Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei gweledigaeth ar gyfer y sector diwylliant rhwng 2024 a 2030.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant: 2024 i 2030 yn canolbwyntio ar 3 peth:

  • Mae Diwylliant yn Dod â Ni Ynghyd
  • Cenedl Diwylliant
  • Mae Diwylliant yn Gydnerth ac yn Gynaliadwy

I gefnogi'r blaenoriaethau hyn, mae gennym ugain uchelgais sy'n cynnwys sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb yng Nghymru, meithrin cysylltiadau trwy ddiwylliant yma yng Nghymru a thramor a helpu'r sector i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r blaenoriaethau drafft yn berthnasol i'r sector diwylliant cyfan yng Nghymru, o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad. Mae pob un yn cyfrannu at ein bywyd diwylliannol cyfoethog. Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol hefyd i bob sefydliad sector cyhoeddus arall sy'n gwireddu nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o Ddiwylliant Bywiog a Chymraeg sy'n Ffynnu.

Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths y strategaeth yn ystod ymweliad â Hijinx yng Nghaerdydd, cwmni theatr sy'n arbenigo mewn gweithio gydag artistiaid sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Mae eu gwaith yn cefnogi'r uchelgais cyntaf yn y blaenoriaethau drafft newydd, sef pwysigrwydd chwalu'r rhwystrau i gymryd rhan mewn diwylliant.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths: 

"Mae diwylliant yn erfyn hynod bwerus i ddod â ni i gyd at ein gilydd, i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac i gryfhau ein hunaniaeth genedlaethol. Rwy'n benderfynol na ddylai'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu gyfyngu ar ein huchelgais tymor hir.

"Mae'r blaenoriaethau drafft yn llwyr gydnabod yr heriau hyn ond maen nhw hefyd yn edrych tua'r dyfodol gan bennu cyfeiriad ac yn esbonio sut y gallwn harneisio'r doniau, y creadigedd a'r cyweithiau sydd gennym yn ein sector. Rydym am glywed barn pobl trwy'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan ein sector diwylliant ddyfodol llwyddiannus a chryf.

"Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cynnig fframwaith strategol addas ar gyfer ein sector ac rydym yn addo cadw golwg ar y blaenoriaethau hyn. Mae'r cyfnod ymgynghori yn gyfle rhagorol i bawb sydd â diddordeb fynegi eu barn a byddwn yn ystyried pob ymateb. Dwi'n eich annog i fod yn rhan o hyn."

Mae'r ymgynghoriad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant wedi agor a bydd yn cau ddydd Mercher 4 Medi.