Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Tâl bach i’w dalu gan bobl sy’n aros dros nos mewn llety yng Nghymru fyddai’r ardoll.

Bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru bŵer i benderfynu a yw am gyflwyno ardoll ymwelwyr, a bydd yr arian sy’n cael ei godi yn cael ei ailfuddsoddi mewn ardaloedd lleol er mwyn cefnogi twristiaeth leol. Gallai hyn amrywio o fuddsoddi mewn cadw’r traethau a’r palmentydd yn lân, i fuddsoddi mewn cynnal parciau, toiledau a llwybrau troed lleol.

Mae dros 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd wedi cyflwyno math o ardoll ymwelwyr, gan gynnwys Gwlad Groeg, Ffrainc, Amsterdam, Barcelona, a Chaliffornia. Byddai ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfran fach iawn o gyfanswm gwariant ymwelydd.

Mae’r ymgynghoriad helaeth yn gofyn am safbwyntiau ynghylch pwy ddylai dalu ardoll, pwy fyddai’n codi’r ardoll ac yn ei gasglu, y dull gorau o’i weithredu, a sut y gellid dyrannu’r refeniw o’r dreth.

Bydd y broses ofalus o drosi’r cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn ddeddfwriaeth ac yna’n gamau gweithredu yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd, ac yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Senedd.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Diben y cynigion hyn yw paratoi ar gyfer y dyfodol. Ein bwriad yw ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd ymysg preswylwyr ac ymwelwyr dros warchod ein hardaloedd lleol a buddsoddi ynddyn nhw. Drwy ofyn i ymwelwyr – p’un a ydyn nhw wedi teithio o fannau eraill yng Nghymru neu o bellach draw – i wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella’r ardal y maen nhw’n ymweld â hi, byddwn yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu ar gyfer twristiaeth.”

Mae’r cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr wedi’u datblygu drwy Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

Er y gall Cymru fod y lle cyntaf yn y DU i gyflwyno ardoll o’r fath, nid Cymru fydd yr olaf i wneud hynny, yn ein barn ni. Fel y gwelsom yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno yng Nghaeredin cyn bo hir, felly nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth.

Rydym am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod gennym dwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n gweithio i ymwelwyr a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw fel ei gilydd. Pe bai awdurdodau lleol yn penderfynu gweithredu ardoll ymwelwyr, fe allai hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru o ran helpu i ddatblygu gwasanaethau a seilwaith lleol, a’u gwarchod. Rydym yn croesawu pob safbwynt er mwyn deall beth fyddai’n gweithio’n dda i Gymru, ac rydym yn annog pawb i gyfrannu i’r ymgynghoriad.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

Mae Cymru yn adnabyddus ledled y byd fel cyrchfan gwych i ymweld â hi, ond mae’n bwysig sicrhau bod twristiaeth yn gynaliadwy a’i bod yn elwa ar ddigon o fuddsoddi er mwyn gallu ei mwynhau yn y dyfodol. O dan y cynigion hyn, byddai gan gynghorau ddisgresiwn i osod yr ardoll fel bod eu cymunedau a’r seilwaith twristiaeth yn cael eu hariannu’n briodol. 

Mae ardollau yn nodwedd gyffredin ar gyrchfannau twristiaid yn rhyngwladol, ac mae’r ymgynghoriad sydd i ddod yn gyfle pwysig i breswylwyr a busnesau gael dweud eu dweud am y ffordd ymlaen.