Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yn croesawu dull ‘tîm Cymru’ o weithredu ar draws y sector cyhoeddus er mwyn gwireddu yr uchelgais o fod yn economi carbon isel ac i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae newid hinsawdd yn un o’r problemau sy’n diffinio ein cyfnod, gyda Llywodraeth Cymru a dros hanner yr awdurdodau lleol yn datgan argyfwng hinsawdd hyd yma.    

Cyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth) fydd yn bennaeth ar ‘tîm Cymru’;  byddant yn cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol, GIG, yr Awdurdodau Tân ac Achub, cynghorau tref a chymuned, y sector gwirfoddol, a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd a Llywodraeth Cymru.  Y Cyngor Partneriaeth yw dull statudol ffurfiol y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o gydweithredu ar y prif faterion i Gymru, gan gynnwys newid hinsawdd.  Bydd y dull o weithio yn caniatáu i’r cyrff cyhoeddus hyn gydweithio i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau, datblygu dull o gyfathrebu cyson a lleihau dyblygu ar y llwybr tuag at fod yn sero-net.  Mae adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru, gan gynnwys defnyddio ynni yn effeithiol a phrosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cael eu cefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Rhaglen Gyllido Cymru. 

Yn dilyn datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn y Senedd ddoe, cyhoeddwyd mai y Cyngor Partneriaeth yn cydweithio i sefydlu Panel Strategaeth Datgarboneiddio sy’n cynnig arweinyddiaeth frwdfrydig a gweledigaeth yn ogystal â throsolwg strategol, arweinyddiaeth gydweithredol a sianeli cyfathrebu.  Mae datganiad y Cyngor yn rhoi amlinelliad o’r rhaglen o gymorth ar y cyd, a chyfeiriad uchelgeisiol yr arweinyddiaeth i helpu i sicrhau sector cyhoeddus carbon sero net yng Nghymru erbyn 2030.  Bydd y blaenoriaethau yn cynnwys; lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig ag adeiladau, trafnidiaeth, a nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu caffael, tra’n defnyddio ein tir i ddileu o leiaf y nwyon tŷ gwydr yr ydym yn eu creu o’r atmosffer.  Mae gan bartneriaid swyddogaeth bwysig o gefnogi newidiadau ar draws yr economi ehangach, drwy gynllunio eu gwasanaethau, y gweithgarwch economaidd y maent yn ei hyrwyddo a’u swyddogaeth o fewn cynllunio a chreu lle.   

Gallai gweithio tuag at ddatgarboneiddio helpu i gynnig atebion cynaliadwy hirdymor, yn enwedig yn ystod yr adferiad wedi Covid.  Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r agenda hon drwy gynnig cymorth technegol, masnachol ac ariannol i Gyrff Cyhoeddus weithredu, ac maent wedi datblygu Canllawiau Carbon Net Sero i ar gyfer cofnodi cyson, trylowy.  Bydd y gwaith hwn yn cael ei atodi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fydd yn darparu arbenigedd a hyfforddiant, ac yn sicrhau bod arfer gorau yn cael ei rannu ledled Cymru.    

Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wedi addunedu i sicrhau bod camau  datgarboneiddio wedi’u cynnwys drwy:

  • Deall eu hôl troed carbon, yn unol â’u canllawiau ar gyfer cofnodi allyriadau tŷ gwydr y sector cyhoeddus
  • Cytuno i gyfres o ymrwymiadau/addunedau sero net ar gyfer COP26
  • Monitro manwl a chofnodi ar eu hallyriadau carbon presennol ac yn y dyfodol.
  • Sicrhau bod gan bob Awdurdod Lleol gynlluniau gweithredu sero net cadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, fel dogfennau byw, erbyn Mawrth 2021
  • Gwaith gyda’r Panel Strategaeth Datgarboneiddio.

Meddai y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Mae arweinyddiaeth gref a chysylltiad gwleidyddol ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol yn allweddol i gyflawni ein targed o carbon sero net erbyn 2030.  Mae’r argyfwng Covid-19 cyfredol wedi newid ein byd yn gyflym mewn ffyrdd na fyddem wedi gallu dychmygu, ac mae’n rhaid i ddatgarboneiddio a’r amgylchedd fod yn ganolog i gynlluniau adfer covid-19.

Yn ystod yr argyfwng bu gostyngiad o 17% mewn allyriadau CO2 ac fe wyddom fod ymddygiad newydd megis gweithio o gartref, mwy o ddefnydd o dechnoleg a darparu gwasanaethau yn ddigidol, ymhlith eriall, wedi helpu inni gyflawni hyn. 

Er ein bod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar reoli ac adfer o’r argyfwng presennol, mae gennym gyfle i adeiladau ar y newidiadau hyn a chreu cymdeithas gynaliadwy allyriadau isel.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros Drafnidiaeth, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd: 

Mae cydweithio ar bob lefel o lywodraeth ac ar draws y sector cyhoeddus yn hollbwysig i wireddu targed carbon sero-net uchelgeisiol y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer 2030.  Dyna pam y mae dull ‘Tîm Cymru’ o weithredu a’r fframwaith gweithredu ar ddatgarboneiddio yn gamau pwysig, a byddant yn cynnig y sylfaen dystiolaeth a rhai o’r dulliau sydd eu hangen i gyrraedd sero-net.  

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu ar ddatgarboneiddio, ac mae’r awdurdodau lleol wedi bod yn flaenllaw yn buddsoddi ac arloesi ym maes ynni, trafnidiaeth, adeiladau a chaffael am sawl blwyddyn.  Wrth inni edrych yn ofalus tuag at ddyfodol wedi Covid, mae cyfleoedd i wireddu rhai o’r manteision ar y cyd o fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd, megis gwell iechyd a lles, cysylltedd digidol gwell, tai ac ysgolion gwell, a llai o dlodi tanwydd.  

Bydd angen buddsoddi sylweddol mewn seilwaith dros y blynyddoedd nesaf i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.  Llywodraethau leol sydd yn y lle gorau i gyflawni o fewn nifer o’r meysydd hyn, ac mae ganddynt hanes cryf o wneud hynny.  Mae CLlLC yn edrych ymlaen at weithio’n fwyfwy agos at Lywodraeth Cymru a phob rhanddeiliad i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac i gefnogi awdurdodau wrth iddynt barhau i ymateb i’r her o gyrraedd sero-net.