Dweud eich dweud am ddiwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) mewn ysgolion
Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) dogfen ymgynghoriad i ddysgwyr a phobl ifanc.
Dweud eich dweud am ddiwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) mewn ysgolion
Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed gennych chi! Rydym yn gwneud cynlluniau am ddiwrnodau HMS – dyma ddiwrnodau arbennig pan nad yw athrawon yn dysgu gwersi oherwydd eu bod yn dysgu pethau newydd i’w helpu i addysgu’n well.
Beth allai newid
- Gallai ysgolion gael 6 diwrnod HMS bob blwyddyn yn lle 5 gan ddechrau yn 2026.
- Bydd y diwrnodau hyn yn helpu athrawon i ddysgu am:
- Y cwricwlwm newydd
- Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- Blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer addysg
- Cymwysterau newydd
- Rydyn ni eisiau gofyn ysgolion i gynllunio a chyfathrebu diwrnodau HMS yn ofalus fel bod athrawon yn gwneud y mwyaf o’r diwrnodau, ac i helpu teuluoedd i gynllunio o’u cwmpas.
Pam fod hyn yn bwysig i chi
Gall ddiwrnodau HMS newid eich calendr ysgol. Efallai y bydd hyn yn golygu diwrnodau ychwanegol i ffwrdd i chi. Pwynt diwrnodau HMS yw i roi cyfle i athrawon i ddysgu a gwella, fel eu bod nhw’n eich addysgu chi’n dda. Rydym eisiau ysgolion i weithio gyda’i gilydd. Weithiau, mae rhieni a gofalwyr yn gweld hi’n anodd dod o hyd i rywun i ofalu am eu plant ar ddiwrnodau HMS. Rydym eisiau sicrhau bod y cynlluniau hyn yn gweithio’n dda i bawb.
Beth rydym yn gofyn
Rydym eisiau eich barn ar bethau fel:
- a ddylai ysgolion gael 6 diwrnod HMS bob blwyddyn?
- a ddylai’r diwrnodau hyn fod ar gyfer athrawon i ddysgu a chynllunio yn bennaf?
- a ddylai ysgolion dweud wrth deuluoedd am ddiwrnodau HMS ar ddechrau’r flwyddyn?
- a ddylai ysgolion osgoi rhoi gormod o ddiwrnodau HMS yn agos at ei gilydd?
- sut gall y cynlluniau hyn gefnogi’r Gymraeg?
Beth mae disgyblion yn meddwl nawr
Siaradodd Plant yng Nghymru â llawer o ddisgyblion. Dyma beth oedd eu casgliadau:
- mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn hoffi diwrnodau HMS oherwydd maen nhw fel arfer yn gorffwys, gweld ffrindiau, neu’n dal i fyny ar waith
- mae rhai eisiau mwy o ddiwrnodau HMS ar gyfer amser gyda theulu neu adolygu
- mae eraill eisiau llai o ddiwrnodau HMS fel nad ydyn nhw’n colli gwersi
- awgrymodd dysgwyr syniadau hwyliog fel tripiau, chwaraeon, a llefydd diogel i’r rhai sydd angen cefnogaeth
Rydym wedi gofyn i ymchwilwyr siarad gydag ysgolion, cynghorau a phobl eraill sydd yn rhan o gynllunio diwrnodau HMS, fel ein bod ni’n deall pa mor dda maent yn gweithio a sut gall y diwrnodau fod yn well. Byddwn yn ystyried yr holl ymchwil, a’r ymgynghoriad hyn, cyn ein bod ni’n gwneud penderfyniad.
Sut i rannu eich syniadau
Gallwch:
- Llenwi’r ffurflen ymateb
- Ebostio ni: YmgynghoriadHMS2025@llyw.cymru
- Neu bostio eich ymateb i:
Cangen Arweinyddiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Dyddiad cau: 4 Chwefror 2026
Cwestiynau ymgynghori
Cwestiwn 1: 6 diwrnod HMS
Wyt ti’n cytuno y dylai ysgolion gael 6 diwrnod HMS bob blwyddyn gan ddechrau yn 2026?
Cwestiwn 2: pwrpas diwrnodau HMS
Wyt ti’n meddwl y dylai’r diwrnodau hyn gael eu defnyddio fel bod athrawon yn dysgu, cynllunio a pharatoi pethau fel y cwricwlwm newydd?
Cwestiwn 3: gweithio gyda’n gilydd
Wyt ti’n meddwl y dylai ysgolion cynllunio diwrnodau HMS ar yr un pryd ag ysgolion eraill yn agos atynt?
Byddai hyn yn helpu teuluoedd â phlant mewn gwahanol ysgolion ac yn galluogi athrawon i weithio gyda’i gilydd.
Cwestiwn 4: hysbysu teuluoedd
Wyt ti’n meddwl y dylai ysgolion dweud wrth rieni a gofalwyr ar ddechrau’r flwyddyn pryd fydd diwrnodau HMS a beth yw eu pwrpas?
Cwestiwn 5: peidio â rhoi gormod gyda’i gilydd
Wyt ti’n meddwl y dylai ysgolion osgoi rhoi mwy na 2 ddiwrnod HMS yn olynol (hynny yw, un diwrnod ar ôl y llall)?
Cwestiwn 6: sesiynau ‘Cyfnos’ (twilight)
Weithiau mae HMS yn digwydd ar ôl ysgol (gelwir hyn yn sesiynau ‘Cyfnos’) fel bod athrawon yn cael diwrnod ychwanegol yn rhydd heb ddysgwyr. Wyt ti’n meddwl y dylai ysgolion dim ond gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn?
Cwestiwn 7: canolbwyntio ar addysgu
Wyt ti’n meddwl y dylai o leiaf 4 o’r 6 diwrnod HMS fod yn ymwneud â dysgu ac addysgu? Weithiau mae’n rhaid i athrawon ddysgu am bethau eraill sydd ddim yn berthnasol i’r dosbarth.
Cwestiwn 8: yr Iaith Gymraeg
Sut ydych chi’n meddwl y bydd y cynlluniau hyn yn effeithio ar y Gymraeg?
- A fydd yn helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg?
- A allai wneud pethau’n anoddach i siaradwyr Cymraeg?
- Sut gallwn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yr un fath â’r Saesneg?
