwyd yn Sir Benfro, mae menter gyflenwol bellach yn cael ei lansio yn yr ardal sydd â llai o achosion o TB yng Ngogledd Cymru – gyda'r nod o gadw'r clefyd allan.
Mae aelodau newydd hefyd wedi ymuno â Bwrdd Rhaglen Dileu TB. Cynrychiolydd o'r Farming Community Network (FCN), gan greu cysylltiad gwerthfawr rhwng y rhaglen a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl. Hefyd, mae cynrychiolydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn ymuno â'r Bwrdd, gan gydnabod arwyddocâd TB gwartheg i newydd-ddyfodiaid i ffermio a chefnogi cynaliadwyedd a chynllunio olyniaeth.
Wrth fynd i'r afael â'r darlun presennol o TB yng Nghymru, dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine:
Mae TB yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd ffermio sy'n delio â'r clefyd yn eu buchesi ac rydym yn cydnabod bod amrywiaeth ranbarthol yn y darlun o’r clefyd ledled Cymru.
Er ein bod yn gweld gostyngiadau hirdymor mewn achosion mewn buchesi TB newydd ar y cyfan, mae'r cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd yn ystod 2024 yn adlewyrchu defnydd strategol o'r prawf gwaed interferon gama sensitifrwydd uchel ochr yn ochr â phrofion safonol, i adnabod anifeiliaid heintiedig mewn buchesi wedi’u heintio â TB.
Er bod hyn yn cynyddu nifer y gwartheg sy’n cael eu tynnu o’r fuches, y nod yw lleihau cyfraddau heintio ac atal achosion dro ar ôl tro. Mae ein nod yn parhau yn glir: mae canfod gwell nawr yn golygu llai o glefyd yn y dyfodol.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Hoffwn ddiolch i aelodau Bwrdd y Rhaglen a TAG am eu gwaith caled a'u hymroddiad hyd yn hyn.
Rwy'n hyderus bod gennym y set sgiliau a'r profiad cywir ymhlith y ddau grŵp i ddarparu'r cyngor gorau posibl i'r Llywodraeth ar TB mewn gwartheg sy'n ein galluogi i wneud pethau'n wahanol yng Nghymru.
Gyda threfniadau llywodraethu bellach wedi'u cwblhau, rwy'n ymrwymedig i gyflymu camau i'n helpu i gyrraedd ein targed o Gymru heb TB erbyn 2041.