Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Vaughan Gething

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad sylweddol i nodi materion pwysig sy'n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal. Bydd yr adolygiad yn ystyried ffyrdd o ateb y galw cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â disgwyliadau'r cyhoedd am y gwasanaethau.

Heddiw, mae'r grŵp adolygu wedi lansio gwefan newydd sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd roi sylwadau gonest a diffuant am wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae deg o gwestiynau'n cael eu holi i'r cyhoedd, yn amrywio o:

  • Beth sydd bwysicaf i chi o ran gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar beth y dylid canolbwyntio i wella’r sefyllfa?

 i:

  • • Pa broblemau sydd yn y system bresennol, a sut maent yn effeithio ar y gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn?

Dywedodd Cadeirydd yr Adolygiad, Dr Ruth Hussey CB, OBE:

"Rydyn ni am i'r adolygiad gael ei seilio ar dystiolaeth ac ar brofiadau a dealltwriaeth y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu gwasanaethau.

"Mae cynnwys y cyhoedd yn rhan hanfodol o'r broses ac rydw i, ynghyd â gweddill aelodau'r panel, yn edrych ymlaen at gael clywed eu sylwadau."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn destun trafodaeth enfawr i bawb o hyd. Mae'n cyffwrdd bywydau pob un ohonom ni ar ryw adeg neu'i gilydd, ac mae gan y rhan fwyaf o bobl farn am y gofal maen nhw'n ei dderbyn - beth oedd yn dda a lle gellid gwella.

"Anaml y gwelwch chi adolygiad mor eang o iechyd a gofal cymdeithasol, felly os ydych chi am gael dweud eich dweud am sut i ddatblygu'r gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, mae'n bwysig iawn i chi fynd ar-lein a gadael i'r grŵp adolygu glywed eich sylwadau."