Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn lansio trafodaeth genedlaethol heddiw ar gynllun newydd i helpu i sicrhau dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O’r coronafeirws i Brexit a datgarboneiddio – mae gweithgynhyrchu yn mynd drwy un o’r cyfnodau mwyaf dwys a heriol mewn hanes.

Y llynedd, yng Nghymru yn unig, roedd dros 150,000 o bobl wedi’u cyflogi yn y sector, ond mae cyfres o ffactorau allanol gan gynnwys y pandemig a cholli swyddi amlwg yn mynd i olygu gostyngiad yn y ffigur hwnnw dros y misoedd nesaf.

Bydd y Gweinidog yn lansio ymgynghoriad dros bedair wythnos wedi ei anelu at gefnogi a sicrhau bod y sector yn barod ar gyfer y dyfodol mewn Uwchgynhadledd Weithgynhyrchu o bell, ledled Cymru heddidw.

Bydd y cynllun, Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru – Fframwaith Gweithredu, yn cael ei ddatblygu i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur gydweithio i sicrhau dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Daw yr ymgynghoriad hwn wrth inni wynebu argyfwng economaidd na welsom ei debyg – un sy’n bygwth bodolaeth cwmnïau gweithgynhyrchu ledled y DU.

“Mae gan weithgynhyrchu hanes maith a balch yng Nghymru ac mae yn parhau i chwarae rhan hynod bwysig yn ein heconomi a bywoliaeth ein pobl a’n cymunedau.

“Mae sicrhau bod y sector yn barod at y dyfodol yn hollol hanfodol er mwyn adfer o’r heriau presennol ac wynebu y rhai a ddaw.

“Bydd y cynllun newydd yn hanfodol er mwyn rhoi ffocws i sicrhau dyfodol ein gallu i weithgynhyrchu a nodi’r camau sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cadarn, uwch.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith ar gynllun newydd ar gyfer gweithgynhyrchu cyn y coronafeirws.

Cafwyd trafodaethau gyda cymdeithasau’r diwydiant a’r undebau llafur ar y camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cadarn â gwerth uchel.

Yr ymgynghoriad, fydd yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw, yw’r cam nesaf i ddatblygu’r cynllun a fydd ar agor tan 19 Hydref er mwyn i bobl rannu eu barn.

Ychwanegodd y Gweiniodg:

“Mae’n rhaid inni newid ein cymuned weithgynhyrchu – gan gynnwys ei chadwyni cyflenwi – i un sy’n fwy o ran gweithgareddau ‘gwerth uchel’ ac sy’n cael effaith bositif ar gymunedau lleol.

“Mae angen inni hefyd weld gweithlu sydd â sgiliau cryf, modern sy’n gallu cyflawni’r cynnyrch a’r technolegau ar gyfer economi y dyfodol.

“Bydd cydweithio yn allweddol wrth gyflawni hyn a bydd y cynllun yn bwysig i ddangos sut y mae Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur yn cydweithio’n effeithiol er budd dyfodol y sector.

“Byddwn yn mynd ymlaen â’r gwaith hwn ar fyrder ac yn bwrpasol, ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i leisio eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r cynllun terfynol cyn diwedd y flwyddyn.