Defnyddiodd yr ymchwil ddata o arolwg carfan gynrychioliadol yn y DU i archwilio perthnasoedd rhwng arddulliau rhianta, cosb gorfforol a chanlyniadau datblygiad plant.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r canfyddiadau’n rhoi tystiolaeth sylfaenol bellach o’r lefelau cyffredinol o gosbi corfforol a adroddwyd gan rieni yn ystod y 10 mlynedd cyn i’r Ddeddf ddod i rym.
Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau yn y canlyniadau rhwng gwledydd y DU, sy'n awgrymu eu bod yn gymharol gyson ledled y DU.
Yn gyffredinol, roedd lefelau uwch o gosbi corfforol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth o ran datblygiad plant. Roedd y canfyddiad hwn yn fwy cyson ar gyfer cosb gorfforol gan famau, o'i gymharu â thadau.
Bu gostyngiad cyson yng nghanran y rhieni sy'n adrodd defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol o leiaf ‘nawr ac yn y man’ o 44% yn 2012, i 24% yn 2022. Nid oedd cyfradd y newid yn amrywio rhwng grwpiau.
Roedd rhai gwahaniaethau yn y gyfran gyffredinol o rieni sy'n adrodd defnyddio cosb gorfforol:
- Roedd tadau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn defnyddio cosb gorfforol na mamau.
- Roedd rhieni o grwpiau ethnig Du neu Asiaidd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn defnyddio cosb gorfforol o'u cymharu â'r rhai o grwpiau ethnig Gwyn.
- Roedd rhieni yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn defnyddio cosb gorfforol ar gyfer plant a gafodd eu pennu’n wrywaidd ar adeg eu geni.
- Roedd rhieni 31 to 40 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn defnyddio cosb gorfforol na'r rhai 51 oed neu'n hŷn.
Mae’r canfyddiadau’n cefnogi, yn fras, nodau cynlluniau fel Magu Plant: Rhowch amser iddo a'u ffocws ar rianta ag awdurdod.
Adroddiadau

Dulliau rhianta a chosbi corfforol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.