Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i archwilio defnydd tystiolaeth a mesur effaith mewn perthynas â gordewdra plant yn benodol a’i ddefnyddio i hysbysu gwersi ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.

Mae’r ymchwil hwn yn mynd i'r afael â chwestiynau ynglŷn â sut y mae Byrddau Gwasanaethau Lleol yn gwybod eu bod yn mabwysiadu dulliau effeithiol wrth drechu gordewdra plant. Mae’r adroddiad yn archwilio camau Byrddau Gwasanaethau Lleol i drechu gordewdra plant, er mwyn datblygu mewnwelediad ynghylch y bylchau mewn gallu a galluogrwydd. 

Mae’r ymchwil hwn yn dangos y defnyddiwyd tystiolaeth i raddau gwahanol gan Fyrddau Gwasanaethau Lleol wrth gynllunio ymyriadau ar gyfer gordewdra plant. Roedd y mwyafrif o Fyrddau Gwasanaethau Lleol a oedd wedi eu cynnwys yn yr ymchwil yn ymwybodol o’r bylchau yn eu gallu i ddeall yr effaith, yn ymwybodol o pam mae gwerthuso yn bwysig, a byddent yn hoffi datblygu eu gallu yn y maes hwn. Mae’r adroddiad yn gorffen gydag argymhellion ynghylch sut y gellid ymateb i’r materion hyn.

Adroddiadau

Dulliau i ddeall deilliannau ac effaith yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: astudiaeth achos ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol a gordewdra plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 702 KB

PDF
702 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ceri Greenall

Rhif ffôn: 0300 025 5634

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.