Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gymru bellach bwerau i gasglu a rheoli’r trethi sydd wedi’u datganoli'n llwyr i Gymru, ar ôl i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 gael ei chyflwyno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cael ei sefydlu i gasglu a rheoli Treth Trafodiadau Tir - gan ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp - a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen. Y trethi hyn fydd y rhai cyntaf i gael eu cyflwyno yng Nghymru ers tua 800 o flynyddoedd.

Er mwyn adlewyrchu’r garreg filltir bwysig hon i Gymru, mae ACC wedi llunio siarter ddrafft sy'n wahanol i siartrau traddodiadol. Ar sail y gwaith ymchwil a’r adborth sydd eisoes wedi'u cyflawni, mae’r siarter ddrafft yn defnyddio diagram arloesol, sydd wedi'i ddylunio i fod yn hawdd ei ddeall ar yr olwg gyntaf.

Gan nodi ei werthoedd, y siarter fydd y glasbrint yn y pen draw ar gyfer sut bydd ACC yn gweithio gyda'i gwsmeriaid, ei bartneriaid a’r cyhoedd yng Nghymru i gyflwyno system dreth deg i Gymru.

Does dim byd yn derfynol eto ac mae eich barn chi'n hollbwysig. Bydd y siarter yn cael ei datblygu i adlewyrchu’r adborth a gaiff ei ddarparu drwy’r ymgynghoriad. Manteisiwch ar y cyfle hwn i roi eich barn.

Mae’r siarter ddrafft wedi cael ei chyhoeddi ar dudalennau ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru ynghyd â ffurflen ymateb. Neu, cysylltwch ag ACC yn uniongyrchol yn dweudeichdweud@acc.llyw.cymru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ddydd Mawrth, 13 Chwefror.