Mae cyfle i bobl anabl sy'n ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni i helpu i lunio cynllun 10 mlynedd newydd i wneud bywyd yn decach i bobl anabl a chreu newid parhaol yn y ffordd y mae cymdeithas yn mynd i'r afael â rhwystrau i gynhwysiant.
Mae Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft Llywodraeth Cymru wedi'i ddatblygu gyda mewnbwn dros 350 o bobl sydd ag arbenigedd a phrofiad byw. Mae'n nodi camau uchelgeisiol ac ymarferol i fynd i'r afael â’r rhwystrau y mae pobl yn eu wynebu bob dydd, o addysg a chyflogaeth i dai, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, mae angen mwy o leisiau i helpu i gryfhau'r cynllun a sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl anabl yng Nghymru.
Mae'r Eisteddfod, gyda'i ffocws cynyddol ar hygyrchedd, yn lleoliad delfrydol ar gyfer y sgyrsiau hyn. Mae’r ŵyl yn cynnig maes parcio Bathodyn Glas wedi'i arwyddo'n glir a thoiledau hygyrch ym mhob bloc. Mae dehonglwyr BSL ar y safle bob dydd, ac mae croeso i gŵn tywys ym mhob rhan o’r Maes, gan gynnwys yn y Pafiliwn. Gall pobl sydd angen seibiant tawel o'r torfeydd ddefnyddio'r gofod heddychlon 'Y Llecyn Llonydd', ac mae Hwb Hygyrchedd lle mae help a chyngor ar gael. Gall teuluoedd â phlant sydd ag anghenion ychwanegol ddefnyddio ardal 'Ynys Glyd' yn y Pentref Plant, ac mae platfformau gwylio dynodedig ar gyfer perfformiadau, gyda staff yn barod i helpu. Mae modd llogi sgwter er mwyn mynd o amgylch y Maes, ac mae stondin Byw Bywyd, fel gweddill y gwasanaethau hygyrchedd, yn agos at y brif fynedfa.
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:
Mae croeso i bawb yn yr Eisteddfod ac rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn gwneud y Maes mor hygyrch â phosibl ar gyfer ein hymwelwyr.
Mae’r gwasanaethau rydyn ni wedi’u datblygu dros y blynyddoedd diwethaf yn adlewyrchu ein hymroddiad i sicrhau hyn. Rydyn ni’n gweithio gydag ‘Attitude is Everything’ ers rhai blynyddoedd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnig gwasanaeth o safon ar draws y Maes, ac yn gweithio tuag at achrediad arian ar hyn o bryd.
Bydd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn ymweld â'r Eisteddfod i siarad â phobl anabl a grwpiau cynrychioladol. Dywedodd:
Mae ein cynllun drafft eisoes wedi'i lunio gan gannoedd o bobl anabl, ond rydyn ni'n gwybod bod mwy o leisiau i'w clywed. Mae eich llais yn bwysig ac mae eich profiadau yn cyfrif. Trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, byddwch chi'n helpu i sicrhau bod y cynllun hwn yn gweithio i bobl anabl ledled Cymru.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr ymgynghoriad ar stondin Llywodraeth Cymru neu ar-lein. Mae popeth ar gael mewn amrywiaeth eang o fformatau hygyrch, gan gynnwys BSL, Cymraeg, Saesneg, sain, braille a fersiynau hawdd eu darllen. Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 7 Awst.
