Neidio i'r prif gynnwy

Mae dwy gronfa newydd i ddatblygu eiddo wedi’u lansio gydag £14m o arian yr UE.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Disgwylir i £7m Cronfa’r Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes (PBDG) a £7m y Gronfa Seilwaith Eiddo (PIF) ill dau sbarduno’r sector preifat i fuddsoddi £13m a symbylu’r farchnad i ddiwallu anghenion busnesau. 

Mae’r ddwy gronfa am bontio’r bwlch ariannol sy’n bod yn rhannau o’r wlad rhwng cost adeiladu, ehangu neu adnewyddu eiddo a gwerth yr eiddo ar y farchnad ar ôl ei gwblhau. 

Disgwylir i’r ddau gynllun gyda’i gilydd greu neu adnewyddu rhyw 51,100m2 (550,000 tr sg) o arwynebedd llawr gan ddod â manteision gweladwy i economïau lleol a chan ddiwallu anghenion y farchnad a helpu busnesau i dyfu. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: 

“Rydyn ni’n gwybod bod datblygwyr a busnesau preifat yn amharod i fuddsoddi mewn rhai ardaloedd, hynny am fod cost adeiladu neu adnewyddu eiddo yn fwy na gwerth terfynol yr eiddo hwnnw. 

“Mae’r ddau gynllun newydd, gyda nawdd yr UE, am fynd i’r afael â’r broblem honno ac i annog buddsoddwyr i fuddsoddi. Bydd y grant yn symbylu’r farchnad, yn creu gofod diwydiannol a swyddfeydd newydd o ansawdd uchel ar gyfer swyddi ac yn diwallu anghenion busnesau.” 

Mae’r ddwy gronfa ar gael ar gyfer codi adeiladau newydd a chynnal gwaith adnewyddu/estyn/addasu, gyda’r Gronfa Seilwaith Eiddo yn helpu datblygiadau adeiladu a’r Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes yn targedu busnesau sydd am ehangu.  Mae’r ddwy Gronfa’n cynnig grant o hyd at 35%. 

Byddwn yn dewis prosiectau gyda chymorth rhanddeiliaid rhanbarthol ar draws Cymru a’r prosiectau llwyddiannus fydd y rheini sy’n rhoi’r mwyaf am ein harian ac sy’n cael yr effaith economaidd fwyaf. Bydd y ffocws pennaf ar brosiectau mewn Ardaloedd Menter, Ardaloedd Twf Lleol a Dinas-Ranbarthau. 

Bydd angen cyflwyno Ceisiadau Cam 1 sy’n rhoi gwybodaeth fras am y prosiect y gofynnir am grant ar ei gyfer, erbyn 30 Ebrill 2017 er mwyn cael ei ystyried ar gyfer dyraniad grant amodol. 

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais ar gyfer busnesau sydd â diddordeb yn y Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes neu ar gyfer datblygwyr sydd â diddordeb yn y Gronfa Seilwaith Eiddo i’w helpu i ddatblygu prosiectau adeiladu, e-bostiwch gde.pdg@wales.gsi.gov.uk.