Ymchwil yn tynnu sylw at wybodaeth y gellid ei chasglu i wella gwerthusiad o'r Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dull gweithredu ysgol gyfan mewn perthynas â iechyd meddwl a lles emosiynol
Casglwyd ystod eang o wybodaeth gadarn i werthuso sut mae'r Fframwaith yn cael ei gyflawni a pha wahaniaeth y mae'n ei wneud. Mae llawer o’r wybodaeth hon wedi'i chasglu mewn ymarfer untro ac mae angen gwybodaeth reolaidd gan bob grŵp o fewn cymuned yr ysgol i gefnogi gwerthusiad parhaus, yn enwedig gan staff yr ysgol a rhieni / gofalwyr.
Er mwyn gwella gwerthusiad o'r Fframwaith, mae angen rhagor o wybodaeth am:
- cyfranogiad, ymgysylltu a chyfathrebu â chymuned ysgol gyfan
- lles staff yr ysgol
- anghenion hyfforddi a chymorth staff yr ysgol
- diwylliant ac amgylchedd yr ysgol
- blaenoriaethau ysgolion ac adnoddau sy’n helpu i gyflawni
- partneriaethau ysgolion gyda gwasanaethau cymorth
- cysondeb y ddarpariaeth â strategaethau addysg ac iechyd
- cyflwyno ym mhob lleoliad addysg
Mae diffyg gwybodaeth reolaidd, gynrychioliadol gan staff a rhieni'r ysgol. Mae ffyrdd o fynd i'r afael â hyn wedi'u hamlygu. Mae'n arbennig o bwysig casglu data gan staff yr ysgol gan fod deall eu profiadau a'u hanghenion cymorth yn hanfodol i gyflawni'r Fframwaith.
Tynnwyd sylw at ragor o ffynonellau data a chyfleoedd i helpu i fynd i'r afael â'r anghenion tystiolaeth heb eu diwallu. Mae hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) sy'n ffynhonnell bwysig o ddata iechyd a lles cadarn, rheolaidd trwy ei arolygon ar lefel dysgwyr ac ysgolion.
Mae cyfleoedd pellach yn cynnwys safoni a chasglu sylwadau gan ymarferwyr sy'n gweithio gydag ysgolion i helpu i gyflawni'r Fframwaith, yn ogystal â data ar lefel leol gan ysgolion, awdurdodau lleol, a'r haen ganol (e.e. cyrff gwella ysgolion, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg). Mae cyfleoedd hefyd i ddefnyddio data ar lefel genedlaethol a gesglir gan Lywodraeth Cymru i helpu i olrhain gwahaniaethau eang y mae'r Fframwaith wedi'u gwneud.
Adroddiadau

Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: anghenion tystiolaethol heb eu diwallu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 909 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.