Neidio i'r prif gynnwy

Mae dychweliad Sioe Laeth Cymru yn darparu cyfle gwych i bobl ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'n rhaglen gydlunio, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r digwyddiad sy’n dathlu'r diwydiant llaeth yn dychwelyd yfory (dydd Mawrth 25 Hydref) ar ôl colli tair blynedd oherwydd effeithiau pandemig COVID.

Bydd Llywodraeth Cymru ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin, ac mae'r Gweinidog yn annog pobl i ymweld â'r stondin a dysgu rhagor am y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn ogystal, mae arolwg ar-lein y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi cael ei estyn i 21 Tachwedd, i sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i roi eu hadborth gwerthfawr ar gamau gweithredu a phrosesau arfaethedig y cynllun.

Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, i wella bioamrywiaeth ac i atgyfnerthu'r economi wledig yn rhan o'r cynigion sy'n amlinellu'r camau nesaf yn y gwaith o lunio cynllun blaengar Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr.

Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn nodi newid sylweddol, a bydd yn hanfodol wrth helpu ffermwyr Cymru i sicrhau amgylchedd ac economi wledig fwy cadarn.
Rhoddir cymorth ariannol i ffermwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud i ymdrin â heriau'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, wrth iddyn nhw gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.

Mae creu system newydd ar gyfer cefnogi ffermwyr a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur cymaint ag y bo modd drwy ffermio, gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teulu Cymru, a chydnabod bwyd sy'n cael ei gynhyrchu mewn modd ecolegol gynaliadwy, yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

Bydd y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Chyswllt Ffermio hefyd yn y sioe er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr ar faterion eraill.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae'n wych gweld Sioe Laeth Cymru yn ôl ar ôl absenoldeb o dair blynedd.

Mae gennyn ni ddiwydiant llaeth gwych yma yng Nghymru, ac mae'n dda gen i y bydd cymaint o bobl yn dod ynghyd yng Nghaerfyrddin i ddathlu'r sector a'i lwyddiannau. 

Mae'r digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddod a siarad â ni a'n helpu i ddatblygu ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn yr haf, cyhoeddais i gynigion amlinellol y cynllun mewn cryn dipyn mwy o fanylder nag sydd wedi cael ei rannu yn flaenorol. Roedd hyn yn cynnwys amlinellu strwythur y cynllun, gwybodaeth am gamau arfaethedig a'r broses i ffermwyr ar gyfer gwneud cais.

Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n ffermwyr i sicrhau bod y Cynllun hwn yn gweithio iddyn nhw ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymweld â'n stondin ni ac i roi adborth drwy ein harolwg ar-lein.

Hoffwn i ddymuno pob llwyddiant ar gyfer y digwyddiad hwn i bawb yn Sioe Laeth Cymru.