Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg o arweinwyr ysgolion a staff ynghylch gweithredu'r dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol yn eu lleoliadau.

Nododd bron pob un o'r ymatebwyr fod eu hysgol yn datblygu neu'n gweithredu eu dull ysgol gyfan, er bod amrywiaeth sylweddol rhwng y camau a gyrhaeddwyd gan bob ysgol. Dywedodd grŵp bach o ysgolion nad oeddent wedi dechrau eto.

Roedd anghysondeb yn yr adroddiadau am gyfathrebu aml rhwng ysgolion a'u cydlynydd gweithredu pwrpasol/tîm Ysgolion Iach lleol.

  • Roedd ymatebwyr o ysgolion uwchradd yn fwy tebygol o adrodd am gyfathrebu aml, ond dywedodd tua thraean o'r ymatebwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd nad oeddent yn cyfathrebu'n aml neu ddim o gwbl.
  • Fodd bynnag, roedd lefel uchel o foddhad ag ansawdd y cymorth a ddarparwyd ymhlith ysgolion lle bu cyfathrebu.

Roedd tipyn o ddefnydd o'r 'Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol', ac roedd yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol. Roedd ymatebwyr o ysgolion uwchradd yn adrodd defnydd amlach, ac yn gweld y fframwaith yn fwy defnyddiol nag ymatebwyr o ysgolion cynradd.

Yn yr un modd, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o ysgolion yn defnyddio neu'n ymwybodol o'r adnodd hunanwerthuso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn ei gael yn ddefnyddiol, er i raddau llai na'r fframwaith. Roedd ymatebwyr o ysgolion uwchradd yn defnyddio'r adnodd hunanwerthuso'n amlach ac yn ei gael yn fwy defnyddiol nag ysgolion cynradd, er nad oedd tua un o bob pum ysgol, cynradd ac uwchradd, yn ymwybodol o'r adnodd hunanwerthuso.

Adroddiadau

Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: bwletin ymchwil , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB

PDF
513 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Daniel Burley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.